Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MSci)

  • Maes pwnc: Cyfrifiadureg
  • Côd UCAS: G402
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 5 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
MSCi

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae'r fersiwn pum mlynedd hon o'n prif gwrs uwch yn rhoi’r opsiwn i chi weithio am dâl mewn sefydliad blaenllaw am flwyddyn, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.

briefcase

Blwyddyn mewn diwydiant

Cwblhewch flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant lle cewch y cyfle i ennill y sgiliau y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt o ran gweithio mewn tîm, rheoli amser ac arwain. Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau cyffrous mewn sefydliadau megis Admiral, Airbus, CERN, GSK, Hewlett Packard, Banc Lloyds, Red Bull Racing, ymhlith rhai eraill.

mortarboard

Cymhwyster uwch

Cyfuno astudio israddedig ac ôl-raddedig mewn un cwrs a luniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau gwahaniaethu eu hunain drwy feistrolaeth uwch o'r ddisgyblaeth.

microchip

Arbenigo eich gradd

Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd i feithrin eich sgiliau mewn meysydd megis deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch.

people

Gwaith prosiect yn seiliedig ar dimau

Datblygu'r sgiliau proffesiynol y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt drwy gwblhau prosiect sylweddol ar sail tîm, ar lefel uwch yn eich blwyddyn olaf.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch chi'n dysgu mewn cyfleusterau trawiadol, a hynny yng nghyd-destun yr ymchwil flaengar sy’n digwydd yng nghanolfan arloesi’r Brifysgol gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae byd cyffrous a deinamig cyfrifiadureg wrth wraidd llawer o agweddau ar fywyd modern, a bydd MSci Cyfrifiadureg yn rhoi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sydd ei hangen i fod yn rhan o’r byd hwn. Bydd y cwrs pedair blynedd hwn mewn Cyfrifiadureg yn rhoi profiad gwirioneddol eang i chi yn y maes, gan roi sylw helaeth i’r pwnc, y tu hwnt i radd BSc draddodiadol dair blynedd.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu sgiliau technegol, dadansoddol a phroffesiynol trosglwyddadwy, a gefnogir gan ymwybyddiaeth gyffredinol o dueddiadau presennol ym maes technoleg. Mae'r cwrs yn cynnwys cyfuniad o dechnegau a chysyniadau craidd, ieithoedd a pharadeimau rhaglennu lefel uwch sy'n esblygu, a deunydd pwnc seiliedig ar dechnoleg. Byddwch yn dod i gysylltiad â phynciau sy'n ysgogi tueddiadau a datblygiadau technegol allweddol ym maes Cyfrifiadureg.

Yn ystod dwy flynedd olaf y cwrs byddwch yn dewis astudio detholiad o fodiwlau dewisol, a arweinir gan ymchwil, a fydd yn dod â chi i gysylltiad â set eang o sgiliau a gwybodaeth ar draws holl ystod ymchwil Gyfrifiadureg yr ysgol. Mae’r modiwlau hyn yn cynnwys nifer sydd wedi’u strwythuro o amgylchedd pynciau uwch yn nhri maes ymchwil craidd yr Ysgol:

  • Systemau Cymhleth
  • Cyfrifiadura Gweledol
  • Peirianneg Data a Gwybodaeth

Mae graddedigion yn gallu dadansoddi problemau’n wrthrychol a datblygu atebion cyfrifiadurol priodol. Bydd eich dealltwriaeth fanwl o dechnoleg a’ch sgiliau datrys problemau lefel uwch yn eich gwneud yn addas ar gyfer ystod o yrfaoedd proffesiynol, a bydd cyflogwyr yn awyddus i’ch recriwtio.

Bydd y flwyddyn mewn diwydiant yn gyfle i ehangu eich profiad, cryfhau eich sgiliau trosglwyddadwy, a chymhwyso eich gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn.

Maes pwnc: Cyfrifiadureg

  • academic-schoolYr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4812
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 5 mewn Mathemateg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B / 6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn Cyfrifiadura, Peirianneg, TGCh, neu TG a Mathemateg Safon Uwch gradd B.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Y broses ddethol neu gyfweld: Rhaid i bob cais am le ar unrhyw gwrs Cyfrifiadureg gael ei wneud drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Gellir gwneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os ydych yn siarad Cymraeg, rydym yn deall y gall fod yn well gennych siarad â thiwtor personol sy’n siarad Cymraeg. Os bydd staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, byddwn yn gwneud ein gorau glas i neilltuo rhywun sy’n siarad Cymraeg i chi.

