Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd dysgu ôl-raddedig ar gyfer dechrau astudio yn 2020

Mae ffioedd ôl-raddedig yn dibynnu ar y cwrs, modd a lefel o astudio.

Ffioedd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir

Ar gyfer ffioedd cwrs ôl-raddedig a addysgir, gweler cofnod y cwrs unigol, oni bai eich bod yn fyfyriwr sy'n parhau neu'n astudio modiwl annibynnol.

Myfyrwyr rhan-amser

Oni nodir yn wahanol, mae'r ffioedd rhan-amser yn cynrychioli'r gost ar gyfer un flwyddyn astudio. Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol. Felly, i gael amcangyfrif bras o gyfanswm y gost, dylech luosi’r ffioedd â nifer y blynyddoedd o astudio.

Myfyrwyr parhaus

Mae'r ffioedd a restrir ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2020/21. Gall ffioedd ar gyfer myfyrwyr parhaus fod yn wahanol. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Modiwlau unigol

Gallwch weld y ffioedd ar gyfer modiwlau ôl-raddedig ar gyfer 2020/21 yn ein dogfen ffioedd ar gyfer modiwlau unigol.

Blaendaliadau

Ar gyfer rhagor o wybodaeth am blaendaliadau, gweler ein tudalen blaendaliadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd i raglenni'r Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Deintyddiaeth dalu blaendal o £1,000, ac eithrio cyrsiau Clinigol Deintyddol a MSc Dermatoleg Glinigol sydd angen blaendal o £5,000.

Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw

Bydd ffioedd safonol ar gyfer myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk ar gyfer eich ffioedd cwrs penodol.

Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys ManawFfioedd dysgu amser llawn (£) y flwyddynFfioedd dysgu rhan-amser (£) y flwyddyn
Cyrsiau'r Celfyddydau£9,000£4,500
Cyrsiau'r Gwyddorau£10,500£5,250
Cyrsiau Clinigol£24,675

Ffioedd ymchwil ôl-raddedig

Aros am gadarnhad o ffioedd rhyngwladol.

Talu ffioedd dysgu

Gallwch dalu eich ffioedd dysgu mewn un o'r ffyrdd canlynol:

  • talu'n llawn cyn neu ar ôl cofrestru
  • gallwch dalu un rhan o dair cyn neu ar ôl cofrestru, ac wedyn talu un rhan o dair o'r ffi ar 28 Chwefror a 28 Mai.

Am ragor o wybodaeth am dalu ffioedd, gweler ein tudalennau myfyrwyr newydd.

Statws ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

Mae statws ffioedd dysgu'n cael eu penderfynu yn ystod cyfnod prosesu ceisiadau, felly nid ydym yn gallu cadarnhau hyn o flaen llaw na chynghori am benderfyniadau statws ffioedd.

Os ydych yn ansicr o statws eich ffioedd, dylech gyfeirio at ein egwyddorion arweiniol o asesu ffioedd. (Nodwch, mae'r ddogfen ar gael yn Saesneg yn unig)