Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg (BA)

  • Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth
  • Côd UCAS: F400
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Lleoliadau - cartref a thramor

Profwch weithgareddau gan gynnwys cloddio, prosiectau amgueddfa a gweithgareddau labordy.

star

Labordai pwrpasol

Cewch ddefnyddio ein labordai a hefyd ein hystafelloedd darlunio a ffotograffiaeth ddigidol.

location

Anturiaethau gwaith maes

Cewch feithrin sgiliau ymarferol a rhoi'r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar waith; darganfod lleoliadau cyffrous a datgelu byd o'r gorffennol.

people

Dan arweiniad y gymuned

Mwynhewch weithgareddau amrywiol gan gynnwys ymweliadau gan siaradwyr rhyngwladol, y Gymdeithas Archaeoleg a digwyddiadau.

rosette

Wedi’i achredu gan CiFA

Mae graddau BA a BSc Archaeoleg bellach wedi’u hachredu gan Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (CIfA) a University Archaeology UK (UAUK).

Archaeoleg yw’r unig ddisgyblaeth sy'n eich galluogi i astudio dynoliaeth o'r hominidiaid cynharaf pum miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Mae'n galluogi pob un ohonom i ddeall yn well beth yw bod yn ddynol ac archwilio cyfoeth y profiad dynol.

Gan gyfuno'r gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau, bydd ein BA Archaeoleg yn rhoi i chi’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i astudio'r gorffennol trwy dystiolaeth faterol a bydd yn eich cyflwyno i Gan adeiladu ar eich angerdd a'ch chwilfrydedd, cewch gyfle i arbenigo mewn astudio'r cyfnodau a'r rhanbarthau sydd o ddiddordeb i chi, yn amrywio o'r cyfnodau cynhanesyddol i gyfnodau ôl-ganoloesol. Yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o gyd-destunau archaeolegol penodol, byddwn hefyd yn sicrhau y gallwch roi'r ymchwil a'r wybodaeth hon mewn cyd-destun cyfoes, gan gynnwys sut y gall archaeoleg lywio dadleuon cymdeithas heddiw a sut y caiff safleoedd a chasgliadau treftadaeth eu rheoli.

 Byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth o sgiliau archaeolegol allweddol sy'n ymwneud ag astudio arteffactau a thystiolaeth amgylcheddol ac yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau maes gydag wyth wythnos o leoliad, yn nodweddiadol ar gloddiad archaeolegol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn cyd-destun dilys. Mae’r lleoliadau cofiadwy hyn yn digwydd gartref yn y DU a thramor, yn ystod yr hafau fel arfer yn dilyn Blwyddyn Un a Blwyddyn Dau.

Yn ogystal â sgiliau ymarferol, wedi'u meithrin yn y maes ac yn ein cyfleusterau rhagorol, byddwch yn ennill ac yn datblygu sgiliau ymchwil arbennig drwy fodiwl astudio annibynnol ail flwyddyn. Gyda chefnogaeth un o'n staff arbenigol, byddwch yn cynllunio ac yn ymgymryd â phrosiect ymchwil archaeolegol ar bwnc o'ch dewis. Mae'r dewis a'r arbenigedd cynyddol wrth i chi symud ymlaen drwy eich gradd yn golygu y byddwch yn mwynhau rhaglen gywir iawn, wedi'i theilwra i roi’r sgiliau gwerthfawr i chi yn y sector treftadaeth a’r tu hwnt iddo.

Mae BA Archaeoleg yn rhoi’r radd gyffredinol orau i chi ac mae’n ffordd ardderchog o ddatblygu ystod o sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr, er enghraifft trwy ddatblygu sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth yn y maes a dysgu sut i ddadansoddi a chyfleu straeon cymhleth am y gorffennol i ystod o gynulleidfaoedd.

Achrediadau

Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Cyfrifiadura, y Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd angen dillad addas (e.e. dillad ac esgidiau glaw addas) ac weithiau llety (e.e. pabell a bag cysgu) ar gyfer teithiau maes a gwaith maes. Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas (e.e. dillad ac esgidiau addas) ac weithiau llety (e.e. pabell a bag cysgu) ar gyfer teithiau maes a gwaith maes.  Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r cwrs BA Archaeoleg yn radd tair blynedd a fydd yn rhoi i chi’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r wybodaeth i lwyddo, boed astudio ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, gweithio ym maes archaeoleg a threftadaeth neu weithio mewn meysydd eraill. Mae'n cyfuno sgiliau academaidd ac ymarferol ac yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a'ch brwdfrydedd.  

