Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir

Dewch o hyd i'r ffioedd ar gyfer ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir, ynghyd â manylion am dalu blaendal.

Ffioedd

Cyrsiau ôl-raddedig amser llawn a addysgir'

Ar gyfer ffioedd cwrs ôl-raddedig a addysgir, gweler cofnod y cwrs unigol, oni bai eich bod yn fyfyriwr sy'n parhau neu'n astudio modiwl annibynnol.

Myfyrwyr rhan-amser

Oni nodir yn wahanol, mae'r ffioedd rhan-amser yn cynrychioli'r gost ar gyfer un flwyddyn astudio. Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol. Felly, i gael amcangyfrif bras o gyfanswm y gost, dylech luosi’r ffioedd â nifer y blynyddoedd o astudio.

Myfyrwyr parhaus

Mae'r ffioedd a restrir ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2021/22. Gall ffioedd ar gyfer myfyrwyr parhaus fod yn wahanol. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Modiwlau unigol

Porwch drwy'r ffioedd ar gyfer modiwlau annibynnol yn ôl Ysgol Academaidd.

Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw

Bydd ffioedd safonol ar gyfer myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk ar gyfer eich ffioedd cwrs penodol.

Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys ManawFfioedd dysgu amser llawn (£) y flwyddynFfioedd dysgu rhan-amser (£) y flwyddyn
Cyrsiau'r Celfyddydau£9,000£4,500
Cyrsiau'r Gwyddorau£10,500£5,250
Cyrsiau Clinigol£24,675£12,338

Blaendaliadau

Ar gyfer rhagor o wybodaeth am blaendaliadau, gweler ein tudalen blaendaliadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd i raglenni'r Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Deintyddiaeth dalu blaendal o £1,000, ac eithrio cyrsiau Clinigol Deintyddol a MSc Dermatoleg Glinigol sydd angen blaendal o £5,000.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich ffioedd dysgu, cysylltwch â ni:

Ymholiadau ffioedd dysgu