Ewch i’r prif gynnwys

Lesbïaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a chydraddoldeb

Rydym yn awyddus i sicrhau'r gefnogaeth orau i'n myfyrwyr. Gall myfyrwyr lesbïaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol wynebu heriau gwahanol mewn prifysgol. Mae gennym ni'r gwasanaethau i'ch cefnogi.

Rydym yn ymdrechu i barhau i wella profiad ein myfyrwyr LGBT+ ac rydym wedi cael ein cydnabod dro ar ôl tro am ein hymdrechion gan sefydliad cydraddoldeb LGBT mwyaf Ewrop.

  • Rydym yn Bencampwyr Amrywiaeth Stonewall
  • Rydym yn falch o fod yn 7fed ymhlith 100 o gyflogwyr ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2022; hefyd, mae Stonewall wedi ein cydnabod yn Gyflogwr Gwych ar gyfer Pobl Draws.
  • Ni yw’r Brifysgol uchaf yn y 100 uchaf

Eich cefnogi

CU Pride (Cymdeithas LGBT+)

Mae CU Pride (Cymdeithas LGBT+) yn cynnal nifer o weithgareddau cymdeithasol bob wythnos ac yn trefnu digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. I sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan, mae ein digwyddiadau'n cymryd rhan mewn lleoliadau hoyw ac mewn lleoliadau eraill ar wahanol amseroedd a diwrnodau yr wythnos. Maent hefyd yn cynnwys digwyddiadau di-alcohol.

Cymdeithas LGBT+

Mae'r Gymdeithas LGBT+ yn cynrychioli ein myfyrwyr sy'n lesbïaidd, hoyw, deurywiol*, trawsrywiol* a hunaniaethau rhywiol, rhamantaidd a rhywedd lleiafrifol. Mae'r gymdeithas yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i wella profiad prifysgol myfyrwyr LHDT+ drwy ymgyrchoedd lles ac ymwybyddiaeth ar y campws a thrwy lobïo am newid polisi.

Enfys

Dyma ein rhwydwaith LDHT+ ar gyfer staff a myfyrwyr ôl-raddedig. Mae Enfys yn trefnu ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel 'LGBT History Month', IDAHO (Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia) a Pride Caerdydd. I gydnabod ei gwaith da, cafodd Enfys wobr Perfformiwr Gorau Grŵp Rhwydwaith Stonewall.

Cefnogi myfyrwyr

Mae'r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i'ch helpu chi i wneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr. Bydd staff y ganolfan yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a rhoi cefnogaeth i chi.