Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r MSc hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cymhwysol a dysgu beirniadol ym maes cynaliadwyedd cyfoes.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Cydbwysedd rhwng theori, polisi ac arfer
Cyfle i gysylltu dadleuon damcaniaethol am gynaliadwyedd ar wahanol raddfeydd gofodol, gydag ystyriaethau ymarferol creu a gweithredu polisi.
Dilynwch eich diddordebau
Y cyfle i ganolbwyntio ar broblemau amgylcheddol a pholisi amgylcheddol mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys cynllunio, bwyd/amaethyddiaeth, trafnidiaeth a thai.
Sgiliau trosglwyddadwy
Datblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i gynaliadwyedd sy'n ddelfrydol ar gyfer cynnydd academaidd neu arfer proffesiynol.
Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o theori, egwyddorion ac arferion cynaliadwyedd a chael eich grymuso i wella a dylanwadu ar atebion polisi a chynllunio ar gyfer yr heriau amgylcheddol a chynaliadwyedd y mae’r llywodraeth, cyrff rheoleiddio a busnes yn eu hwynebu.
Mae ein MSc mewn Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol (wedi'i achredu gan RICS ac wedi'i achredu'n rhannol gan RTPI), yn mynd i'r afael â thri dimensiwn allweddol a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi gyfrannu at ddatblygu polisi yn y dyfodol ac yn helpu i fynd i'r afael â materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sensitif. Byddwn yn ystyried:
- Egwyddorion a phroses - gofyn sut gall polisïau gyflawni datblygu mwy cynaliadwy, neu beidio.
- Astudiaethau sector adnoddau - dadansoddiad cymharol a manwl o faterion cynaliadwyedd mewn sectorau economaidd allweddol (gan gynnwys bwyd, trafnidiaeth, ynni adnewyddadwy a thai).
- Hyfforddiant ymchwil - yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i gynaliadwyedd sy'n ddelfrydol ar gyfer dilyniant academaidd, ac ymarfer proffesiynol.
Byddwch yn elwa o addysgu sy'n cysylltu dadleuon damcaniaethol am gynaliadwyedd ar wahanol raddfeydd gofodol, wedi'u llywio gan yr ymchwil gwyddor gymdeithasol ddiweddaraf ynghylch problemau amgylcheddol, gyda dimensiynau ymarferol llunio a gweithredu polisïau. Rhoddir sylw arbennig i'r system gynllunio gan ei bod yn un o'r mecanweithiau cyfoes mwyaf soffistigedig ar gyfer rheoleiddio newid amgylcheddol.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a relevant subject area such as geography, sociology, politics, economics, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
- an appropriate professional qualification in planning
- or relevant professional experience evidenced by a reference. The reference must be provided by your employer to evidence that you currently work in an area relevant to the programme. This should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
You are expected to demonstrate an interest in the field, and some familiarity with contemporary environmental policy and planning issues.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig ar sail ran-amser fel arfer am ddwy flynedd (er y gellir ymestyn hyn i dair blynedd), gan arwain at ddyfarnu MSc mewn Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol.
Mae Diploma yn cael ei ddyfarnu i fyfyrwyr sy'n cwblhau'r rhan a addysgir o'r Rhaglen yn llwyddiannus, ond nad ydyn nhw’n dymuno ymgymryd â thraethawd hir.
Mae wedi'i rhannu'n ddwy ran:
- Mae rhan un yn cynnwys rhaglen addysgu o fodiwlau craidd a dewisol dros bedwar semester.
- Mae rhan dau yn cynnwys traethawd hir unigol ar bwnc y byddwch yn ei ddewis mewn ymgynghoriad ag aelodau o staff. Er bod rhywfaint o gyfyngiadau o ran y pwnc y gellir ei ddewis, rhaid iddo fynd i'r afael â themâu craidd y cwrs, sef cynaliadwyedd, polisi amgylcheddol a chynllunio.
Mae modiwlau'r cwrs yn mynd i’r afael â thri dimensiwn allweddol:
- Egwyddorion a phrosesau - sut gall polisïau gyflawni datblygu mwy cynaliadwy, neu beidio.
- Astudiaethau sector adnoddau - dadansoddiad cymharol a manwl o faterion cynaliadwyedd mewn sectorau economaidd allweddol (gan gynnwys bwyd, trafnidiaeth a thai).
- Hyfforddiant ymchwil - datblygu sgiliau ymchwil cynaliadwyedd a chynllunio.
Bydd gofyn i chi gymryd gwerth 120 credyd o fodiwlau a addysgir i gyd, yn ogystal â'r traethawd hir sy'n werth 60 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Principles and Practices of Environmental Governance | CPT914 | 20 credydau |
Research Methods | CPT926 | 20 credydau |
Dissertation | CPT508 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Environmental Management | CPT826 | 20 credydau |
Environmental Policy and Climate Change | CPT855 | 20 credydau |
Planning for Sustainability | CPT878 | 20 credydau |
Urban and Regional Development in Practice | CPT892 | 20 credydau |
Sustainable Transport Policies | CPT903 | 20 credydau |
Renewable Energy Development and Planning | CPT909 | 20 credydau |
Urban and Regional Economies | CPT929 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy asesu?
Mae’r dulliau asesu a ddefnyddir yn cynnwys arholiadau, traethodau, adroddiadau, gwaith prosiect a chyflwyniadau llafar.
Mae arholiadau ysgrifenedig yn cael eu defnyddio i brofi eich dealltwriaeth o fframweithiau polisi amgylcheddol allweddol, gwybodaeth am gyfraith sylwedd a'r gallu i lunio dadleuon cyfreithiol.
Bydd traethodau ac adroddiadau yn caniatáu i chi ddefnyddio gwybodaeth a geir yn ystod y modiwlau mewn darnau o waith gwerthuso polisi neu ddatblygu cynaliadwy ar waith.
Bydd cyflwyniadau seminar a dadleuon yn cael eu defnyddio i’ch annog i ddatblygu ac egluro eich dealltwriaeth o faterion cynaliadwyedd cyfoes (er mwyn amddiffyn safbwynt dadl) ac i roi cyfle i chi wella eich sgiliau cyflwyno llafar.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ac adnoddau, gan gynnwys:
-
Labordy 40 cyfrifiadur pwrpasol gyda pherifferolion o safon uchel gan gynnwys; argraffu laser ar gyfrif rhwydwaith, argraffu lliw fformat mawr, argraffu lliw maint A4.
-
Cyfleusterau GIS/gweithfan/mynediad at gyfleuster mapio digidol digimap Edina.
-
Labordy 30 cyfrifiadur mynediad agored ychwanegol yn Adeilad Morgannwg.
-
Llyfrgell ragorol ar gyfer y maes Cynllunio, sy’n cynnwys tua 12,000 o lyfrau, 280 o gyfnodolion a gwariant sylweddol ar stoc bob blwyddyn.
-
Mynediad at gronfeydd data rhyngwladol ar-lein/cyfleusterau llyfrgelloedd cyfrifiadurol.
-
Mynediad at gyfleusterau adnoddau Dyslecsia.
-
Gallu defnyddio Dysgu Canolog ym mhob modiwl i gael gwybodaeth am fodiwlau ac adnoddau dysgu.
Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd â'ch tiwtor personol penodol i adolygu eich cynnydd.
Bydd cymorth iaith Saesneg ar gael os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.
Bydd cymorth ar gael hefyd os ydych yn gweithio/cael eich asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn yn cefnogi datblygiad eich sgiliau proffesiynol yn ystod yr wythnos ymsefydlu drwy ddarparu hyfforddiant ar ddefnyddio cyfrifiaduron a sgiliau cyflwyno.
Adborth
Rhoddir adborth ffurfiannol mewn tiwtorialau, dosbarthiadau trafod a dosbarthiadau problemau yn ogystal â thrwy sylwadau ysgrifenedig unigol ar waith cwrs.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £21,200 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae'r cwrs hwn yn cynnig y wybodaeth a'r arbenigedd ar gyfer datblygu gyrfa ymchwil, neu fanteisio ar broffesiynoli cynyddol swyddi amgylcheddol yn y sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys adrannau'r llywodraeth ac asiantaethau amgylcheddol; y sector busnes; ymgynghoriaeth, a sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Environmental science, Geography and planning, Sustainability
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.