Cymraeg ac Iaith Saesneg (BA)

Blwyddyn Mynediad

2018

Mae gradd Gyd-anrhydedd Iaith Saesneg a Chymraeg yn gyfle i arbenigo mewn dau bwnc anrhydedd yn y Brifysgol.

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Iaith Saesneg, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Mae’r radd gyd-anrhydedd yn rhoi'r cyfle ichi arbenigo mewn dau bwnc ac fe welwch eu bod yn aml yn rhannu materion a safbwyntiau.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae'r cwrs Saesneg yn dechrau gyda sylfaen gadarn yn nadansoddiad yr iaith. Byddwch yn astudio meysydd traddodiadol megis seineg a gramadeg, ond byddwch hefyd yn dysgu sut i ddadansoddi iaith yn y cyfryngau cyfoes. Wrth eich arfogi â’r sgiliau technegol, byddwn hefyd yn disgwyl ichi fynd i'r afael â damcaniaethau cyffrous i ddehongli cyfathrebu mewn ffordd ystyrlon.

Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar. Byddwch yn gallu darganfod tebygrwydd rhwng yr Iaith Gymraeg a'r Iaith Saesneg ac ymchwilio iddo, ynghyd â chael persbectif unigryw ar y ddau faes astudio hyn.

 

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
  • arfau iaith Saesneg hanfodol megis seineg, gramadeg, dadansoddi disgwrs a sut i ddadansoddi cyfryngau aml-fodd cyfoes sy'n cyfuno geiriau, delweddau a seiniau
  • modiwlau iaith Saesneg sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd gyrfa mewn addysg, y cyfryngau, iechyd, a'r gyfraith
  • cyfleoedd iaith Saesneg i astudio dramor yn Ewrop a'r Unol Daleithiau, gan gynnwys rhaglenni Erasmus â Basel, Bologna a Helsinki

Ffeithiau allweddol

Côd UCASQQ35
Nifer Myfyrwyr newydd nesafMedi 2018
Hyd3 blwyddyn
FfurfAmser llawn
Darpariaeth iaith GymraegMae hyd at 56% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 30 lle ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol yn derbyn tua 100 o geisiadau.
Tiwtor(iaid) derbyniadau

Gofynion mynediad

Cynnig Lefel A nodweddiadolBBC gan gynnwys B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol. 
Cynnig CBC nodweddiadolDerbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cynnig Bagloriaeth Rhyngwladol nodweddiadolCyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â cymhwyster Iaith Gymraeg.
Cymwysterau amgeGallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol y Gymraeg.
Gofynion Iaith SaesnegOs ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraillBydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Gradd tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng Cymraeg a Iaith Saesneg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2018/19. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2018

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd.

Yn y Gymraeg, mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Bydd myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Iaith Saesneg, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn astudio 80 credyd yn y Gymraeg a 40 credyd Iaith Saesneg.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Fel arfer yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg Safon Uwch fel ail iaith yn dilyn y llwybr ail iaith, ond byddwn yn ystyried eich sgiliau ieithyddol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, cyn penderfynu pa lwybr y byddwch chi’n ei ddilyn.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Astudio Llenyddiaeth
  • Y Gymraeg Heddiw

Byddwch yn astudio modiwlau craidd Iaith Saesneg er mwyn rhoi sylfaen ardderchog ichi wrth ddisgrifio, dadansoddi a dehongli iaith, ac astudio sosioieithyddiaeth. Byddwch yn mynd ymlaen i ddewis o blith pedwar modiwl dewisol er mwyn cwblhau gofynion credydau’r flwyddyn.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
How Language Works 1SE111320 credydau
How Language Works 2SE111420 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Astudio LlenyddiaethCY150620 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Language and the MindSE111120 credydau
Reading and Writing in the Digital AgeSE111220 credydau
Developing English: History and SocietySE111520 credydau
Understanding CommunicationSE111620 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Iaith Saesneg.

Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae cwrs y Gymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

Mae dau fodiwl craidd Iaith Saesneg yn cwmpasu holl elfennau hanfodol seineg, gramadeg a semanteg geiriadurol (ystyr geiriau), a’r holl ddamcaniaethau mawr o ran dadansoddi disgwrs, adeiladu stoc gyffredin o wybodaeth a dealltwriaeth.

