Cyrsiau rhan amser a dysgu o bell i ôl-raddedigion

Rydym yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig rhan amser yn ogystal â chyrsiau dysgu o bell a dysgu cyfunol. Mae'r rhain yn ddelfrydol os ydych angen cydbwyso astudio gydag ymrwymiadau proffesiynol, ariannol neu deuluol.
Cyrsiau rhan amser
Mae nifer o’n hysgolion academaidd yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig rhan amser. Maent yn cynnig mwy o hyblygrwydd a llwyth gwaith llai dwys, er eu bod yn cynnig yr holl fuddion a chefnogaeth a gaiff myfyrwyr amser llawn o hyd.
Mae astudio'n rhan amser yn wych i fi gan fod hyblygrwydd y modiwlau'n caniatáu gwell cydbwysedd rhwng y byd academaidd ac amserlen waith brysur. Mae rhannu'r cwrs dros ddwy flynedd yn golygu bod gen i amser i feddwl am fy maes ymchwil PhD a llunio cynnig cryf.
Hyd astudio
Fel arfer, mae cyrsiau rhan amser ddwywaith hyd y cwrs amser llawn cyfatebol. Byddwch yn astudio union yr un modiwlau â’r cwrs amser llawn, ond yn arafach i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw.
Ffioedd i fyfyrwyr ôl-raddedig rhan amser
Mae’r ffioedd wedi’u rhannu’n gyfartal dros gyfnod eich cwrs. Mae ffioedd rhan amser wedi’u nodi gyda disgrifiad pob cwrs.
Cadwch mewn cof mai’r ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol neu’r un sydd i ddod sydd yn cael eu nodi fel arfer, ac nid ar gyfer cyfnod cyfan y cwrs o reidrwydd.
Dysgu o bell
Rydym yn cynnig rhaglenni hyblyg ar-lein i fyfyrwyr ôl-raddedig ledled y byd. Mae ein rhaglenni dysgu dynamig yn eich galluogi chi i astudio gyda ni waeth ble rydych chi'n byw, ochr yn ochr â'ch gwaith neu ymrwymiadau eraill.
Rydym yn cynnig nifer o raglenni ar-lein arloesol sy’n cynnwys ystod eang o feysydd pwnc. O safbwynt academaidd, mae ein rhaglenni ar-lein yn gyfwerth â chymwysterau a enillir trwy ddysgu wyneb yn wyneb, ac rydym yn cyflwyno addysgu ar-lein yr un mor ddifrifol ag addysgu ar y campws.
Bydd y tîm academaidd profiadol a’ch tiwtor personol yn sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi ym mhob agwedd ar eich profiad myfyriwr.
Ein cymuned e-ddysgu
Mae ein cyrsiau dysgu o bell yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio mewn man cyfleus ar adeg, cyflymdra a dwyster sy’n addas i chi. Byddwch yn gallu defnyddio ein hystod ragorol o adnoddau ar-lein a bod yn rhan o’n cymuned e-ddysgu sy’n ffynnu.
Mae’r gymuned yn dod â myfyrwyr a thiwtoriaid o bedwar ban byd ynghyd ac yn eich galluogi i fwynhau profiad Caerdydd ni waeth ble rydych yn byw.
Dysgu cyfunol
Cynigir rhai o’n rhaglenni gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol, sy’n cyfuno dulliau dosbarth wyneb yn wyneb â gweithgareddau cyfryngu drwy gyfrifiadur neu ddarpariaeth ar-lein.
Mae dysgu cyfunol yn ffordd fwyfwy poblogaidd o astudio cymhwyster ôl-raddedig, gan ei fod yn cynnig y cydbwysedd cywir rhwng dysgu ar-lein a manteision traddodiadol dysgu wyneb yn wyneb.
Dulliau dysgu
Mae’r dulliau dysgu ar gyfer rhaglen dysgu cyfunol yn amrywio yn ôl gofynion pob rhaglen benodol. Fel arfer, bydd y rhan fwyaf o’r dysgu yn digwydd ar-lein, gyda’r cyfle i fynd i sesiynau wyneb yn wyneb ar ddechrau bloc addysgu.
Chwiliwch ein cyrsiau i weld pa rai sy'n cynnig yr opsiynau astudio hyblyg hyn.
Ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr y DU yn dechrau cwrs gradd Meistr yn Medi 2023.