Ewch i’r prif gynnwys

Biocemeg (BSc)

Blwyddyn Mynediad


Mae ein gradd Biocemeg yn cynnig hyfforddiant ymarferol helaeth ac yn cofleidio ymchwil gyfoes mewn meysydd newydd pwysig megis genomeg, bioleg synthetig a pheirianneg protein.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Astudiaeth o systemau biolegol a sut maen nhw’n gweithredu ar lefel moleciwlaidd yw biocemeg, ac mae hefyd yn cynnwys bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol. Mae'n bwnc sydd â hanes cyfoethog o ddarganfyddiadau gwyddonol, o ensymoleg a llwybrau metabolaidd i ganfod genynnau a strwythur DNA. Heddiw mae’r pwnc yn rhoi sylw i feysydd newydd pwysig, megis genomeg, systemau a bioleg synthetig ac mae’n ganolog i bob agwedd ar fioleg.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y rôl allweddol y mae gwyddorau biocemeg a biomoleciwlaidd yn cyfrannu at ddatblygiadau yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys meddygaeth a biotechnoleg. Cewch hyfforddiant ymarferol helaeth mewn technegau labordy ac (yn dibynnu ar ddewis modiwl ac argaeledd) ymchwil maes, yn ogystal â phrofiad ymarferol o sgiliau trosglwyddadwy eang ym maes cyfrifiadura, ystadegau, dadansoddi data a chyflwyno.

Mae’r rhaglen yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol gyda datblygiad sgiliau academaidd (arfarnu beirniadol, gwerthuso a dadansoddi data) ynghyd â datblygiad sgiliau ymarferol, cyflwyno ac ysgrifenedig mewn cyd-destun gwyddonol. Yn y pen draw, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sy'n llysgenhadon cyflogadwy, gwybodus, amryddawn a brwdfrydig ar gyfer gwyddoniaeth.

Bydd y wybodaeth a’r sgiliau y byddwch chi’n eu datblygu yn ystod eich gradd Biocemeg yn eich gwneud yn gyflogadwy mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd ym mhob maes yn y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau moleciwlaidd, gan gynnwys y diwydiannau fferyllol, ymchwil, cyhoeddi ac addysgu. Bydd y sgiliau dadansoddol a’r sgiliau eraill y byddwch chi’n eu meithrin ar y cwrs hefyd yn sylfaen wych ar gyfer llawer o lwybrau gyrfaol eraill y tu allan i wyddoniaeth. Fel arall, efallai y byddwch am barhau â’ch astudiaethau drwy fynd ar drywydd gradd uwch.

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n eu haddysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu llawer iawn o arian ymchwil allanol a bydd hynny’n caniatáu ichi wneud defnydd o’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Mae gan yr Ysgol hefyd Orsaf Maes gyda staff yno barhaus yn Borneo, yn ogystal ag arwain Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu barhau ag amrywiaeth eang o ddysgu gan astudio’r ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol. 

Côd UCASC700
Derbyniad nesafMedi 2019
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae tua 415 o leoedd ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae'r Ysgol fel arfer yn derbyn tua 2,500 o geisiadau.

Gofynion mynediad

AAB –ABB gan gynnwys Bioleg neu Gemeg ac ail bwnc gwyddonol.  AAB – ABB gan gynnwys A mewn Bioleg neu Gemeg ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Cemeg neu Fioleg yn unig, heb ail bwnc gwyddonol. Gall Bioleg Ddynol gymryd lle Bioleg. Yr ail bynciau fwyaf cyffredin a derbynnir yw Mathemateg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol, Gwyddoniaeth Amgylcheddol a Daearyddiaeth. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol. Mae’n ofynnol i chi basio’r elfen ymarferol Lefel A Gwyddoniaeth, lle bo'n berthnasol.  

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDD mewn Diploma Estynedig RQF mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, gyda D ym mhob un o’r Unedau Craidd/Gorfodol. BTEC derbyniol ar gyfer mynediad: Diploma Estynedig RQF BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol a Diploma Estynedig BTEC mewn Rheoli Anifeiliaid.

Diploma BRh gyda sgor 34-32  gan gynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Gemeg ar y Lefel Uwch; NEU Diploma BRh gyda 655 ar y Lefel Uwch gan gynnwys 6 mewn Bioleg neu Gemeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol y Biowyddorau.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

I gynnwys C/4 mewn Mathemateg TGAU

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Nodiadau:

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£20,950Dim

Nodiadau:

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd cyrsiau maes sy'n digwydd dramor yn golygu costau ychwanegol – yn bennaf ar gyfer llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs BSc hwn yn un amser llawn dros gyfnod o dair blynedd academaidd (pedwar gan gynnwys yr opsiwn o gael Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol), ac enillir 120 credydau bob blwyddyn.  Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda'r tri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Yn y flwyddyn olaf, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddo’r fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, cynigir modiwlau ar draws ystod eang o bynciau. Ym mhob achos, mae sesiynau ymarferol labordy helaeth yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a deunydd darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Yn y flwyddyn olaf, mae angen astudio'n llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr baratoi adroddiad cynhwysfawr sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol). Rydym yn ymdrechu i gynnig dewis mor eang â phosibl i’ch caniatáu i deilwra eich gradd i’ch nodau astudio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2019/20. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2019

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Bwriad hyn yw adlewyrchu’r ffaith fod ymchwil biowyddoniaeth yn gynyddol yn faes amlddisgyblaethol.

