Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Biolegol (MBiol)

  • Maes pwnc: Gwyddorau Biolegol
  • Côd UCAS: L9Y7
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae ein gradd meistr integredig yn y Gwyddorau Biolegol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn ymchwil neu sy'n gobeithio cael gyrfa ym maes gwyddoniaeth. Mae'r cwrs israddedig 4 blynedd hwn yn eich galluogi i archwilio ffiniau presennol ein gwybodaeth yn eich dewis chi o faes, ac mae'n gyfle i hyfforddi mewn uwch-dechnegau ymchwil.

Rydym yn cynnig dewis eang o bynciau ar draws y gwyddorau biolegol gan gynnwys: bioleg anifeiliaid a phlanhigion; microbioleg; geneteg; bioleg systemau; ecoleg; afiechyd; ymddygiad; niwrowyddoniaeth; sŵoleg; bioleg ddatblygiadol a bôn-gelloedd; ac esblygiad. Yn rhan o'n modiwl Ecoleg a Chadwraeth, rydym hefyd yn cynnal ystod o gyrsiau maes yn y DU a thramor â ariennir yn rhannol, gan gynnwys Ecoleg Afonydd yng Nghymru, Ecoleg Forol Drofannol yn Tobago, a Bioamrywiaeth Coedwigoedd Glaw ym Malaysia.

Gallwch deilwra'r radd i'ch diddordebau eich hun wrth iddynt ddatblygu, gan ddewis canolbwyntio ar un agwedd benodol ar fioleg neu ddewis astudio ystod ehangach o bynciau. Bydd eich blwyddyn olaf yn cynnwys prosiect estynedig mewn labordy ymchwil gweithredol. Bydd y prosiect hwn yn newydd ac efallai y bydd y canlyniadau'n ddigon cyflawn i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol hyd yn oed. Byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth â'ch prosiect gan ymchwilwyr, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i ymchwilio ymarferol gwyddonol.

Mae ein cwrs Gwyddorau Biolegol yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfaoedd ym mhob maes o’r gwyddorau biolegol, ac mae’n cynnig hyfforddiant cadarn i wyddonwyr ymchwil. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous a gwerth chweil mewn meysydd gwyddonol ac anwyddonol, gan gynnwys bioleg forol, ecoleg a chadwraeth, cyhoeddi gwyddonol, diwydiannau fferyllol, bioleg foleciwlaidd, newyddiaduraeth, addysgu a gwyddoniaeth filfeddygol. Mae llawer hefyd yn dewis symud ymlaen â'u hastudiaethau ymhellach gyda gradd uwch.

Nodweddion nodedig

Our Biological Sciences integrated master’s degree is closely linked to the research interests of our staff, allowing you to experience the excitement of learning in an active research environment. We attract substantial external research funding and this will enable you to make use of the latest equipment, techniques and facilities in your project work. The School also offers access to a wide range of exciting training opportunities, with a conservation-focused research centre in Borneo, and strong involvement in several of the University’s flagship research institutes, including Sustainable Places, Water Research, Cancer Stem Cell Research, and Neuroscience and Mental Health.

You may also be interested in the following courses:

Maes pwnc: Gwyddorau Biolegol

  • academic-schoolYsgol y Biowyddorau
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4119
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid cynnwys Bioleg (neu Fioleg Ddynol) neu Gemeg.

Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

 

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddoniaeth Fforensig, neu Reoli Anifeiliaid gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae cyrsiau maes a gynhelir dramor yn golygu costau ychwanegol ��� yn bennaf o ran llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru hefyd nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs MBiol hwn yn un amser llawn dros gyfnod o bedair blynedd academaidd (pump gan gynnwys yr opsiwn o gael Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol), ac enillir 120 credyd bob blwyddyn. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda thri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn astudio tri modiwl 30 credyd, yn ogystal â modiwl Technegau Ymchwil Uwch 30 credyd sy'n cwmpasu hyfforddiant biowybodeg uwch a phrosiect ymarferol integredig. Mae eich blwyddyn olaf yn cynnwys dau fodiwl 20 credyd a phrosiect ymchwil sy'n cynnwys 80 credyd. Er ein bod yn ceisio cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth wneud ein cyrsiau, gellir cyfyngu ar y dewis o fodiwlau ar sail Gradd Mynediad i sicrhau capasiti ar fodiwlau craidd y mae’n rhaid eu gwneud wrth astudio ar gyfer rhai graddau.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddynt y fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, mae sesiynau ymarferol helaeth mewn labordai yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a deunydd darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Ochr yn ochr â thri modiwl pwnc-benodol, bydd y drydedd flwyddyn yn rhoi hyfforddiant mewn technegau ymchwil uwch a biowybodeg, gan sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n llawn ar gyfer y prosiect ymchwil estynedig yn eich blwyddyn olaf.

Bydd y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ddatblygu uwch-dechnegau ymchwil ymhellach, sgiliau chwilio llenyddiaeth a dadansoddi, trafod a gwerthuso'n feirniadol mewn grwpiau, ynghyd â chynllunio gwaith arbrofol. Bydd modiwl y prosiect ymchwil yn gofyn i chi ymgolli'n llwyr mewn gwaith ymchwil mewn labordy am gyfnod o 6 mis.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Mae hyn yn adlewyrchu natur gynyddol amlddisgyblaethol ymchwil y biowyddorau ac mae'n cynnig y fantais ychwanegol o gynnig hyblygrwydd o ran dewis gradd i chi.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg fiolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo mwy, ac mae'n adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol yr ydych wedi’u meithrin yn y flwyddyn gyntaf. Bydd pwyslais ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau a thechnegau maes uwch. Bydd sgiliau deall dylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudio pellach yn y drydedd flwyddyn.

Yn yr ail flwyddyn, mae 11 o fodiwlau ar gael i chi, hyd at gyfanswm o 120 o Gredydau, gan olygu bod rhwydd hynt gennych i fynd ar drywydd meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Mae’r pynciau modiwl sydd ar gael yn cynnwys, amrywiaeth ac addasu anifeiliaid, geneteg, bioleg celloedd, biocemeg ac ecoleg a chadwraeth.

Bydd myfyrwyr ar y modiwl ecoleg a chadwraeth yn cael cyfle i ymgymryd ag un o'n cyrsiau maes sy’n seiliedig ar brosiect, sy'n cael ei redeg mewn amrywiaeth o leoliadau yn y DU a thramor.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gallwch hefyd newid i’r cwrs pum mlynedd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol, a gaiff ei chymryd ar ôl yr ail flwyddyn, yn amodol ar gael gafael ar leoliad hyfforddiant priodol.

Blwyddyn tri

Mae cwricwlwm y drydedd flwyddyn yn eich galluogi i arbenigo'n fanylach yn un o themâu ymchwil mawr yr Ysgol. Mae’r dull hwn yn eich trwytho i ddiwylliant ymchwilio'r biowyddorau, drwy gyfrwng addysgu yn seiliedig ar ymchwil a phrosiect sy'n eich caniatáu i ymchwilio i destun yn llawer manylach.

Defnyddio gwybodaeth graidd i ddatrys problemau a gwerthuso modelau, syniadau a dadleuon cyfredol yn feirniadol sy'n cael y prif sylw yn y drydedd flwyddyn. Er mwyn datblygu sgiliau gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol, bydd y rhan hon o'r cwrs yn cynnwys llawer iawn o astudio hunangyfeiriedig, a fydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.

Yn ogystal â modiwl Technegau Ymchwil Datblygedig 30-credyd (sy'n cynnwys hyfforddiant biowybodeg a phrosiect ymarferol integredig), byddwch hefyd yn cwblhau tri modiwl 30-credyd (o fwy neu lai ddewis rhydd o 18, ar wahân i anatomeg ddynol ddatblygedig). Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys esblygiad ac addasu, bioleg systemau a modelu, gwyddoniaeth planhigion, bioamrywiaeth, bioleg synthetig, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.

Blwyddyn pedwar

Mae blwyddyn olaf y cwrs Meistr yn cynnwys prosiect estynedig mewn labordy ymchwil gweithredol, hyfforddiant pellach mewn technegau ymchwil datblygedig yn ogystal â modiwl 'Ffiniau'r Biowyddorau'. Bydd eich prosiect ymchwil unigol yn un newydd ac mae'n bosibl y bydd y canlyniadau'n ddigon clodwiw i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddoniaeth, cyfrannu i gyhoeddiad neu sbarduno crynswth newydd o waith ymchwil o ganlyniad. Byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth â'ch prosiect gan ymchwilwyr, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i ymchwilio ymarferol gwyddonol. Bydd y fath arbenigedd a gwybodaeth mewn meysydd yr ydym wedi eu datblygu hyd y flwyddyn yn helpu i'ch gwneud yn hynod gyflogadwy yn y sector ymchwil a sector masnachol y biowyddorau fel ei gilydd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn rhoi profiad addysgol sy’n rhoi’r myfyriwr yn gyntaf yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd ac mae wedi'i lywio gan ymchwil sy'n arwain y byd. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Byddwch yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth graidd trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol neu waith maes, seminarau ymchwil, gweithdai a thiwtorialau, a bydd astudio’n annibynnol, gweithio mewn grwpiau a gwaith prosiect yn helpu i hyrwyddo gwybodaeth a ddealltwriaeth well.

Disgwylir i chi gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gall fod elfennau dethol o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a gallwch hefyd ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol, pe byddech yn dymuno hynny.

Bydd myfyrwyr ag anableddau yn cael cefnogaeth lawn mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cefnogi Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein holl staff academaidd yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd rhyngweithio â staff academaidd yn digwydd yn bennaf yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol cyfnod y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio ynghylch sesiynau addysgu neu drwy ebost, ac mae eu drysau naill ai wastad ar agor i fyfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu mae modd trefnu cyfarfod gyda nhw. Mae gan bob cwrs gradd gydlynydd cynllun gradd hefyd sy’n gallu eich cynghori ar faterion academaidd, ac mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn sy’n gallu cynghori ar faterion gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa Addysg hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar waith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich Tiwtor Personol. Drwy gydol cyfnod y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, rhoddir hyn ar-lein drwy system 'Grademark', sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn hwylus trwy ddyfais llechen neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y gwaith ymarferol a’r prosiect ymchwil, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

First and second year modules are normally assessed through a combination of coursework and examinations. All modules include coursework assessments, which may take the form of written practical reports, structured reports, class tests, structured answer tests, group work, poster and oral presentations and computing/statistical problem-solving exercises.  Assessments may be summative and count towards the final module mark, or formative, helping you to learn and practice key skills and knowledge through feedback.  Examinations at the end of each module comprise a machine-marked structured answer section (assessing breadth of knowledge) and a written answer section (assessing depth of knowledge in specific topics).   

In the third year, taught modules are assessed by examination and extended analytical coursework. The Advanced Research Techniques module will be assessed via written report as well as a poster presentation and an assessment of bioinformatics competence.

Final year modules are assessed by coursework only. The research project will be assessed by a supervisors’ evaluation, a written report and presentation.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy gydol cyfnod y cwrs, byddwch yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy pwysig fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn feirniadol;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organnynnau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
  • cyfosod dadl neu safbwynt, yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth gadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  • gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth).
  • nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
  • dangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae ein gradd Meistr ar gyfer ymchwilwyr brwd a'r rheiny sy'n gobeithio cael gyrfa mewn gwyddoniaeth. Mae'r cymwyseddau a ddatblygir gydol y cwrs yn gweddu'n berffaith i yrfaoedd uchel mewn meysydd sy'n gysylltiedig ag ymchwil (e.e. astudio ar gyfer PhD neu weithio mewn diwydiant).

Mae gan ein graddedigion hefyd lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Yn olaf, gall gradd yn y Biowyddorau fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol neu gyfrifeg.

Lleoliadau

Nid yw'r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol. Fodd bynnag, rydym yn annog myfyrwyr yn gryf i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf er mwyn gwella'u cyflogadwyedd.

Gwaith maes

Mae profiad uniongyrchol o blanhigion ac anifeiliaid yn eu cynefin naturiol yn rhan bwysig o fioleg fodern.

Yng Nghaerdydd, rydym yn cynnal ystod drawiadol o gyrsiau maes i roi digon o gyfleoedd i gael profiad ymarferol hanfodol o dechnegau modern a sgiliau ymarferol mewn bioleg maes, er enghraifft modrwyo adar, dadansoddi microbaidd, maglu mamaliaid bach, maglu mewn pydewau a chynnal arolygon o ystlumod.

Yn yr ail flwyddyn, gall myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl Ecoleg a Chadwraeth ddewis o blith sawl cwrs arbenigol yn seiliedig ar brosiect a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau ym mhedwar ban byd.

Yn nodweddiadol mae ein cyrsiau maes yn cynnwys Ecoleg Drofannol (Borneo, Malaysia), Ecoleg Forol (y Caribî a Malaysia), Ecoleg Ynysoedd (Cymru), Ecoleg Afonydd (Cymru) ac Ecoleg Coetiroedd (Cymru).

Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.