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn asesu ceisiadau drwy gydol y cylch ymgeisio. Mae pob cais yn cael ei asesu gan y tiwtor derbyn, sy’n penderfynu a ddylid derbyn ymgeisydd neu beidio. Ar ôl i ni gael eich cais a’i ystyried, efallai y byddwn yn eich gwahodd i ymweld â’r Ysgol rywbryd rhwng mis Tachwedd a dechrau mis Mawrth. Bydd hyn yn cynnwys mynd ar daith o gwmpas yr Ysgol, Undeb y Myfyrwyr a'r campws. Byddwch yn cwrdd â myfyrwyr ac aelodau o’r staff ac yn rhoi cyfle i ni ddod i’ch adnabod yn fwy. Byddwch hefyd yn darganfod sut fywyd sydd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim
Blwyddyn pump £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,640 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim
Blwyddyn pump £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Efallai y bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â'r flwyddyn mewn diwydiant fel teithio neu lety, a bydd disgwyl i'r myfyriwr dalu’r costau hyn. Bydd y cyflog a gewch yn rhan o’r lleoliad gwaith o gymorth i dalu’r costau hyn fel arfer.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Yr hyn a ddylai fod gan y myfyriwr:

Cyfrifiannell sy'n bodloni rheolau arholi Prifysgol Caerdydd

Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:

Labordai cyfrifiadurol â chyfrifiaduron modern Bydd yr holl feddalwedd sydd ei hangen i wneud y modiwlau a addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd ar gael ar y cyfrifiaduron hyn.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Byddwch yn cymryd y tair blynedd a addysgir a'r blwyddyn ar leoliad gwaith y cwrs BSc Cyfrifiadureg gyda chwrs Blwyddyn mewn Diwydiant fel arfer. Wedi hynny, (gan dybio bod y meini prawf dilyniant yn cael eu bodloni) byddwch yn mynd ymlaen i bumed flwyddyn o astudio pan fyddwch yn cymryd modiwlau cyfrifiadureg uwch ac yn cynnal prosiect tîm newydd ar lefel 7. Bydd hyn yn arwain at ennill cymhwyster Meistr mewn Cyfrifiadureg (MSci).

Man cychwyn y cwrs pum mlynedd hwn yw cyflwyno sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol sylfaenol fydd yn sail i'r radd. Dilynir prosiectau byr yn y flwyddyn gyntaf gan brosiect tîm sylweddol ym mlwyddyn dau, pan fyddwch yn defnyddio sgiliau a gwybodaeth newydd i ddylunio a gweithredu system feddalwedd. Byddwch yn treulio blwyddyn tri yn ymgymryd â lleoliad gwaith cyflogedig. Ym mlwyddyn pedwar, byddwch yn canolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac opsiynau a arweinir gan ymchwil sy'n gysylltiedig â meysydd ymchwil craidd yr Ysgol (Systemau Cymhleth, Cyfrifiadura Gweledol a Pheirianneg Data a Gwybodaeth). Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect unigol sy'n canolbwyntio ar eich diddordebau eich hun. Ym mlwyddyn pump, byddwch yn astudio detholiad pellach o fodiwlau o bob rhan o dri maes ymchwil craidd yr Ysgol, a byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect tîm terfynol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Bydd y modiwlau a gaiff eu haddysgu yn ystod y ddau semester cyntaf yn eich cyflwyno i sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol sylfaenol, sy’n sail i'ch gradd. Mae hyn yn cynnwys eich cyflwyno i waith rhaglennu algorithmau drwy ddefnyddio ieithoedd fel Python a Java™ a datblygu eich dealltwriaeth o’r rhyngrwyd a thechnolegau’r we, saernïaeth gyfrifiadurol a systemau gweithredu, egwyddorion peirianneg meddalwedd a mathemateg ar gyfer cyfrifiadureg. Bydd disgwyl i chi ddatblygu sgiliau technegol a phroffesiynol newydd a dangos creadigrwydd a gwreiddioldeb unigol drwy gydol y flwyddyn.

Blwyddyn dau

Bydd y modiwlau craidd a gaiff eu haddysgu yn ystod yr ail flwyddyn yn cyflwyno pynciau uwch i chi. Mae modiwlau opsiynol ar gael i ddewis o’u plith, sy’n golygu bod rhywfaint o ddewis ar gael wrth astudio ar gyfer y radd hon. Mae strwythur data a dulliau o’i brosesu’n cael eu harchwilio ymhellach, ac mae algorithmau syml yn cael eu hymestyn i gymwysiadau sy’n gallu cyfathrebu drwy rwydweithiau. Mae'r sgiliau a ddatblygwyd hyd yma’n cael eu defnyddio wrth ymgymryd â phrosiect tîm i ddylunio a gweithredu system feddalwedd yn broffesiynol.

Bydd eich dewis o fodiwlau opsiynol yn ystod yr ail flwyddyn yn eich galluogi i ddechrau arbenigo eich sgiliau a chanolbwyntio ar ddilyn naill ai lwybr ‘cyfrifiadureg ddamcaniaethol’, llwybr ‘dadansoddi data/dadansoddi cymhwysol’ neu lwybr ‘systemau’. Ar yr un pryd, bydd eich gyrfa yn y dyfodol, eich cyflogadwyedd/entrepreneuriaeth a’ch sgiliau proffesiynol yn cael eu gwella wrth i chi ddechrau ystyried bywyd ar ôl y brifysgol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rhyngweithio Cyfrifiadur DynolCM210110 Credydau
Systemau Cronfa DdataCM210210 Credydau
Mathemateg GyfrifiadurolCM210410 Credydau
Gwella eich CyflogadwyeddCM210610 Credydau
Rhwydweithiau Cyfathrebu DiogelCM210810 Credydau
Rhyngrwyd PethauCM221110 Credydau
Prosiect GrŵpCM230520 Credydau
Cyfeiriadedd gwrthrych, algorithmau a strwythurau dataCM230720 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosesu a Delweddu DataCM210510 Credydau
GwybodegCM220310 Credydau
Cyflwyniad i Theori CyfrifegCM220710 Credydau
Cyfrifiadura GwyddonolCM220810 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae'r gwaith paratoi’n dechrau yn ystod yr ail flwyddyn pan fydd Swyddog Lleoliadau Gwaith pwrpasol yr Ysgol a gwasanaethau eraill y Brifysgol yn eich helpu i ddod o hyd i swydd briodol â thâl ac yn sicrhau bod amrywiaeth eang o leoliadau gwaith perthnasol ar gael i chi. Bydd yr Ysgol hefyd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad yn ystod eich blwyddyn ar leoliad gwaith, pan gewch y cyfle i wella eich CV a rhoi hwb i'ch rhagolygon o gael gwaith drwy ddatblygu’r sgiliau a chael y profiad sydd eu hangen ar gyflogwyr.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
LleoliadCM2500120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Yn ystod y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg a phynciau cyfrifiadureg uwch. Byddwch yn parhau ar hyd y llwybr a ddewiswyd gennych yn ystod yr ail flwyddyn, a bydd yn cael ei fireinio’n unol â’ch diddordebau penodol, ochr yn ochr â dewis o fodiwlau opsiynol ychwanegol sydd wedi’u llywio gan ymchwil. Ymhlith y pynciau cyfoes mae diogelwch cyfrifiadurol a gwaith fforensig cyfrifiadurol (ymchwilio), cyfrifiadura perfformiad uchel, deallusrwydd artiffisial, golwg cyfrifiadurol, graffeg ac amlgyfryngau. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect unigol sy’n seiliedig ar eich diddordebau, a hynny o dan oruchwyliaeth y staff.

Bydd eich dewis o fodiwlau yn ystod y bedwaredd flwyddyn yn effeithio ar yr opsiynau sydd ar gael i chi yn ystod y bumed flwyddyn, gan nad yw’n bosibl i fyfyrwyr ailastudio pynciau rhwng y ddwy flynedd. Bydd yr union ddewisiadau sydd ar gael yn dibynnu ar y modiwlau sy’n cael eu cynnig ar y pryd, a bydd manylion llawn unrhyw ddau fodiwl penodol y mae’n rhaid eu hosgoi ar gael yn y llawlyfr myfyrwyr blynyddol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cynghori ar eu dewis o fodiwlau yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn i sicrhau eu bod yn gallu astudio’r hyn sydd o ddiddordeb iddynt ar y lefel gywir a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth am gyfrifiadureg hyd yr eithaf.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cronfeydd Data ar raddfa fawrCM310420 Credydau
AmlgyfrwngCM310620 Credydau
Rheoli GwybodaethCM310720 Credydau
Optimization CombinatorialCM310910 Credydau
DiogelwchCM311010 Credydau
FforensigCM311110 Credydau
Deallusrwydd artiffisialCM311210 Credydau
Gweledigaeth GyfrifiadurolCM311310 Credydau
GraffegCM311410 Credydau
Meddwl Dylunio a Phrototeipio ar gyfer Profiad DefnyddiwrCM311620 Credydau
Economïau Gwleidyddol CyfrifiaduraCM311720 Credydau
Cyflwyniad i Roboteg GyfrifiadurolCM311820 Credydau
Rheoli NewidCM633320 Credydau

