Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen (BEng)

  • Maes pwnc: Peirianneg
  • Côd UCAS: H101
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn
Engineering student

Pam astudio'r cwrs hwn

tick

Llwybr amgen i astudio

Bydd cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i flwyddyn gyntaf ein gradd baglor neu ein rhaglenni gradd meistr integredig mewn unrhyw ddisgyblaeth.

screen

Cyfleusterau o safon y diwydiant

Bydd gofod stiwdio dylunio dynodedig, labordai arbenigol, gweithdai ac ystafelloedd cyfrifiadurol ar gael ar eich cyfer.

star

Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant

Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.

Mae’r cwrs Blwyddyn Sylfaen Peirianneg wedi'i chynllunio i roi'r ddealltwriaeth arbennig sydd ei hangen arnoch ar gyfer gradd peirianneg BEng neu MEng.

Er bod y cynllun Sylfaen yn flwyddyn o hyd, rhaid ei ystyried yn llwybr mynediad at un o'n cyrsiau gradd. Nid yw'n flwyddyn sy'n sefyll ar ei phen ei hun, ond yn rhan gyntaf mewn rhaglen astudio sy'n arwain at radd BEng neu MEng. Unwaith i chi gwblhau eich Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus byddwch yn symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs gradd rydych chi wedi'i ddewis, cyhyd â'ch bod yn cyflawni cyfartaledd o 50% o leiaf.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn dod i gysylltiad â'r sbectrwm eang o ddisgyblaethau peirianneg drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial ac astudiaethau achos. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar fathemateg, ffiseg a thechnoleg gwybodaeth sy'n berthnasol i beirianneg. Mae natur ymarferol y cwrs yn cyferbynnu â'r ffordd y gallai pynciau o'r fath fod wedi'u cyflwyno yn yr ysgol. Cynhelir yr asesu drwy waith prosiect, asesu parhaus ac arholiadau diwedd semester.

Pan fyddwch chi wedi pasio'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gallwch ddewis pa arbenigedd Peirianneg sy'n eich diddori fwyaf a byddwch yn ymuno â blwyddyn gyntaf y cwrs hwnnw.

Mae llawer iawn o ddewis ar gael ichi yn Ysgol Peirianneg Caerdydd gan ei bod yn un o’r ychydig ysgolion sy’n cynnig cyrsiau gradd MEng a BEng amser llawn mewn canghennau peirianneg amrywiol, megis meysydd pensaernïol, sifil, peirianneg drydanol, mecanyddol, meddygol ac integredig. Mae llawer o'r rhain yn cynnig yr opsiwn o flwyddyn ryngosod yn gweithio ym maes diwydiant neu'n astudio dramor.

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Ni ddylai gynnwys Mathemateg (oni bai ar radd C neu is). Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid peidio â chynnwys HL Maths (oni bai ar radd 5 neu is).

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

D mewn Lefel T mewn unrhyw bwnc.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Mae’r cwrs wedi’i anelu at ystod eang o ddarpar ymgeiswyr. Er enghraifft, os ydych wedi pasio TGAU mewn Mathemateg ac wedi cael marciau pasio da ar eich Safon Uwch mewn pynciau nad ydynt yn cael eu cydnabod ar gyfer mynediad uniongyrchol i’n cynlluniau gradd (fel dim Lefel A mewn mathemateg), byddai’r Flwyddyn Sylfaen yn llwybr delfrydol i chi fynd i mewn i beirianneg.

Yn yr un modd, os oes gennych BTEC neu gymhwyster galwedigaethol tebyg mewn pwnc ar wahân i beirianneg, Bagloriaeth Ryngwladol neu Dystysgrif Gadael Ysgol nad yw’n cael ei chydnabod fel mynediad uniongyrchol, beth am ystyried y Flwyddyn Sylfaen?

Weithiau, rhoddir ystyriaeth arbennig i fyfyrwyr gyda phrofiad gwahanol ac sy’n dangos y cymhelliant, yr ymrwymiad a’r potensial sydd eu hangen i gwblhau’r cwrs a mynd ymlaen i ennill gradd. Mewn achosion o’r fath, gellid hepgor cymwysterau ffurfiol ar ôl ystyried profiad galwedigaethol, ond byddai angen dangos peth tystiolaeth o allu mathemategol a gwyddonol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn ragarweiniol £9,000 Dim
Blwyddyn ragarweiniol £9,000 Dim
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn ragarweiniol £28,200 Dim
Blwyddyn ragarweiniol £28,200 Dim
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac unrhyw adnoddau dysgu eraill fydd eu hangen.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn sydd o leiaf bedair blynedd o hyd yw hon gan gynnwys blwyddyn ragarweiniol. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o fodiwlau, 20 credyd yw gwerth rhai ohonynt, a 30 credyd yw gwerth prosiect y flwyddyn olaf. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn ragarweiniol

Mae'r flwyddyn ragarweiniol yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol. Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys agweddau ar ffiseg, peirianneg a thechnoleg gwybodaeth ynghyd â phynciau mathemateg fel calcwlws, trigonometreg ac algebra.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Technoleg Gwybodaeth ac ArbrofiEN000210 Credydau
Cylchedau a Dadansoddiad TrydanolEN001210 Credydau
Cyflwyniad i FecanegEN001620 Credydau
Cyflwyniad i AlgebraEN001720 Credydau
Cyflwyniad i TrigonometregEN001810 Credydau
Cyflwyniad i CalculusEN001920 Credydau
Egwyddorion PeiriannegEN002020 Credydau
Ceisiadau PeiriannegEN002110 Credydau

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol. Mae’r modiwlau craidd yn dibynnu ar ba gwrs gradd rydych chi'n dewis ei ddilyn.

Blwyddyn dau

Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol. Mae’r modiwlau craidd yn dibynnu ar ba gwrs gradd rydych chi'n dewis ei ddilyn.

Blwyddyn tri

Mae'r drydedd flwyddyn hefyd yn cynnwys prosiect mawr, sy’n werth chwarter y flwyddyn fel arfer.  Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.

Mae’r modiwlau craidd yn dibynnu ar ba gwrs gradd rydych chi'n dewis ei ddilyn.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Addysgir trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau enghreifftiau a llawer o waith yn y labordy, TG a gwaith ymarferol. Mae'r modiwlau a addysgir yn y ddwy flynedd gyntaf yn rhai gorfodol i raddau helaeth, ond mae opsiynau ar gael ym mlwyddyn tri fel rheol. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30-credyd ym mlwyddyn tri, a dyrennir goruchwyliwr ar eu cyfer o blith y staff addysgu. Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd ac sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor yno i’ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn academaidd a materion personol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol, pan fydd angen ychydig o arweiniad arnoch. Ein nod yw eich helpu chi i oresgyn unrhyw broblem, fach neu fawr, mor ddiffwdan a chyflym â phosibl.

Ar gyfer y prosiect 30-credyd ym mlwyddyn tri, dyrennir goruchwyliwr i chi yn y maes ymchwil arbenigol eang a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.

Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn i grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar ar gyflwyniadau a chyfraniadau i weithgareddau grŵp.

Sut caf fy asesu?

Your progress in each module is usually assessed at various stages through each semester (through a short test) to give you feedback on your progress, then finally at the end of the appropriate semester. Assessment is undertaken using methods including formal written examinations, case studies, assignments and project work.

Examinations count for 60% to 70% of all assessment throughout the course, depending on the options chosen. The remainder is mainly project work and larger pieces of coursework, plus performance in laboratories.

The opportunity to test knowledge and understanding is given through class tests throughout years one and two, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and students may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae holl gyrsiau BEng ac MEng yr Ysgol wedi'u hachredu trwy'r Cyngor Peirianneg, sy'n golygu bod cymwyseddau craidd UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol) wedi'u hintegreiddio trwy gydol y blynyddoedd y caiff y cwrs ei addysgu.

Byddwch yn datblygu rhai sgiliau ymarferol yn ystod y sesiynau labordy, tra bod craidd cyson o sgiliau rheoli a datblygiad personol.

Atgyfnerthir sgiliau ysgrifenedig trwy gyfres o adroddiadau ac aseiniadau, ac anogir sgiliau cyfathrebu yn ystod asesiadau modiwl.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae gan ein graddedigion peirianneg integredig swyddi allweddol mewn cwmnïau blaenllaw lle mae angen sgiliau peirianneg, megis Halcrow, Atkins, BP, BAE Systems, RWE npower, Mott McDonald, Network Rail, Rolls Royce, Ford, Tata Steel, Nokia, Bosch ac eraill.

Mae ein graddedigion hefyd wedi symud ymlaen i weithio mewn llywodraeth leol, gyda chwmnïau a sefydliadau cyfleustodau rhyngwladol y DU a rhyngwladol megis Climate Energy a GlaxoSmithKline.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.