Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Biolegol gyda Blwyddyn Ragarweiniol (BSc)

Blwyddyn Mynediad


Mae ein gradd BSc yn y Gwyddorau Biolegol, sy’n cael ei harwain gan ymchwil, yn cynnig ystod eang o bynciau ac yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau maes gwych yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Mae’r cwrs hwn fod ar gael yn Clirio ac Addasu ar gyfer mynediad 2019. Ffoniwch +44 (0)33 3241 2800 i drafod eich cyfleoedd neu weld ein holl leoedd gwag.

Trosolwg y cwrs

Mae ein gradd Gwyddorau Biolegol gyda Blwyddyn Ragarweiniol yn gwrs pedair blynedd. Mae'r Flwyddyn Ragarweiniol yn cwmpasu pynciau allweddol mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg ac mae'n arwain at BSc mewn unrhyw un o'r pynciau a gynigir gan Ysgol y Biowyddorau. Diben y flwyddyn ragarweiniol yw rhoi sylfaen o wybodaeth wyddonol i fyfyrwyr nad oes ganddynt ddigon o gefndir mewn gwyddoniaeth er mwyn eu galluogi i ffynnu yng nghwricwlwm blwyddyn un a thu hwnt.

Mae ein gradd Gwyddorau Biolegol yn rhoi’r dewis a’r hyblygrwydd gorau posibl o ran astudio pob agwedd ar fioleg, gan eich caniatáu i ddewis modiwlau ar draws yr holl amrywiaeth o bynciau mae’r Ysgol yn eu cynnig a theilwra eich gradd i’ch diddordebau eich hun wrth iddyn nhw ddatblygu. Gallwch ddewis canolbwyntio ar agwedd benodol ar fioleg, fel organebau, ecoleg neu’r amgylchedd, neu ddewis cwmpasu amrywiaeth angen o bynciau.

Mae dewis eang o bynciau i'w hastudio ar draws y gwyddorau biolegol, biofeddygol, biocemegol a biofoleciwlaidd, gan gynnwys: bioleg anifeiliaid a phlanhigion, microbioleg, geneteg, bioleg systemau, ecoleg, clefydau, ymddygiad, niwrowyddoniaeth, bioleg celloedd, datblygiad ac esblygiad. Cewch hefyd y cyfle i astudio cwrs maes (yn dibynnu ar ddewis ac argaeledd modiwl) naill ai yn y DU neu dramor.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch hefyd yn cael y dewis i newid i radd fwy arbenigol, fel BSc Gwyddorau Biolegol (Geneteg) neu BSc Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg), neu i radd gyffredinol arall, fel Gwyddorau Biofeddygol. Bydd hyn yn dibynnu ar y modiwlau a ddewiswyd ym mlynyddoedd dau a thri, a bydd eich Tiwtor Personol yn gallu eich arwain drwy’r opsiynau sydd ar gael i chi. Cewch hefyd newid i radd Meistr MBiol integredig pedair blynedd o hyd (yn amodol ar eich cynnydd academaidd a faint o le sydd ar gael).

Mae’r rhaglen yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol gyda datblygu sgiliau academaidd (arfarnu beirniadol, gwerthuso a dadansoddi data) ynghyd â datblygu sgiliau ymarferol, cyflwyno ac ysgrifenedig mewn cyd-destun gwyddonol. Yn y pen draw, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sy'n llysgenhadon cyflogadwy, gwybodus, amryddawn a brwdfrydig ar gyfer gwyddoniaeth.

Mae graddedigion Gwyddorau Biolegol diweddar wedi mynd ati i ddilyn gyrfaoedd mewn sefydliadau ymchwil, ymgyngoriaethau amgylcheddol, cwmnïau cyffuriau, y GIG, byd addysg, a llu o yrfaoedd y tu allan i faes bioleg fel bancio a rheoli. Mae nifer sylweddol yn mynd ymlaen i ymgymryd â rhaglenni hyfforddiant Meistr neu PhD.

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n eu haddysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu llawer iawn o arian ymchwil allanol a bydd hynny’n caniatáu ichi ddefnyddio’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Mae gan yr Ysgol hefyd Orsaf Maes gyda staff yno’n barhaus yn Borneo ac mae’n arwain Sefydliadau Ymchwil Dŵr a Mannau Cynaliadwy’r Brifysgol, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu barhau ag amrywiaeth eang o ddysgu gan astudio’r ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol. 