Byddwch yn astudio 120 credyd o fodiwlau ym mhob blwyddyn, gan gynnwys dau fodiwl gwaith maes/lleoliad 20 credyd, sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r haf. Bydd digon o hyblygrwydd ym mhob un o’r tair blynedd trwy fodiwlau dewisol ym meysydd archaeoleg a meysydd eraill fel ei gilydd, yn ymdrin â themâu, cyfnodau a dulliau, fel y gallwch chi anelu at drywydd pwrpasol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cymryd 80 credyd o fodiwlau craidd sy'n eich cyflwyno i sgiliau archaeolegol allweddol ar gyfer gwaith maes a labordy. Mae'r modiwlau craidd hyn yn gyffredin ar draws y rhaglenni BA a BSc mewn Archaeoleg, gan roi'r dewis i chi drosglwyddo o un rhaglen i'r llall ar gyfer blwyddyn 2 os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Byddwch hefyd yn cymryd modiwlau rhagarweiniol ar archaeoleg cymdeithasau Môr y Canoldir (sy'n cwmpasu'r Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain) ac archaeoleg Prydain. Bydd eich 40 credyd sy'n weddill yn caniatáu ichi osod eich astudiaethau mewn cyd-destun ehangach ac archwilio'ch diddordebau, gan gymryd modiwlau dewisol o bob rhan o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Blwyddyn dau

Byddwch yn cymryd 80 credyd o fodiwlau craidd yn ystod eich ail flwyddyn. Mae eich lleoliad proffesiynol yn cyfrif am 20 o'r credydau hyn ac yn digwydd yn ystod gwyliau'r haf rhwng eich blwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn.

Bydd y modiwlau craidd sy'n weddill yn eich cyflwyno i ddulliau dehongli ym maes archaeoleg, cyd-destun cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymchwil archaeolegol ac yn eich galluogi i gwblhau project ymchwil annibynnol.

Byddwch yn gallu dewis 40 credyd o fodiwlau dewisol i ddilyn eich diddordebau ym maes archaeoleg rhanbarthau a chyfnodau penodol.

.

Blwyddyn tri

Byddwch yn cymryd dau fodiwl craidd (60 credyd) yn ystod eich blwyddyn olaf gyda'r 60 credyd sy'n weddill yn cynnwys modiwlau dewisol.

Mae eich lleoliad proffesiynol, sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r haf rhwng eich ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, yn cynnwys yr elfen graidd. Bydd y modiwlau dewisol gwerth 60 credyd yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o ddulliau archaeolegol penodol neu archaeoleg rhanbarthau neu gyfnodau penodol.

Mae’r traethawd hir (40 credyd) yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol uwch a dealltwriaeth fanwl o bwnc ymchwil, gyda chefnogaeth lawn goruchwyliwr academaidd a rhaglen o weithdai.

Yna byddwch yn dewis 3 modiwl opsiwn arall, a rhaid i o leiaf 2 ohonynt fod yn fodiwlau dyniaethau cyfnod-seiliedig. Gallwch ddewis 1 modiwl gwyddoniaeth os dymunwch.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel, a gefnogir gan ddull o ennill gwybodaeth a sgiliau lle mae'r ffocws ar y myfyriwr.

Mae dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, gweithdai, dosbarthiadau rhyngweithiol, teithiau maes, a thiwtorialau un-i-un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â phwnc, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.
 
Hyrwyddir sgiliau archaeolegol trwy ystod o sesiynau ymarferol a chymryd rhan mewn prosiectau gwaith maes yn uniongyrchol, gan gynnwys cloddio, arolygon, rhaglenni ôl-gloddio a phrosiectau curadurol mewn amgueddfeydd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd yn helaeth. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig. Byddwch yn cael eich goruchwylio wrth ymgymryd â'ch project ymchwil annibynnol a'ch traethawd hir dewisol. Bydd goruchwyliaeth yn cynnwys trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd, rhoi cyngor ac arweiniad; a darparu adborth ysgrifenedig ar gynnwys traethawd hir drafft.

Adborth
Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad, yn ogystal ag adborth llafar ar gyflwyniadau llafar/poster a asesir, a bydd hyn ar gael cyn pen pedair wythnos i gyflwyno’r gwaith.

