Y Gyfraith (LLB)


Astudiwch y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn ennill profiad o’r pwnc yn y byd go iawn.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Mae rhaglen LLB y Gyfraith yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac amrywiaeth eang o broffesiynau.  Yn ogystal â'r modiwlau sylfaen sy'n cynnwys y cam hyfforddi academaidd sydd ei angen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr, y cyfeirir ato fel 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith', rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Mae’r rhaglen hon yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac rydym yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, cefnogol ac amrywiol o ran diwylliant i astudio ynddo.

Ni yw’r unig brifysgol grŵp Russell i gynnig cyfnod academaidd yr hyfforddiant i ddod yn fargyfreithiwr neu gyfreithiwr a chyfnodau galwedigaethol hyfforddiant: Cwrs Hyfforddi Proffesiynol y Bar neu Gwrs Ymarfer Cyfreithiol sy'n golygu bod gennych chi’r dewis i aros gyda ni yng Nghaerdydd i gwblhau eich addysg gyfreithiol ar ei hyd. Yn rheolaidd, mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol wedi cael sgôr uchaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr / Cymdeithas y Gyfraith. 

Mae ein cwricwlwm cwbl strwythuredig yn rhoi cyfleoedd addas i feithrin gwybodaeth a sgiliau yn ystod pob blwyddyn astudio.  Rydym yn eich cefnogi i ddod yn ddysgwr annibynnol, i allu ymgymryd â heriau cyfreithiol newydd a'u deall ac i ymateb iddynt yn effeithiol. 

Nodweddion nodedig

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gydag ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol wrth law ddau ddiwrnod yr wythnos yn adeilad y Gyfraith. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr.

Cynlluniau Pro Bono*

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.

Dau o’n cynlluniau mwyaf sefydledig yw ein Prosiect Dieuog (y cyntaf yn y DU i wrthdroi dyfarniad o euogrwydd gan y Llys Apêl) a’n Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n unigryw i Gaerdydd.

Mae’r ddwy fenter wedi ennill neu wedi cael lle ar restr fer dyfarniadau cenedlaethol o fri ac wedi rhoi cymorth i grwpiau bregus ac aelodau o’r gymuned sy’n cael trafferth cael mynediad at gymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd wneud cais am le ar ein cynllun gydag Undeb Rygbi Cymru, lle’r ydym yn cynghori clybiau rygbi amatur ar faterion cyfreithiol.

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer pob un o'n cynlluniau yn wahanol ac ni allwn warantu y bydd myfyrwyr yn sicrhau lle ar y cynllun o'u dewis, nac ar unrhyw un o'n cynlluniau. Mae ein portffolio yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae’r hyn rydym yn ei gynnig yn gallu newid.

Ymryson (Mooting)

Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.

Mae ymryson yn sgil wych i allu ychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.

Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid

Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni.

Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.

Achrediadau

Côd UCASM100
Derbyniad nesafMedi 2018
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 550 lle ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae'r Ysgol yn derbyn tua 3000 o geisiadau.

Gofynion mynediad

AAB gan gynnwys dau bwnc hwyluso, neu AABB-ABBB gan gynnwys dau bwnc hwyluso. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol. Nid oes rhaid bod gennych gymhwyster safon Uwch yn Y Gyfraith ac nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr sefyll prawf LNAT. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n ail-sefyll pynciau neu sy'n cymryd mwy na dwy flynedd i gwblhau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol (dros ddwy flynedd fel arfer) gael AAA neu AABB. Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

35 pwynt yn gyffredinol, neu 666 ar Lefel Uwch

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd B neu radd 6. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd B. 

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Nodiadau:

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn unol â'r gyfraith neu bolisïau Llywodraeth Cymru yn yr ail flwyddyn neu flynyddoedd dilynol cyrsiau. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y cynnydd yn y ffi erbyn diwedd Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd lle fydd y ffi yn codi.

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendal
£15,950Dim

Nodiadau:

Caiff y ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol eu pennu ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau israddedig tair blynedd o hyd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu'r un pris ym mlwyddyn un ag y byddwch chi ym mlynyddoedd dau a thri. Mae rhai cyrsiau wedi'u heithrio, yn cynnwys rhaglenni pedair a phum mlynedd o hyd a chyrsiau Meddygol a Deintyddol. Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Ym mhob blwyddyn o’r cwrs, byddwch yn cymryd modiwlau sy’n werth hyd at 120 o gredydau.

Yn ogystal â’r modiwlau sylfaen sy'n ofynnol yn y flwyddyn gyntaf, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a thri sy'n ymdrin â phynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi ddilyn eich diddordebau. 

