Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg Ariannol (BSc)

  • Maes pwnc: Mathemateg
  • Côd UCAS: 15R4
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn darparu'r paratoad delfrydol ar gyfer gyrfa ym maes cyllid, bancio ac yswiriant.

star

Gwybodaeth arbenigol

Ochr yn ochr ag ystod eang o dechnegau mathemategol, byddwch yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau manwl sydd eu hangen er mwyn cael rôl yn y diwydiannau arian, bancio ac yswiriant.

tick

Cynlluniau gradd hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, rydych chi’n rhydd i symud rhwng graddau ar ddiwedd blwyddyn un os bydd eich diddordebau’n newid. Bydd gennych y cyfle hefyd i gwblhau Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol neu Flwyddyn Dramor rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Nid oes rhaid i chi ymrwymo i’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn nes dechrau eich ail flwyddyn, felly mae digon o amser i chi benderfynu.

briefcase

Lleoliadau gwaith dros yr haf

Yn ystod misoedd yr haf, cewch gyfle i gwblhau gwaith cyflogedig fel mathemategydd neu ystadegydd lle gallwch ennill profiad gwaith gwerthfawr a datblygu eich sgiliau proffesiynol. Gall ein tîm lleoliadau pwrpasol eich helpu i ddod o hyd i leoliad dros yr haf a darparu cymorth yn ystod eich amser yno.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Achredir y radd hon gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau .

I reoli’r sector ariannol cymhleth, mae ar fanciau a sefydliadau ariannol angen mathemategwyr dawnus sy’n rhugl yn iaith arian.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn mathemateg, ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer swyddi yn y diwydiant ariannol, gan gynnwys dealltwriaeth o farchnadoedd, sefydliadau, buddsoddiadau a pholisïau ariannol modern.

Byddwch yn canolbwyntio ar faterion a phynciau sy’n berthnasol i ochr gyfrifiadurol a dylunio marchnad y byd ariannol cyfoes, megis:

  • Systemau Cymhleth
  • Masnachu (masnachu amledd uchel yn benodol)
  • Rheoli Cyllid
  • Dadansoddeg

Achrediadau

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i'r rhain gynnwys cynnwys gradd A mewn Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd 6 mewn Dadansoddiad a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Y modiwlau y byddwch yn eu dewis ym mlwyddyn dau fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym mlwyddyn tri.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un, bydd eich modiwlau craidd yn cwmpasu meysydd sylfaen Mathemateg Bur a Mathemateg Gymhwysol. Gallwch hefyd ddewis rhwng modiwlau mewn Mathemateg Ariannol, Ystadegau, Cyfrifiadura ac Ymchwil Weithredol. Bydd y modiwlau Cyllid yn eich cyflwyno i dechnegau ac adnoddau Rheolaeth Ariannol Gorfforaethol ar lefel gwmni.

Mae’r rhan fwyaf o flwyddyn un yn gyffredin i'n holl gynlluniau gradd ac felly mae fel arfer yn bosib trosglwyddo i radd Mathemateg arall.

Mae'n ofynnol i chi basio pob modiwl Blwyddyn Gyntaf a chyflawni cyfartaledd o 50%, o leiaf, i fynd ymlaen i'r cam ymgeisio.

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau, bydd eich modiwlau craidd yn parhau i adeiladu gwybodaeth sylfaenol ym meysydd Calculus, Algebra a Dadansoddi. Ochr yn ochr â modiwlau Mathemateg Ariannol arbenigol, byddwch yn parhau i ehangu eich gwybodaeth am feysydd fel Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.

Y modiwlau y byddwch yn eu dewis fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym Mlwyddyn Tri.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus o sawl newidynMA200110 Credydau
Cyfres a ThrawsnewidiadauMA200410 Credydau
Algebra llinol IIMA200820 Credydau
Sylfeini Tebygolrwydd ac YstadegauMA250020 Credydau
Ymchwil GweithredolMA260120 Credydau
Cyllid II: Rheoli BuddsoddiMA280010 Credydau
Econometreg ar gyfer Mathemateg AriannolMA280110 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dadansoddiad CymhlethMA200310 Credydau
Dadansoddiad go iawnMA200610 Credydau
Cyflwyniad i Theori Rhif IMA201110 Credydau
Dadansoddiad Cymhleth / Dadansoddi CymhlygMA205310 Credydau
Dadansoddi RealMA205610 Credydau
Modelu gyda Hafaliadau DifferolMA232010 Credydau
Ystadegau CyfrifiannolMA250210 Credydau
Ymchwiliadau Mathemategol gyda PythonMA276010 Credydau

Blwyddyn tri

Ym Mlwyddyn Tri, nid oes unrhyw fodiwlau gorfodol ac mae gennych ddewisiadau eang.

