Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu proffesiynol

Cynigiwn gyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth i wella eich sgiliau a rhoi’r wybodaeth a’r technegau diweddaraf i chi.

Dysgwch wrth i chi fynd ymlaen, gyda chyrsiau hyfforddi hyblyg i gydbwyso eich astudiaethau â gofynion eich gwaith. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth croesawgar, dibynadwy, sy’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau cwsmeriaid.

Datblygwch eich sgiliau a’ch gwybodaeth broffesiynol gyda'n rhaglen cwrs byr, wrth rannu profiadau a syniadau ag eraill yn eich maes.

Rydym yn cynnig ystod ddethol o fodiwlau a addysgir i ôl-raddedigion y gellir eu hastudio yn unigol.

Cwrs ar-lein 16 wythnos ar gyfer meddygon sy'n rhoi gofal i gleifion dermatoleg â chyflyrau gwallt ac ewinedd.

We offer various packages to study the PSRAS.

Newyddion diweddaraf

Uned DPP Adolygiad o’r Flwyddyn 2023

31 Mawrth 2024

Mae’n bleser gennym gyhoeddi adolygiad o’r flwyddyn 2023, gan arddangos y gwaith yr ydym yn ei wneud i ddatblygu cyfleoedd DPP.

Prifysgol Caerdydd yn cefnogi prosiect newydd pwysig i helpu i ailadeiladu sector Addysg Uwch Wcráin

18 Rhagfyr 2023

Mae uwch-staff Prifysgol Caerdydd yn ymuno â British Council Wcráin a phenaethiaid addysg uwch Wcráin i rannu syniadau a phrofiadau a’u helpu i greu rhaglen arweinyddiaeth.

Intensive care patient

Newydd: Cyrsiau ar-lein Gofal Critigol

18 Rhagfyr 2023

Cyfres o bum cwrs ar-lein sydd yn ffocysu ar agweddau allweddol ar ofal critigol: sepsis, rhoi organau, adsefydlu a gofalu am y claf obstetrig difrifol wael.

Gallwn gynnig fersiynau wedi’u teilwra o gwrs hyfforddiant DPP presennol, neu ddatblygu rhywbeth yn benodol i’ch sefydliad. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn cynnig nifer o raglenni cyffrous, gan gynnwys cyrsiau Di-wastraff a Rheoli. Mae'r rhain yn eich galluogi i gael safbwyntiau newydd ar amrywiaeth o faterion busnes a rheoli.