Dadansoddi Data i’r Llywodraeth
Mae'n bleser gennym gynnig naw modiwl craidd o MSc Dadansoddi Data i’r Llywodraeth (MDataGov), sydd ar gael i astudio ar sail unigol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (CPD).
Mae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd a byddant yn ailagor ym mis Mehefin ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.
Rydym wedi datblygu'r rhaglen hon ar y cyd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r modiwlau ar gynnig yn cynnwys pedwar modiwl craidd a phum modiwl dewisol. Rhaid i fyfyrwyr DPP sy'n dymuno cronni credydau tuag at gymhwyster (naill ai Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma neu MSc llawn) astudio a phasio'r pedwar modiwl craidd cyn astudio modiwlau dewisol.
Mae'r modiwlau hyn yn addas ar gyfer y rheini sydd eisiau datblygu eu sgiliau neu eu gyrfa, ac sy'n fodlon astudio ochr yn ochr â myfyrwyr MSc rhaglen lawn yn y Brifysgol. Lluniwyd y cynnwys ar gyfer y rheini sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn y DU, er bod unrhyw un yn gymwys i wneud cais.
Ae pob modiwl yn werth naill ai 10 neu 20 credyd; ac mae'r Brifysgol yn gweithio tuag at system a fydd yn eich galluogi i gronni credydau tuag at gymhwyster ôl-raddedig dros gyfnod o amser, os hoffech wneud hynny.
Mae'r MSc hefyd ar gael fel rhaglen amser llawn dros flwyddyn.
Modiwlau craidd
Hanfodion yr Arolwg
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod MAT032)
Dyddiadau
Semester yr Hydref
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23)
Asesu
Arholiad ysgrifenedig 80% (2 awr)
Gwaith cwrs 20% (2 ddarn o waith ysgrifenedig)
Cymerir yn ganiataol y byddwch yn cyflawni'r asesiad ar gyfer y modiwl.
Disgrifiad amlinellol
Yn y modiwl hwn rydym yn cwmpasu'r hanfodion o ran ystadegau'r arolwg. Yn benodol:
- dulliau safonol o gymryd samplau gan boblogaethau meidraidd
- sut i lunio casgliadau am nodweddion poblogaethau
- amcangyfrif o gyfansymiau poblogaethau a meintiau cysylltiedig yn seiliedig ar yr arolwg
- amcangyfrif atchweliad ar gyfer modelu perthnasau rhwng newidynnau
- yr egwyddorion a'r dulliau a ddefnyddir i wneud yn iawn am ddiffyg ymateb ar ôl casglu data'r arolwg
- dulliau calibradu ar gyfer arolygon o aelwydydd
- mynegrifau.
Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni ystadegaeth Safon Uwch yn unig, adolygu rhywfaint cyn dechrau.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- amcangyfrif modd, cyfansymiau, cyfrannau, a chymarebau newidynnau poblogaethau o ddata a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau samplu safonol
- addasu amcangyfrifon i wneud yn iawn am yr effeithiau a gafodd diffyg ymateb yr uned
- calibradu i wella amcangyfrifon o arolygon o aelwydydd
- asesu addasrwydd arolwg am broblem benodol o ran amcangyfrif.
Sgiliau a gaiff eu hymarfer a'u datblygu
Dadansoddi data: casglu data gan ddefnyddio arolygon a'r amcangyfrif o newidynnau poblogaethau.
Rhesymu mathemategol: cyfrifo tebygolrwyddau ar gyfer samplu digwyddiadau.
Cynnwys y maes llafur
- amcangyfrif ar gyfer hap-samplu syml, samplu haenedig a samplu clwstwr
- atchweliad ac amcangyfrif cymhareb
- diffyg ymateb a phriodoli gwerthoedd coll
- calibradu
- mynegrifau.
Cyflwyniad
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Sylfeini Gwyddorau Data
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod CMT314)
Dyddiadau
Semester yr Hydref
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23)
Asesu
Cyfuniad o fathau o asesu a all gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau portffolio, profion dosbarth, a/neu arholiadau ffurfiol.
Disgrifiad amlinellol
- bydd y modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau gwyddor data craidd gan gynnwys dealltwriaeth o'r gwahanol fathau o ffynonellau data sydd ar gael (data gweinyddol, data arolwg, data agored, data mawr ac ati)
- sut i gasglu data, gan gynnwys dulliau casglu data arloesol, e.e. crafu'r we
- deall yr heriau o ran data heb strwythur; sut i drin gwahanol fathau o ddata
- sut i gynnal y gwaith o ddadansoddi data sylfaenol (data strwythuredig a data heb strwythur)
- a sut i gyflwyno data drwy ddelweddau data sylfaenol.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- defnyddio'r iaith rhaglennu Python i gwblhau amrywiaeth o dasgau rhaglennu
- dadansoddi a thrafod dulliau o gasglu data yn feirniadol
- echdynnu data testunol a rhifol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys o ffynonellau ar-lein
- myfyrio ar y problemau cyfreithiol, moesegol a chymdeithasol a geir mewn perthynas â gwyddor data a'i rhaglenni.
Sgiliau a gaiff eu hymarfer a'u datblygu
- rhaglennu sylfaenol mewn Python
- darllen ac Ysgrifennu fformatau data cyffredin
- dadansoddi data gan ddefnyddio llyfrgelloedd priodol.
Cynnwys y maes llafur
- rhaglennu sylfaenol mewn Python: Mathau sylfaenol o ddata, strwythurau rheoli rhaglennu, a nodweddion iaith sylfaenol
- echdynnu a mewnforio data; dadansoddi gan ddefnyddio llyfrgelloedd cyffredin (e.e. Pandas, Numpy/Scipy)
- prosesu iaith naturiol gan ddefnyddio llyfrgelloedd cyffredin (e.e. NLTK, SpaCY)
- adfer data o ffynonellau ar-lein (crafu'r we, APIs)
- rhaglenni Gwyddorau Data
- materion cyfreithiol mewn perthynas â Gwyddorau Data (GDPR)
- materion Cymdeithasol a Moesegol mewn perthynas â Gwyddorau Data.
Cyflwyniad
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Rhaglennu Ystadegol
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod CMT315)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23)
Asesu
Cyfuniad o fathau o asesu a all gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau portffolio, profion dosbarth, a/neu arholiadau ffurfiol.
Disgrifiad amlinellol
Bydd hwn yn fodiwl ymarferol, a fydd yn ystyried rhaglennu data strwythuredig a data heb strwythur yn ogystal â dadansoddiad ystadegol o'r data hwn. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi data rhifol a thestunol gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- defnyddio côd i echdynnu, storio a dadansoddi data testunol a rhifol
- cyflawni gwaith dadansoddi data a chynnal profion ystadegol gan ddefnyddio cod
- dadansoddi a thrafod dulliau casglu, monitro a storio data yn feirniadol
- dadansoddi a delweddu data testunol a rhifol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ffynonellau ar-lein.
Sgiliau a gaiff eu hymarfer a'u datblygu
- dadansoddi data gan ddefnyddio llyfrgelloedd priodol.
Cynnwys y maes llafur
- rhaglennu sylfaenol mewn Python: Mathau sylfaenol o ddata, strwythurau rheoli rhaglennu, Rhaglennu sy'n Canolbwyntio ar y Gwrthrych a nodweddion iaith sylfaenol eraill
- echdynnu a mewnforio data; dadansoddi gan ddefnyddio llyfrgelloedd cyffredin (e.e. Pandas, Numpy/Scipy)
- ystadegau disgrifiadol
- profi rhagdybiaethau
- prosesu iaith naturiol gan ddefnyddio llyfrgelloedd cyffredin (e.e. NLTK, SpaCY)
- adfer data o ffynonellau ar-lein (crafu'r we, APIs).
Cyflwyniad
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Ystadegau mewn Llywodraeth
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod SIT760)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23)
Asesu
Asesir y modiwl byr hwn drwy un arholiad sy’n para dwy awr, lle bydd myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn arholiad.
Disgrifiad amlinellol
Mae’r modiwl hwn yn rhoi trosolwg o faterion a syniadau ynghylch cwmpas a threfn Ystadegau Swyddogol, yn ogystal â’r prosesau a’r cynhyrchion o dan sylw.
Mae’r modiwl yn rhoi sylfaen gyffredinol ar gyfer yr astudiaeth fanylach o’r elfennau hyn ac mae’n nodi cysylltiadau â disgyblaethau perthnasol eraill.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, dylech allu gwneud y canlynol:
- Gwerthuso System Ystadegol a Chod Ymarfer y DU yn feirniadol
- Dangos dealltwriaeth glir o reoli ansawdd, lledaenu gwybodaeth a materion moesegol sy'n berthnasol i'r gwaith o gynhyrchu a rheoli ystadegau swyddogol
Sgiliau a gaiff eu hymarfer a'u datblygu
Cewch drosolwg cyffredinol o’r materion sylfaenol sydd wrth wraidd y gwaith o drefnu ystadegau swyddogol, a byddwch yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon wrth drafod manteision cymharol dulliau amgen.
Pynciau gorfodol
- Trosolwg o bwysigrwydd ystadegau, polisïau a dibenion gweinyddol
- Hanes datblygiad ystadegau swyddogol yn DU
- Deddfwriaeth ystadegol
- Ansawdd
- Moeseg
- Lledaenu gwybodaeth
Cyflwyniad
Caiff yr addysgu ei wneud drwy ddarlithoedd a seminarau rhyngweithiol.
Cyflwynir y modiwl hwn drwy gymysgedd o weithgareddau cydamserol ac anghydamserol, a all gynnwys addysgu a chymorth ar y campws ac ar-lein.
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Bydd hefyd ‘oriau swyddfa’ rhithwir rheolaidd pan fydd cynullwyr y modiwl ar gael.
Modiwlau dewisol
Cronfeydd Data a Modelu
Credydau
Modiwl 20 credyd (cyfeirnod CMT220)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£1,140 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23)
Asesu
Cyfuniad o fathau o asesu a all gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau portffolio, profion dosbarth, a/neu arholiadau ffurfiol.
Disgrifiad amlinellol
Systemau cronfa ddata yw'r systemau meddalwedd a ddefnyddir fwyaf eang mewn masnach a diwydiant. Defnyddir systemau rheoli cronfa data i storio a rheoli adnoddau gwybodaeth integredig cymhleth sefydliadau. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r materion damcaniaethol ac ymarferol sy'n ymwneud â dylunio a defnyddio'r systemau hyn. Yn ogystal â darparu sylfaen gadarn mewn systemau cronfa ddata ail genhedlaeth draddodiadol, mae'n archwilio cynrychiolaeth a rheolaeth adnoddau gwybodaeth gymhleth gyda thechnoleg cronfa ddata NoSQL.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r Modiwl yn llwyddiannus, dylech allu:
- dylunio cronfa ddata berthynol, h.y. mapio modelau cysyniadol i gynrychioliadau effeithlon mewn cynlluniau cronfa ddata
- rheoli systemau cronfa ddata berthynol
- defnyddio SQL i ddiffinio ac ymholi cronfa ddata berthynol
- trafod a gwerthuso egwyddorion cyfanrwydd data, diogelwch a rheoli mynediad cydamserol
- modelu a rheoli gwybodaeth gan ddefnyddio ieithoedd arwyddnodi
- disgrifio a gwerthuso'r egwyddorion y tu ôl i fathau eraill o systemau rheoli cronfa ddata, er enghraifft NoSQL.
Sgiliau y byddwch chi'n eu hymarfer a'u datblygu
- deall rôl gwybodaeth wrth wneud penderfyniadau
- dylunio cronfeydd data perthynol (gan gynnwys dylunio cysyniadol, dylunio rhesymegol, dylunio ffisegol)
- gwerthuso materion sy'n ymwneud â chymwysiadau cronfa ddata, gan gynnwys diogelwch a chyfanrwydd data
- modelu gwybodaeth gan ddefnyddio ieithoedd arwyddnodi (XML a JSON)
- ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethau rhwng cronfeydd data perthynol a chronfeydd data NoSQL
- cynnwys y maes llafur
- cyflwyniad i gronfeydd data
- data a gwybodaeth
- systemau cronfa ddata
- model data perthynol
- iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL)
- algebra perthynol
- dylunio cronfeydd data
- dylunio cronfa ddata gysyniadol (diagramau ER)
- dylunio cronfa ddata mewn modd rhesymegol (ER i SQL)
- dylunio cronfa ddata ffisegol (mynegeion)
- diogelwch, trafodion a chydamseredd
- diogelwch a chyfanrwydd
- trafodion ac adferiad
- rheoli cydamseredd
- ieithoedd arwyddnodi a chronfeydd data NoSQL
- XML, XPath a XQuery
- JSON
- NoSQL.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Delweddu Data
Credydau
Modiwl 20 credyd (cyfeirnod CMT218)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£1,140 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23)
Asesiad
Cyfuniad o fathau o asesu a all gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau portffolio, profion dosbarth, a/neu arholiadau ffurfiol.
Disgrifiad amlinellol
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i chi o'r prosesau a'r offer sy'n ofynnol i greu dulliau delweddu rhyngweithiol ac esboniadau o ddata. Bydd y modiwl yn caniatáu i chi werthfawrogi'n feirniadol dulliau delweddu cywir, a nodi dehongliadau unochrog. Bydd yn cwmpasu'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol i greu dulliau delweddu gan ddefnyddio offer fel Python a JavaScript, tra hefyd yn archwilio'r theori dylunio sy'n ofynnol.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r Modiwl yn llwyddiannus, dylech allu:
- disgrifio a thrafod y theori y tu ôl i ddylunio delweddu
- dadansoddi dulliau delweddu data yn feirniadol
- archwilio data i ddod o hyd i'r ffordd orau y gellir ei gynrychioli'n weledol
- creu dulliau delweddu data statig, rhyngweithiol wedi’u hanimeiddio.
- myfyrio'n feirniadol a thrafod rhinweddau a diffygion eu gwaith delweddu eu hunain
Sgiliau y byddwch chi'n eu hymarfer a'u datblygu
- defnyddio offer priodol ar gyfer dadansoddi a delweddu data
- gwneud dadansoddiad beirniadol o ddulliau delweddu
- JavaScript a Python ar gyfer cyrchu data, trin, dadansoddi ystadegol a dulliau delweddu.
