Ffioedd dysgu ôl-raddedig ar gyfer dechrau astudio yn 2019
Mae ffioedd ôl-raddedig yn dibynnu ar y cwrs, modd a lefel o astudio.
Rhagor o wybodaeth os oes angen i chi dalu blaendal tuag at eich ffioedd dysgu er mwyn diogelu eich lle astudio.
Ffioedd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir
Ar gyfer ffioedd cwrs ôl-raddedig a addysgir, gweler cofnod y cwrs unigol.
Myfyrwyr rhan-amser
Oni nodir yn wahanol, mae'r ffioedd rhan-amser yn cynrychioli'r gost ar gyfer un flwyddyn astudio. Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol. Felly, i gael amcangyfrif bras o gyfanswm y gost, dylech luosi’r ffioedd â nifer y blynyddoedd o astudio.
Myfyrwyr parhaus
Mae'r ffioedd a restrir ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2019/20. Gall ffioedd ar gyfer myfyrwyr parhaus fod yn wahanol. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Modiwlau unigol
Ffioedd ar gyfer modiwlau unigol ar gyfer mynediad 2019:
Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Ffioedd Dysgu ar gyfer Modiwlau Ôl-raddedig a Addysgir 2019/20
Mae'r tabl hwn yn rhestru'r ffioedd ar gyfer modiwlau ôl-raddedig a addysgir ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Blaendaliadau
Ar gyfer rhagor o wybodaeth am blaendaliadau, gweler ein tudalen blaendaliadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd i raglenni'r Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Deintyddiaeth dalu blaendal o £1,000, ac eithrio cyrsiau Clinigol Deintyddol a MSc Dermatoleg Glinigol sydd angen blaendal o £5,000.
Am ragor o wybodaeth, gweler y wybodaeth am flaendal ôl-raddedig. Bydd ymgeiswyr i gyrsiau yn y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol, yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn amodol i broses blaendal ar wahân a fydd gwybodaeth am hyn yn cael ei gyfathrebu ar wahân gan y Ganolfan.
Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw
Bydd ffioedd safonol ar gyfer myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk ar gyfer eich ffioedd cwrs penodol.
Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw | Ffioedd dysgu amser llawn (£) y flwyddyn | Ffioedd dysgu rhan-amser (£) y flwyddyn |
---|---|---|
Cyrsiau'r Celfyddydau | 9,000 | 4,500 |
Cyrsiau'r Gwyddorau | 10,500 | 5,250 |
Cyrsiau Clinigol | 24,675 |
Ffioedd ymchwil ôl-raddedig
Nodwch, mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Name | Type | Last updated |
---|---|---|
PGR home EU fees 19-20 Welsh version 2 220219 | 19/11/2018 | |
Postgraduate research international fees 2019/20 | 19/11/2018 |
Talu ffioedd dysgu
Gallwch dalu eich ffioedd dysgu mewn un o'r ffyrdd canlynol:
- Talu'n llawn cyn neu ar ôl cofrestru
- Talu trwy ddebyd uniongyrchol mewn tri rhandaliad (fel arfer yn daladwy ym mis Tachwedd, Ionawr ac Ebrill), neu mewn un rhandaliad os yw'r swm yn £300 neu lai.
- Os nad ydyw debyd uniongyrchol yn ddewis, gallwch dalu un rhan o dair cyn neu ar ôl cofrestru, ac wedyn talu un rhan o dair o'r ffi ym mis Ionawr ac Ebrill.
Am ragor o wybodaeth am dalu ffioedd, gweler ein tudalennau myfyrwyr newydd.
Staws ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Mae statws ffioedd dysgu'n cael eu penderfynu yn ystod cyfnod prosesu ceisiadau, felly nid ydym yn gallu cadarnhau hyn o flaen llaw na chynghori am benderfyniadau statws ffioedd.
Os ydych yn ansicr o statws eich ffioedd, dylech gyfeirio at ein egwyddorion arweiniol o asesu ffioedd. (Nodwch, mae'r ddogfen ar gael yn Saesneg yn unig)
Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.