Ewch i’r prif gynnwys

Addysg Feddygol

Gellir astudio ein modiwlau e-ddysgu Cyfryngau a Thechnolegau Addysgol ac Asesu Dysgu sy’n rhan o’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol ar eu pennau eu hunain neu fel cyrsiau unigol.

Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at bortffolio eich datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol ichi, ond nid diben y modiwlau annibynnol a restrir yma yw gweithio tuag at gymhwyster penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio sy'n arwain at ddyfarniad a enwir, edrychwch ar ein MSc a PgDip Addysg Feddygol.

Byddant yn gwella eich dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau addysgol ac yn gwella eich gallu i’w rhoi yn eu cyd-destun. Bydd y cyrsiau'n apelio at oruchwylwyr addysgol, goruchwylwyr clinigol a hyfforddwyr, yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am brofiad achrededig o ansawdd mewn maes penodol.

Caiff pob cwrs ei hwyluso gan diwtoriaid ar-lein ac mae'n cynnwys trafodaethau rhyngweithiol gyda myfyrwyr eraill. Gellir cyfri’r pwyntiau CATS o’r cyrsiau byr hyn tuag at y cyfanswm o 60 CATS sy'n ofynnol ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig. Rhaid defnyddio'r pwyntiau CATS o fewn tair blynedd.

Dull Asesu

  • Ffurfiannol: adborth gan diwtor a chymheiriaid
  • Crynodol: asesiad – llunio llyfr gwaith rhyngweithiol a chyfiawnhau rhesymeg.

Nod

Rhoi'r sgiliau i chi allu dylunio, datblygu a dadansoddi cyfryngau a thechnolegau addysgol yn feirniadol er mwyn gwella'r broses ddysgu.

  • egwyddorion dylunio addysgol
  • dulliau ymarferol
  • datblygu adnoddau dysgu
  • arloesiadau technegol mewn addysg glinigol

Y deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl, byddwch yn gallu:

  • dadansoddi'n feirniadol priodoldeb addysgol a thechnolegol gwahanol fathau o gyfryngau a thechnolegau addysgol
  • dewis cyfryngau cyfarwyddiadol ar gyfer tasgau dysgu priodol drwy ystyried egwyddorion addysgol a thechnolegol perthnasol
  • cymhwyso damcaniaethau addysgol i ddyluniad amrywiaeth o gyfryngau cyfarwyddiadol er mwyn cyflwyno negeseuon addysgol yn effeithiol

Dulliau dysgu ac addysgu

  • amrywiaeth o weithgareddau testun ac mewn grwpiau ar-lein, er enghraifft
    • sesiynau grŵp trafod i ddadansoddi egwyddorion cynllunio cyfryngau a’u defnydd
    • Darllen y llyfryddiaeth ar theori cynllunio cyfryngau, ymchwil ac arferion da
    • aseiniad ymarferol

Cynnwys dangosol:

  • Cyfryngau addysgol fel testun cyfarwyddiadol, sain, fideo, cyfryngu cyfrifiadurol, modelau anatomegol ac efelychwyr
  • rôl a dibenion cyfryngau addysgol
  • Dysgu theori er mwyn dylanwadu ar ddefnydd o’r cyfryngau a’r dylunio
  • Technolegau i gefnogi dysgu e.e. amgylcheddau dysgu amlgyfrwng, wedi'u rheoli, systemau ymateb myfyrwyr
  • Cynllunio a datblygu cyfryngau

Dull Asesu

  • Ffurfiannol: adborth gan diwtor a chymheiriaid
  • Crynodol: asesiad ar arferion unigol

Nod

Creu gwerthusiad beirniadol o ddiben, dyluniad, cymhwyso a dehongli ystod o ddulliau asesu sydd ar gael i addysgwyr clinigol:

  • egwyddorion a fframweithiau asesu
  • dulliau ar gyfer asesu dysgu
  • strategaethau ar gyfer gwella asesiadau yn y gweithle

Y deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl, byddwch yn gallu:

  • dadansoddi'n feirniadol y ffactorau sy'n dylanwadu ar brosesau a chanlyniadau asesu
  • gwerthuso dulliau newydd o fynd i'r afael â materion asesu penodol o fewn amgylcheddau clinigol
  • arfarnu strategaethau ar gyfer gwella dibynadwyedd a dilysrwydd gwahanol ddulliau asesu a chymhwyso strategaethau ar gyfer gwella
  • dadansoddi'n feirniadol dyluniad, defnydd a chymhwyso ystod o ddulliau asesu
  • dadansoddi dull asesu penodol mewn amgylchedd gofal iechyd, a chymhwyso egwyddorion asesu i ddatblygu a chyfiawnhau strategaethau ar gyfer gwella

Dulliau dysgu ac addysgu

  • amrywiaeth o weithgareddau testun ac rhyngweithio mewn grwpiau ar-lein
  • Gwerthuso beirniadol ar brofiadau asesu
  • Darllen y llyfryddiaeth ar theori asesu, ymchwil ac arfer da
  • astudio annibynnol a darllen

Cynnwys dangosol:

  • Math yr asesiad, swyddogaeth a’r rôl
  • Datblygu asesiadau (e.e. glasbrintio, amseru ac amlder)
  • egwyddorion asesu:
    • dilysrwydd
    • dibynadwyedd
    • effaith addysgol
    • derbynioldeb
  • Dulliau asesu:
    • asesiadau ysgrifenedig (e.e. traethodau a phrosiectau, MCQ ac EMQ)
    • Asesiadau yn y gweithle (e.e. mCEX, CbD, MSF)

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwlau unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.

Gofynion mynediad

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf dda neu gymhwyster proffesiynol neu gymhwyster arall sy'n dderbyniol i Brifysgol Caerdydd mewn disgyblaeth berthnasol.

Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf fodloni y Brifysgol.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â'n Tîm Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth Ôl-raddedig a Addysgir yn PGTMedAdmissions@caerdydd.ac.uk i gael manylion ar sut i wneud cais.

Cyllid a ffioedd

Gwiriwch ein tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.

Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir

Yr Ysgol Meddygaeth