Côd UCASC102
Derbyniad nesafMedi 2019
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae tua 415 o leoedd ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae'r Ysgol fel arfer yn derbyn tua 2,500 o geisiadau.

Mae ecoleg gyfoethog Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer datblygu a hogi eich sgiliau fel ymchwilydd maes, ac yna gallwch fynd â’r sgiliau hynny gyda chi i bob rhan o’r byd.

Gofynion mynediad

AAB-ABB Os ydych yn astudio Lefel A mewn gwyddoniaeth, mae'n ofynnol i chi basio'r elfen ymarferol (lle bo'n berthnasol). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDD Diploma Estynedig RQF / QCF yn dderbyniol gyda D ym mhob un o’r Unedau Craidd/Gorfodol.

34-32 o bwyntiau NEU 655 ar y Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol y Biowyddorau.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

I gynnwys C/4 mewn Mathemateg TGAU.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£20,950Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae cyrsiau maes a gynhelir dramor yn golygu costau ychwanegol – yn bennaf ar gyfer llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs BSc hwn yn un amser llawn dros gyfnod o bedair blynedd academaidd (pump gan gynnwys yr opsiwn o gael Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol), ac enillir 120 credydau bob blwyddyn. Mae'n dechrau gyda'r Flwyddyn Ragarweiniol sy'n cwmpasu pynciau allweddol mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg, a bydd yn sail ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol.

Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda thri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Yn y flwyddyn olaf, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddynt y fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, mae sesiynau ymarferol helaeth mewn labordai yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a deunydd darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Yn y flwyddyn olaf, mae angen astudio'n llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr baratoi adroddiad cynhwysfawr sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol).

Drwy gydol y cwrs rydym yn ymdrechu i gynnig dewis mor eang â phosibl i’ch caniatáu i deilwra eich gradd i’ch nodau astudio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2019/20. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2019

Blwyddyn ragarweiniol

Ein Blwyddyn Ragarweiniol yw'r flwyddyn gyntaf mewn rhaglen pedair blynedd sy'n arwain at BSc yn unrhyw un o'r pynciau a gynigir gan Ysgol y Biowyddorau. Diben y flwyddyn ragarweiniol yw rhoi sylfaen o wybodaeth wyddonol i fyfyrwyr nad ydynt o gefndir gwyddonol, er mwyn eu galluogi i ffynnu yng nghwricwlwm blwyddyn un a thu hwnt. Mae ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch/UG sydd â graddau da ond yn y pynciau anghywir, myfyrwyr tramor nad ydynt yn meddu ar gymwysterau gwyddoniaeth sy'n cyfateb i Safon Uwch y DU, a myfyrwyr aeddfed sy'n dychwelyd i'r system addysg.

Mae'r Flwyddyn Ragarweiniol yn cwmpasu pynciau allweddol mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg gyda 20 credyd o'r modiwlau dewisol y gellir eu cymryd o Ysgolion eraill, y Ganolfan Addysg Broffesiynol a/neu'r Ysgol Ieithoedd Modern.

Nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio’r pynciau Safon Uwch priodol ond heb ennill y graddau y mae eu hangen arnyn nhw i gael eu derbyn i’r flwyddyn gyntaf.

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Bwriad hyn yw adlewyrchu’r ffaith fod ymchwil fiowyddonol yn faes cynyddol amlddisgyblaethol.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg biolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Mae system y flwyddyn gyntaf gyffredin yn cynnig mantais fawr o ran rhoi hyblygrwydd mewn perthynas â dewis gradd i chi. Nod y dull hwn yw eich gwneud yn agored i holl feysydd y biowyddorau, fel eich bod yn gallu gweithredu’n well yn y disgyblaethau biowyddoniaeth sy’n fwyfwy rhyngddisgyblaethol. Mae strwythur cyffredin y flwyddyn gyntaf yn eich caniatáu i ehangu ffocws eich pynciau yn yr ail flwyddyn, os byddwch yn dymuno, neu barhau i ganolbwyntio ar un ddisgyblaeth benodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Skills for ScienceBI100120 credydau
Structure and Function of Living OrganismsBI100220 credydau
Organisms and EnvironmentBI100320 credydau
The Dynamic CellBI100420 credydau
Biological ChemistryBI101420 credydau
Genetics and EvolutionBI105120 credydau

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo mwy, a bydd yn adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol yr ydych wedi’u meithrin yn y flwyddyn gyntaf. Bydd pwyslais ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau a thechnegau maes uwch. Bydd sgiliau deall dylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudio pellach yn y drydedd flwyddyn.