Blwyddyn pump

Yn ogystal â chyfrannu at brosiect tîm gorfodol o dan oruchwyliaeth aelod o’r staff academaidd, byddwch yn dewis o blith ystod o fodiwlau a ddewiswyd yn ofalus. Bydd y rhain wedi’u llywio gan ymchwil ac yn canolbwyntio ar bynciau cyfoes a pherthnasol sy’n dod i’r amlwg yn y ddisgyblaeth. Yn ystod y flwyddyn hon, bydd eich sgiliau cyfrifiadureg craidd, gan gynnwys eich gwybodaeth am bob rhan o’r ddisgyblaeth, yn cael eu cryfhau.

Bydd eich dewis o fodiwlau o’r bedwaredd flwyddyn yn effeithio ar yr opsiynau sydd ar gael i chi yn ystod y flwyddyn hon, gan nad yw’n bosibl i fyfyrwyr ailastudio pynciau rhwng y ddwy flynedd. Bydd yr union ddewisiadau sydd ar gael yn dibynnu ar y modiwlau sy’n cael eu cynnig ar y pryd, a bydd manylion llawn unrhyw ddau fodiwl penodol y mae’n rhaid eu hosgoi ar gael yn y llawlyfr myfyrwyr blynyddol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cynghori ar eu dewis o fodiwlau yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn i sicrhau eu bod yn gallu astudio’r hyn sydd o ddiddordeb iddynt ar y lefel gywir a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth am gyfrifiadureg hyd yr eithaf.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf a chawsom adroddiad rhagorol yn adolygiad diweddaraf yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA).

Addysgir sgiliau allweddol fel rhaglennu trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol yn y labordy. Defnyddir mecanweithiau cymorth ychwanegol i grynhoi deunydd a’i ddeall. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau enghreifftiol, sesiynau tiwtorial a sesiynau cymorth, sy'n dod i gyfanswm o rhwng 15-20 awr o gyswllt ffurfiol yr wythnos ym mlwyddyn un. Mae addysgu cyflwyno ym mlynyddoedd dau a phedwar yn debyg i’r hyn a roddir ym mlwyddyn un, ond mae llai o oriau cyswllt ffurfiol gan y byddwch wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen i reoli eich dysgu eich hun erbyn y camau olaf hyn o'r cwrs. Cyflwynir modiwlau ym mlwyddyn pump drwy gyfres o naill ai sesiynau cyswllt diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a dosbarthiadau yn y labordy.

Bydd gan y rhan fwyaf o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.

Prosiect

Byddwch yn gwneud gwaith prosiect trwy gydol cyfnod y cwrs, gyda'r cyfle i ymarfer annibyniaeth gynyddol ar bob lefel.

Byddwch chi'n cymryd rhan mewn gwaith prosiect mewn tîm ym mlwyddyn un. Mae'r tasgau wedi'u diffinio'n glir ac yn eich galluogi i ddefnyddio wybodaeth a sgiliau a gafwyd yn gynharach yn y flwyddyn academaidd.

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn gwneud prosiect mewn grŵp fydd yn meithrin sgiliau dylunio systemau, rhyngbersonol a chyflwyno. Mae pob grŵp yn cael ei fonitro gan oruchwyliwr y mae'n rhaid i'r grŵp gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ef.

Mae prosiectau unigol blwyddyn pedwar yn rhoi’r cyfle i chi ddangos eich gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd yn ystod blynyddoedd cynharach a’u defnyddio.