Tiwtor Personol

Byddwch yn cael Tiwtor Personol fydd yn gallu eich cynghori ar faterion academaidd a materion bugeiliol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Mae Tiwtoriaid Personol yn cwrdd â chi yn rheolaidd i drafod cynnydd a rhoi cyngor ac arweiniad, ac maent ar gael i ymgynghori â nhw ar adegau eraill yn ôl yr angen. Mae cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad ar gael trwy raglen strwythuredig o Gynllunio Datblygiad Personol a thrwy gyfarfodydd wedi'u trefnu gyda Thiwtoriaid Personol. Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.

Sut caf fy asesu?

Mae pob modiwl wedi'i ddylunio er mwyn darparu profiad academaidd o ansawdd uchel. Mae'r math o asesiad yn amrywio o fodiwl i fodiwl, ond yn cynnwys traethodau, arholiadau, profion dosbarth, cyflwyniadau, asesiadau chwarae rôl a phortffolios.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Bydd y sgiliau sydd wedi’u meithrin a’u hasesu yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amryw yrfaoedd. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar. Cyfeirir asesiad o'r modiwlau thematig tuag at y gallu i gwestiynau a chyd-destunoli tystiolaeth yn ysgrifenedig. Mae dulliau gweithredu'n amrywiol, er mwyn sicrhau llwybrau a phrofiadau penodol, ac maent yn cynnwys traethodau, erthyglau, arholiadau llyfrau agored a dadansoddiad manwl o dystiolaeth yn annibynnol ac mewn grwpiau. Mae gan y modiwlau sgiliau i gyd asesiadau dilys sy'n efelychu gweithgareddau yn y byd go iawn yn y meysydd perthnasol. Uchafbwynt y rhaglen yw'r prosiect blwyddyn olaf, sy'n rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwirioneddol wreiddiol i wybodaeth archaeolegol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Gwybod a deall:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

GD 1: Gwerthuso'n feirniadol ddatblygiad archaaeoleg (gan gynnwys themâu a dulliau cyfredol), mewn perthynas ag ystod eang o gyd-destunau, cyfnodau amser a thraddodiadau deallusol.

GD 2: Dylunio a gweithredu project ymchwil archaeolegol gwreiddiol, beirniadol wedi'i ymgorffori mewn fframwaith damcaniaethol priodol.

GD 3: Cloriannu rôl archaeoleg yn y sector treftadaeth ehangach.

GD 4: Asesu'r datblygiad diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol yn y gorffennol yn feirniadol, a'r ffyrdd y gall archaeoleg gyfrannu at ddealltwriaeth y prosesau hynny heddiw.

GD 5: Gwerthuso’n feirniadol y fframweithiau damcaniaethol y mae ymchwil archeolegol wedi'i gwreiddio ynddynt.

GD 6: Defnyddio dulliau a damcaniaethau archeolegol i archwilio amryw gyfnodau ac ardaloedd.

GD 7: Cwestiynu'n feirniadol rôl treftadaeth yn y gymdeithas fodern. 

Sgiliau Deallusol:

I 1: Casglu, disgrifio a chyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth archaeolegol gymhleth nad oes modd ei darogan.

I 2: Asesu a gwerthuso ysgolheictod archaeolegol a threftadaeth yn feirniadol a chysylltu’r rhain â gwaith ymchwil o ddisgyblaethau eraill y celfyddydau a'r dyniaethau.

I 3: Dadansoddi, trafod a dehongli tystiolaeth gymhleth (gan gynnwys pethau, safleoedd, adeiladau a thirweddau).

I 4: Llunio a chynnal dadleuon dibynadwy a dilys sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'u lleoli o fewn fframweithiau cysyniadol perthnasol.

I 5: Dod o hyd i ffynonellau cynradd ac eilaidd priodol a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau.

I 6: Defnyddio gwybodaeth, ynghyd â sgiliau a dulliau priodol, i nodi a chloriannu newid hanesyddol yn y ffordd o drin a thrafod cyfnodau neu ardaloedd.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SYP 1: Helpu i adnabod, archwilio a chofnodi safleoedd archaeolegol.

SYP 2: Asesu dibynadwyedd, dilysrwydd ac arwyddocâd tystiolaeth archaeolegol.

SYP 3: Paratoi allbynnau proffesiynol o ansawdd ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn y sector treftadaeth sy'n ymwneud â chanfyddiadau ymchwil archaeolegol.

SYP 4: Defnyddio sgiliau archaeolegol mewn sefyllfa broffesiynol.

SYP 5: Cysylltu’n feirniadol yr hyn rydych chi’n ei wybod ac yn ei ddeall am archaeoleg â disgyblaethau eraill yn y dyniaethau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

ST/A 1: Cyfleu gwybodaeth dreftadaeth gymhleth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd drwy ystod o gyfryngau.

ST/A 2: Cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a safonau proffesiynol mewn ystod o leoliadau archaeolegol a threftadaeth.

ST/A 3: Casglu, asesu'n feirniadol a chyfosod ystod o adnoddau ymchwil a thystiolaeth.

ST/A 4: Asesu a sicrhau uniondeb ymchwil yn feirniadol a chyflawni ymchwil yn foesegol.

ST/A 5: Cymhwyso sgiliau TG, rhifedd a chyflwyno ymarferol mewn sefyllfaoedd cymhleth.

ST/A 6: Asesu'n gynhwysfawr oblygiadau moesegol ymchwil.

ST/A 7: Gweithio ar y cyd tuag at nod diffiniedig.

ST/A 8: Gwrando, deall a myfyrio wrth gyflwyno gwybodaeth newydd.

ST/A 9: Dehongli tystiolaeth drwy ei wreiddio mewn fframwaith damcaniaethol priodol

ST/A 10: Lleoli ac archwilio gwybodaeth benodol am ddisgyblaeth mewn cyd-destun cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd byd-eang.

ST/A 11: Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol, naill ai'n unigol neu fel rhan o dîm.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ar ôl graddio, bydd gyda chi amryw sgiliau megis cydweithio, arwain a chyfathrebu ynghyd â’r hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun ehangach ac, felly, byddwch chi’n werthfawr i gyflogwyr mewn nifer o yrfaoedd. Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli ar lefel graddedigion.

Mae graddedigion diweddar o'r ysgol wedi mynd ymlaen i rolau ym meysydd archaeoleg, y sector treftadaeth, addysgu ac addysg, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, y gyfraith, adnoddau dynol a'r sector elusennol, gyda chyflogwyr yn amrywio o Amgueddfa Cymru a Oxford Archaeology East, i awdurdodau ac ysgolion y Cyngor Sir. Mae'r rhai sydd wedi dilyn llwybr i archaeoleg a threftadaeth yn gweithio mewn rolau fel archaeolegwyr maes yn ymgymryd â gwaith cloddio, arolygon neu waith ôl-gloddio, fel ymgynghorwyr treftadaeth, cynghorwyr archaeolegol awdurdodau lleol a churaduron amgueddfeydd.

Yn ystod eich gradd, gallwch fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd a ddarperir gan wasanaeth Dyfodol Myfyrwyr y brifysgol, wedi'i wella gan Swyddog Cyflogaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Archeolegydd Maes
  • Darlithydd
  • Cadwraethwr Treftadaeth

Lleoliadau

Byddwch yn elwa ar ddau fodiwl lleoliad proffesiynol 20 credyd. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau ymarferol pedair wythnos (fel arfer ar waith cloddfa archaeolegol yn ystod gwyliau'r haf) ar waith maes archaeolegol, amgueddfa, archifol, ôl-gloddio neu brosiect labordy ym Mhrydain neu dramor. Yn gyffredinol, rydym yn cynnig profiad mewn ystod eang o brosiectau sy'n ymdrin â gwahanol gyfnodau archaeolegol ac arbenigeddau. Caiff lleoliadau eu teilwra i ddatblygu sgiliau archeolegol a throsglwyddadwy (e.e. gwaith tîm, cyfathrebu, arweinyddiaeth).

Cynigir cyfleoedd pellach ar gyfer lleoliadau amrywiol, pwrpasol mewn modiwlau cyflogadwyedd dewisol ar draws yr ysgol ym mlynyddoedd dau a thri. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod semestrau a’r tu allan iddynt.

Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i leoliadau ac interniaethau ar y campws, o leoliadau 35 awr rhan-amser sy’n cyd-fynd â'ch astudiaethau i leoliadau haf cyflogedig. At hynny, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer profiad gwaith.  

Gwaith maes

Mae'r prosiectau gwaith maes yn cael eu cymryd yn yr hafau cyn Blynyddoedd Dau a Thri, gan eich galluogi i roi eich sgiliau newydd ar waith a chael profiad ymarferol gwerthfawr.  Caiff y rhain eu haddysgu yn ystod pedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.