Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru (MSc Econ)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Gallwch gael mewnwelediad a dealltwriaeth o’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru ar ôl datganoli.
Dangoswch eich gwybodaeth
Dyma’r cyfle i ymgymryd ag ymchwil fanwl mewn maes sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru sydd o ddiddordeb ichi.
Defnyddio ein cysylltiadau
Byddwch chi’n elwa ar ein cysylltiadau agos â sefydliadau datganoledig Cymru yn ogystal â llywodraeth y DU a’r Alban.
Dysgwch gan ein hymchwil
Aelodau o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, y ganolfan flaenllaw sy’n astudio gwleidyddiaeth, cyfraith ac economi wleidyddol Cymru, fydd yn eich addysgu.
Edrych tu hwnt i Gymru
Cymru ryngwladol yw ein maes a byddwn yn chwilio am enghreifftiau cymharol tra’n defnyddio Cymru hefyd i ddangos tueddiadau ehangach ym maes llywodraethu byd-eang.
Oherwydd datganoli a ffactorau hanesyddol a diwylliannol unigryw, mae gwleidyddiaeth Cymru yn bwnc astudio diddorol iawn ac un sy’n datblygu’n gyflym. Ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb academaidd neu broffesiynol ym maes gwleidyddiaeth a pholisi, mae ein cwrs MSc Econ Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru yn cynnig mewnwelediad gwybodus a dealltwriaeth o’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru.
Mae’r cwrs unigryw hwn yn elwa ar y cysylltiadau agos rhwng Prifysgol Caerdydd a sefydliadau’r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.
Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i’ch helpu chi ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sefydliadau ac arferion llywodraethu yng Nghymru ar ôl datganoli. Yn ogystal â chanolbwyntio ar wleidyddiaeth a llywodraethu yng Nghymru, mae’r cwrs yn gosod y datblygiadau yng Nghymru o fewn cyd-destun ehangach y DU ac Ewrop, gan gynnig trosolwg o’r berthynas rhwng lefelau amrywiol o lywodraethu hefyd.
Mae ein rhaglen yn codi cwestiynau heriol ac yn cynnig mewnwelediad gwybodus i, a dealltwriaeth o, lywodraethu a chyfansoddiad Cymru; un sy’n seiliedig ar hanes unigryw, prosesau llunio polisïau ers datganoli a chapasiti cymdeithas sifil sy’n datblygu drwy’r amser.
Roedd y seminarau yn ddiddorol, heriol a hwyl, gyda dosbarth llawn o bobl â meddylfryd wleidyddol o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol, yn rhannu syniadau, atebion a damcaniaethau, ochr yn ochr ag addysgu rhagorol gan academyddion gwleidyddol mwyaf blaenllaw’r wlad.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as international relations, politics, English, modern languages, history, religious studies, geography, economics, psychology, sociology, social policy and journalism or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with at least 6.5 in writing and 6.0 in all other subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
The application deadline is 31 July. If you submit an application after this date, we will only consider it if places are still available.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn cymryd modiwlau gorfodol a dewisol a gynigir gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth (yn amodol ar unrhyw amodau hanfodol, gofynion llety, amserlen neu gyfyngiadau eraill a all fod yn berthnasol yn y flwyddyn benodol honno) ac yn cwblhau traethawd hir.
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno mewn dau gam. Cynhelir Cam Un (yr elfen a addysgir) dros ddwy flynedd ac mae'n cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol 15 a 30 credyd. Byddwch yn cael eich addysgu a'ch asesu yn eich modiwlau yn ystod pob semester.
Mae Cam Dau yn cynnwys y traethawd hir. Byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir ar ôl cwblhau Cam Un yn llwyddiannus.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Mae Blwyddyn Un yn cynnwys modiwlau a addysgir sydd werth hyd at 120 credyd, a gyflwynir drwy fodiwlau gorfodol a dewisol 15 a 30 credyd.
Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir 60 credyd.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae astudio ar gyfer gradd Meistr yn ddwys ac yn heriol ac mae'n bwysig eich bod yn manteisio'n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae bod yn bresennol mewn dosbarthiadau a sesiynau goruchwylio traethodau hir yn orfodol; byddwn yn disgwyl i chi ymgymryd ag astudiaeth hunangyfeiriedig, bod wedi paratoi'n dda drwy gwblhau'r gwaith darllen gofynnol a chymryd rhan lawn mewn dosbarthiadau.
Byddwch yn cael eich addysgu drwy ddarlithoedd a seminarau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddadansoddi a gwerthuso syniadau a gwybodaeth o ddarllen dan arweiniad.
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu'n bennaf drwy gyfrwng traethawd ac arholiad ysgrifenedig heb ei weld o’r blaen. Mae dulliau asesu eraill yn cynnwys cyflwyniadau seminar, profion dosbarth ac adolygiadau o lyfrau ac erthyglau.
Mae asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich gradd. Mae eich marciau yn yr asesiadau hyn yn cyfrif tuag at eich dilyniant ffurfiol o Gam Un (modiwlau a addysgir) i Gam Dau (y traethawd hir), a thuag at benderfynu ar eich dyfarniad terfynol. Mae'r traethawd hir yn cynnwys asesiad crynodol Cam Dau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn eich cefnogi i wella eich sgiliau astudio ac ymchwil gyda dosbarthiadau pwrpasol ar ddechrau pob semester.
Cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.
Byddwch yn derbyn cymorth bugeiliol drwy ein cynllun tiwtor personol ac mae staff academaidd ar gael i gwrdd â chi yn ystod oriau swyddfa penodol i drafod unrhyw ymholiadau dysgu. Mae croeso i chi ddod i’r digwyddiadau sy’n rhan o’n rhaglen o siaradwyr gwadd a darlithoedd gwadd. Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.
Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd rhagorol gyda llyfrgellwyr pwnc arbenigol a chanolfannau adnoddau. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth sgiliau ysgrifennu i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Adborth
Mae adborth llafar yn cael ei roi yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich gwaith cwrs crynodol. Bydd adborth yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad.
Bydd adborth ysgrifenedig ar gael dim hwyrach na phedair wythnos ar ôl cyflwyno eich asesiad.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Disgwylir i fyfyrwyr ôl-raddedig gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu haddysg nag israddedigion. Drwy eich gradd Meistr, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn sgiliau penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy generig.
Yn ystod y cwrs byddwch yn gallu ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a datblygu sgiliau cydweithio. Byddwch yn gwella eich sgiliau dadansoddi, yn gallu datblygu dadl resymegol ac yn myfyrio ar eich dysgu eich hun drwy ddefnyddio adborth adeiladol.
Byddwch yn cael eich annog i weithio'n annibynnol ac i ddatblygu eich sgiliau ymchwil drwy chwilio am ddeunyddiau perthnasol o amrywiaeth o ffynonellau, gan werthuso'r dystiolaeth hon i ddatblygu dadl resymegol. Byddwch yn myfyrio ar faterion empirig a damcaniaethol ac yn gwerthuso ymchwil gyfredol yn feirniadol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae'r cwrs yn cynnig paratoad delfrydol ar gyfer y rhai sy'n chwilio am yrfa yn sefydliadau llywodraethu datganoledig yng Nghymru ac o'u hamgylch.
Gall y rhai sy'n cwblhau'r MSc Economeg mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru ddisgwyl dod o hyd i waith yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Rhoddodd y rhaglen y sgiliau a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i ddilyn gyrfa ym maes gwleidyddiaeth Cymru a’r DU, a chynnig cyfle amhrisiadwy i wneud cysylltiadau pwysig, wrth astudio ym mhrifddinas Cymru ac yng nghalon gwleidyddiaeth Cymru.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: International relations, Politics, Welsh
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.