Mae lefel y cymhwyster gradd a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Yn eich ail flwyddyn, bydd gennych y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith a fydd yn weithredol yn y drydedd flwyddyn o’ch gradd LLB yn y Gyfraith. Mae’r lleoliadau llawn amser sy’n talu cyflog ar agor i chi drwy broses ymgeisio cystadleuol sy’n anelu at ail greu’r prosesau recriwtio y byddwch chi’n dod ar eu traws wedi i chi raddio o’r Brifysgol. Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymarfer y gyfraith fel cynorthwyydd cyfreithiol ac yn perfformio rolau ar lefel graddedig.  Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol ymarferydd sy’n cynnwys rheoli achos, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol fel rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd y lleoliadau yng Nghaerdydd ac yn cyfrannu at 10% o’r dosbarth o radd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2018/19. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2018

Blwyddyn un

Byddwch yn cymryd pedwar modiwl 30 credyd gorfodol yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen gradd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Contract [30]CL430130 credydau
Criminal [30]CL430230 credydau
Legal Foundations [30]CL430330 credydau
Public Law [30]CL430430 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cymryd modiwlau fydd yn gwneud cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu dewis o’r rhestr o bynciau cyfraith dewisol. Adolygir y rhestr hon yn flynyddol gan ystyried adnoddau staff, galw myfyrwyr a newidiadau i arferion cyfreithiol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Land Law [20]CL520120 credydau
Tort [20]CL520220 credydau
Discrimination and Law [20]CL520520 credydau
Cyfraith Tir [20]CL522120 credydau
CAMWEDD [20]CL522220 credydau
Welsh DevolutionCL522320 credydau
Datganoli yng NghymruCL522420 credydau
French Law ICL525520 credydau
French Law IICL525620 credydau
Land Law [30]CL530130 credydau
Tort [30]CL530230 credydau
Discrimination and Law [30]CL530530 credydau
EvidenceCL530630 credydau
Crime, Law and SocietyCL531330 credydau
Media Law [30]CL531830 credydau
Cyfraith Tir [30]CL532130 credydau
CAMWEDD [30]CL532230 credydau
Welsh Devolution [30]CL532330 credydau
Datganoli yng Nghymru [30]CL532430 credydau
Legal Practice: Foundation SkillsCL532730 credydau
Miscarriages of Justice: The Cardiff Innocence ProjectCL532830 credydau
Criminal Law [30]CL538030 credydau
Legal History [20]CL622020 credydau
Administrative Law [30]CL630330 credydau
Human Rights LawCL630830 credydau
Commercial LawCL631330 credydau
Public International Law [30]CL631930 credydau
Legal History [30]CL632030 credydau
Environmental Law and JusticeCL632730 credydau
Law in the CommunityCL633430 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch yn cymryd modiwlau fydd yn gwneud cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu dewis o’r rhestr o bynciau cyfraith dewisol. Adolygir y rhestr hon yn flynyddol gan ystyried adnoddau staff, galw myfyrwyr a newidiadau i arferion cyfreithiol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Law of the European Union [20]CL620120 credydau
Company Law [20]CL620420 credydau
Prosiect Ymchwil CyfreithiolCL621520 credydau
Legal History [20]CL622020 credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [20]CL622120 credydau
Healthcare, Ethics and LawCL623020 credydau
Equity and TrustsCL623120 credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [20]CL623220 credydau
Legal Research Project [20]CL623520 credydau
Law & Governance in Practice: Work Placement Module [20]CL623620 credydau
Law of the European Union [30]CL630130 credydau
Administrative Law [30]CL630330 credydau
Company Law [30]CL630430 credydau
Family LawCL630730 credydau
Human Rights LawCL630830 credydau
Intellectual PropertyCL630930 credydau
Commercial LawCL631330 credydau
Public International Law [30]CL631930 credydau
Legal History [30]CL632030 credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [30]CL632130 credydau
Sports LawCL632430 credydau
Environmental Law and JusticeCL632730 credydau
Healthcare, Ethics and Law [30]CL633030 credydau
Equity and Trusts [30]CL633130 credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [30]CL633230 credydau
Law in the CommunityCL633430 credydau
Legal Research Project [30]CL633530 credydau
Law & Governance in Practice: Work Placement Module [30]CL633630 credydau
Prosiect Ymchwil Cyfreithiol [30]CL641530 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Bydd gennych hefyd fynediad i fersiynau clywedol o’r darlithoedd hefyd.

Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi dyfarniad neu erthygl benodol i'r grŵp.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfreithiol a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau cyfreithiol, trafodaethau mewn grwpiau bach, dadlau, ymrysonfeydd, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig.  Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

17%

Astudio annibynnol dan arweiniad

83%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

18%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

19%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau ments

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch diwtor personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol ar gael.

Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Mae’r holl fodiwlau o fewn rhaglen y Gyfraith yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs yn cynnwys recordiau o ddarlithoedd, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig, profion amlddewis, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Caiff modiwlau eu hasesu drwy arholiad neu waith cwrs neu drwy gyfuniad o'r ddau. Mae fformat gwaith cwrs yn amrywio, gan gynnwys traethodau safonol, traethodau estynedig, portffolios o waith a gynhyrchir dros y flwyddyn academaidd gyfan ac atebion ysgrifenedig i broblemau cyfreithiol. Mae arholiadau fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod yr haf.  Cyflwynir gwaith cwrs ar ddyddiadau dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Yn ystod y flwyddyn academaidd, byddwch yn cwblhau darnau gwahanol o waith nad ydyn nhw’n cyfrif tuag at farciau terfynol eich modiwlau, ond sydd wedi eu cynllunio i’ch helpu chi i gyflawni canlyniadau dysgu eich modiwlau ac i baratoi ar gyfer eich arholiadau a’ch gwaith cwrs. Gallai hyn fod yn ysgrifenedig neu ar lafar a gellir ei gyflwyno’n ffurfiol i diwtor neu ei gyflwyno yn ystod tiwtorialau neu seminarau. Fel arfer, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod eich amser astudio annibynnol. Rhoddir adborth ar y gwaith hwn yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.

Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

88%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

13%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

88%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

13%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

75%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

23%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.

Byddwch hefyd yn:

  • gwella eich gallu i ddadlau mewn modd gwrthrychol, rhesymegol a phroffesiynol, gyda sylw dyledus i awdurdod a dulliau enwi dderbyniol
  • datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
  • gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, gan gyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy
  • datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • dysgu sut i ddefnyddio ffynonellau electronig penodol i’r pwnc, cronfeydd data a’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir i gasglu tystiolaeth ac i ymchwilio i gwestiynau cyfreithiol.

Gwybodaeth arall

Uned Pro Bono Ysgol y Gyfraith Caerdydd – Y gyfraith yn y byd go iawn

Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i'n myfyrwyr, gan helpu i wella eu CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.

Mae Pro Bono yn ymadrodd y mae cyfreithwyr yn ei ddefnyddio ar gyfer cyngor cyfreithiol am ddim. Rydym yn rhedeg sawl cynllun Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau o'r gymuned ar faterion cyfreithiol gwahanol.

Prosiect diniweidrwydd

Mae ein Prosiect Diniweidrwydd yn gweithio gyda charcharorion tymor hir sy’n mynnu eu bod nhw’n ddieuog o droseddau difrifol fel llofruddiaeth, ymosodiad difrifol a throseddau rhywiol. Y nod yw atal camweinyddu cyfiawnder lle gallai unigolyn fod wedi ei gollfarnu ar gam.

Yn 2014, ein prosiect ni oedd y Prosiect Diniweidrwydd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod euogfarn yn cael ei wrthdroi gan y Llys Apêl).

Mae myfyrwyr yn gweithio dan oruchwyliaeth bargyfreithwyr cymwys, yn ymchwilio i achosion ac yn eu cyflwyno nhw i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

Cynllun gofal iechyd parhaus y GIG

Dan y cynllun hwn, rydym yn mynd i’r afael â mater cyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae hon yn broblem gynyddol ledled y wlad sy’n effeithio ar ran o’r gymuned sy’n agored i niwed, yn bennaf y rhai sy’n dioddef o glefyd Alzheimer a ffurfiau eraill o ddementia. Gall unigolion o’r fath gael eu hunain mewn cartrefi nyrsio, gan dalu eu ffioedd yn breifat, lle gellid dadlau bod ganddyn nhw hawl i fynnu bod y GIG yn diwallu cost eu gofal yn llawn.

Mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y maes arbenigol hwn o gyfraith, ac yn cael gwaith wedi ei ddyrannu iddyn nhw mewn ‘cwmnïau’ o chwe myfyriwr. Maen nhw’n cael eu goruchwylio gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol o gwmni cyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd, ac mae’r gwaith yn cynnwys cyfweliadau â chleientiaid, ysgrifennu llythyrau, ac ymchwil.

Prosiect Undeb Rygbi Cymru

Gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, mae myfyrwyr yn darparu gwasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i glybiau rygbi Cymru dan lefel Cynghrair y Principality. Mae materion cyfreithiol y mae clybiau yn eu hwynebu yn cynnwys cyflogi staff, cynnal a chadw’r tiroedd, iechyd a diogelwch a llawer mwy.

Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi a’i warantu gan gyfreithwyr Hugh James, a siambrau bargyfreithwyr Civitas. Mae myfyrwyr hefyd yn cydweithio i gynhyrchu taflenni gwybodaeth sy’n cwmpasu materion cyfreithiol mae clybiau yn eu hwynebu.

Cynllun Oedolion Priodol Hafal

Hafal yw prif elusen iechyd meddwl Cymru. Mae Hafal yn hyfforddi myfyrwyr i weithio fel ‘Oedolion Priodol’, i gefnogi oedolion sy’n agored i niwed sy’n cael eu cyfweld mewn gorsaf heddlu ar ôl cael eu harestio. Ar ôl cael eu hyfforddi, mae myfyrwyr yn gwirfoddoli i fod ar rota i gael eu galw i mewn i orsafoedd heddlu ar draws De Cymru.

Yr Uned Cymorth Personol

Mae’r Uned Cymorth Personol yn cefnogi’r rhai sy’n ymgyfreitha drostyn nhw eu hunain, tystion, dioddefwyr, aelodau o’u teuluoedd a chefnogwyr. Mae’n darparu cymorth di-dâl, cyfrinachol, annibynnol, nad yw’n gyfreithiol i gleientiaid, i’w helpu drwy broses y llys. Mae’r Uned yn hyfforddi myfyrwyr i gynorthwyo ymgyfreithwyr yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd. 

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 97% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr ailforgeisio a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.

Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 81% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Mercher 27 Mawrth

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais