Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Saesneg (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch semester dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

book

Dysgu gan y gorau

Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion ac awduron llenyddol byd-enwog.

Mae gan lenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd enw da yn rhyngwladol ar gyfer ei waith addysgu ac ymchwil, ac mae Caerdydd yn ddinas hyfryd i dreulio eich blynyddoedd israddedig. Ein hymrwymiad yw sicrhau bod blynyddoedd hynny'n eich ysgogi'n ddeallusol ac yn wobrwyol yn academaidd Rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol i'n myfyrwyr.

Mae ein cwricwlwm yn cynnig mynediad at holl rychwant llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ni fyddwch yn gyfyngedig i’r gair printiedig - gan ein bod yn ymddiddori yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd, mae ein haddysgu’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Drwy gydol eich gradd, byddwch yn cael eich annog i ymestyn eich hun yn ddeallusol ac yn ddychmygus trwy archwilio llenyddiaeth fel ymarferwr ac fel beirniad.

Nid oes modiwlau gorfodol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd ar ôl y flwyddyn gyntaf. Fe gewch chi ddewis, ond hefyd rydym yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth a fydd eu hangen arnoch chi i wneud penderfyniadau gwybodus o blith amrywiaeth o ddewisiadau.

Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr blaenllaw ym maes llenyddiaeth Saesneg mewn modiwlau sy'n adlewyrchu syniadau diweddaraf y ddisgyblaeth. Drwy gydol y radd, y nod fydd eich datblygu chi’n ddarllenydd ac ysgrifennwr gofalus, astud a gwybodus sy’n effro i arlliwiau iaith ac arddull ac sy’n gallu mynegi ymateb i destun ar bapur yn fanwl-gywir, yn raenus ac yn effeithiol.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae llawer o fyfyrwyr am brynu eu copïau eu hunain o'r testunau llenyddol cynradd ar gyfer eu modiwlau. Bydd cost testunau'n amrywio yn dibynnu ar y modiwl. Fodd bynnag, mae nifer gyfyngedig o gopïau o destunau gosod yn cael eu cadw yn llyfrgelloedd y Brifysgol. Fel arall, mae rhai modiwlau'n cynnig 'Darllenwyr' (ar bapur neu gopïau digidol), sy'n rhad ac am ddim.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cynigir y rhaglen ar sail amser llawn dros dair blynedd academaidd. Byddwch yn astudio cyfanswm o 360 o gredydau (120 o gredydau y flwyddyn). Rhaid i chi basio bob blwyddyn academaidd cyn cael symud ymlaen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn o'ch gradd.

Blwyddyn sylfaen yw blwyddyn 1, sy'n cynnwys modiwlau craidd a dewisol. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i roi i chi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’r pwnc, er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri.

Blwyddyn dau

Rydych yn dewis chwe modiwl 20 credyd o ystod o gategorïau sy'n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema. Nid oes modiwlau gorfodol.

Byddwch yn darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yn ogystal â pharhau i ddatblygu eich methodolegau beirniadol a'ch gwybodaeth am y pwnc.

Blwyddyn tri

Erbyn eich blwyddyn olaf, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol.

Rydych yn dewis chwe modiwl 20 credyd. Mae ystod y modiwlau mwy arbenigol sydd ar gael yn mynd i'r afael â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai sy'n llai cyfarwydd i chi. Bydd gennych yr opsiwn i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis drwy'r modiwl Traethawd Hir.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r addysgu'n digwydd drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, gyda phob modiwl yn cynnwys gwaith addysgu mewn seminarau a grwpiau bach. Mae pob modiwl yn cyflwyno cyfres o heriau deallusol ac mae pob un delio â'r cwestiwn o sut i ddarllen y testun llenyddol (neu destun diwylliannol arall), a sut i ysgrifennu am ei arwyddocâd a'i ystyr. Mae'r gwaith addysgu'n pwysleisio pwysigrwydd sut ma testunau rhyngweithio â'u cyd-destunau, a chynlluniwyd pob modiwl i ganolbwyntio ar nifer o destunau penodol ac i baratoi ymateb ystyriol yn ofalus i bynciau penodol yr eir i'r afael â nhw yn y modiwl.

Bydd y gweithgareddau dysgi'n amrywio o fodiwl i fodiwl, fel sy'n briodol, ond gall gynnwys darlithoedd rhyngweithiol, trafodaethau seminar am destunau/pynciau a baratowyd, cyflwyniadau unigol neu grŵp myfyrwyr, gwaith grŵp bach mewn seminarau, adolygiad cymheiriaid mewn gweithdai, dosbarthiadau cyfieithu, ymarferion ysgrifennu ffurfiannol, cofnodion dyddlyfr a dangosiadau ffilm. Disgwylir i chi wneud y darlleniad a pharatoi perthnasol arall i'ch galluogi i gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau hyn ac fe'ch anogir i archwilio adnoddau'r llyfrgell fel sy'n briodol. Ym mlwyddyn olaf y radd, bydd gennych yr opsiwn i ymchwilio ac ysgrifennu traethawd hir Llenyddiaeth Saesneg gwerth 20 credyd ar bwnc sydd o ddiddordeb mawr i chi.

Sut y caf fy nghefnogi?

Dyrennir Tiwtor Personol a byddwch yn cwrdd â nhw ar gyfer cyfarfodydd adborth academaidd (un fesul semester). Mae ffurflen i'w llenwi cyn pob cyfarfod adborth academaidd a gynlluniwyd er mwyn eich helpu i fyfyrio ar yr adborth ysgrifenedig a'r rhesymau dros y marciau rydych wedi'u cael gan y rownd asesu flaenorol. Byddwch yn trafod yr adborth hwn a'ch myfyrdodau arno â'ch tiwtor personol, gan gynnwys eich cynlluniau'n symud ymlaen drwy'r radd a thu hwnt.

Yn ogystal, mae gan bob aelod o staff oriau swyddfa wythnosol yn ystod wythnosau addysgu, a gallwch drefnu apwyntiadau i weld eich tiwtor personol neu arweinwyr eich modiwl un i un i drafod unrhyw faterion. Gellir cysylltu â staff hefyd drwy eu hebostio. Darperi manylion oriau swyddfa a chyfeiriadau ebost staff yng nghanllawiau pob modiwl.

Bydd gwybodaeth allweddol ar gyfer pob modiwl ar gael ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Dysgu Canolog) ynghyd ag adnoddau dysgu ychwanegol priodol, megis nodiadau a sleidiau darlithoedd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

All English Literature modules offer the opportunity to undertake unassessed draft formative work appropriate to the module. The form(s) of summative assessment for individual modules are set out in the relevant module descriptions. Most modules are assessed by essay and/or examination, but some include other forms of assessment such as journal entries, a portfolio, presentations or video essays.  The assessment strategy is structured to lead you from formative thinking throughout the module towards the production of an informed critical/creative response.

Emphasis in assessment of English Literature modules is placed on the writing of clear, persuasive and scholarly essays presented in a professional manner and submitted on time. Details of any academic or competence standards which may limit the availability of adjustments or alternative assessments for disabled students are noted in the module descriptions.

Written feedback is provided on both formative and summative assessment, and you are encouraged to discuss your ideas with module tutors in seminars and, where appropriate, on a one-to-one basis in office hours. Your achievements and progress are also discussed in regular progress meetings with personal tutors.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Ymwybyddiaeth o wahanol gyfnodau, mudiadau a genres llenyddol ac o amrywiaeth llenyddiaeth Saesneg.
  • Deall pwysigrwydd cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
  • Y gallu i gynnal dadl feirniadol sy'n ymatebol i waith arddulliau ieithyddol a llenyddol.
  • Ymwybyddiaeth o gonfensiynau llyfryddol y ddamcaniaeth a'u rôl yn cyfathrebu gwybodaeth.
  • Gwybodaeth am y materion beriniadol a/neu dadleuon ynghylch testunau, neu a godwyd ganddynt.
  • Dealltwriaeth o effeithiau amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol wrth lywio'r broses o lunio testunau a'u hystyr.
  • Gwybodaeth am eirfa a therminoleg feirniadol briodol

Sgiliau Deallusol:

  • Y gallu i fynd i'r afael â syniadau cymhleth gydag eglurder.
  • Gallu i ddadansoddi a dehongli deunydd o amrywiaeth o gyfnodau llenyddol.
  • Y gallu i ddefnyddio sgiliau hanfodol lefel uchel o ddadansoddiad agos wrth drin testunau llenyddol.
  • Y gallu i ddewis a threfnu deunydd yn bwrpasol a chymhellol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Sgiliau cyfathrebu uwch (yn ysgrifenedig ac ar lafar).
  • Y gallu i roi gwerthusiad beirniadol effeithlon o ddogfennau mewn arddulliau amrywiol.
  • Y gallu i gael mynediad at ddata electronig, ei ddefnyddio a'i werthuso.
  • Y gallu i ryngweithio'n effeithiol ag eraill, mewn sefyllfaoedd gwaith tîm neu grŵp.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Y gallu i ddewis a threfnu deunydd yn bwrpasol a chymhellol.
  • Y gallu i gynllunio, trefnu a chyflwyno gwaith o fewn terfyn amser.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli gwaith dilyn graddedigion.

Mae llawer yn mynd ymlaen i swyddi ym meysydd addysg, adnoddau dynol, marchnata, cyhoeddi, cysylltiadau cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, a'r sector elusennol, a swyddi cyntaf gan gynnwys Athro Dan Hyfforddiant, Cynorthwy-ydd Marchnata, Swyddog Gweithredol Cyfrif, Golygydd Digidol a Chynorthwy-ydd Golygyddol.

Yn ystod eich gradd gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan uned  Dyfodol Myfyrwyr y brifysgol.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Gohebydd
  • Dadansoddwr Gwybodaeth am Droseddau
  • Athro
  • Awdur
  • Ymchwilydd

Lleoliadau

Mae gennym bortffolio sefydledig o interniaethau gyda llenyddiaeth/cylchronau diwylliannol yn seiliedig ar Gymru y gall myfyrwyr eu defnyddio. Rydym yn cynnig modiwl cyflogadwyedd sydd ar gael fel modiwl dewisol yn ail flwyddyn y rhaglen.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.