Diwrnod Blas ar Fywyd Prifysgol - Astudio, Byw a Gweithio drwy'r Gymraeg
Mae ein diwrnod Astudio, Byw a Gweithio drwy’r Gymraeg i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn rhoi cipolwg ar fywyd Cymraeg yn y Brifysgol a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil astudio yn Gymraeg.
Rydyn n'n gweithio ar y cyd â'r sefydliadau canlynol i ddarparu diwrnod llawn bwrlwm o weithgareddau ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg:
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Prifysgol De Cymru
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- CYDAG (Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg)
- Cyngor Caerdydd
Beth all disgyblion ei ddisgwyl?
Bydd gan ddisgyblion y cyfle i:
- fynychu sesiynau academaidd a gynhelir gan staff y brifysgol
- gymryd rhan mewn trafodaeth banel a derbyn cyngor ar gwblhau ffurflenni UCAS
- ymweld ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i grwydro o amgylch stondiau gyrfaoedd a phwnc, a chlywed gan fyfyrwyr presennol, cyn-fyfyrwyr, a chyflogwyr
- dysgu am gyfleoedd academaidd a phroffesiynol yn y Gymraeg
Yn dilyn llwyddiant ein Diwrnod Blas ar Fywyd Prifysgol cyntaf yn 2024, byddwn ni unwaith eto yn cynnal diwrnod agored ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg ddydd Mercher 11 Mehefin 2025, o 09:30 tan 14:30.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar gampws Prifysgol Caerdydd.
Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau amrywiol dan arweiniad cynrychiolwyr o'r tair sefydliad bartner, ochr yn ochr â sesiwn banel a gynhelir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Y nod yw hyrwyddo'r cyfleoedd academaidd, allgyrsiol, a phroffesiynol sydd ar gael i bobl ifanc yn y sefydliadau hyn.
Gwybodaeth hanfodol ar gyfer y diwrnod
Dyma bopeth sydd ei angen arnoch chi os ydych chi'n ymweld â'n diwrnod Astudio, Byw a Gweithio drwy’r Gymraeg:
- Map o'r campws - lleoliadau o gwmpas ein campws
- Rhaglen lawn - gweld beth sy’n digwydd a phryd
- Mynediad Wi-fi - manylion i gysylltu â'n Wi-Fi
- Her tair stondin QR - cymryd rhan yn ein gweithgaredd rhyngweithiol ar y campws
- Pecyn gwybodaeth stondinau gyrfa - darganfod cyfleoedd a chwrdd â chyflogwyr
Edrych yn ôl ar ein diwrnod agored cyntaf yn y Gymraeg
Dyma ddetholiad o luniau i roi blas i chi o'n diwrnod Blas ar Fywyd Prifysgol yn 2024:
Cysylltu â ni
Mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â'n Diwrnod Blas ar Fywyd Prifysgol:
Tanysgrifiwch i dderbyn y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf yn Gymraeg.