Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg ac Athroniaeth (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae gradd Gyd-anrhydedd Eidaleg ac Athroniaeth yn gyfle i arbenigo mewn dau bwnc anrhydedd yn y Brifysgol.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio gradd gydanrhydedd yn cyffroi ac yn brofiad gwerth chweil gan eu bod nhw’n gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Drwy gyfuno Athroniaeth ac Eidaleg, byddwch yn dysgu cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn sawl maes. Bydd y rhain hefyd o les yn y byd gwaith byd-eang ac yn helpu agor y drysau i amrywiaeth o yrfaoedd posibl.

Mae dwy agwedd gysylltiedig ar y cwrs athroniaeth yng Nghaerdydd sy'n ei wneud yn nodedig ymysg prifysgolion Grŵp Russell. Un yw bod yna bwyslais cryf ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg ymhlith y modiwlau a gynigir. Y llall yw bod ein gwaith ymchwil a’n haddysgu yn cael ei ledaenu’n gyfartal ar draws arddulliau 'dadansoddol' a 'Chyfandirol' athroniaeth y Gorllewin, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth lawn o'r ddau gyda'r posibilrwydd o wneud dewis gwybodus i arbenigo mewn un dull neu'r llall.

Ers y cyfnod Rhufeinig, mae cyfraniad yr Eidal i ddiwylliant y byd wedi bod yn aruthrol fel y mae'n amlwg i unrhyw un sy'n ymweld â’r wlad, hyd yn oed am gyfnod byr. Ond nid yw’r Eidal yn wlad o bwysigrwydd diwylliannol eithriadol yn unig. Mae’r Eidal hefyd yn bartner gwleidyddol mawr yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn rym blaenllaw mewn meysydd fel peirianneg a phensaernïaeth. Dyma gartref y diwydiannau dylunio a ffasiwn. 

Mae Eidaleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich galluogi chi i gael mynediad, dadansoddi a gwerthuso datblygiadau cyfredol ar draws y byd sy'n siarad Eidaleg yn ogystal â diwylliannau a gwerthoedd y gorffennol. Ar ôl astudio Eidaleg, byddwch chi’n barod i fanteisio ar y cyfleoedd eang sy’n agored i raddedigion iaith heddiw.

O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol. Yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Byddwch yn datblygu sgiliau iaith lefel uchel gyda'r nod o gyflawni cymwyseddau yn agos at safon frodorol ynghyd â gwybodaeth fanwl am agweddau ar ddiwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a’r gymdeithas yn yr Eidal. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn yr Eidal, yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau iaith. Rydym yn cynnig Eidaleg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr.

Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu edrych ar sawl agwedd ar y wlad a'i diwylliant, ei strwythurau cymdeithasol a’i sefydliadau, ei gwleidyddiaeth, ei hanes, ei llenyddiaeth a'i sinema. Drwy astudio meysydd o'r fath rydych chi’n gallu cael dealltwriaeth well o ddiwylliant Eidalaidd a sut mae wedi esblygu dros y canrifoedd, gan ddatblygu i fod yr hyn ydyw heddiw.

Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Eidaleg.

Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • modiwlau craidd sy’n gwarantu sylfaen gadarn i bawb, ond wedyn yn caniatáu i chi, gyda chyngor gan eich tiwtor personol, i naddu rhaglen a fydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol
  • llwybr at y radd hon i ddechreuwyr nad oes ganddyn nhw Eidaleg Safon Uwch
  • treulio blwyddyn yn astudio neu’n gweithio yn yr Eidal
Côd UCASVR53
Derbyniad nesafMedi 2018
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 185 lle ar gael yn Ysgol Ieithoedd Modern.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn derbyn tua 600 o geisiadau.
  1. Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

Gofynion mynediad

ABB. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol, ond bydd gan ymgeiswyr sydd wedi ennill B mewn Eidaleg fynediad at y llwybr uwch i Ieithoedd. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Bagloriaeth Ryngwladol 32-30 neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol Ieithoedd Modern.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Dewis

Each candidate's profile is considered as a complete picture, taking into account your interest in and suitability for the degree, as shown in your personal statement and referee's report, as well as achieved and predicted grades. Your ability to present an argument, evidence of intellectual curiosity and your enthusiasm for and commitment to studying will also be assessed.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Nodiadau:

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendal
£16,350Dim

Nodiadau:

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am bedair blynedd gyda dau semester y flwyddyn. Mae 120 o gredydau bob blwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddau bwnc. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. Treulir y drydedd flwyddyn dramor.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2018/19. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2018

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Byddwch yn cymryd 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Athroniaeth a 60 credyd mewn Eidaleg.

Mae'r modiwlau athroniaeth gorfodol yn canolbwyntio ar natur y meddwl a chyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, dadleuon a dulliau canolog damcaniaeth foesol a gwleidyddol cyfoes. 

Ym mlwyddyn un Eidaleg byddwch yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol craidd ac yn cael eich cyflwyno i ddiwylliant, llenyddiaeth, gwareiddiad a gwleidyddiaeth yr Eidal. Mae dau lwybr ar gael: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â lefel A neu gymhwysedd cyfatebol mewn Eidaleg a llwybr i ddechreuwyr i fyfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am yr Eidaleg.

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

I ddarparu sylfaen ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol, byddwch hefyd yn astudio modiwlau penodol ar hanes a diwylliant yr Eidal fodern yn ogystal â gwleidyddiaeth, economeg a’r gymdeithas yn yr Eidal.      

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Introduction to Italian Studies in a Transnational ContextML817920 credydau
Mind, Thought and RealitySE410120 credydau
Moral and Political PhilosophySE410320 credydau
Critical ThinkingSE410720 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Advanced Italian Language (Year 1)ML818840 credydau
Beginners Italian Language Year 1ML818940 credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau fe fyddwch chi unwaith eto’n astudio 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Eidaleg.

