Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Cynorthwyydd Radiograffig (Delweddu Clinigol) (CertHE)

  • Maes pwnc: Radiograffeg
  • Côd UCAS: Mynediad uniongyrchol
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 1 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Ein rhaglen blwyddyn yw'r unig gwrs o'i fath yn ne Cymru ac mae wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Radiograffwyr. Mae'n gyfle cyffrous i ymestyn eich rôl fel gweithiwr cymorth y GIG i ddod yn Ymarferydd Cynorthwyol ac yn aelod gwerthfawr o’r tîm radiograffeg.

Fel ymarferydd cynorthwyol delweddu clinigol, byddwch yn gyfrifol am roi gofal i gleifion sy’n amrywio o blant newydd anedig i’r henoed. Byddwch yn cynhyrchu delweddau i’w defnyddio wrth roi diagnosis o anaf ac afiechyd. Erbyn diwedd y rhaglen bydd gennych wybodaeth drylwyr o agweddau proffesiynol a chlinigol ymarfer radiograffeg cynorthwyol yn yr amgylchedd delweddu clinigol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o'r ystod eang o dechnolegau delweddu sy'n cael eu defnyddio heddiw.

Pobl sydd wrth wraidd ein gwaith, a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ofalu am unigolion yw canolbwynt y rhaglen. Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd rhyngddisgyblaethol, gyda chyfleoedd i ddysgu ar y cyd a chael addysg ryngbroffesiynol. Felly, bydd cyfleoedd i ddysgu gyda myfyrwyr gofal iechyd eraill, a dysgu ganddynt, yn enwedig o ran gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn rhan o'r rhaglen.

Mae'r rhaglen Tystysgrif mewn Ymarfer Radiograffig Cynorthwyol Addysg Uwch (Delweddu Clinigol) wedi'i chynllunio i addysgu ymarferwyr ar gyfer gyrfa heriol sy'n newid. Bydd y rhaglen yn eich galluogi i astudio ar sail y blociau sy’n cael eu rhyddhau a pharhau i weithio ar yr un pryd.

Mae ymarferwyr cynorthwyol yn perfformio tasgau a gyfyngir gan brotocol dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth radiograffydd. Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi i weithio ym maes delweddu clinigol, ond gallwch hefyd weithio ym meysydd delweddu radiograffig eraill yn unol â phrotocolau a gytunir gyda Bwrdd Iechyd y GIG.

Cewch gefnogaeth academaidd gynhwysfawr gan diwtor personol profiadol a chewch eich addysgu a’ch cefnogi gan staff profiadol wrth rannu syniadau mewn ystafell ddosbarth clos. Byddwch hefyd yn elwa ar leoliadau gwaith a gefnogir gan addysgwyr lleoliadau gwaith radiograffeg profiadol ochr yn ochr ag ymgymryd ag ymarfer clinigol yn y sefydliad sy’n eich cyflogi.

Nod y rhaglen yw cynhyrchu ymarferwyr cynorthwyol delweddu clinigol sy’n:

  • cydnabod pwysigrwydd gwybodaeth a dealltwriaeth i’w hymarfer proffesiynol presennol ac yn y dyfodol;
  • datblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i roi gofal o ansawdd uchel i ddefnyddwyr gwasanaeth;
  • integreiddio eu dysgu academaidd a chlinigol yn effeithiol;

datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o fewn fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Nodweddion nodedig

The day-release nature of the programme allows continuous link between theory and practice, while the split between clinical and academic components enhances the acquisition of practical skills and allows continuous student exposure to an appropriate range of work-based experiences.

Cyflwyno cais ar gyfer 2024 neu 2025

Maes pwnc: Radiograffeg

  • academic-schoolYsgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

See 'Other essential requirements'

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

See 'Other essential requirements'

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

 

 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da.

Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

See 'Other essential requirements'

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Nod y rhaglen yw recriwtio Gweithwyr Cymorth Radiograffeg a gyflogir gan Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. Mae'r broses recriwtio’n cynnwys cyfweliadau dethol gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â Rheolwyr Gwasanaethau Radioleg priodol neu eu cynrychiolwyr penodedig.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Ariennir ffioedd dysgu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bydd myfyrwyr sy'n gweithio i'r GIG yn parhau i gael eu talu gan eu cyflogwr. Mae ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru ac sy'n gweithio i'r GIG fel gweithiwr cymorth yn gymwys i gael arian.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Mae gweithio i'r GIG yn rhan ofynnol o'r cwrs hwn. Felly, nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Costau ychwanegol

Os na fydd y sefydliad cyflogi mewn sefyllfa i wneud hynny, efallai y bydd angen i ymgeiswyr dalu’r costau sydd ynghlwm â chael Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) manylach os nad oes ganddynt un eisoes ar gyfer eu swydd.

 

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen yn fodiwlaidd o ran fformat ac mae’n cynnwys modiwlau academaidd a chlinigol. Mae'r rhaglen yn cynnwys 120 credyd o 4 modiwl x 30 credyd.

Mae'r flwyddyn academaidd yn cynnwys 2 floc academaidd (cyfanswm o 16 wythnos) a 2 floc clinigol ffurfiol (cyfanswm o 14 wythnos). Mae presenoldeb myfyrwyr ym mhob sesiwn yn orfodol ar gyfer blociau academaidd a chlinigol. Gan eu bod yn gweithio i sefydliadau GIG allanol, mae gan fyfyrwyr yr hawl i wyliau blynyddol gan y sefydliadau hynny, felly byddant hefyd yn mynychu ymarfer clinigol yn ystod cyfnodau gwyliau'r Brifysgol.

Mae nifer yr oriau/credydau (460) ar gyfer y modiwl clinigol yn uwch o'i gymharu â'r 300 awr a ddisgwylir ar gyfer modiwlau academaidd. Mae cwblhau'r 460 awr yn galluogi'r myfyrwyr i gael digon o amser a phrofiad ym mhob un o'r meysydd ymarfer perthnasol i ddatblygu'r cymwyseddau sy'n ofynnol gan Goleg a Chymdeithas y Radiograffwyr (SCoR).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae'r rhaglen yn rhedeg dros flwyddyn galendr ac mae'n cynnwys 25% o ddysgu academaidd a 75% yn seiliedig ar waith.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ymarfer Proffesiynol a Gofal Cleifion mewn RadiograffegHC122330 Credydau
Technoleg DelwedduHC122430 Credydau
Ymarfer DelwedduHC122530 Credydau
Clinigol 1HC122630 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cynlluniwyd y rhaglen i ganolbwyntio ar y berthynas integredig rhwng yr holl bynciau gyda ffocws allweddol ar gymhwyso theori i ymarfer delweddu clinigol ym mhob modiwl.

Oherwydd natur ymarferol radiograffeg, mae'r rhaglen wedi'i threfnu'n bwrpasol i’ch galluogi i dreulio 40% o'ch amser mewn ymarfer clinigol fel bodd modd cymhwyso theori mewn ymarfer clinigol.

Defnyddir dulliau dysgu ac addysgu amrywiol drwy gydol y cyrsiau i adlewyrchu cynnwys y modiwl, gwybodaeth y myfyrwyr sy’n datblygu a'u harbenigedd sy'n tyfu. Mae gan bob modiwl strwythur dysgu ac addysg ffurfiol sy’n defnyddio amrywiaeth o ddarlithoedd ffurfiol, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau sgiliau ymarferol. Mae ffocws ar hunanastudio dan gyfarwyddyd yn ein galluogi i ddatblygu dull dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Bydd gweithdai ymarferol sy'n defnyddio'r ystafell Delweddu Radiograffeg a meddalwedd efelychu delweddau yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ac atgyfnerthu'ch dysgu.

Bydd adnoddau ar gael ar-lein ac yn ystod darlithoedd a thiwtorialau er mwyn eich helpu ac fe'ch anogir yn weithredol i geisio tystiolaeth o lenyddiaeth i helpu i gefnogi a llywio'ch syniadau.

Darperir cyfleoedd i glywed yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr trwy gydol eich astudiaeth er mwyn eich galluogi i ddeall profiadau o safbwynt y rhai sydd â mewnwelediad personol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu eich ymarfer proffesiynol.

Yn unol â'r amgylchedd clinigol proffesiynol, gosodir pwyslais mawr ar weithio mewn tîm amlddisgyblaethol. Mae cyfleoedd wedi'u hymgorffori yn y rhaglen ar gyfer addysg a rennir a rhyngbroffesiynol, a chewch y cyfle i ymgysylltu â myfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau gofal iechyd eraill.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich astudiaethau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd. Bydd yn rhoi cefnogaeth fugeiliol ac arweiniad academaidd trwy gydol y rhaglen. Yn ogystal â hyn, bydd gennych oruchwyliwr academaidd a fydd yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich prosiect ymchwil.

Ar leoliad gwaith cewch gefnogaeth gan staff clinigol adrannol, addysgwyr ymarfer a darlithwyr clinigol. Neilltuir tiwtor clinigol i bob adran lle cynhelir lleoliad gwaith.

Darperir cefnogaeth ychwanegol gan y ganolfan Cefnogi Myfyrwyr i roi cyngor ac arweiniad, cefnogaeth ariannol, cwnsela a chymorth lles, cefnogaeth i bobl anabl a chefnogi myfyrwyr rhyngwladol. Gellir cael rhagor o gefnogaeth trwy'r gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr gan gynnwys cyngor annibynnol ar weithdrefnau'r brifysgol ac eiriolaeth. Yna gall y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau a'r llyfrgell gynnig arweiniad a hyfforddiant ar gyfer pob agwedd ar fywyd academaidd a datblygu sgiliau.

Bydd gennych fynediad, trwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir Dysgu Canolog, at ddeunydd amlgyfrwng perthnasol gan gynnwys cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, recordiadau darlith, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a fforymau trafod. Mae'r amgylchedd dysgu rhithwir, sydd ar gael trwy ddyfeisiau bwrdd gwaith a symudol, yn eich galluogi i gael mynediad at adnoddau electronig o unrhyw le. Mae labordai cyfrifiadurol pwrpasol, ystafelloedd astudio i fyfyrwyr, rhwydweithiau WiFi ledled y campws, cyfleusterau argraffu a llyfrgell Gofal Iechyd bwrpasol ar gael drwy gydol y flwyddyn. Mae staff ar gael ar y safle i gynorthwyo myfyrwyr a rhoi cefnogaeth a chyngor.

Bydd gennych fynediad unigol at feddalwedd efelychu delweddau diagnostig pwrpasol, sydd ar gael ar unrhyw ddyfais Windows. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ymarfer ac ymgymryd â thasgau hunanddysgu neu dasgau dan gyfarwyddyd tiwtoriaid, mor aml ag y bydd ei angen ar gyfer eu hanghenion dysgu, naill ai yn eu hamser eu hunain neu yn ystod amser hunanastudio.

Sut caf fy asesu?

Cewch eich asesu mewn nifer o ffyrdd drwy gydol eich astudiaethau i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i ddysgu a gwella ar eich asesiadau ffurfiannol ac i ddangos eich sgiliau a'ch sylfaen wybodaeth drwy ddulliau asesu gwahanol.

Ynghlwm wrth asesu crynodol y rhaglen y mae aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau ffurfiol heb eu gweld o’r blaen, asesiad gwrthrychol ymarferol strwythuredig (OSPE), asesiad clinigol ymarferol ac asesu mathau o ymddygiad proffesiynol.

Diben asesu yw sicrhau eich bod yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol ymarfer radiograffeg gynorthwyol ym maes delweddu clinigol. Asesir addysg glinigol gan ddefnyddio portffolio o gymwyseddau clinigol ac asesiad o sgiliau clinigol ymarferol a arsylwir.

Bydd asesiadau clinigol crynodol yn cael eu cynnal naill ai gan ddau ddarlithydd clinigol neu ddarlithydd clinigol ac addysgwr practis.  Bydd asesiad gan ddau aelod profiadol o’r staff profiadol sy’n defnyddio amlinelliadau a meini prawf marcio manwl yn sicrhau cysondeb wrth farcio ar draws y safleoedd.