Yn yr ail flwyddyn, mae 11 o fodiwlau ar gael i chi, hyd at gyfanswm o 120 o Gredydau, gan olygu bod rhwydd hynt gennych i fynd ar drywydd meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Mae’r pynciau modiwl sydd ar gael yn cynnwys, amrywiaeth ac addasu anifeiliaid, geneteg, bioleg celloedd, biocemeg ac ecoleg a chadwraeth. Yr unig fodiwl nad yw ar gael yw anatomeg ddynol ymarferol (er y byddwch yn rhoi sylw i anatomeg ddynol yn y flwyddyn gyntaf).

Bydd myfyrwyr ar y modiwl ecoleg a chadwraeth yn cael cyfle i ymgymryd ag un o'n cyrsiau maes sy’n seiliedig ar brosiect, sy'n cael ei redeg mewn amrywiaeth o leoliadau yn y DU a thramor.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gallwch hefyd newid i’r cwrs pum mlynedd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol, a gaiff ei chymryd ar ôl yr ail flwyddyn, yn amodol ar gael gafael ar leoliad hyfforddiant priodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Animal Diversity and AdaptationBI213140 credydau
Genetics and its ApplicationsBI213240 credydau
Ecology and Conservation - Part ABI213330 credydau
Ecology and Conservation - Part BBI213410 credydau
Cell BiologyBI223140 credydau
BiochemistryBI223240 credydau
Developmental and Stem Cell BiologyBI223340 credydau
Molecular Biology of the GeneBI223440 credydau
PhysiologyBI233140 credydau
Concepts of DiseaseBI233240 credydau
Practical AnatomyBI233340 credydau
Brain and BehaviourBI243140 credydau
Fundamental NeuroscienceBI243240 credydau

Blwyddyn tri

Mae ein cwricwlwm blwyddyn olaf yn eich galluogi i arbenigo'n fanylach yn un o themâu ymchwil mawr yr Ysgol. Mae’r dull hwn yn eich trwytho i ddiwylliant ymchwilio'r biowyddorau, drwy gyfrwng addysgu yn seiliedig ar ymchwil a phrosiect yn y flwyddyn olaf sydd yn eich caniatáu i ymchwilio i destun yn llawer manylach

Defnyddio gwybodaeth graidd i ddatrys problemau a gwerthuso modelau, syniadau a dadleuon cyfredol yn feirniadol sy'n cael y prif sylw yn y drydedd flwyddyn. Er mwyn datblygu sgiliau gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol, bydd y rhan hon o'r cwrs yn cynnwys llawer iawn o astudio hunangyfeiriedig, a fydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.

Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd (o ddewis rhydd bron o 18, ac eithrio anatomeg ddynol ddatblygedig). Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys esblygiad ac addasu, bioleg systemau a modelu, gwyddoniaeth planhigion, bioamrywiaeth, bioleg synthetig, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.

Ar ddechrau'r flwyddyn olaf, mae gennych yr opsiwn o wneud cais i drosglwyddo i’r cwrs MBiol pedair blynedd gyda gradd Meistr integredig, yn dibynnu ar gynnydd academaidd boddhaol a’r lleoedd sydd ar gael.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig profiad addysgol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd. Yn anad dim, mae’r profiad addysgol yn cael ei lywio a’i arwain gan ymchwil flaenllaw, ac mae myfyrwyr a chyrff proffesiynol yn ei ganmol i'r cymylau. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Ar y cwrs Gwyddorau Biolegol, byddwch yn caffael gwybodaeth graidd a dealltwriaeth drwy gyfrwng darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol neu waith maes, seminarau ymchwil, gweithdai a sesiynau tiwtorial. Byddwch yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth ar lefel uwch drwy astudio'n annibynnol, gwaith grŵp a gwaith prosiect.

Disgwylir i fyfyrwyr gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gellir ymgymryd ag elfennau dethol o’r cwrs yn Gymraeg ac mae myfyrwyr hefyd yn gallu gofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol.

Bydd myfyrwyr ag anableddau yn cael cefnogaeth lawn mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cefnogi Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob aelod o’r staff academaidd yn Ysgol y Biowyddorau yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd rhyngweithio â staff academaidd yn digwydd yn bennaf yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn perthynas â sesiynau addysgu neu drwy ebost, ac maen nhw’n gweithredu polisi ‘drws agored’ ar gyfer myfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer cadw lle ar gyfer cyfarfod. Hefyd, mae gan bob cynllun gradd gydlynydd cynllun gradd sy'n gallu rhoi cyngor ar faterion academaidd. Mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn a all roi cyngor ar faterion gweinyddol sy'n ymwneud â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa israddedig hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich Tiwtor Personol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, darperir hyn ar-lein drwy system 'Grademark', sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil a gwaith ymarferol, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

Mae modiwlau'r Flwyddyn Ragarweiniol yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae'r cwrs yn cynnwys agweddau ar Fioleg, Cemeg a Mathemateg a fyddai'n cael sylw mewn meysydd llafur Safon Uwch fel arfer. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi sgiliau TG sylfaenol i fyfyrwyr yn ogystal â dealltwriaeth o ddadansoddi data'n ystadegol. Defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar. Gall asesiadau fod yn grynodol a gallant gyfrif tuag at farc terfynol y modiwl, neu gallant fod yn ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau allweddol a gwybodaeth drwy adborth.  Mae'r arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl yn cynnwys adran ateb strwythuredig sy’n cael ei farcio gan beiriant (asesu ehangder gwybodaeth) ac adran ateb ysgrifenedig (asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol).  

Fel arfer, asesir modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Mae pob modiwl yn cynnwys asesiadau gwaith cwrs, a gallai’r rhain fod ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig ymarferol, adroddiadau strwythuredig, profion dosbarth, profion ateb strwythuredig, gwaith grŵp, cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar ac ymarferion datrys problemau ystadegol/cyfrifiaduro.  Gall asesiadau fod yn grynodol a gallant gyfrif tuag at farc terfynol y modiwl, neu gallant fod yn ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau allweddol a gwybodaeth drwy adborth.  Mae'r arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl yn cynnwys adran ateb strwythuredig sy’n cael ei farcio gan beiriant (asesu ehangder gwybodaeth) ac adran ateb ysgrifenedig (asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol).   

Yn y flwyddyn olaf, asesir modiwlau a addysgir drwy arholiadau a gwaith cwrs dadansoddol estynedig. Mae eich prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf yn cael ei asesu gan werthusiad goruchwyliwr ac adroddiad ysgrifenedig.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  • gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
  • nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
  • dangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae cyfran sylweddol o'n graddedigion BSc Gwyddorau Biolegol yn mynd ymlaen i astudio graddau Meistr neu PhD. Mae gan lawer o bobl eraill yrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth fel ymchwil a datblygu, cadwraeth, rheoli amgylcheddol, ymchwil wyddonol, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, rheoli agro-diwydiant a bywyd gwyllt, ymhlith llawer o rai eraill.

Mae gan ein graddedigion hefyd lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Yn olaf, gall gradd yn y Biowyddorau fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol neu gyfrifydda.

Lleoliadau

Nid yw'r cwrs hwn yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol. Fodd bynnag, rydym yn annog myfyrwyr yn gryf i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf er mwyn gwella'u cyflogadwyedd. Mae'r Ysgol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith drwy Gynghorydd Cyflogadwyedd yr Ysgol.

Gwaith maes

Mae profiad uniongyrchol o blanhigion ac anifeiliaid yn eu cynefin naturiol yn rhan bwysig o fioleg fodern. Yn dibynnu ar argaeledd a dewisiadau modiwl, efallai y byddwch yn cael yr opsiwn i gymryd un o'n cyrsiau maes poblogaidd, sy'n cynnwys profiad gwaith maes estynedig fel rhan o’n modiwl ecoleg a chadwraeth yn yr ail flwyddyn.

Mae ein cyrsiau maes yn rhoi profiad ymarferol hanfodol o dechnegau modern a sgiliau ymarferol mewn bioleg maes, megis modrwyo adar, mesur dosbarthiad planhigion, dal mamaliaid bychain, trapiau pydew, ac arolygon ystlumod.

Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, yn seiliedig ar gyrsiau mewn amrywiaeth o leoliad ledled y byd. Mae ein hystod o gyrsiau maes fel arfer yn cynnwys Bioamrywiaeth Fforest Law (Borneo), Ecoleg Morol Trofannol (Tobago a Borneo), Ecoleg Morydol (Aber Hafren), Ecoleg Afon (Caerdydd), ac Ecoleg Llawr y Goedwig (Caerdydd). Mae pob un o'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sydd yn aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.

Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Gwener 5 Gorffennaf

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais