Ewch i’r prif gynnwys

Ailbennu rhywedd

Rydym am gefnogi ein holl staff a myfyrwyr yn eu dewis o hunaniaeth rhywedd.

Cymorth i bontio

Rydym wedi cefnogi nifer o fyfyrwyr sydd wedi pontio, ac mae gweithdrefnau ar waith gennym i hwyluso pethau gymaint â phosibl.  Y cam cyntaf wrth ddod i wybod am y cymorth a gynigiwn, yw edrych ar y ddogfen polisi a gweithdrefnau ar gyfer cefnogi ailbennu rhywedd a myfyrwyr a staff traws.

Os ydych chi eisoes yn y Brifysgol, y cam nesaf fydd siarad â'ch tiwtor personol, neu cysylltwch â’r Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr i gael cefnogaeth i wneud hyn.

Efallai bydd o gymorth i chi lunio cynllun gweithredu, fydd yn cynnwys pethau fel:

  • sut bydd gwybodaeth yn cael ei rheoli a chan bwy
  • a ydych yn dymuno hysbysu'r bobl berthnasol neu a fyddai'n well gennych chi fod hynny’n cael ei wneud drosoch chi
  • dyddiad dechrau defnyddio unrhyw enw newydd / byw’n llawn amser mewn rôl newydd
  • y broses o newid cofnodion a dogfennau eraill
  • unrhyw amser i ffwrdd fydd yn angenrheidiol.

Byddwn bob amser yn ymgynghori â chi ynghylch beth yr hoffech i bobl gael gwybod a’r iaith yr hoffech chi i ni ei defnyddio, a dim ond y rheiny sydd angen gwybod am y pontio fydd yn cael gwybod, a rhoddir gwybodaeth glir ynghylch cyfrinachedd.

Defnyddio cyfleusterau

Cewch fynediad i’r cyfleusterau sy’n cyfateb i’r rhywedd y cyflwynwch eich hun ynddi. Os ydych yn drawsrywiol, gallwch gael mynediad i ardaloedd ‘dynion yn unig’ a ‘menywod yn unig’ - megis ystafelloedd newid a thoiledau - yn ôl y rhywedd y cyflwynwch eich hun ynddi.  Gall hyn olygu eich bod yn newid y cyfleusterau a ddefnyddiwch ar yr adeg pan fyddwch yn dechrau byw yn y rhywedd a gadarnhawyd gennych.

Cyfleusterau niwtral o ran rhywedd

Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod yr hunaniaethau niferus anneuol a hyblyg o ran rhywedd sy’n bodoli, gan gynnwys hunaniaethau anneuol traws, ac mae cynlluniau ar waith i gynyddu nifer y toiledau niwtral o ran rhywedd ar draws y campws.

Cymorth emosiynol ac ymarferol

Mae ein Gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles ar gael i gefnogi myfyrwyr LHDT+.

Os ydych chi’n profi unrhyw fath o drallod emosiynol, peidiwch â phetruso cysylltu â’r tîm.  Mae cymorth ar gael i'r rhai sy'n profi unrhyw fath o anhawster, pa mor fawr neu fach bynnag ydyw, p’un a yw’n gysylltiedig â bod yn berson traws, hunaniaeth rhywedd neu bontio yn y brifysgol.

Bydd ein staff i gyd yn gwrando, heb farnu, ac yn cynnig cefnogaeth mewn man diogel, cyfrinachol.