Yn ogystal â modiwlau a addysgir, gallwch hefyd ddewis ymgymryd â phrosiect 10 credyd neu 20 credyd unigol sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig – cyfathrebu, cyflwyno a rheoli amser - a chymhwyso eich gwybodaeth fathemategol i ymchwiliad o'ch dewis.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Swyddogaethol a FourierMA300520 Credydau
Theori CodioMA300710 Credydau
Cyflwyniad i Theori Rhif 2MA301110 Credydau
Hafaliadau Differol CyffredinMA301210 Credydau
Hafaliadau Gwahaniaethol RhannolMA301610 Credydau
Dulliau Mathemateg GymhwysolMA330420 Credydau
Finite ElasticityMA331210 Credydau
Modiwl Prosiect (Blwyddyn Gyfan)MA339120 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner)MA339210 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester GwanwynMA339310 Credydau
Dadansoddiad Atchweliad a Dylunio ArbrofolMA350220 Credydau
Prosesau stocastig ar gyfer Cyllid ac YswiriantMA350320 Credydau
Ystadegau SwyddogolMA350410 Credydau
Dadansoddiad Data Aml-amrywiolMA350610 Credydau
Algorithmau a HeuristicsMA360210 Credydau
OptimeiddioMA360320 Credydau
Gêm TheoriMA360410 Credydau
Algorithmau a Dulliau Hewristig / Algorithms and HeuristicsMA365210 Credydau
Mathemateg Deallusrwydd ArtiffisialMA370110 Credydau
Cyllid YmddygiadolMA380010 Credydau
Microstrwythur y Farchnad a Theori MasnachuMA380110 Credydau
Masnachu, Dylunio Marchnad a ChymwysiadauMA380410 Credydau
Rheoli Risg MeintiolMA380510 Credydau
Cyflwyniad i addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchraddMA390020 Credydau
Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg Ysgol UwchraddMA390120 Credydau
Modiwl DarllenMA390310 Credydau
Modiwl Darllen (Tymor yr Hydref)MA395210 Credydau
ProsiectMA397020 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester yr HydrefMA397110 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester y GwanwynMA397210 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, tiwtorialau i grwpiau bach, a dosbarthiadau trafod enghreifftiau. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.

Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.

Rydym wedi creu ystafell fasnachu ffug i roi cyfle i fyfyrwyr roi'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith ac i gael blas ar y byd ariannol go iawn a senarios lle mae angen gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.

Adborth:

Mae adborth ysgrifenedig ac atebion amlinellol am asesiadau o fewn y cwrs, yn rhoi'r cyfle i chi fyfyrio ar eich cynnydd. Darperir rhagor o adborth mewn dosbarthiadau trafod enghreifftiau a thiwtorialau (ym mlwyddyn un) er mwyn adolygu problemau'n fanylach a thrafod atebion posibl. Dylech drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Sut caf fy asesu?

Many modules have written examinations at the end of the Autumn or Spring Semesters, with some also having an element of continuous assessment. This may include problem-solving exercises, written reports, computer programs and oral presentations.  Feedback on progress is typically provided through a combination of discussion in class, written comments on submitted work and review of outline solutions to problems. You are encouraged to discuss any queries related to specific modules with individual lecturers.

The grade of your final degree will be based on 30% from your year two studies and 70% from year three.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol. Byddwch yn:

  • datblygu eich gwybodaeth am fathemateg graidd gan gynnwys calcwlws, algebra, dadansoddi a theori amrywiol gymhleth;
  • gwella eich dealltwriaeth o'r egwyddorion a rhai o'r technegau prawf;
  • datblygu'r sgiliau sydd eu hangen mewn rhesymu a thrin mathemategol;
  • dysgu sut i gymhwyso egwyddorion a thechnegau modelu mathemategol/ystadegol yn ogystal â llunio a datrys problemau mathemategol;
  • gwella eich gallu i gyflawni cyfrifiadau mathemategol gan roi sylw i gywirdeb a rhesymeg;
  • datblygu eich sgiliau trefnu a gallu rheoli eich hun yn dda;
  • datblygu eich sgiliau rheoli amser a chyflwyno trwy weithio'n annibynnol a gweithio mewn grŵp.
One of our students studying in the Quiet Area at the Maths library.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gallwch chi ddefnyddio eich gradd BSc mewn Mathemateg Ariannol yn llwybr i’r gweithlu lle gallwch gwrdd â’n cynfyfyrwyr sy’n gweithio ym myd cyllid, llywodraeth, marchnata neu amaeth, hyd yn oed. Neu, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau astudiaethau ôl-raddedig mewn mathemateg, y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.

Cymorth gyrfaoedd mathemateg

Yn Semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.

Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.

Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.

Lleoliadau

Gallech dreulio blwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn. Byddai hyn yn ei gwneud yn radd BSc pedair blynedd. Gallwch hefyd newid i radd sy'n cynnwys blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol. Byddai hyn hefyd yn ei gwneud yn radd BSc pedair blynedd o hyd. Gallai'r ddau ddewis hyn ddibynnu ar eich perfformiad academaidd.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 52% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.