Cynnwys y maes llafur
- Theori Amgodio
- theori dulliau delweddu
- hanes dulliau delweddu
- tueddiadau cyfredol mewn dulliau delweddu
- defnyddio offer meddalwedd priodol a llyfrgelloedd ar gyfer dadansoddi a delweddu data
- Python: Pandas, Scipy, Numpy, Matplotlib, Seaborn, Altair, Bokeh
- JavaScript: D3, Plotly, Highcharts
- adalw a storio data (JSON, csv) gan ddefnyddio JavaScript a Python
- datblygiad dulliau delweddu.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Ystadegau ac Ymchwil Weithredol yn y Llywodraeth
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod MAT007)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
Arholiad ysgrifenedig 100%.
Disgrifiad amlinellol
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyriwr i'r ffyrdd y mae Ystadegau ac Ymchwil Weithredol yn cael eu defnyddio o fewn y Llywodraeth. Bydd yn cael ei addysgu'n bennaf gan staff o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), ac felly bydd yn rhoi mewnwelediad hynod ddiddorol i rolau Ystadegwyr ac Ymchwilwyr Gweithredol yn y sefydliadau hyn. Mae'r Llywodraeth yn gyflogwr mawr o raddedigion mewn Ystadegau/Ymchwil Weithredol, ac felly mae'r modiwl hwn yn darparu hyfforddiant rhagorol i fyfyrwyr sy'n ystyried gyrfa yn y Llywodraeth neu i'r rhai sy'n ymddiddori mewn pa fathau o ddulliau y mae SYG a LlCC yn eu defnyddio i'w cynorthwyo i gynhyrchu dadansoddiadau ac adroddiadau pwysig.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r Modiwl yn llwyddiannus, dylech allu:
- gwerthfawrogi'r ffyrdd y mae Ystadegau ac Ymchwil Weithredol yn cael eu defnyddio o fewn y Llywodraeth
- deall y dulliau a ddefnyddir wrth gynnal arolygon a defnyddio setiau data mawr
- gwerthfawrogi natur dangosyddion ystadegol allweddol a gynhyrchir gan y Llywodraeth ynghyd â’r amryw adroddiadau.
Cynnwys y maes llafur
Sesiwn 1 - Sesiwn Ragarweiniol
Bydd y sesiwn gyntaf hon yn rhoi trosolwg o ystadegau'r llywodraeth i’r cyfranogwyr. Mae'n ymdrin â'u pwrpas a'u defnyddiau allweddol, rhai cyfresi ystadegol allweddol mawr a'r cyfuniad o ddata gweinyddol ac arolwg a ddefnyddir. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â strwythur a llywodraethiant y GSS, gan gynnwys deddfwriaeth a Chôd Ymarfer.
Sesiwn 2 - Dylunio Holiadur
Sesiwn ragarweiniol yw hon ar ddylunio holiadur. Y nod yw helpu cyfranogwyr i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae arolygon yn cael eu cynllunio a pham mae dyluniad yn bwysig i broses yr arolwg. Bydd y sesiwn yn ymdrin ag egwyddorion dylunio cyffredinol ar gyfer cwestiynau, categorïau ymateb, cyfarwyddiadau, arweiniad a dyluniad cyffredinol yr holiadur. Ymdrinnir hefyd â phwysigrwydd a dulliau profi cwestiynau/holiaduron.
Sesiwn 3 - Golygu a phriodoli (imputation)
Yn gyffredinol mae ystadegau swyddogol y DU yn deillio o ddata arolwg, yn aml yn seiliedig ar samplau mawr o bobl neu fusnesau. Yn ymarferol, mae'n amhosibl casglu data arolwg sy'n gyflawn a heb gamgymeriad. Nod y broses olygu yw nodi a chywiro gwallau yn y data. Nod technegau golygu modern yw gwneud y gorau o'r broses hon trwy olygu mor effeithlon â phosibl wrth gynnal cywirdeb yr ystadegau sy'n deillio o hynny. Mae priodoli yn delio â phroblem ymatebion anghyflawn ac ar goll trwy amcangyfrif eu gwerthoedd disgwyliedig. Os caiff ei gymhwyso'n iawn, mae priodoli yn lleihau'r bygythiad o ragfarn heb ymateb. Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r prif ddulliau o olygu a phriodoli a ddefnyddir mewn ystadegau swyddogol gydag enghreifftiau sy'n ymwneud â Chyfrifiad y boblogaeth ac ystadegau economaidd a chymdeithasol allweddol.
Sesiwn 4 - Rhifau Mynegai
Mae rhifau mynegai yn ffordd gyffredin iawn o gyflwyno ystadegau. Enghreifftiau proffil uchel iawn yw GDP a'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Yn sail i fynegeion pwysig o'r fath mae rhai cysyniadau a heriau diddorol, a bydd y sesiwn hon yn ymdrin â'r modd yr ymdrinnir â'r rhain mewn theori ac yn ymarferol.
Sesiwn 5 - Paru data
Mae dyfodiad cyfrifiaduron pwerus wedi arwain at ddatblygiadau mawr wrth brosesu a dadansoddi gwybodaeth, ac mae llawer o sefydliadau bellach yn cynnal nifer fawr o setiau data mewn cronfeydd data helaeth neu warysau data. Mewn sectorau fel cyllid a gofal iechyd, cynhyrchir llu o ddata fel sgil-gynhyrchion gweithgareddau a phrosesau o ddydd i ddydd, ond gall llawer o'r wybodaeth hon fod yn anodd ei harneisio mewn ffordd ystyrlon.
Mae paru data yn dechneg sy'n hwyluso cysylltu gwybodaeth o wahanol ffynonellau data, gan ei gwneud hi'n bosibl creu setiau data rhithwir newydd cyfoethog sy'n cynnwys meysydd data a gymerwyd o nifer o setiau data presennol; setiau data a fyddai wedi cael eu dadansoddi ar wahân o’r blaen. Mantra paru data yw bod “y cyfan yn well na chyfanswm y rhannau”, a thrwy ddod â setiau data a oedd gynt yn wahanol ynghyd, rydym yn gallu ychwanegu gwerth, er enghraifft yn y gallu i astudio perthnasoedd anhysbys hyd yn hyn rhwng setiau o newidynnau.
Cyflwyno
20 awr o ddarlithoedd, gweithdai ymarferol ac astudiaethau achos.
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Sylfeini Ystadegau a Gwyddor Data
Credydau
Modiwl 20 credyd (cyfeirnod MAT022)
Dyddiadau
Semester yr Hydref
Cost
£1,140 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
Arholiad ysgrifenedig 100%.
Disgrifiad amlinellol
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno ystod o syniadau ystadegol sylfaenol. Nod eang y modiwl yw darparu:
- dealltwriaeth o'r syniadau mathemategol sy'n sail i rai dulliau ystadegol sylfaenol
- hyfedredd wrth wneud dadansoddiad data ymarferol gan ddefnyddio meddalwedd ystadegol
- y gallu i gyfleu canlyniadau dadansoddi data trwy adroddiad ysgrifenedig.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r Modiwl yn llwyddiannus, dylech allu:
- llunio problemau sy'n cynnwys ansicrwydd o fewn fframwaith theori tebygolrwydd
- deall yr amodau ar gyfer defnyddio amrywiol ddulliau ystadegol
- crynhowch set ddata gan ddefnyddio ystadegau disgrifiadol
- cyfrifo cyfyngau hyder a pherfformio profion damcaniaeth
- nodi ffynonellau amrywiad mewn data
- gosod modelau llinellol ar ddata a gwerthuso cywirdeb y modelau hyn
- dewis newidynnau a lleihau dimensiynau
- ysgrifennu adroddiadau technegol i gyfleu canlyniadau gweithdrefnau dadansoddi data.
- dulliau amharametrig.
Cynnwys y maes llafur
- tebygolrwydd elfennol
- ystadegau disgrifiadol
- amcangyfrif
- profi rhagdybiaethau
- data categori
- cyfatebiaeth
- dadansoddiad o amrywiant
- atchweliad
- dadansoddiad o'r prif gydrannau.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Cyfres Amser a Rhagfynegi
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod MAT005)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
100% gwaith cwrs.
Disgrifiad amlinellol
Defnyddir dulliau rhagfynegi mewn ystod o ddiwydiannau ac maent yn offer pwysig i Ystadegwyr ac Ymchwilwyr Gweithredol. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i fodelau cyfres amser a dulliau rhagfynegi cysylltiedig. Bydd yn dangos sut y gellir gweithredu modelau a dulliau o'r fath i ddadansoddi data cyfresi amser, ac i fyfyrwyr werthfawrogi gwahanol feysydd cymwysiadau. Bydd gweithdai cyfrifiadurol yn caniatáu i fyfyrwyr adeiladu ac arbrofi ag offer rhagfynegi ymarferol gan ddefnyddio data o amrywiaeth o gymwysiadau.
Amcanion
Ar ôl cwblhau’r Modiwl yn llwyddiannus, dylech allu:
- gosod modelau ar gyfer data o amrywiaeth fawr o ffynonellau
- gwerthfawrogi a defnyddio dulliau modern o ddehongli ystadegol
- rhagfynegi gan ddefnyddio ystod o ddulliau, gan gynnwys dulliau llyfnhau esbonyddol a modelau ARMA ac ARIMA.
Cynnwys y maes llafur
- modelau cyfres amser: dadelfennu, dadansoddi a dileu tueddiadau a natur dymhorol
- dulliau llyfnhau esbonyddol: dulliau esbonyddol sengl, Holt a Holt-Winters
- modelau ymatchwelaidd, cyfartalog symudol ac ARMA
- cyfres ansafonol - modelau ARIMA. Rhagfynegi gan ddefnyddio modelau ARIMA.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, dnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- Sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- Sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Dysgu Peirianyddol Cymhwysol
Credydau
Modiwl 20 credyd (cyfeirnod CMT307)
Dyddiadau
Semestrau’r hydref a’r gwanwyn. Mae'r modiwl hwn yn digwydd dros y ddau semester.
Cost
£1,140 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
Cyfuniad o fathau o asesu a all gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau portffolio, profion dosbarth, a/neu arholiadau ffurfiol.
Disgrifiad amlinellol
Mae dysgu peirianyddol yn ymwneud ag astudio dulliau ar gyfer datblygu rhaglenni cyfrifiadurol sy'n gallu dysgu o enghreifftiau neu brofiad blaenorol. Mae dysgu peirianyddol wrth wraidd llawer o'r llwyddiannau diweddar ym maes deallusrwydd artiffisial – mae wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu ceir sy’n gyrru eu hunain, cynorthwywyr digidol a pheiriannau chwilio, i enwi ond ychydig o bethau.
Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i ddysgu peirianyddol. Bydd yn rhoi sylw i ddulliau traddodiadol, fel coed penderfynu a pheiriannau fectorau cymorth, a thechnegau mwy diweddar sy’n seiliedig ar rwydwaith niwral.
Canolbwyntir yn bennaf ar agweddau ar ddysgu peirianyddol sy’n rhoi sylw mawr i’w ddefnydd, fel sut i ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol allweddol, sut i ddewis pa dechneg i'w defnyddio mewn sefyllfa benodol, sut i rag-brosesu data a sut i werthuso perfformiad system dysgu peirianyddol.
Yn ogystal â'r pynciau technegol hyn, bydd y modiwl hefyd yn rhoi sylw i rai ystyriaethau moesegol pwysig, gan gynnwys sut y gall y dewis o ddata hyfforddi arwain at ragfarnau dieisiau wrth ddefnyddio dysgu peirianyddol yn y byd go iawn.
Amcanion
- Defnyddio a gwerthuso dulliau dysgu peirianyddol i ddatrys problem benodol
- Esbonio'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i ddulliau dysgu peirianyddol cyffredin
- Dewis dull dysgu peirianyddol a strategaeth rhag-brosesu data sy’n briodol i sefyllfa benodol
- Ystyried pa mor bwysig yw cynrychiolaeth data i sicrhau llwyddiant dulliau dysgu peirianyddol
- Gwerthuso'n feirniadol y goblygiadau moesegol a'r risgiau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â defnyddio dulliau dysgu peirianyddol
- Esbonio natur, cryfderau a chyfyngiadau techneg dysgu peirianyddol sy’n cael ei defnyddio
Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu
- Defnyddio offer dysgu peirianyddol a manteisio ar lyfrgelloedd presennol lle bo’n briodol
- Asesu potensial a chyfyngiadau technoleg dysgu peirianyddol
- Rhannu gwybodaeth am brosiect dysgu peirianyddol mewn ffordd effeithiol (e.e. adroddiad neu gyflwyniad)
Ystyried pa offer sy'n briodol i ba gyd-destun a beth yw'r goblygiadau moesegol, cymdeithasol neu economaidd posibl.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, dnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- Sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- Sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Cyfrifiadura Gwasgaredig a Chwmwl
Credydau
Modiwl 20 credyd (cyfeirnod CMT202)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£1,140 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
100% gwaith cwrs.
Disgrifiad amlinellol
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i ddulliau llwyddiannus o gynllunio a defnyddio systemau gwasgaredig a’r problemau sy’n codi. Yn y modiwl hwn, trafodir astudiaethau achos manwl o systemau a ddefnyddir yn helaeth.
Mae'r cwrs yn trin a thrafod: y broses o drefnu systemau gwasgaredig, gan ganolbwyntio ar y gwahanol ddulliau o saernïo systemau o’r fath; technolegau craidd ar gyfer defnyddio systemau gwasgaredig; modelau a seilwaith amrywiol i gefnogi cyfrifiadura Cwmwl, fel rhithio; a themâu sy'n dod i'r amlwg wrth ddefnyddio systemau gwasgaredig, fel goddefiant namau a hunanreolaeth awtonomig wedi’i gyrru gan bolisi.