Nid oes modiwlau Athroniaeth gorfodol ym mlwyddyn dau, gan eich galluogi chi i ddewis y llwybr rydych chi’n ei gymryd i osod sylfaen gadarn ar gyfer eich blwyddyn derfynol.

O ran Eidaleg byddwch yn cael hyfforddiant penodol i chi ar ddadansoddi cysyniadau, damcaniaethau a dulliau yn feirniadol. Mae elfennau iaith blwyddyn dau Eidaleg yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer y flwyddyn dramor.  Mae hyn yn cael ei ategu gan amrywiaeth o fodiwlau dewisol, er mwyn cydweddu â’r pynciau sy'n ymwneud â'r Eidal yn benodol. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys modiwlau ar ffilm, llenyddiaeth gymharol a hanes diwylliannol, yn ogystal â theori ac ymarfer cyfieithu.           

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cultures in Context (Italian)ML828230 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ex-Beginners Language Year 2 ItalianML828030 credydau
Ex-Advanced Language Year 2 ItalianML828130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Philosophy of ScienceSE431220 credydau
Philosophy of MindSE431320 credydau
MetaphysicsSE436420 credydau
French ExistentialismSE436920 credydau
Contemporary Ethical TheorySE438820 credydau
Hanes Athroniaeth WleidyddolSE439520 credydau
EpistemologySE439820 credydau
Credoau'r CymrySE440020 credydau
Ancient PhilosophySE440520 credydau
Continental PhilosophySE440620 credydau
Philosophy of CommunicationSE440820 credydau
Philosophy of FeminismSE441820 credydau
ENCAP Employability ModuleSE625520 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn tri yn yr Eidal. Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gan weithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Eidalaidd. Beth bynnag eich dewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os byddwch yn mynd am y dewis astudio, rydyn ni wedi sefydlu cysylltiadau academaidd â phrifysgolion ym Milan, Pavia, Parma, Pisa, Ferona, Trento, Fenis, Fflorens a Catania. 

Gall Lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad gyrchfan. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Eidaleg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Eidaleg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys i wneud cais am grant Erasmus.      

Mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd cydlynydd blwyddyn dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei gael ar bethau.

Mae myfyrwyr y flwyddyn derfynol fel arfer yn barod iawn i helpu gyda’n sesiynau briffio blwyddyn dramor rheolaidd, ac maen nhw wedi cyfrannu at ein ‘modiwl blwyddyn dramor’ helaeth ar Dysgu Canolog sy’n rhoi cyngor wedi ei ganolbwyntio ar fyfyrwyr drwy gydol eich blwyddyn dramor.

Mae astudio neu weithio dramor yn ffordd wych i baratoi ar gyfer eich blwyddyn olaf ac yn rhoi lefel o hunan-hyder ac aeddfedrwydd i chi sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Blwyddyn pedwar

Yn eich blwyddyn derfynol, fe fyddwch chi’n astudio am 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Eidaleg

Mae eich blwyddyn derfynol yn seiliedig ar fodiwlau Athroniaeth sy'n adlewyrchu gweithgareddau ymchwil presennol y staff sy'n eu dysgu, gan adeiladu ar y themâu a astudiwyd ym mlwyddyn dau. Byddwch yn darllen ac yn meddwl am yr union destunau y mae arweinydd y modiwl yn meddwl ac yn ysgrifennu amdanyn nhw ar hyn o bryd.

Nid ydyn ni’n gwahaniaethu mwyach rhwng dechreuwyr a myfyrwyr Eidaleg uwch yn y flwyddyn derfynol, a bydd pob myfyriwr Eidaleg yn astudio’r un modiwlau iaith. Byddwch yn mireinio eich sgiliau ieithyddol o ran mynegiant a chyfieithu, ac yn arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi drwy ddewis modiwlau arbenigol. 

Mae ein modiwl traethawd hir yn y flwyddyn derfynol yn rhoi’r dewis i chi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal ag ymestyn eich sgiliau ymchwil a dadansoddi. 

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
High-Level Proficiency in Italian LanguageML836630 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. 

Mae dosbarthiadau Iaith yn cael eu dysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Caiff y sgiliau cyfathrebu hanfodol hyn eu hymarfer a’u datblygu drwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig. Mae ein dulliau dysgu yn eich caniatáu i weithio gydag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Deunyddiau sy’n cynnwys llyfrau testun, fideos, ffilmiau, nofelau ffeiliau sain a gwefannau a gefnogir gan adnoddau ar-lein sy’n cydfynd gyda gweithgareddau dosbarth ac yn hyrwyddo ac yn galluogi dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn cynnwys amrywiaeth o’r llenyddol a’r hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfredol, yn darparu mewnwelediad eang i iaith a diwylliant. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a aseswyd, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth cyson i chi ynglŷn â’ch gwaith. Cyflwynir ef mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol am waith ysgrifenedig ac adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau. Bydd modd i chi drafod eich perfformiad cyffredinol gyda’ch tiwtor personol hefyd. 

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • sgiliau ieithyddol a gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Eidal a gwledydd lle siaredir Eidaleg
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr sy'n cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol, y mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud nhw’n hynod o ddeniadol i gyflogwyr.

YSGOL IEITHOEDD MODERN

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.  Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau MA yr Ysgol mewn Cyfieithu neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae’r gyrfaoedd eraill sydd ar gael yn cynnwys swyddi fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allgludo a phrawf-ddarllenwyr.   

Lleoliadau

Treulir blwyddyn tri yn gweithio neu’n astudio yn yr Eidal.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Gwener 5 Gorffennaf

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais