Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymwelydd Iechyd) (PgDip)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 12 Mehefin.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Nod y rhaglen hon yw paratoi nyrsys a bydwragedd i fod yn Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol. Bydd y rhaglen yn arwain at ennill dyfarniad proffesiynol o fod yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (ymwelydd iechyd) a chael eich cofrestru wedi hynny yn y rhan ar gyfer Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
Cyllid sydd ar gael
Gallwch gael cyllid gan Lywodraeth Cymru'n dibynnu ar fodloni gofynion cymhwysedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Cefnogaeth i fyfyrwyr
Bydd gennych gefnogaeth academaidd ac yn cael tiwtor personol penodol gydol cyfnod eich astudiaethau gyda ni.
Addysgu o ansawdd uchel
Byddwch yn cael eich addysgu gan staff clinigol ac addysgol profiadol sydd ag enw da sylweddol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Amrywiaeth o leoliadau
Byddwch yn treulio 50% o’r cwrs ar leoliad.
Cynrychiolydd myfyrwyr
Cewch y cyfle i ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr ac i lywio darpariaeth addysgol ar gyfer y dyfodol.
Nod y cwrs Diploma Ôl-raddedig amser llawn hwn dros flwyddyn yw paratoi nyrsys a bydwragedd i fod yn Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol.
Bydd yn arwain at ennill dyfarniad proffesiynol o fod yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymwelydd Iechyd), a chael eich cofrestru wedi hynny yn y rhan ar gyfer Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
Mae hanner y cwrs yn digwydd ar leoliad clinigol, a gallai cyllid Llywodraeth Cymru fod ar gael.
Dim ond drwy gwblhau’r rhaglen Diploma Ôl-raddedig (PgDip) y bydd ymarferwyr yn gymwys i gael cofnodi eu henwau ar drydedd ran cofrestr yr NMC.
Sylwch y bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis drwy broses gyfweld a bydd angen iddyn nhw fodloni gofynion y Bwrdd Iechyd.
Achrediadau
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
- Candidates must be registered on either parts one or two of the Nursing and Midwifery Council register.
- Candidates can enter the programme either with a diploma (120 credits at level 2) or with a degree.
- Adult, children, mental health or learning disability nurses as well as practitioners who qualified as midwives via the three year direct entry route can undertake the programme and become health visitors.
- Applicants whose first language is not English or Welsh are required to provide proof of their proficiency in the English or Welsh language. They must satisfy the English and Welsh Language requirements for entry to the university by attainment of a minimum score of 7.0 on the IELTS no more than 3 years before the proposed date of entry.
- A Disclosure and Barring Service check will be undertaken on prospective students and this must be deemed satisfactory before admission to the programme.
The personal statement on your application form will be considered when a judgement is made on your suitability for the programme for which you have applied. You must address the following points in your personal statement. This list is not exhaustive:
- Why have you selected this programme?
- What interests you about the programme?
- Any relevant experience related to the programme or module content.
- How you plan to use the qualification in your career.
- How you and your profession will benefit from your studies.
- Why you feel you should be given a place on the programme.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) os yw eich cais yn llwyddiannus. Os ydych yn gwneud cais o wledydd penodol dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y siec a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.
Strwythur y cwrs
Mae'r cwrs diploma wedi'i rannu'n bedwar modiwl sy'n cael eu graddio â chredydau. Mae pob modiwl a addysgir yn cynnig 30 credyd a rhaid cwblhau pob un yn llwyddiannus er mwyn i fyfyrwyr gael cynnwys eu henw ar drydedd ran y gofrestr broffesiynol fel Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol.
Mae'r llwybr Pg Dip amser llawn yn cynnwys pedwar modiwl dros gyfnod o 45 wythnos, ac yna cyfnod o gyfnerthu (sy'n mynd â chi hyd at 52 wythnos). Mae pob modiwl yn cael ei raddio â chredyd ar lefel M ac mae pob un o'r pedwar modiwl yn orfodol.
Sylwch: Bydd elfen ymarfer clinigol yn cyfrif am 50% o'r rhaglen a addysgir, sy'n unol â rheoliadau’r NMC (2004). Mae'n ofynnol i fyfyrwyr lwyddo mewn asesiad yn eu gwaith clinigol a damcaniaethol er mwyn ennill eu cymhwyster fel nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol.
Bydd pob myfyriwr yn cael asesydd ymarfer, goruchwyliwr ymarfer ac asesydd academaidd, a fydd yn atebol ac yn gyfrifol am asesu cynnydd clinigol y myfyriwr, gyda thystiolaeth yn cael ei chyflwyno mewn portffolio clinigol.
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn cael PgDip mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ac yn cofrestru fel Ymwelydd Iechyd gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Research Methods and Health Improvement in Health and Social Care | HCT133 | 30 credydau |
Contemporary Approaches in SCPHN (Health Visiting) Practice | HCT134 | 30 credydau |
Public Health: Promotion and Protection with Community Nurse Prescribing (v100) | HCT144 | 30 credydau |
Health Visiting Practice to Safeguard Children | HCT148 | 30 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy ddulliau amrywiol, gan gynnwys gwaith ysgrifenedig, arholiadau, profion ystafell ddosbarth, a chyflwyniadau, yn ogystal â phortffolio clinigol ar gyfer yr elfen ymarfer.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, crèche a chyfleusterau dydd, cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae rhannu syniadau fel hyn yn eich galluogi i ddysgu ac elwa o brofiadau pobl eraill. Rhoddir cyfle am y math hwn o drafodaeth a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.
Ar ôl cofrestru ar y rhaglen, bydd tiwtor personol penodol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr, sy'n gallu cynorthwyo gydag unrhyw ofal bugeiliol. Bydd pob myfyriwr hefyd yn cael asesydd academaidd penodol, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu academaidd a gramadeg.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau.
Ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae cyrsiau Saesneg mynediad agored ar gael. Mae'r rhain yn gyrsiau 5 wythnos sy'n cael eu cynnal ar sail y cyntaf i'r felin ac sy’n costio ffi weinyddol o £25.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi mewn amrywiol ffyrdd. Bydd y rhain yn cynnwys adborth llafar yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig a ddarperir drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth ysgrifenedig electronig ar waith cwrs a asesir drwy GradeMark. Gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol â'ch asesydd academaidd.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, dylech ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i'ch galluogi i wneud y canlynol:
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth academaidd i gyflawni cymhwysedd ar lefel Meistr.
- Cyflawni medrusrwydd ac uniondeb clinigol i ennill cymhwyster arbenigol.
- Ymarfer yn effeithiol fel Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol.
- Cofrestru fel ymwelydd iechyd gyda'r NMC.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Ariennir y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr presennol GIG Cymru. Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn ariannu eu hunain gysylltu â’r Ysgol yn uniongyrchol drwy’r tiwtor derbyn.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen i chi ddarparu unrhyw offer penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Nod y cwrs hwn yw paratoi nyrsys a bydwragedd i fod yn Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol.
Bydd yn arwain at ennill dyfarniad proffesiynol o fod yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymwelydd Iechyd) a chael eich cofrestru wedi hynny yn y rhan ar gyfer Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
Lleoliadau
Mae lleoliad clinigol yn cyfrif am 50% o'r cwrs.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Nyrsio, Iechyd cyhoeddus, Gwyddorau gofal iechyd
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.