Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Llawfeddygol Uwch

Mae'r modiwlau ar-lein hyn yn darparu addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno arbenigo ym maes gofal llawfeddygol ac amdriniaethol (perioperative).

Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at eich portffolio datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol i chi, ond nid yw'r modiwlau unigol a restrir yma wedi'u cynllunio i adeiladu tuag at ddyfarniad penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio sy'n arwain at ddyfarniad a enwir, edrychwch ar ein MSc Ymarfer Llawfeddygol Uwch.

Mae pob modiwl unigol, 20 credyd Lefel 7, yn cael ei gynnal unwaith bob blwyddyn academaidd, a'i gynnal yn gyfan gwbl ar-lein drwy ddysgu o bell. Defnyddir amryw o ddulliau asesu ffurfiannol a chrynodol, megis: aseiniadau ysgrifenedig, datblygu wicis, blogiau, cwestiynau amlddewis, gwaith grŵp ar-lein, datblygu canllawiau a chyflwyniadau PowerPoint.

Bydd y modiwl hwn yn sicrhau eich bod yn gwybod rhagor am y broses ymchwil ac yn ei deall yn well, a hynny er mwyn i chi allu gwerthuso, cyfannu syniadau a myfyrio'n feirniadol ar dystiolaeth ymchwil unwaith eich bod yn ymarfer.

Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ofal cleifion yn ystod y cyfnod cyn llawdriniaeth. Dylid cyflawni hyn yn gyntaf, drwy gael gwybodaeth gefndirol gadarn am reoli'r cyfnod cyn y llawdriniaeth; yn enwedig yr agweddau nad ydynt yn cael eu trin yn gyffredin mewn ymarfer dyddiol. Yn ail trwy archwilio llenyddiaeth gyfredol, a fydd yn cynorthwyo i ffurfio barn ystyriol am arferion dadleuol neu draddodiadol nad ydynt yn cael eu hategu gan dystiolaeth.

Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i werthuso'r prosesau asesu a gwerthuso cleifion ac ymyriadau/rheolaeth ar ôl llawdriniaeth. Mae hyn yn cynnwys dysgu am y defnydd o theori ac ymchwil ffisiolegol a seicolegol i fynd i'r afael ag effaith y straen ar y corff ar ôl cael llawdriniaeth a llunio cynlluniau rheoli priodol.

Dyddiadau

6 Mawrth - 15 Mai 2023

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i chi ymchwilio i faterion rheoli mewn amgylchedd gofal iechyd, a'u gwerthuso.

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylech allu myfyrio ar theori rheoli a chyfuno i gefnogi ymarfer clinigol. Dylech hefyd allu gwerthuso effaith theori newid wrth gydnabod ffyrdd o optimeiddio integreiddio gwahanol ffyrdd o weithio a newid ac asesu effaith strategaethau rheoli gofal iechyd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar ofal cleifion, cynllunio strategol a chanlyniadau gwaith staff.

Dyddiadau

21 Awst 21 – 30 Hydref 2023

Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i adolygu materion sydd o ddiddordeb neu yr hoffech ddysgu rhagor amdanynt. Byddwch yn derbyn amrywiaeth o bynciau modiwl ond dim ond un cwestiwn aseiniad y bydd angen i chi ei ateb. Bydd y pynciau hyn yn eich galluogi i ymchwilio i sut y gall gofal amlawdriniaethol newid mewn perthynas â chyflwr sylfaenol y claf.

Dyddiadau

13 Tachwedd 2023 – 22 Ionawr 2024

Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i faterion proffesiynol mewn amgylchedd gofal iechyd, a'u gwerthuso, mewn perthynas ag ymarfer llawfeddygol. Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r myfyriwr allu cyflawni amrywiaeth o dasgau sy'n cynnwys gwerthuso sut mae mater ymarfer proffesiynol yn effeithio ar ddewis a rheolaeth cleifion; gwerthuso sut mae mater ymarfer proffesiynol yn effeithio ar benderfyniadau a dewisiadau rheoli gweithwyr gofal iechyd; syntheseiddio'r safbwyntiau damcaniaethol i lywio ymarfer.

Dyddiadau

4 Chwefror – 15 Ebrill 2024

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwl unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gyfer cwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hyn yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn neu rannol, gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau ai peidio.

Gofynion mynediad

Yn ogystal â bodloni gofynion mynediad y Brifysgol, yn cynnwys gofynion o ran Saesneg, mae'n rhaid bod ymgeiswyr:

  • yn meddu ar gymhwyster mewn pwnc clinigol perthnasol
  • yn gweithio ar hyn o bryd mewn maes clinigol perthnasol gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad yn y maes.

Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â'n Tîm Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth Ôl-raddedig a Addysgir yn PGTMedAdmissions@caerdydd.ac.uk i gael manylion ar sut i wneud cais.

Cyllid a ffioedd

Edrychwch ar ein tudalennau ffioedd i weld ffioedd dysgu’r rhaglenni hyn.

Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir

Yr Ysgol Meddygaeth