Ewch i’r prif gynnwys

Pensaernïaeth (BSc/MArch)

  • Maes pwnc: Pensaernïaeth
  • Côd UCAS: K100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 5 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn gydag elfennau dysgu ar sail gwaith

Pam astudio'r cwrs hwn

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudiwch yn un o’r 5 ysgol pensaernïaeth orau yn y DU, gan ymuno â’n cymuned fyd-eang o staff a myfyrwyr.

globe

Ymweliadau astudio a ariennir

Manteisiwch ar ymweliadau astudio wedi’u hariannu yng Nghymru, y DU a thramor, ac ennill profiad o bensaernïaeth yn uniongyrchol ac ochr yn ochr â staff addysgu.

notepad

Dylunio a arweinir gan ymchwil

Mae ein BSc yn hyrwyddo creadigrwydd sylfaenol ac yn ymateb i heriau'r byd go iawn, gan gynhyrchu graddedigion o safon i fynd i'r afael â gofynion amrywiol a llywio dyfodol ymarfer dylunio.

building

Cyfleusterau newydd pwrpasol

Sefydlwyd yn c.1920 yn adeilad pwrpasol Bute, a adnewyddwyd yn ddiweddar i gynnwys cyfleusterau newydd, gan gynnwys stiwdios hybrid, gweithdy, gwneuthuriad digidol a Labordy Byw.

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cael ei hystyried yn un o'r goreuon yn y DU. Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell trwy bensaernïaeth gynaliadwy, hardd ac sy'n ystyried y cyd-destun.

Trwy ein cyrsiau, rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i ddod yn unigolion cyflawn a galluog, trwy fynd i'r afael â'r ystod lawn o sgiliau sy'n ofynnol i fod yn bensaer. Mae'r rhain yn cynnwys dylunio creadigol, adeiladu a pherfformiad adeiladau, dylunio amgylcheddol, materion cynaliadwyedd, materion cyfrifoldeb proffesiynol a dyletswyddau pensaer, a dealltwriaeth o gyd-destunau hanesyddol a diwylliannol pensaernïaeth a dylunio trefol.

Mae’r BSc/MArch yn gwrs gradd unigryw oherwydd, ar ôl cwblhau’r cwrs BSc Tair Blynedd ARB/RIBA Rhan 1 gydag o leiaf 2:1 (neu gymhwyster cyfatebol o brifysgol arall), bydd y myfyrwyr yn treulio rhan fwyaf o flwyddyn gyntaf y cwrs MArch, mewn ymarfer pensaernïol. Yn dilyn hyn, treulir y flwyddyn derfynol yn yr Ysgol.
Caiff Rhan 1 a Rhan 2 o gymhwyster proffesiynol y DU ar gyfer penseiri eu cyflawni gan y graddau BSc ac MArch, yn ôl eu trefn. Mae’r ddwy radd wedi cael eu cymeradwyo gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB). Bydd angen i fyfyrwyr sy'n bwriadu dod yn bensaer cofrestredig yn y Deyrnas Unedig gwblhau rhaglen Rhan 3, er enghraifft ein Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol.

Ar y cyrsiau hyn, byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o'ch amser yn y stiwdio ddylunio, yn gweithio ar brosiectau dylunio pensaernïol sy'n tyfu o ran graddfa a chymhlethdod wrth i chi symud ymlaen drwyddynt. Mae llawer o'r sgiliau a grybwyllir uchod yn cael eu datblygu a'u hintegreiddio’n rhan o ddylunio. Rydym yn cynnig ystod o leoedd gwaith, gweithdai a chyfleusterau dylunio gyda chymorth cyfrifiadur i gefnogi hyn.

Fe'ch addysgir gan staff academaidd parhaol a thiwtoriaid o gwmnïau lleol a blaenllaw'r DU, gan ddarparu cymysgedd cyffrous o ddulliau a phrofiadau dylunio. Ni yw’r ysgol pensaernïaeth fwyaf blaenllaw yng Nghymru, ac mae gennym gysylltiadau da â Llywodraeth Cymru, cyrff y diwydiant adeiladu a chwmnïau proffesiynol lleol, ac mae gennym hefyd gysylltiadau rhyngwladol cryf.