Ym mlwyddyn pump, byddwch yn cynnal prosiect tîm cynhwysfawr. Y nod fydd archwilio'r holl wybodaeth rydych wedi'i dysgu a datblygu sgiliau ymchwil, technoleg a phrosiect tîm newydd

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r Ysgol yn ymfalchïo ei bod yn cynnig strwythur cymorth cynhwysfawr fel bod cydberthynasoedd cadarnhaol rhwng myfyrwyr a staff.

Rydym o’r farn bod cynnig dulliau priodol i roi adborth yn hanfodol i sicrhau mai’r rhaglenni astudio gorau yn unig a gynigir i’n myfyrwyr. Mae gennym banel myfyrwyr/staff sy’n cynnwys cynrychiolwyr a etholir gan y myfyrwyr ac aelodau o staff addysgu sy’n cyfarfod i drafod materion academaidd. Yn ogystal â gwaith y panel, rhoddir cyfle i bob myfyriwr gwblhau holiaduron adborth ar ddiwedd semester yr hydref a semester y gwanwyn. Mae’r dulliau hyn yn galluogi’r Ysgol i adolygu cyrsiau yn rheolaidd ac er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r ddarpariaeth orau posibl i’n myfyrwyr, a gyflwynir mewn ffordd gyson, ar draws pob un o’n graddau.

Mae'r cwrs yn defnyddio Dysgu Canolog, Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, i ddarparu deunyddiau cwrs, a darperir gwybodaeth ychwanegol ar-lein.

Bydd aelod staff yn cael ei ddyrannu’n diwtor personol i chi, a bydd yn pwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol. Byddwch yn gweld eich tiwtor personol unwaith y mis ar gyfartaledd yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau. Yn ystod blynyddoedd dau, tri a phedwar mae amserlen lai o sesiynau cyswllt sy'n ystyried y gofynion academaidd ac amser cynyddol wrth i chi symud ymlaen. Y tu allan i’r sesiynau a drefnir gyda’ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan yr Uwch-diwtor Personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddynt godi. Bydd eich Tiwtor Personol yn monitro eich cynnydd academaidd ac yn rhoi geirda i chi i gefnogi unrhyw geisiadau am swyddi yr ydych yn eu gwneud.

Yn ystod y flwyddyn mewn diwydiant, bydd ein Swyddog Lleoliadau Gwaith yn cadw mewn cysylltiad â'r sefydliad lletyol yn ogystal â'r myfyriwr. Bydd staff academaidd o’r Ysgol yn ymweld gan roi’r cyfle i chi gynnal cysylltiadau â'r Ysgol, a chodi unrhyw bryderon a allai fod gennych. Bydd yr holl fecanweithiau cymorth uchod ar gael ar eich cyfer o bell ym Mhrifysgol Caerdydd, a byddwch yn cadw mewn cysylltiad â'ch Tiwtor Personol trwy ebost a/neu Skype.

Sut caf fy asesu?

Progress in each module will be assessed during or at the end of the semester in which it is taught. All modules include assessments, including written examinations or assessed coursework, or a combination of both. The format of the assessments depends on the learning outcomes of each specific module.

Most modules include coursework elements for assessment. The importance of good referencing, use of libraries and web-based information retrieval as a prelude to critical, independent study is developed. Assessed essays and reports are used to encourage knowledge and understanding, critical analysis, development of reasoned argument and synthesis of conclusions.

Practical assignments assess programming and design skills. These typically address small, well-defined problems at the start of the course, and become progressively open-ended. Tests are also used to assess knowledge, skills and techniques, which a professional may be expected to use in a time-constrained situation. You can also be assessed by poster presentation. 

Your placement will be assessed via a reflective report and a poster presentation to staff, students and employers during enrolment week of year four.

Feedback:

Feedback on assessed work will normally be made available no later than four working weeks after the assessment deadline. We recognise the importance not only of assessing the quality of the work submitted, but also of giving useful feedback which will help you in your understanding of the subject being assessed.

Feedback is used to identify what has been done well, why a particular mark was given, and what can be done to improve in the future. Feedback is given in a variety of ways including oral feedback given by staff on an informal, ongoing basis, written feedback on individual submissions, and written or oral feedback given to students as a group in tutorials, discussion classes and problems classes.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos

  • dealltwriaeth o'r ystod eang o gysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau sy'n sail i gyfrifiadureg uwch
  • dealltwriaeth o'r dulliau, y technegau a'r offerynnau sydd ar gael i bennu, dylunio, gweithredu a rheoli systemau cyfrifiadurol.
  • dealltwriaeth o sut y cynrychiolir data ar ffurfiau strwythuredig a'i gydadwaith â gweithredu algorithmau
  • ymwybyddiaeth feirniadol o'r tueddiadau cyfredol mewn meysydd ymchwil dethol o gyfrifiadureg, a'r gallu i drafod eu cyfraniad at ddatblygu systemau cyfrifiadurol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • meistrolaeth mewn methodolegau ymarferol ym meysydd allweddol cyfrifiadura; sut i’w defnyddio mewn i meysydd datblygu meddalwedd sydd wedi ennill eu plwyf ac sy'n ymwneud â storio, prosesu a chyfleu gwybodaeth; a sut i’w defnyddio mewn meysydd cymhwyso arbenigol dethol
  • y gallu i ddadansoddi problemau cyfrifiadurol yn wrthrychol a datblygu atebion creadigol, priodol
  • y gallu i fodelu senarios cymhleth i ddylunio systemau cyfrifiadurol sy'n bodloni'r gofynion a nodwyd
  • y gallu i ddewis, deillio a dadansoddi algorithmau priodol i ddatrys problemau cyfrifiadurol
  • y gallu i asesu systemau (a allai gynnwys meddalwedd, dyfeisiau, pobl, ac ati), adnabod y cydrannau unigol, a deall sut maent yn rhyngweithio, er mwyn gwella systemau, gosod systemau yn eu lle, a'u creu
  • gwerthfawrogiad o sut mae sgiliau a chysyniadau a gaiff sylw yn y radd yn cael eu gweithredu a'u defnyddio o fewn diwydiant

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos

  • ymwybyddiaeth o faterion proffesiynol, cyfreithiol, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol sy'n codi wrth weithredu systemau cyfrifiadurol presennol ac yn y dyfodol ac ymwybyddiaeth o effaith gymdeithasol ac amgylcheddol
  • y gallu i fynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd a dysgu gydol oes a gwerthfawrogi pwysigrwydd ymwybyddiaeth fasnachol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos

  • y gallu i adolygu’r llenyddiaeth yn feirniadol yn ogystal â chyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol trwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac electronig
  • y gallu i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm neu arweinydd mewn tîm ac fel unigolyn
  • y gallu i ddefnyddio ystod o systemau TG yn effeithiol
Computer Science student with Raspberry Pi

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae galw mawr iawn am wyddonwyr cyfrifiadurol medrus. Mae hyn yn golygu bod rhagolygon graddedigion o gael gwaith yn y diwydiant cyfrifiadurol yn dda iawn. Bydd sgiliau trosglwyddadwy’n cael eu haddysgu i chi, a fydd yn agor drysau i yrfaoedd mewn llawer o sectorau.

Dengys ystadegau diweddar fod mwyafrif llethol ein graddedigion yn dilyn eu llwybr gyrfa dewisol ac yn cyflawni swyddi fel Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr y We, Rhaglennydd Cyfrifiadurol, Datblygwr Meddalwedd Cyswllt, Dadansoddwr Busnes a Swyddog Datblygu Systemau.

Maent yn mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel Airbus, Amazon, BBC, BT, Prifysgol Caerdydd, Capgemini, Confused.com, Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, IBM, Lloyds Banking Group, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Morgan Stanley, Sky, Heddlu De Cymru a Thomson Reuters. Mae eraill wedi dewis astudio ymhellach neu ymchwilio ym Mhrifysgol Caerdydd neu mewn prifysgolion blaenllaw eraill.

Lleoliadau

Rhwng blynyddoedd dau a phedwar cewch y cyfle i ymgymryd â blwyddyn cyflogedig ar leoliad gwaith.

Mae'r gwaith paratoi ar gyfer y lleoliad gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn dau pan fyddwch chi'n cael eich cefnogi gan Swyddog Lleoliadau Gwaith ymroddedig yr Ysgol a gwasanaethau eraill y Brifysgol i'ch helpu chi i ddod o hyd i swydd gyflogedig briodol, a sicrhau bod amrywiaeth eang o leoliadau gwaith perthnasol ar gael eich cyfer. Bydd yr Ysgol hefyd yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad yn ystod eich blwyddyn ar leoliad gwaith pan gewch y cyfle i wella'ch CV a rhoi hwb i'ch rhagolygon cyflogaeth trwy ennill y profiad a'r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen ar gyflogwyr.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.