Ewch i’r prif gynnwys

Rho Gynnig Arni

Os ydych eisiau cymryd rhan ag ychydig yn llai o ymrwymiad, yna efallai y bydd ein gweithgareddau Rho Gynnig Arni yn addas i chi.

Rho Gynnig Arni
Rho Gynnig Arni

Mae Rho Gynnig Arni yn galendr llawn o weithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra byddwch yn fyfyriwr gyda ni. Gallwch gymryd rhan mewn chwaraeon newydd, dysgu iaith wahanol, mynd ar dripiau dydd ac ar y penwythnos, darganfod gwahanol ddinasoedd a llawer mwy.

Dyma’ch cyfle i rhoi gynnig ar bethau nad ydych wedi trio o’r blaen, cyfarfod pobl newydd a gwneud y gorau o’ch amser yng Nghaerdydd.

Nid oes unrhyw ffi cofrestru neu ymrwymiad tymor hir, dim ond ceisio’r hyn rydych eisiau ei geisio, pryd bynnag yr hoffech.