Bydd y flwyddyn gyntaf gyffredin yn trwytho myfyrwyr yn y pynciau hanfodol, gan gynnwys modiwl Cemeg Biolegol sy’n cyflwyno pynciau ar ryngwyneb cemeg/bioleg ac archwilio technegau dadansoddi modern. Mae elfennau Biocemegol y cwrs yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys pynciau fel strwythur a swyddogaeth proteinau (gan gynnwys ensymau), strwythur a dyblygu DNA, trefniant a mynegiant genynnau, technegau trin geneteg, biocemeg carbohydrad a lipidau, ac agweddau allweddol ar fetaboledd.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg biolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Mae system y flwyddyn gyntaf gyffredin yn cynnig mantais fawr o ran rhoi hyblygrwydd mewn perthynas â dewis gradd i chi. Nod y dull hwn yw eich gwneud yn agored i holl feysydd y biowyddorau, fel eich bod yn gallu gweithredu’n well yn y disgyblaethau biowyddoniaeth sy’n fwyfwy rhyngddisgyblaethol. Mae strwythur cyffredin y flwyddyn gyntaf yn eich caniatáu i ehangu ffocws eich pynciau yn yr ail flwyddyn, os byddwch yn dymuno, neu barhau i ganolbwyntio ar un ddisgyblaeth benodol.

Blwyddyn dau

Bydd eich ail flwyddyn yn rhoi mwy o bwyslais ar sail arbrofol biocemeg a meysydd perthnasol yn y gwyddorau biomoleciwlaidd fel bioleg foleciwlaidd, bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol. Byddwch yn ymgymryd ag ymarferion sy’n ymdrin â thechnegau ymchwil modern fel trin a dadansoddi DNA ailgyfunol, biocemeg proteinau a lipidau a microbioleg, gyda phwyslais cryf ar ddadansoddi a dehongli data.

Byddwch hefyd yn adeiladu ar eich gwybodaeth o flwyddyn un i ddatblygu sylfaen gadarn ym meysydd mwy datblygedig swyddogaeth genynnau, geneteg foleciwlaidd, biocemeg proteinau, metabolaeth, bioleg celloedd, datblygiad, esblygiad a signalau celloedd.

Bydd hyn yn sicrhau fod gennych y sgiliau a’r ymwybyddiaeth hanfodol o ran technegau allweddol am ba bynnag agwedd ar fiocemeg fydd eich maes arbenigedd o ddewis, ym mlwyddyn olaf y cwrs ac yn eich gyrfa ddilynol.

Yn yr ail flwyddyn, mae gennych ddewis o dri o hyd at 12 modiwl sydd ar gael, gan roi cyfanswm o 120 Credyd.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gallwch hefyd newid i radd pedair blynedd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol, a gaiff ei chymryd ar ôl yr ail flwyddyn, yn amodol ar gael gafael ar leoliad hyfforddiant priodol.

Blwyddyn tri

Yn eich blwyddyn olaf, bydd pwyslais cryf ar ddysgu annibynnol a gallwch ymchwilio i feysydd sy’n bwysig ar hyn o bryd ym maes biocemeg megis bioleg synthetig a strwythur proteinau, peirianneg enetig, bioleg bôn-gelloedd a pheirianneg meinweoedd. Bydd eich sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod eich prosiect yn y flwyddyn olaf sy’n eich caniatáu i ymchwilio i bwnc yn llawer mwy manwl.

Bydd sesiynau tiwtorial a seminarau ymchwil ar agweddau ehangach ar y pwnc, gan gynnwys eu cymwysiadau meddygol a diwydiannol, yn estyn cwmpas eich dysgu.

Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd (o ddewis o 18). Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys bioleg synthetig a llunio protein, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.

Ar ddechrau'r flwyddyn olaf, mae gennych hefyd yr opsiwn o wneud cais i drosglwyddo i gwrs pedair blynedd MBiochem gyda gradd Meistr integredig, yn dibynnu ar gynnydd academaidd boddhaol a’r lleoedd sydd ar gael.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Yn eich blwyddyn olaf, bydd pwyslais cryf ar ddysgu annibynnol a gallwch ymchwilio i feysydd sy’n bwysig ar hyn o bryd ym maes biocemeg megis bioleg synthetig a strwythur proteinau, peirianneg enetig, bioleg bôn-gelloedd a pheirianneg meinweoedd. Bydd eich sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod eich prosiect yn y flwyddyn olaf sy’n eich caniatáu i ymchwilio i bwnc yn llawer mwy manwl.

