Ewch i’r prif gynnwys

Hanes ac Eidaleg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae myfyrwyr sy’n astudio gradd BA yn Hanes ac Eidaleg (Cydanrhydedd), yn cael y cyfle i astudio a deall digwyddiadau hanesyddol allweddol wrth datblygu eu sgiliau iaith Eidaleg.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Nod yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yw datblygu ac addysgu eu myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'.  Drwy gyfuno Eidaleg a Hanes, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith ac astudiaethau pellach, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol i weithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa

Mae ein rhaglenni Hanes yn rhoi cipolwg i chi ar brosesau newid o’r byd hynafol i’r cyfnod modern. Efallai byddwch yn astudio hanes cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o'r byd, gan gynnwys India, Tsieina, yr Eidal, Rwsia, Prydain a Chymru.

Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol dros eich hun, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau.

Mae’r Eidal yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Eidaleg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae’n 

iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang o hyd.

Yn ogystal â datblygu sgiliau lefel uchel o ran Eidaleg, cewch gyfle i ddatblygu dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliant yr Almaen. Byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel o ran cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Rydym yn cynnig Eidaleg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, nod y cyflwyniad i hanes a diwylliant yr Eidal fydd rhoi sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Eidaleg. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yr Eidal.   

Nodweddion nodedig

  • Addysgu dan arweiniad ymchwil, sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Hanes ac Eidaleg.
  • Addysgu iaith o ansawdd uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Eidalaidd.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant Eidalaidd
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio mewn gwlad sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng Eidaleg.
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.
Côd UCASRV31
Derbyniad nesafMedi 2019
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arfer320 o leoedd sydd ar gael fel arfer yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae'r Ysgol fel arfer yn derbyn tua 1,800 o geisiadau.
  1. Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

Gofynion mynediad

ABB, gan gynnwys Hanes. Bydd ymgeiswyr sydd â gradd B mewn Eidaleg yn cael mynediad at y llwybr uwch ieithoedd. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol.  

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Graddau DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â gradd B mewn Hanes Safon Uwch.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch gan gynnwys 6 mewn Hanes Lefel Uwch. 

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol: Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol. Unrhyw ofynion TGAU penodol (ac eithrio Gradd C safonol mewn Saesneg):  Bydd arnoch angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.  Cynigion nodweddiadol ar gyfer cymwysterau eraill (gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Pre-U Caergrawnt, ac ati.): Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Cynnig IELTS arferol: 6.5 gydag o leiaf 6.0 ym mhob cydran.

Dewis

Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb mewn ac addasrwydd ar gyfer y radd, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Nodiadau:

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£16,950Dim

Nodiadau:

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA mewn Hanes ac Eidaleg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau iaith a hanes ar lefel uchel i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Hanes a 60 o gredydau mewn Eidaleg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn yr Eidal neu mewn gwlad arall lle siaredir Eidaleg. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2019/20. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2019

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Byddwch yn cymryd 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Hanes a 60 credyd mewn Eidaleg.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr iaith i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Almaeneg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am Almaeneg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad yr Eidal fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn astudio’r un model craidd sy’n cyflwyno fframweithiau gwahanol i chi sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig. 

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn astudio am 60 o gredydau Hanes dewisol a 60 o gredydau mewn Eidaleg.

Bydd yr elfennau iaith yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi chi ar gyfer eich blwyddyn dramor. Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar yr Eidal mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio’n fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cultures in Context (Italian)ML828230 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ex-Beginners Language Year 2 ItalianML828030 credydau
Ex-Advanced Language Year 2 ItalianML828130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Now and Next: From Academia to Employment (30 Credits)HS000330 credydau
Approaches to HistoryHS170130 credydau
Exploring Historical DebateHS170230 credydau
Entangled Histories: Wales and the wider World, 1714–1858HS170330 credydau
Hanes wedi ei Gyd-Weu: Cymru a’r Byd, 1714–1858HS170430 credydau
War, Peace and Diplomacy, c.900-c.1250HS170730 credydau
Heresy and Dissent, 1000-1450HS171030 credydau
Poverty and Relief in Medieval EuropeHS171430 credydau
The British Civil Wars and Revolution, c.1638-1649HS174230 credydau
Nations, Empire and Borderlands from 1789-presentHS174930 credydau
A Great Leap Forward China Transformed, 1840-presentHS175230 credydau
The American RevolutionHS175430 credydau
From King Coal to Cool Cymru: Society and Culture in Wales, 1939-2000HS175630 credydau
Radicalism and the Common People, 1789-1880HS175830 credydau
Spain and the Conquest of the Americas, 1450-1650HS175930 credydau
"An Empire for Liberty": Race, Space and Power in the United States, 1775-1898HS176030 credydau
Urban Visions, Rural Dreams: City and Country in Britain and the United States, 1850-2000HS176430 credydau
India and The Raj, 1857-1947HS176530 credydau
Martyrs and Collaborators: Catholicism behind the Iron CurtainHS177230 credydau
Europe, East and West, 1945-1995HS177530 credydau
Into the Vortex: Britain and the First World WarHS178730 credydau
Making Empires: Britain and the World, 1541-1714HS179330 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir y drydedd flwyddyn yn yr Eidal neu mewn gwlad arall lle siaredir Eidaleg. Bydd y flwyddyn dramor yn eich galluogi i fireinio eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Eidalaidd a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Bydd eich dewisiadau’n cynnwys:

  • astudio yn un o'n prifysgolion partner;
  • gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy gynllun y British Council, neu
  • gweithio i sefydliad neu gwmni Eidalaidd. 

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn nifer o ddinasoedd Eidalaidd.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Eidaleg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Eidaleg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol. Y mae hefyd yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus. 

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau iaith a 30 o gredydau mewn modiwlau Eidaleg dewisol, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau Hanes dewisol. Byddwch yn cael cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau yr ydych wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr y naill Ysgol neu'r llall, a hynny drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae modiwlau traethawd hir y flwyddyn olaf yn rhoi’r dewis i chi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes testun a ddewisir, yn ogystal â chynyddu eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
High-Level Proficiency in Italian LanguageML836630 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
DissertationHS180130 credydau
The World of the Anglo-Saxons, c.500-c.1087HS180330 credydau
Sexuality and the Social Order in Medieval EuropeHS180430 credydau
The Military Orders, 1100-1320HS180530 credydau
The Thatcher Age: Cultural and Social Revolution in Britain, 1975-1997HS181430 credydau
Slavery and SinHS181830 credydau
Witchcraft and Witch-Hunting in Early Modern Europe, 1400-1750HS182430 credydau
Deviants, Rebels and Witches in Early Modern Britain and IrelandHS182830 credydau
From Bismarck to Goebbels: Biography and Modern German History, 1870-1945HS182930 credydau
Germany's New Order in Europe, 1933-1945HS183230 credydau
Conflict, Coercion and Mass Mobilisation in Republican China 1911-1945HS183830 credydau
Race, Sex and Empire: Britain and India, 1765-1929HS185530 credydau
Wales, the English reform movement and the French Revolution of 1789HS185630 credydau
Socialism, Society and Politics in Britain, 1880-1918HS186030 credydau
Llafur, Sosialaeth a Chymru, 1880-1979HS186230 credydau
Toleration and Persecution in Early Modern EuropeHS186630 credydau
Class, Protest and Politics: South Wales, 1918-39HS186830 credydau
Latin America: Conquest, Turmoil and Reconstruction, 1492-2000HS186930 credydau
Slavery in the United States: National Experiences, Global OriginsHS187730 credydau
Czechoslovakia: The View from Central EuropeHS188430 credydau
Europe and the Revolutionary Tradition in the Long Nineteenth CenturyHS188730 credydau
From Hernando de Soto to the Seven Years' War: Accommodation, Violence and Networks in Native American HistoryHS188930 credydau
The Dangerous City? Urban Society and Culture, 1800-1914HS189630 credydau
The Arts in War and Peace: Culture and Politics in Britain, c.1930-1960HS189730 credydau
Culture, Political Protest & Dissent in the 1960sML136030 credydau
European Cinema: Thinking the Real of FictionML136230 credydau
Student Teaching ModuleML136330 credydau
Final Year Dissertation - Italian (in Italian)ML836230 credydau
Final Year Dissertation - Italian (in English/Welsh)ML836330 credydau
Italian Women's WritingML836430 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach, gweithdai dogfennau a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.  

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA mewn Hanes ac Eidaleg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddan nhw ar gael i gyfarfod â myfyrwyr i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer (un o bob Ysgol), a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn eich annog i feddwl am y modd y gallwch adeiladu ar eich cyflawniadau a gwneud cynnydd pellach. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os ydych yn cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog (amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol), byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.  

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn eich cefnogi chi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau. 

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Rhoddir adborth ar eich gwaith yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut y gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

 

Sut caf fy asesu?

Yn y ddwy Ysgol, mae'r asesu’n canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol.

Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau, cyflwyniadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Canlyniadau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Y gallu i esbonio a chymhwyso cysyniadau fel cyfnodoli, hanes cenedlaethol a dulliau cymharol.
  • Y gallu i ddod i gasgliadau am arferion hanesyddol drwy ddefnyddio astudiaethau achos sy'n ymwneud â meysydd penodol o ddadl hanesyddol.
  • Y gallu i wneud cysylltiadau rhwng amrywiaeth o ddeunyddiau ffynhonnell wreiddiol gwahanol, a chysyniadau hanesyddiaeth damcaniaethol a drafodwyd.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Eidal a gwledydd lle siaredir Eidaleg.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg ac Eidaleg, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Y gallu i nodi a dehongli amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol.
  • Y gallu i lunio dadansoddiadau a dadleuon yn glir ac yn gryno, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn effeithiol, ac yna eu cyflwyno.
  • Y gallu i nodi cryfderau, gwendidau a phroblemau, neu nodi dehongliadau hanesyddol/hanesiaeth amgen o themâu allweddol.
  • Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Y gallu i feddwl yn feirniadol a herio rhagdybiaethau.
  • Y gallu i lunio a chyfiawnhau dadleuon a chasgliadau a chyflwyno tystiolaeth ategol briodol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Y gallu i nodi cryfderau, gwendidau, problemau a/neu nodweddion dehongliadau hanesyddol/hanesiaeth amgen.
  • Y gallu i wahaniaethu rhwng hanes poblogaidd a hanes proffesiynol.
  • Esbonio prosesau hanesyddol.
  • Y gallu i egluro sgiliau dadansoddi hanesyddol.
  • Gwybodaeth am themâu eang a datblygiadau a ystyriwyd yn ystod y cwrs drwy astudiaeth achos o ddigwyddiad.
  • Sgiliau rheoli amser a'r gallu i drefnu dulliau astudio a llwyth gwaith yn annibynnol.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Amlygu sgiliau wrth weithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Y gallu i nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

 

Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015-16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.  

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ragorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.  

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Yn 2015-16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o gyflogaeth broffesiynol gysylltiedig a heb fod yn gysylltiedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr rhyngwladol honedig.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Mae Ysgolion yn cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith am gredydau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Sadwrn 26 Hydref

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais