Ewch i’r prif gynnwys

Dŵr mewn Byd sy’n Newid (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r cwrs proffesiynol hwn i raddedigion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau'n cynnig trosolwg eang broblemau dŵr byd-eang a hyfforddiant mewn sgiliau allweddol ar newid yn yr hinsawdd a'r cylch dŵr, sy'n gynyddol angenrheidiol ar gyfer bod yn arweinydd dŵr.

academic-school

Arbenigedd academaidd

Cewch fynediad at yr arbenigedd academaidd gorau o bob rhan o'r rhanbarth, gan gynnwys academyddion blaenllaw a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

molecule

Prosiect annibynnol

Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil ar sail eich diddordebau a'ch nodau gyrfa mewn lleoliad o'ch dewis, gan gynnwys y tu allan i'r DU.

certificate

Online taster course

If you are interested in this course, you might consider learning more about some relevant material on water security from our free online course, 'The Challenges of Global Water Security'.

mortarboard

Rhagolygon i raddedigion

Byddwch yn ategu ac ehangu eich gwybodaeth bresennol am wyddoniaeth, polisi ac ymarfer ac yn meithrin y ddirnadaeth broffesiynol a’r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i wneud cyfraniad ystyrlon mewn rolau arweinyddiaeth ym maes cynaladwyedd.

structure

Cynnwys rhyngddisgyblaethol

Byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o ddisgyblaethau sy'n cynnwys agweddau ar y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd.

Llifogydd, sychder, ansawdd dŵr gwael, gwahaniaethau mewn mynediad rhanbarthol at ddŵr - mae'r rhain i gyd yn heriau amgylcheddol mawr i gymdeithasau ac ecosystemau, sy’n gwaethygu ac yn cymhlethu yn sgil hinsawdd sy'n newid. Ond nid oes gan y rhan fwyaf o bobl y ddealltwriaeth ryngddisgyblaethol eang o'r heriau dŵr byd-eang dybryd hyn na'r sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw.

Byddwch yn arweinydd y dyfodol ym maes dŵr. Cewch yr wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf sy’n angenrheidiol i ddeall a datrys problemau dŵr heriol o safbwynt gwybodus ac mae modd eu cymhwyso i amrywiaeth o yrfaoedd. Mae’r cwrs yn gyfle unigryw i raddedigion ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o ddŵr o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys hydroleg, gwyddor yr hinsawdd, ecoleg dŵr croyw, economeg, gwyddorau cymdeithasol, a dadansoddi peryglon a risgiau.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch cynorthwyo i ddod yn arweinydd dŵr rhyngddisgyblaethol, gan eich galluogi i weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i ddatblygu atebion i broblemau dŵr heriol a fydd yn sicrhau bod dŵr ar gael ac yn sicrhau ansawdd y dŵr hwnnw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae llywodraethau a sefydliadau ar draws amrywiol ddiwydiannau yn chwilio am weithwyr proffesiynol sydd â dealltwriaeth eang o wyddoniaeth, polisi ac ymarfer a'r ddirnadaeth busnes a sgiliau cyfathrebu i arwain timau amlddisgyblaethol a llywio newid.  Bydd graddedigion yn addas iawn ar gyfer rolau ym maes datblygu rhyngwladol, y llywodraeth, ymgynghoriaeth amgylcheddol a'r sector dielw. Mae’r cwrs hwn hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa ymchwil mewn pwnc cysylltiedig â dŵr.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym yn gwneud synnwyr o'n byd sy'n newid ac yn datrys rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas, economi ac amgylchedd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4830
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel bioleg, gwyddor daear, economeg, gwyddor amgylcheddol, daearyddiaeth, neu hydroleg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol:
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen ôl-raddedig a addysgir, dau gam, gyda chyfanswm o 180 o gredydau (120 credyd a addysgir, 60 credyd ar gyfer y prosiect ymchwil). Bydd y modiwlau a'u hasesiadau yn cael eu trefnu ar wahanol adegau er mwyn cydbwyso llwyth gwaith myfyrwyr. Oherwydd natur ryngddisgyblaethol y rhaglen hon, mae’r holl fodiwlau yn rhai craidd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Bydd gwaith cwrs yn cael ei neilltuo i'w gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror. Bydd arholiadau ysgrifenedig ym mis Mawrth. Byddant yn cynllunio traethodau hir o fis Ionawr ymlaen. Wrth aros am ganlyniadau eu gwaith cwrs a'r arholiadau, bydd myfyrwyr yn gymwys i ddechrau ar eu hymchwil traethawd hir.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Rydyn ni’n ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.

Mae ein dull addysgu yn gymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol ar ddatrys problemau gan gynnwys sesiynau trafod, seminarau darllen, cyflwyniadau, ymweliadau maes, a chyfarfodydd â gweithwyr maes proffesiynol.

Sut y caf fy asesu?

Mae asesiadau yn amrywio yn ôl modiwl, ond byddant yn cynnwys setiau problemau meintiol, traethodau, cyflwyniadau llafar, cyflwyniadau fideo, arholiadau cwestiynau amlddewis, atebion byr, a chwestiynau traethawd, a'r traethawd ymchwil.

Bydd cynnydd hefyd yn cael ei werthuso gan ddefnyddio'r asesiad ffurfiannol i helpu'r myfyriwr i wella ei berfformiad. Bydd yr asesiadau ffurfiannol yn weddol fyr i sicrhau bod y blociau dysgu yn cael eu cyflawni cyn rhan nesaf y rhaglen. Bydd y modiwlau a'u hasesiadau yn cael eu trefnu ar wahanol adegau er mwyn cydbwyso llwyth gwaith myfyrwyr. Ceir rhagor o fanylion yn y disgrifiadau o’r modiwlau unigol.

Rhaid i chi gwblhau 120 credyd cydran a addysgir y cwrs yn llwyddiannus cyn y caniateir i chi symud ymlaen i gydran y traethawd ymchwil.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydyn ni’n cynnig strwythur cymorth cynhwysfawr i sicrhau profiad cadarnhaol i fyfyrwyr.

Ar ddechrau’r cwrs, byddwch yn cael tiwtor personol, a fydd yn bwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol.

Adborth

Caiff myfyrwyr lawer o gyfleoedd am adborth yn ystod sesiynau cyswllt. Byddwch yn ymwneud â rhoi adborth mewn gweithgareddau fel adborth fideo a hunanasesu. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth gan staff addysgu a rhanddeiliaid; gan roi profiad i chi o'r adborth go iawn y gallech ddod ar ei draws pan fyddwch yn dod o hyd i waith.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Byddwch hefyd yn cael mynediad llawn i'r cyfleusterau cyfrifiadura 24 awr yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr.

Gwasanaethau cefnogi

Bydd gennych fynediad at yr ystod lawn o gyfleusterau a gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Brifysgol, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, ochr yn ochr â llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau rhagorol.

Amrywiaeth

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Esbonio'r cylch hydrolegol, ei fynegiant byd-eang a rhanbarthol mewn ymateb i orfodi'r hinsawdd, a'i drosi’n ddull o storio dŵr wyneb ac islaw’r wyneb;
  • Cyfleu’r cysylltiadau cymhleth rhwng diwylliant, cymdeithas a dŵr;
  • Cyfosod nodweddion biolegol ac ecolegol sylfaenol ecosystemau dŵr croyw gyda'r organebau sy'n eu meddiannu, yn ogystal â'u straenachoswyr perthnasol;
  • Disgrifio peryglon a risg, a'u goblygiadau o ran rheoli dŵr ar y blaned gan ddefnyddio dulliau meintiol uwch;
  • Darparu dadansoddiad manwl o'r system hinsawdd a'i esblygiad o dan y newid yn yr hinsawdd, gyda phwyslais arbennig ar y cylch dŵr;
  • Nodi ac esbonio ymwybyddiaeth ddofn o ffiniau allweddol mewn gwyddorau’r dŵr.

Sgiliau Deallusol:

  • Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
  • Gwerthuso’n feirniadol a mesur storfeydd a llifoedd dŵr a storfeydd uwch ben neu islaw wyneb y Ddaear;
  • Cyfrifo a dehongli risg a pherygl o setiau data presennol ar ddŵr;
  • Cyfosod a chrynhoi'r llenyddiaeth wyddonol a gwyddorau cymdeithasol;
  • Defnyddio a thrin setiau data mawr a/neu fodelau sy'n bodoli eisoes;
  • Dadansoddi ac adrodd ar faterion rhyngddisgyblaethol uwch sy'n ymwneud â phroblemau dŵr.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
  • Rhyngweithio ac ymgysylltu ag arbenigwyr mewn amrywiaeth o feysydd sy'n gysylltiedig â dŵr;
  • Mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol o sawl safbwynt, a’u deall;
  • Chwilio drwy lenyddiaeth gefndirol ar bwnc wedi'i dargedu er mwyn canfod cyflwr y gwyddorau/celfyddydau yn gyflym;
  • Rhoi’r problemau dŵr lleol/rhanbarthol yn eu cyd-destun o ran cylch dylanwad ehangach.
  • Arwain cyfarfodydd/trafodaethau grŵp rhyngddisgyblaethol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
  • Cynnal dadansoddiadau meintiol soffistigedig sy’n cynnwys sawl cam, yn unigol ac fel rhan o dîm;
  • Cyfosod gwybodaeth gymhleth o ffynonellau gwahanol;
  • Cyfleu ymchwil i gynulleidfaoedd sy’n cynnwys arbenigwyr a’r cyhoedd drwy amrywiol gyfryngau;
  • Ysgrifennu'n argyhoeddiadol am broblemau amgylcheddol/dŵr manwl a chyhoeddi/cyflwyno mewn fforymau rhyngwladol.;
  • Gweithio gyda grwpiau rhyngddisgyblaethol i integreiddio a chrynhoi gwybodaeth.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

p>Na

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol i astudio ar y rhaglen hon. Pe bai angen, byddai'r offer yn cael eu darparu gan yr ysgol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Gallwch greu gyrfa lwyddiannus a gwerth chweil yn y diwydiant dŵr a helpu i greu dyfodol mwy gwydn a chynaliadwy.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ategu ac ehangu eich gwybodaeth bresennol am wyddor, polisi ac ymarfer dŵr, sy'n golygu ei bod yn addas i fyfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys daearyddiaeth, daeareg, biowyddorau, cyfrifiadureg, economeg, ac ati.

Bydd gan raddedigion y sgiliau sydd eu hangen i wneud cyfraniad ystyrlon i brosiectau datrysiadau dŵr arloesol mewn rolau yn y llywodraeth, diwydiant, nid er elw, ac ymgynghori. Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn dewis dilyn gyrfa yn y dyfodol yn canolbwyntio ar bwnc sy’n gysylltiedig â dŵr.

Lleoliadau

p>Nid oes unrhyw gyfleoedd o ran lleoliad, ond gellir ymgymryd â'r traethawd hir gyda Sefydliad Addysg Uwch neu sefydliad ymchwil partner addas. Mae hyn yn amodol ar gytundeb a chymeradwyaeth briodol yr Ysgol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Earth science, Environmental , Water management, Sustainability


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.