Byddwn yn rhoi adborth ichi ar eich gwaith mewn nifer o fformatau. Ymhlith y rhain bydd adborth llafar yn ystod tiwtorialau, adborth mewn darlithoedd, adborth ysgrifenedig drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein yn ogystal ag adborth ysgrifenedig electronig am waith cwrs a asesir gan ddefnyddio Feedback Studio.

Cewch adborth ysgrifenedig cryno mewn perthynas ag arholiadau a chewch drafod eich perfformiad cyffredinol â'ch tiwtor personol. Yn ystod lleoliadau clinigol, bydd mentoriaid/athrawon clinigol yn cefnogi eich cynnydd, gan roi adborth llafar ac ysgrifenedig am eich perfformiad clinigol.

 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod ac maent yn cyd-fynd â Fframwaith addysg a gyrfaeoedd ar gyfer y gweithlu'r radiograffwyr (2013).

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Cymhwyswch y wybodaeth a'r sgiliau craidd sy'n gysylltiedig ag ymarfer radiograffeg a delweddu diagnostig yn ddiogel ac yn effeithiol gan roi sylw dyledus i agweddau moesegol, cymdeithasol, gwleidyddol a chyfreithiol gofal.

Sgiliau deallusol:

  • Gwerthfawrogi a deall tystiolaeth ymchwil gan gynnwys canllawiau gofal iechyd, a'i chymhwyso i anghenion unigolion a phrofiad personol/proffesiynol i ddarparu arfer effeithiol yn unol â chanllawiau a phrotocolau clinigol.

Sgiliau ymarferol proffesiynol:

  • Cadw at rôl y gweithredwr o fewn IRMER (2017 neu ddiwygiadau dilynol) fel sy'n ofynnol o fewn ymarfer proffesiynol.
  • Bod yn ymwybodol o effaith diwylliant, cydraddoldeb ac amrywiaeth ar ymarfer a sicrhewch fod gofal sy'n canolbwyntio ar y claf yn cael ei ddarparu mewn modd anwahaniaethol.
  • Gweithio'n effeithiol gyda phob aelod o'r tîm Radioleg (rhyngbroffesiynol) yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill (ffiniau trawsbroffesiynol).

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

  • Arddangoswch ystod eang o sgiliau cyfathrebu effeithiol, gan gynnwys ar lafar, yn weledol ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio dull beirniadol i addasu'r sgiliau hyn er mwyn sicrhau dull cydweithredol o roi gwybodaeth i ystod amrywiol o gynulleidfaoedd, a chael gwybodaeth ganddynt.
  • Cymhwyso sgiliau rhesymu effeithiol wrth gymhwyso gweithgareddau proffesiynol o fewn cwmpas ymarfer fel y'i diffinnir o fewn y sefydliad sy'n cyflogi.
  • Yn unol â gofynion SCoR, cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu gydol oes eu hunain o fewn fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd Ymarferwyr Cynorthwyol yn gallu chwilio am swydd ym meysydd Delweddu Clinigol radiograffeg.

Mae Ymarferwyr Cynorthwyol ym meysydd Delweddu Clinigol yn cynnal archwiliadau radiograffig diagnostig nad ydyn nhw’n gymhleth ar gleifion sy'n oedolion ac sy'n gallu cerdded. Mewn ystafelloedd pelydr-x cyffredinol y caiff eu gwaith ei wneud yn bennaf, lle maen nhw’n cynnal llawer o'r archwiliadau radiograffig sylfaenol. Efallai y byddan nhw’n gweithio ym meysydd eraill radiograffeg yn unol â’r protocolau y mae Bwrdd Iechyd y GIG wedi cytuno arnyn nhw.

Lleoliadau

Bydd myfyrwyr yn cyflawni'r gwaith dysgu sy’n ofynnol ar leoliad clinigol gan gwblhau’r isafswm o 460 o oriau presenoldeb sydd eu hangen gan bob myfyriwr. Caiff hyn ei fonitro trwy eich cofnodion proffesiynoldeb clinigol. Mae hyd lleoliadau caniatáu digon o gyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau gofynnol ond mae hefyd yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd pe bai angen iddynt ad-dalu oriau.

 

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.