Bydd sesiynau tiwtorial a seminarau ymchwil ar agweddau ehangach ar y pwnc, gan gynnwys eu cymwysiadau meddygol a diwydiannol, yn estyn cwmpas eich dysgu.

Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd (o ddewis o 18). Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys bioleg synthetig a llunio protein, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.

Ar ddechrau'r flwyddyn olaf, mae gennych hefyd yr opsiwn o wneud cais i drosglwyddo i gwrs pedair blynedd MBiochem gyda gradd Meistr integredig, yn dibynnu ar gynnydd academaidd boddhaol a’r lleoedd sydd ar gael.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

30%

Astudio annibynnol dan arweiniad

70%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

28%

Astudio annibynnol dan arweiniad

72%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

21%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau ments

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob aelod o’r staff academaidd yn Ysgol y Biowyddorau yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd y rhyngweithio sylfaenol â staff academaidd yn digwydd yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn perthynas â sesiynau addysgu neu drwy ebost, ac maen nhw’n gweithredu polisi ‘drws agored’ ar gyfer myfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer cadw lle ar gyfer cyfarfod. Hefyd, mae gan bob cynllun gradd gydlynydd cynllun gradd sy'n gallu rhoi cyngor ar faterion academaidd. Mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn a all roi cyngor ar faterion gweinyddol sy'n ymwneud â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa Israddedig hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich Tiwtor Personol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, darperir hyn ar-lein drwy system 'Grademark', sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil a gwaith ymarferol, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

Fel arfer, asesir modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Mae pob modiwl yn cynnwys asesiadau gwaith cwrs, a gallai’r rhain fod ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig ymarferol, adroddiadau strwythuredig, profion dosbarth, profion ateb strwythuredig, gwaith grŵp, cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar ac ymarferion datrys problemau ystadegol/cyfrifiaduro.  Gall asesiadau fod yn grynodol a gallant gyfrif tuag at farc terfynol y modiwl, neu gallant fod yn ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau allweddol a gwybodaeth drwy adborth.  Mae'r arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl yn cynnwys adran ateb strwythuredig sy’n cael ei farcio gan beiriant (asesu ehangder gwybodaeth) ac adran ateb ysgrifenedig (asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol).   

Yn y flwyddyn olaf, asesir modiwlau a addysgir drwy arholiadau a gwaith cwrs dadansoddol estynedig. Mae eich prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf yn cael ei asesu gan werthusiad goruchwyliwr ac adroddiad ysgrifenedig.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

62%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

35%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

51%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

45%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

56%

Arholiadau ymarferol

12%

Gwaith cwrs

32%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  • gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
  • nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
  • dangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae cyfran sylweddol o'n graddedigion BSc Biocemeg yn mynd ymlaen i astudio graddau Meistr neu PhD. Mae gan nifer o bobl eraill yrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy’n berthnasol i wyddoniaeth fel ymchwil a datblygiad biotechnoleg, cyhoeddi gwyddonol neu feddygol, y diwydiannau fferyllol, a bioleg foleciwlaidd, ymysg llawer o rai eraill.

Mae gan ein graddedigion hefyd lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i amrywiaeth mawr o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Yn olaf, gall gradd mewn Biocemeg fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol neu gyfrifydda.

Swyddi

  • Assistan Biochemist
  • Laboratory Researcher
  • University Lecturer
  • Biomolecular Scientist

Lleoliadau

Nid yw'r cwrs tair blynedd hwn yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol. Fodd bynnag, rydym yn annog myfyrwyr yn gryf i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf er mwyn gwella'u cyflogadwyedd. Mae'r Ysgol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith drwy Gynghorydd Cyflogadwyedd yr Ysgol.

Gwaith maes

Mae gwaith maes yn bosibl fel rhan o rai modiwlau, gan gynnwys profiad gwaith maes estynedig fel rhan o’n modiwl cadwraeth ac ecoleg yn yr ail flwyddyn.

Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, yn seiliedig ar gyrsiau sy’n cael eu rhedeg mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae ein hystod o gyrsiau maes fel arfer yn cynnwys Bioamrywiaeth Fforest Law (Borneo), Ecoleg Morol Trofannol (Tobago a Borneo), Ecoleg Morydol (Aber Hafren), Ecoleg Afon (Caerdydd), ac Ecoleg Llawr y Goedwig (Caerdydd). Mae pob un o'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sydd yn aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.

Gan ddibynnu ar ddewisiadau modiwl, argaeledd a chyfyngiadau amserlennu, efallai y bydd myfyrwyr Biocemeg yn cael yr opsiwn o gymryd un o’n cyrsiau maes.

Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Sadwrn 26 Hydref

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais