Ewch i’r prif gynnwys

Y Plas

Mae Y Plas yn fan cyfarfod amlbwrpas ar gyfer dysgu cymdeithasol yn y dydd ac adloniant yn y nos.

Gyda balconi mesanîn, bariau newydd, to gwydr ac addurniad trawiadol, mae ailddatblygiad diweddar Undeb y Myfyrwyr wedi ennill clod gan fyfyrwyr.

Y Plas

Os ydych yn ysgrifennu traethawd neu angen llecyn cyfleus i fwyta’ch cinio rhwng darlithoedd, gwnewch eich hunain yn gartrefol yma.

Mae socedi trydan yn y bythau i fyny’r grisiau er mwyn i chi fedru defnyddio’ch gliniadur neu wefru’ch ffôn. Gallwch gael tamaid i fwyta neu goffi o’r neuadd fwyd hefyd.

Yn y nos, mae’r Plas yn trawsnewid i leoliad adloniant. Mae’r Plas yn cynnal pob math o ddigwyddiadau, o nosweithiau clwb wythnosol, gigs cerddoriaeth fyw, partïon a pherfformiadau cymdeithasau. Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn enwog am gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw wych.

Mae perfformwyr adnabyddus fel Jake Bugg, Bastille a London Grammar wedi perfformio yn yr Undeb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Y Plas wedi cynnal Noswaith wobrwyo Undeb y Myfyrwyr, dawnsiau a pherfformiadau yn cynnwys Gŵyl yr Ymylon Caerdydd.

I ddarganfod mwy, neu er mwyn llogi'r lleoliad, ewch i wefan yr Undeb Myfyrwyr.