Amcanion
- Dangos a defnyddio gwybodaeth am y dulliau diweddaraf o saernïo systemau gwasgaredig
- Gwerthuso'n feirniadol y problemau sy’n codi wrth ddosbarthu cymhwysiad ar draws rhwydwaith
- Defnyddio gwahanol fathau o ganolwedd a sylweddoli’r gwahaniaeth rhyngddynt
- Dangos a defnyddio gwybodaeth am arferion diogelwch cyffredin yn rhan o systemau gwasgaredig
- Defnyddio amgylcheddau cyfrifiadura Cwmwl
Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu
- Saernïo systemau gwasgaredig drwy ddefnyddio canolwedd lle bo'n briodol
- Cymharu gwahanol fathau o saernïaeth a'u hasesu drwy ddefnyddio metrigau priodol
- Cynllunio a defnyddio gwasanaethau mewn amgylchedd gwasgaredig
- Nodi sut i ddefnyddio cymwysiadau cyfrifiadura Cwmwl
Dylunio amlapiau a gwasanaethau sy'n goresgyn heterogenedd ac yn cefnogi gallu adnoddau gwybodaeth annibynnol i ryngweithredu.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, dnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- Sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- Sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Rhaglennu Ystadegol gydag R a Shiny
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod MAT514)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
Cyfuniad o fathau o asesu a all gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau portffolio, profion dosbarth, a/neu arholiadau ffurfiol.
Disgrifiad amlinellol
Mae'r modiwl hwn yn addysgu sut i ddefnyddio'r pecynnau ystadegol R a Shiny poblogaidd i drin, dadansoddi a chyflwyno data cymhleth yn effeithlon.
Amcanion
- Trin setiau data mawr yn effeithlon
- Dadansoddi setiau data mawr mewn sawl ffordd ystadegol
- Cyflwyno data’n effeithiol mewn ffordd sy’n apelio
Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu
Bydd y cwrs yn addysgu technegau a fydd yn galluogi myfyrwyr i drin, dadansoddi a chyflwyno data’n effeithlon. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r pecynnau ffynhonnell agored R a Shiny.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, dnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- Sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- Sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Modelu Gofal Iechyd
Credydau
Modiwl 10 credyd (cyfeirnod MAT009)
Dyddiadau
Semester y Gwanwyn
Cost
£570 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
Cyfuniad o fathau o asesu a all gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau portffolio, profion dosbarth, a/neu arholiadau ffurfiol.
Disgrifiad amlinellol
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniad o fodelu gofal iechyd ac yn ystyried modelau ar gyfer:
- Cynllunio a Rheoli Adnoddau Gofal Iechyd
- Epidemioleg a Thrin Clefydau’n Effeithiol
- Gallai enghreifftiau o fodelau gynnwys y rhai ar gyfer atal clefydau, eu canfod yn gynnar a’u trin (e.e. HIV/AIDS, diabetes ac asthma). Byddai modelau sy’n gysylltiedig ag adnoddau’n cynnwys y rhai ar gyfer cynllunio a rheoli defnydd o welyau ysbyty a llawdrinfeydd a darparu adnoddau mewn clinigau cleifion allanol ac unedau gofal critigol.
Rhoddir amlinelliad hanesyddol o ddefnydd, materion ymarferol a chyfyngiadau modelau penderfynedig a stocastig. Bydd modelau hafaliad differol, prosesau Markov a lled-Markov a thechnegau efelychu’n cael eu trafod, gan gynnwys astudiaethau achos ar bynciau amrywiol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i bwysigrwydd economeg iechyd ar y cyd â modelau ymchwil gweithrediadol – er enghraifft, o ran cynnig modelau cost-ddefnyddioldeb a chost-effeithiolrwydd i werthuso polisi iechyd.
Drwy sesiynau labordy cyfrifiadurol, bydd myfyrwyr yn gallu datblygu a chyflwyno modelau gofal iechyd eu hunain. Nod yr uned yw annog y myfyriwr i ystyried yr hyn sy'n gwneud model yn fathemategol gadarn, manwl ac ymarferol i'w ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ym mha ffordd y gall offer o'r fath helpu i ddylanwadu ar bolisi iechyd.
Amcanion
- Gwerthfawrogi amrywiaeth o ddulliau o fodelu gofal iechyd
- Deall y broses modelu mathemategol yn y cyd-destun hwn
- Dangos ymwybyddiaeth o'r prif gysyniadau ym maes economeg iechyd a sut maent yn cael eu defnyddio i fodelu gofal iechyd
- Datblygu a chyflwyno modelau gofal iechyd
- Gwerthuso a beirniadu modelau i'w defnyddio yn y sector iechyd
- Dangos ymwybyddiaeth o’r ffyrdd gwahanol o fodelu gofal iechyd
- Gwerthfawrogi a nodi nodweddion modelau sy’n fathemategol gadarn, manwl ac ymarferol i'w defnyddio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, dnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- Sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- Sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Sylfeini Ymchwil Weithrediadol a Dadansoddeg
Credydau
Modiwl 20 credyd (cyfeirnod MAT021)
Dyddiadau
Semester yr Hydref
Cost
£1,140 (ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23).
Asesiad
Gwaith cwrs 30%
Arholiad ysgrifenedig 70%
Disgrifiad amlinellol
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o dechnegau ymchwil weithrediadol sylfaenol sy’n stocastig ac yn benderfynedig eu natur. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael profiad o ddefnyddio pecynnau meddalwedd masnachol i gefnogi eu dysgu a chysylltu dealltwriaeth ddamcaniaethol â dulliau o ddatrys problemau ymarferol.
Bydd y modiwl yn cyflwyno’r cysyniad a’r defnydd o efelychu. Bydd y gydran hon yn rhoi sylw i dechnegau efelychu Monte Carlo a digwyddiadau arwahanol, modelau efelychu dynameg system a systemau efelychu sy’n seiliedig ar oedran. Bydd gweithdai cyfrifiadurol yn cyflwyno myfyrwyr i fathau amrywiol o feddalwedd efelychu ar gyfer y dulliau gwahanol a addysgir yn y darlithoedd.
Yna, mae'r modiwl yn canolbwyntio ar raglennu llinol a chyfanrif, rhaglennu deinamig, amserlennu a hewristeg. Yn dilyn esbonio a dangos lluniau o'r dull simplecs safonol, bydd rhai o'i amrywiadau’n cael eu cyflwyno, a bydd y cysyniad o ddeuolrwydd yn cael ei egluro. Bydd dulliau ‘canghennau a cheinciau’ ar gyfer datrys problemau rhaglennu cyfanrif yn cael eu datblygu. Bydd rhaglennu deinamig yn cael ei gyflwyno i fynd i'r afael â phroblemau dilyniannol. Trafodir problemau amserlennu, a bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i nifer o algorithmau ar gyfer datblygu amserlenni effeithlon. Ar gyfer problemau cymhleth, gellir defnyddio dulliau hewristig, a bydd egwyddorion dylunio hewristeg a dulliau chwilio lleol yn cael eu hegluro.
Amcanion
- Gwybod pryd mae'n briodol defnyddio amrywiaeth o dechnegau ymchwil weithrediadol sylfaenol ar sail dealltwriaeth o'u seiliau damcaniaethol
- Datblygu modelau penderfynedig a stocastig o sefyllfaoedd go iawn drwy ddefnyddio efelychu, rhaglennu mathemategol a thechnegau optimeiddio eraill
- Defnyddio algorithmau optimeiddio i ddatrys problemau ymarferol
- Cyflwyno modelau ymchwil weithrediadol ac algorithmau drwy ddefnyddio gwahanol becynnau cyfrifiadurol masnachol
- Cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion yn gryno
Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu
- Ymchwil weithrediadol a dadansoddeg: efelychu systemau stocastig; creu a datrys problemau optimeiddio
- Rhesymu mathemategol: deall y ddamcaniaeth a'r rhagdybiaethau sy'n sail i algorithmau optimeiddio
- Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol optimeiddio ac efelychu
- Cyfathrebu’n ysgrifenedig.
Cyflwyno
Bydd yr union ddull cyflwyno a manylion y gefnogaeth a’r addysgu – gan ddibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – ar gael ar ddechrau'r semester.
Fe'ch tywysir trwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i'ch modiwl, a allai gynnwys:
- adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (ee fideos, dnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
- Sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (ee trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
- Sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (ee dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth).
Gofynion mynediad
Rhaid i chi feddu ar radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth yn y DU, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc rhifog megis mathemateg, ymchwil weithredol, ystadegau, cyfrifiadureg, gwyddor rheolaeth, economeg, peirianneg neu wyddor addas, neu brofiad proffesiynol cyfatebol.
Os ydych yn cyflwyno cais ar sail eich profiad proffesiynol yn unig, rhaid i chi fod wedi gweithio mewn rôl berthnasol am flwyddyn o leiaf. Os ydych yn ansicr a yw eich cymwysterau neu’ch profiad proffesiynol yn berthnasol, cysylltwch â'r tîm Derbyn.
Rhaid i fyfyrwyr DPP sy'n dymuno cronni credydau tuag at yr MSc (180 credyd) llawn basio 120 credyd o fodiwlau, gan gynnwys y pedwar modiwl craidd, cyn symud ymlaen i'r traethawd hir 60 credyd. Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno cronni credydau tuag at Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd) neu Ddiploma PG (120 credyd) hefyd basio'r pedwar modiwl craidd, ynghyd â modiwlau dewisol ychwanegol.
Ni chaniateir i fyfyrwyr DPP astudio mwy na 60 credyd mewn blwyddyn academaidd.
Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf fodloni ein gofynion Iaith Saesneg.
Sut i wneud cais
Mae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd a byddant yn ailagor ym mis Mehefin ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â'r tîm Derbyn i gael canllawiau pellach ar y broses ymgeisio:
Tîm derbyn
Darllenwch am sut mae'r Brifysgol yn cydweithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnig y modiwlau hyn.