Os oes gennych radd gyntaf eisoes ac rydych yn dymuno gwneud cais am y MArch Rhan 2 yn unig, ewch i'n tudalennau ôl-raddedig i gael rhagor o wybodaeth.

Achrediadau

Maes pwnc: Pensaernïaeth

  • academic-schoolYsgol Pensaernïaeth Cymru
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol gan gynnwys 6 mewn un pwnc HL neu 666 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Os nad ydych wedi astudio pwnc celf a dylunio, efallai y byddwn yn gofyn i chi gyflwyno portffolio ochr yn ochr â'ch cais. Dylai'r portffolio gynnwys gwaith sy'n dangos eich gallu creadigol. Gallai’r gwaith hwn fod yn arddangos eich sgiliau ym maes tynnu lluniau, ffotograffiaeth neu grochenwaith, yn ymarfer gofodol drwy ddawns, coreograffi neu ffilm neu’n unrhyw beth sy'n dangos eich unigoliaeth.

Rhaid i chi hefyd fod â neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

D mewn Dylunio Lefel T, arolygu a chynllunio ar gyfer adeiladu.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £4,500 Dim
Blwyddyn pump £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim
Blwyddyn pedwar £14,100 Dim
Blwyddyn pump £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd yr ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar. Ni fydd yr ysgol yn talu costau sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn ryngosod, fel teithio a llety.

Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maent yn gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:

  • Gliniaduron
  • Cyfrifianellau
  • Deunydd ysgrifennu cyffredinol
  • Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
  • Copïo/argraffu sylfaenol

Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Gofynnir i chi ddod ag offer arlunio sylfaenol.  Argymhellir yn gryf eich bod yn buddsoddi mewn gliniadur gyda meddalwedd priodol.  Mae llawer o'r feddalwedd a ddefnyddir fel arfer ar gael drwy gytundebau addysgol am ddim neu am gost is.

Bydd yr Ysgol yn darparu unrhyw offer arall sydd ei angen.  Cewch gyfle i weithio yn stiwdios dylunio'r Ysgol, cael mynediad i gyfres o gyfrifiaduron sy'n rhedeg y feddalwedd angenrheidiol a defnyddio plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol a gweithdy sydd â digon o gyfarpar.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Mae'r BSc yn gwrs modiwlaidd amser llawn a thair blynedd o hyd. Mae modiwlau craidd yn amrywio o ran maint o 10 i 70 credyd. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn

Ail radd dwy flynedd yw'r MArch. Treulir y flwyddyn gyntaf yn bennaf gyda chwmni pensaernïol. Mae'n cynnwys cyrsiau byr yn yr Ysgol a strwythur modiwlaidd o waith cwrs cysylltiedig. Addysgir yr ail flwyddyn yn yr Ysgol ac, unwaith eto, mae'n fodiwlaidd, sy'n cynnwys Traethawd Dylunio mawr a Thraethawd Hir.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae'r modiwlau yn y flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen ar gyfer eich datblygiad ar draws pob rhan o'r cwricwlwm pensaernïol, ac eithrio astudiaethau economaidd a phroffesiynol. Mae modiwlau sy’n seiliedig ar y stiwdio wedi’u cynllunio o gwmpas egwyddorion a dulliau dylunio a dylunio pensaernïol, modiwlau â darlithoedd i rannu gwybodaeth am dechnoleg bensaernïol a hanes a theori pensaernïaeth. Yn yr ail dymor, byddwch yn ymweld â dinas o bwys i’w hastudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae myfyrwyr wedi ymweld â Pharis, Barcelona a Chopenhagen.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Adeiladu trwy AmserAR100720 Credydau
Dylunio Pensaernïol 1AR111180 Credydau
Technoleg Bensaernïol 1AR111220 Credydau

Blwyddyn dau

Ar hyn o bryd, yn ystod y tymor cyntaf, byddwch yn gweithio yn y stiwdio ar gysyniadau o "greu lle" drwy gyfrwng prosiect tai cynaliadwy. Yn yr ail dymor mae'r prosiectau’n ymdrin â heriau ehangach, gan gymhwyso dadansoddiad o anheddiad sy’n bodoli’n barod i baratoi cynllun ar gyfer adeilad cyhoeddus bach a man cyhoeddus yn rhan ohono.

Mae modiwlau eraill ym mlwyddyn dau yn ymdrin â dylunio digidol, a chyd-destun ffisegol a diwylliannol pensaernïaeth o safbwynt diddordebau ymchwil staff yr Ysgol a darlithwyr gwadd.

Ein nod hefyd yw datblygu dealltwriaeth drylwyr o adeiladau domestig a chanolig eu maint, a sicrhau bod gennych dechnegau i werthuso a rhagfynegi perfformiad amgylcheddol eich cynlluniau.

Fel ym mlwyddyn un, byddwn fel arfer yn ymweld â dinas o bwys am wythnos gyfan i’w hastudio.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Technoleg Bensaernïol 2AR200220 Credydau
Pensaernïaeth yn ei Chyd-destunAR200720 Credydau
Dylunio Pensaernïol 2AR222180 Credydau

Blwyddyn tri

Yn y rhaglen stiwdio yn y drydedd flwyddyn byddwch yn dewis gweithio mewn un o ystod o 'unedau'. Mae pob uned yn cynnwys grŵp o fyfyrwyr, sy'n gweithio ar yr un briffiau pensaernïol yn ystod y flwyddyn, gyda chymorth y tiwtoriaid a ddyfeisiodd y briff hwnnw. Mae'r flwyddyn yn dechrau gydag ymarfer cynllunio meistr sy'n rhoi pwyslais ar gyd-destun ehangach y safle. Mae'r ail dymor yn canolbwyntio ar ddylunio cynnig pensaernïol penodol o fewn y cyd-destun ehangach hwn.

Pwrpas yr ymweliad astudio yn y drydedd flwyddyn yw paratoi’r myfyrwyr i gyflwyno nod eu prosiect yn yr ail dymor.

Bydd y modiwlau â darlithoedd yn parhau i ddatblygu eich dealltwriaeth o astudiaethau technegol, diwylliannol a digidol a sefydlwyd mewn blynyddoedd cynharach, gan gyflwyno pynciau fel rheoli ymarfer ac economeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Technoleg Bensaernïol 3AR300220 Credydau
Rheoli Ymarfer ac EconomegAR300410 Credydau
Dylunio Pensaernïol 3AR330170 Credydau
Materion mewn Pensaernïaeth GyfoesAR330320 Credydau

Blwyddyn pedwar

Caiff blwyddyn gyntaf y MArch - y Flwyddyn o Addysg mewn Ymarfer - ei threulio'n bennaf yn gweithio mewn practis pensaernïol, gan ddilyn modiwlau gwaith cwrs cysylltiedig.

Er y byddwch yn gweithio llawn amser mewn swyddfa pensaer, caiff y cyswllt gyda'r Ysgol ei gynnal. Fel rheol bydd cynrychiolydd o'r Ysgol yn ymweld â chi a byddwch hefyd yn dychwelyd i’r Ysgol i ddilyn nifer o gyrsiau byr, yn ymdrin ag agweddau ar ddylunio a thechnoleg bensaernïol, ymchwil ac astudiaethau diwylliannol, ymarfer proffesiynol ac economeg adeiladu. Caiff y rhain eu hamseru i ganiatáu i'r myfyrwyr hynny sy'n dymuno gweithio dramor wneud hynny gyda chyn lleied o darfu a chostau teithio ychwanegol. Yn ystod y flwyddyn gosodir prosiect dylunio, a bydd disgwyl i chi hefyd fyfyrio ar eich dysgu yn ymarferol ac ymgymryd â gwaith rhagarweiniol sy'n gysylltiedig â thraethawd hir.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dylunio mewn YmarferAR440160 Credydau
Paratoi YmchwilAR440220 Credydau
Ymarfer myfyriolAR440340 Credydau

Blwyddyn pump

Caiff ail flwyddyn y MArch ei threulio llawn amser yn yr Ysgol a'i nod yw eich tywys i lefel uwch o ymchwil a dylunio pensaernïol. Mae'n cynnig fforwm dwys a bywiog ar gyfer archwilio a thrafod materion yn ymwneud â phensaernïaeth gyfoes a threfoli ac mae'n cynnwys modiwlau mewn economeg adeiladu ac ymarfer proffesiynol.