Mae’r modiwlau dewisol 'sylfaen' yn yr ail flwyddyn yn rhoi cyflwyniadau diddorol i amrywiaeth o feysydd astudio allweddol o safbwynt Iaith Saesneg. Ar hyn o bryd, mae'r pynciau yn cynnwys sosioieithyddiaeth, iaith a diwylliant, hanes y Saesneg, datblygiad iaith plant, iaith a rhywedd, dulliau ymchwil, nodweddion arddull ac eraill.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Sound, Structure and MeaningSE141120 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
SgriptioCY212320 credydau
Darllen a DehongliCY230520 credydau
Dafydd ap GwilymCY330520 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 credydau
Iaith, Gwleidyddiaeth a GwrthdaroCY371020 credydau
Canu?r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 credydau
Caffael IaithCY391020 credydau
Children, Language and CommunicationSE131220 credydau
Research MethodsSE131820 credydau
Sounds of SpeechSE133620 credydau
DiscourseSE136220 credydau
SociolinguisticsSE136920 credydau
Words and MeaningSE137020 credydau
Visual CommunicationSE137320 credydau
History of EnglishSE139820 credydau
Language and CultureSE140220 credydau
Language and GenderSE140320 credydau
Digital Literacy and LanguageSE140520 credydau
Style and GenreSE141620 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Iaith Saesneg.

Ym mlwyddyn tri y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 4,000 o eiriau (20 credyd) neu 8,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

Cynigir modiwlau Iaith Saesneg yn y drydedd flwyddyn yn y meysydd pwnc mae staff yn gweithio ynddynt ar y pryd, gan roi cipolwg unigryw ichi ar rywfaint o’r gwaith mwyaf diweddar ac arloesol mewn ymchwil i Iaith Saesneg. Mae'r modiwlau hyn yn aml yn ei gwneud yn ofynnol ichi gasglu a dadansoddi eich data eich hun. Ceir hefyd gyfleoedd i ymgymryd â phrosiect (20 credyd) neu draethawd estynedig (40 credyd) yn eich dewis o faes ymchwil (yn amodol ar berfformiad yn yr ail flwyddyn). 

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
SgriptioCY212320 credydau
Dadeni a Diwygiad 1550-1900CY231820 credydau
Hanes yr IaithCY315020 credydau
Dafydd ap GwilymCY330520 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Iaith, Gwleidyddiaeth a GwrthdaroCY371020 credydau
Canu?r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
Caffael IaithCY391020 credydau
Forensic LinguisticsSE132420 credydau
Lifespan CommunicationSE132720 credydau
Language Learning and TeachingSE132920 credydau
Functions of GrammarSE134020 credydau
Communicating in RelationshipsSE134420 credydau
Communication DisordersSE134720 credydau
Persuasive CommunicationSE137120 credydau
Dissertation in Language and Communication 1SE138320 credydau
Dissertation in Language and Communication 2SE138420 credydau
Extended DissertationSE138540 credydau
Media DiscourseSE140820 credydau
The Graphic MemoirSE140920 credydau
Dialect in Literature and FilmSE141320 credydau
Persuasion in the Legal ProcessSE141420 credydau
Professional and Intercultural CommunicationSE141720 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Sut caf fy addysgu?

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr sy'n cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol. Mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud yn hynod o ddeniadol i gyflogwyr.

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Mae graddau mewn Saesneg Iaith yn cyfuno’r goreuon o blith sgiliau dyniaethau (hyblygrwydd, cyfathrebu, beirniadu) â sgiliau gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol a dull systematig). Mae cyrchfannau cyffredin yn cynnwys addysgu ysgolion cynradd ac uwchradd, addysgu Saesneg fel iaith dramor, newyddiaduraeth (digidol), marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, gwerthu a hysbysebu, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Yn 2015/16, dywedodd 100% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio, a dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Myfyrwyr y DU ac UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendalBlaendal
£9,000Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn unol â'r gyfraith neu bolisïau Llywodraeth Cymru yn yr ail flwyddyn neu flynyddoedd dilynol cyrsiau. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y cynnydd yn y ffi erbyn diwedd Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd lle fydd y ffi yn codi.

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendalBlaendal
£15,950Dim

Caiff y ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol eu pennu ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau israddedig tair blynedd o hyd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu'r un pris ym mlwyddyn un ag y byddwch chi ym mlynyddoedd dau a thri. Mae rhai cyrsiau wedi'u heithrio, yn cynnwys rhaglenni pedair a phum mlynedd o hyd a chyrsiau Meddygol a Deintyddol. Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf i astudio’r cwrs/ rhaglen?

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Darganfod rhagor o gyrsiau