Canolbwynt y bumed flwyddyn yw'r Traethawd Ymchwil Dylunio, sy'n galw arnoch i ddiffinio a sefydlu eich safle eich hun mewn dylunio pensaernïol, ynghyd â bodloni gofynion maes llafur Rhan 2 RIBA/ARB. Caiff y traethawd ymchwil ei strwythuro mewn stiwdios, neu 'unedau' thematig - dan arweiniad tiwtoriaid dylunio sydd ag arbenigedd a diddordeb mewn meysydd penodol o ymchwil a/neu ymarfer. Mae'r themâu yn aml yn gysylltiedig â meysydd o arbenigedd ymchwil yn yr Ysgol.

Mae'r flwyddyn hefyd yn cynnwys Traethawd Hir 10,000 o eiriau ar bwnc lle’r ydych yn ymgymryd ag ymchwil baratoadol ar ei gyfer yn ystod y Flwyddyn mewn Ymarfer. Fe'ch anogir i gysylltu'r ymchwil hon, lle bo'n bosibl, â'ch Traethawd Ymchwil Dylunio. Cewch gefnogaeth gyda’i ddatblygu gan aelodau penodol o staff yn yr Ysgol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Traethawd DylunioAR500180 Credydau
Traethawd hirAR500230 Credydau
Ymarfer, Rheolaeth ac EconomegAR500310 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Student creating an architectural model
A student creating an architectural model in the studio.

Dysgu ac asesu

Nod yr Ysgol yw rhoi profiad addysgol ysbrydoledig a chyfoethog i chi trwy addysgu ar sail sylfaen ymchwil ac ysgolheictod sy'n arwain y byd (fel y dangosir gan ein canlyniadau yn REF 2014).

Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o'ch amser yn yr Ysgol yn ein stiwdio ddylunio. Tiwtorial traddodiadol un i un fydd y dull addysgu allweddol, ac fe’i ategir gan ddarlithoedd ac aseiniadau grŵp sy’n cynnwys pob agwedd ar y pwnc.

Y stiwdio yw'r lleoliad ar gyfer addysgu dylunio, sesiynau tiwtorial gwneud modelau, gweithdai a thrafodaeth. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer arddangosfeydd a “crits"" - lle mae myfyrwyr yn arddangos eu gwaith i'w drafod a'i asesu'n feirniadol gan staff, cyd-fyfyrwyr a beirniaid sy'n ymweld.

Mae'r Ysgol yn annog dysgu effeithiol a arweinir gan fyfyrwyr, p'un ai trwy ddadansoddi safleoedd, gwaith ymchwil mewn llyfrgell neu “ymarfer myfyriol"".

Bydd eich astudiaethau hefyd yn cynnwys darlithoedd a seminarau rheolaidd. Mae modiwlau mewn hanes a theori pensaernïaeth, technoleg bensaernïol, rheoli ymarfer ac economeg, a dulliau digidol o ddylunio yn cael eu cyflwyno fel hyn yn bennaf. Maent yn aml hefyd yn cynnwys elfen o ddysgu ar sail prosiectau, neu integreiddio â phrosiectau dylunio yn y stiwdio.

Mae addysgu hefyd yn cynnwys darparu deunyddiau dysgu ar-lein, fel briffiau, llyfryddiaethau, darlleniadau a chynseiliau, fel sy'n briodol i'r modiwl.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cydlynir pob blwyddyn academaidd gan 'gadeirydd blwyddyn' sy’n gyfrifol am oruchwylio cynnydd myfyrwyr. Bydd gennych hefyd diwtor personol y gallwch drafod (yn gyfrinachol) unrhyw bryderon a allai effeithio ar eich cynnydd. Cynhelir adolygiadau cynnydd rheolaidd trwy gydol y flwyddyn gyda thîm y flwyddyn, ac mae polisi drws agored ar draws yr Ysgol.

Mae'r Ysgol yn cynnig cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich anghenion dysgu unigol a'u diffinio. Yn gyffredinol, mae hyn ar ffurf dyddiadur myfyriol neu lyfr braslunio. Mae'r rhain yn gynyddol ar ffurf blogiau ar-lein.

Mae'r llyfrgell bensaernïol yn yr un adeilad â'r Ysgol ac mae adnoddau a chefnogaeth ar gael yno’n hwylus. Mae deunyddiau electronig cyrsiau hefyd yn cael eu cadw ar rwydwaith y Brifysgol yn gyffredinol.

Yn ystod MArch Blwyddyn o Addysg mewn Ymarfer, cynhelir cysylltiad â'r Ysgol trwy gydol y flwyddyn. Fel rheol bydd aelod staff neu un o gynfyfyrwyr yr Ysgol yn ymweld â chi.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau hefyd i fyfyrwyr gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwch yn cael adborth llafar ac ysgrifenedig yn rheolaidd ar eich cynnydd trwy gydol cyfnod y cwrs. Fel rheol rhoddir adborth ar waith cwrs gan ddefnyddio pro-forma adborth safonol neu gellir ei roi ar lafar, mewn ffordd debyg i brosiectau dylunio.

Sut caf fy asesu?

Contact time with staff is high and you will receive regular oral and written feedback on your progress throughout the course. Design projects and related exercises are assessed continuously. At the end of each year of study, a portfolio of all design-related work is presented for formal examination by panels of internal examiners and then for moderation by external examiners.

It is a requirement of our professional accrediting bodies that students meet all of their validation criteria.  External examiners are expected to confirm that these requirements have been met.

Lecture-based courses are assessed through written examination and coursework submitted during the semester.  Feedback on coursework is usually given using a standard feedback pro-forma or can be given orally, in a similar way to design project work.

The criteria by which assessments are made are contained in the School’s Teaching Handbook, in project and coursework documentation, and explained at introduction to the various modules and design projects.

In MArch year one (Education in Practice) you are asked to undertake assignments which enable you to reflect on office processes and procedures as well as your own individual learning. You will conduct research in your office environment and critically evaluate your experience through an online e-portfolio and blog, and regular written feedback is given to you as this progresses. Assessment is based on the degree by which you reflect on your experience, rather than on the nature of the experience itself. Progress on work is also monitored through visits to students in their workplaces.

As part of the Dissertation module in the MArch year two (in the School), you are expected to meet an internal and external examiner for an oral examination based on your research.

NOTE: The University welcomes applications from disabled students and we may be able to offer alternative assessment methods. However, this may not always be possible.  Competence standards may limit the availability of adjustments or alternative assessments, but you should refer to the module descriptions for details.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ar gyfer y gweithle, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol:

  • trwy brosiectau dylunio byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi, creadigrwydd, datrys problemau, cynllunio, trefnu, gwneud penderfyniadau a rhoi sylw i fanylion
  • byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol fel empathi, i ddylanwadu, gwrando a chwestiynu
  • trwy waith grŵp byddwch yn datblygu sgiliau gweithio mewn tîm
  • trwy gyflwyniadau rheolaidd, byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu cryf
  • byddwch yn dysgu sut i ddelio ag ansicrwydd ac yn datblygu eich gallu i addasu a bod yn hyblyg
  • mae natur ddwys y cwrs yn golygu y byddwch chi'n datblygu sgiliau rheoli amser ac ymdopi â straen
  • addysgir sgiliau penodol i chi mewn Technoleg Gwybodaeth (a Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur), adalw gwybodaeth ac ymchwil sylfaenol
Architecture student crits
External practitioners frequently lead design studio units and feed back to students on their work during architectural crits.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Ymysg y cyflogwyr roedd swyddfeydd penseiri, ymgynghorwyr ynni adeiladu, adrannau cynllunio trefi, cwmnïau adeiladu a phrifysgolion. Roedd eu gyrfaoedd yn cynnwys bod yn benseiri, dylunwyr trefnol a swyddogion ymchwil.

Mae mwyafrif ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa mewn ymarfer pensaernïol, ac yn gweithio mewn nifer o gwmnïau blaenllaw yn y DU a ledled y byd.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Pensaer
  • Dylunydd Trefol
  • Swyddog Ymchwil

Gwaith maes

Mae’r ymweliad â dinas o bwys yn y DU neu dramor i’w hastudio yn para tua wythnos ym mlwyddyn gyntaf ac ail y cwrs BSc. Mae myfyrwyr y drydedd flwyddyn hefyd yn mynd ar ymweliad sylweddol yn y DU neu dramor; gall hyn fod naill ai i ddinas neu leoliad gwledig, yn dibynnu ar eu prosiect.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.