Radiograffeg (MSc)
- Hyd: 18 mis
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Nod y cwrs hwn yw cynyddu eich gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol o radiograffeg, fel y gallwch ddefnyddio’r sgiliau hyn i fynd ymhellach yn eich proffesiwn.
Rhaglen achrededig
Achredir y rhaglen hon gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr.
Cymuned ddysgu
Byddwch yn elwa ar ddysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol sy'n astudio ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.
Cefnogaeth i fyfyrwyr
Bydd gennych gefnogaeth academaidd ac yn cael tiwtor personol penodol gydol cyfnod eich astudiaethau gyda ni.
Addysgu o ansawdd uchel
Byddwch yn cael eich addysgu gan staff clinigol ac addysgol profiadol sydd ag enw da sylweddol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cynrychiolydd myfyrwyr
Cewch y cyfle i ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr ac i lywio darpariaeth addysgol ar gyfer y dyfodol.
Ymunwch â’n rhaglen MSc Radiograffeg sydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr ac sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i ehangu eich gwybodaeth a gwella eich sgiliau clinigol yn y sector hwn sy'n datblygu'n gyflym. Mae modd trosglwyddo'r sgiliau a gewch ar y rhaglen hon i bob sefydliad gofal iechyd ac maen nhw’n cael eu cydnabod dramor.
Mae ein rhaglen wedi'i hanelu at y rhai sydd â chymhwyster cyfredol fel radiograffydd diagnostig, radiograffydd therapiwtig, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Mae'r cwrs amser llawn hwn yn anelu at ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd fel gwerthfawrogi delweddau, adrodd radiograffig a mamograffeg a llawer o arferion craidd eraill sy'n gysylltiedig â radiograffeg. Oherwydd ein dull dysgu dewisol, byddwch yn cael dewis modiwlau sy'n cyd-fynd orau â'ch anghenion fel bod eich dysgu'n berthnasol i chi.
Er mwyn meithrin eich dealltwriaeth o radiograffeg ymhellach, mae gennych ddewis o draethodau hir, adolygiad systematig, ymchwil empirig neu brosiect seiliedig ar waith, a fydd yn cynyddu eich gallu i ddylanwadu ar newid ym maes radiograffeg a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio yn ein hystafell pelydr X gyffredinol bwrpasol gyda system PACS ar gyfer gweld delweddau ac at ddibenion arbrofol. Yn ogystal â man pwrpasol ar gyfer pelydr X, mae gennym hefyd offer dosimetreg, ystafell hyfforddiant radiograffeg sy’n defnyddio dulliau efelychu rhyngweithiol 3D gan gynnwys Cyfrifiaduron Shaderware ac offer uwchsain pwrpasol sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd ymchwil ac i wella eich dysgu.
Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol yn eich dysgu ac yn eich cefnogi, yn ogystal ag arbenigwyr clinigol. Mae radiolegwyr a radiograffwyr clinigol yn cefnogi pob un o'r modiwlau clinigol gan sicrhau bod lefel uchel o wybodaeth glinigol gyfredol a pherthnasol yn cael ei chymhwyso ochr yn ochr â'r gofyniad i gwestiynu ymarfer. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi hefyd, a fydd yn eich helpu drwy gydol eich astudiaethau.
Byddwch hefyd yn rhan o grŵp o fyfyrwyr sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd clinigol sydd hefyd yn gwella eich profiad dysgu a byddwch yn cael eich annog i rannu syniadau a phrofiadau.
Bydd ein rhaglen yn cefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol, yn ogystal â llywio a dylanwadu ar ofal iechyd ar draws Cymru a thu hwnt.
Byddwch yn rhan o rywbeth sy'n newid bywydau ac ewch ati i ymgymryd â her newydd heddiw.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif a thrawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd neu wedi pasio Diploma Addysg Uwch mewn Radiograffeg, neu radd ryngwladol gyfwerth.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Geirda gan eich cyflogwr at dystiolaeth eich bod yn radiograffydd cymwys gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad clinigol cyfwerth ag amser llawn a'ch bod yn gweithio mewn adran radioleg/mamograffeg yn y DU ar hyn o bryd. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
- Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau allweddol canlynol:
- Pam ydych chi wedi dewis y rhaglen hon?
- Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen hon?
- Dealltwriaeth o'r modiwlau sy'n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl.
- Sut rydych yn bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa a'r budd proffesiynol posibl o'ch astudiaethau.
- Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen.
Os ydych yn bwriadu cwblhau modiwlau HCT207 Atodol/Adrodd Radiograffig Echelinol ac HCT108 Adult Chest and Abdomen Report, rhaid eich bod wedi sicrhau cefnogaeth mentor radiolegol ar adeg y cais. Rhowch fanylion i'ch mentoriaid fel eich ail ganolwr a'u gwneud yn ymwybodol y bydd tîm y rhaglen mewn cysylltiad i gadarnhau eu cefnogaeth.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau yn cau ddiwedd mis Gorffennaf ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen MSc Radiograffeg yn fodiwlaidd, a rhaid i fyfyrwyr gwblhau 120 credyd yng nghydran a addysgir y rhaglen a 60 credyd arall yng nghydran y traethawd hir. Mae 60 credyd yn "fodiwlau craidd" a rhaid iddyn nhw gael eu cwblhau, ac mae 60 credyd yn ddewisol.
Trefnir modiwlau a addysgir ar ffurf bloc o 2-3 diwrnod ac fe'u cynhelir drwy gydol y semester a nodir.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/26. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025.
Blwyddyn un
In year 1 you will complete two core modules (60 credits) and two optional modules (60 credits) which equates to 120 credits in the taught component of the programme.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dulliau ymchwil a dadansoddi data mewn gofal iechyd | HCT343 | 30 credydau |
Gwyddoniaeth Ymbelydredd Cymhwysol | HCT345 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Adrodd ar y frest a'r abdomen oedolion | HCT108 | 30 credydau |
Gwerthfawrogiad Delwedd mewn Mamograffeg | HCT395 | 30 credydau |
Adroddiadau Radiograffig Delwedd Appendicular & echelinol | HCT207 | 30 credydau |
Gwerthfawrogiad o'r frest oedolion a'r ddelwedd abdomen | HCT104 | 30 credydau |
Cymhwysedd Clinigol mewn Mammography | HCT053 | 30 credydau |
Image Gweithdrefnau Ymyriadol Tywysedig y Fron | HCT254 | 30 credydau |
Gwerthfawrogiad Delwedd Appendicular & echelinol | HCT208 | 30 credydau |
Dehongli ac Adrodd Delweddau mewn Mammography | HCT119 | 30 credydau |
Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol | HCT393 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn Dau byddwch yn cwblhau eich traethawd hir o ddewis o dri opsiwn (60 credyd).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Traethawd hir empirig | HCT117 | 60 credydau |
Lefel M Traethawd Hir: Prosiect yn y Gwaith | NRT079 | 60 credydau |
Lefel M Traethawd Hir: Adolygiad systematig o'r Llenyddiaeth | NRT080 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Cynhelir yr addysgu yn bennaf drwy weithdai, tiwtorialau a seminarau. Ceir hefyd ddarlithoedd sy'n cael eu dilyn gan gyfleoedd i drafod a gwerthuso syniadau a gyflwynwyd. Cefnogir cynnwys y cwrs gan adnoddau ar-lein.
Mae gwaith astudio hunangyfeiriedig yn rhan bwysig o'r cwrs, a chewch eich tywys drwy’r meysydd astudio a sgiliau astudio.
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o weithdrefnau asesu, fel aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, portffolio a phrosiectau seiliedig ar waith. Ceir hefyd archwiliadau clinigol yn y modiwlau Gwerthfawrogi Delweddau ac Adrodd. Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfa ond hefyd i ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd. Y traethawd hir yw penllanw datblygu’r holl sgiliau hyn.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau ag amryw o weithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae'r broses hon o rannu syniadau yn eich galluogi i ddysgu ac elwa ar brofiadau eraill. Rhoddir cyfle i drafod a chyfnewid syniadau trwy seminarau a thiwtorialau.
Rydych chi’n cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw faterion gofal bugeiliol ac academaidd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Caiff pob darlith ei recordio drwy Panopto ac maen nhw ar gael i chi drwy gydol eich rhaglen.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau. ;
Mae nodweddion yr ap yn cynnwys: ;: ;
- Mapiau o’r campws
- Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
- Amserlen myfyrwyr
- Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
- Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
- Newyddion myfyrwyr
- Derbyn hysbysiadau pwysig
- Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu ; ;Canolog)
- Dolenni i apiau a argymhellir fel nextbike, i helpu i wneud y mwyaf o’ch profiad fel myfyriwr.
;
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- Dangos gwybodaeth a sgiliau clinigol gwell a chymhwyso'r rhain yn feirniadol yn eich ymarfer radiograffeg, i ddatblygu dealltwriaeth gyflawn o foddau radioleg a chymhwyso'r wybodaeth i wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth a dealltwriaeth cydweithwyr.
- Datblygu dealltwriaeth ymarferol drwy werthuso technegau ymchwil ac ymholi sefydledig i ddehongli gwybodaeth a chefnogi'r gwaith o roi canfyddiadau ymchwil ar waith mewn ymarfer radiograffeg.
- Archwilio a gwerthuso sefyllfa radiograffeg mewn ymarfer gofal iechyd ac arfarnu datblygiadau neu newidiadau mewn ymarfer proffesiynol yn feirniadol.
- Sbarduno newid ac arwain y gwaith o reoli newid a datblygu’r proffesiwn radiograffeg.
Sgiliau Deallusol:
- Dadansoddi ymchwil yn feirniadol.
- Myfyrio a dadansoddi’r proffesiwn radiograffeg a'ch ymarfer eich hun yn feirniadol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
- Sgiliau ymarferol mewn meysydd ymarfer uwch.
Sgiliau trosglwyddadwy
- Sgiliau cyfathrebu hyderus.
- Sgiliau ysgrifennu ac astudio academaidd hanfodol.
- Sgiliau trefnu eich hun a rheoli amser.
- Datblygu sgiliau ymchwil ymarferol a'u cymhwyso wrth ymarfer.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen i chi ddarparu unrhyw offer penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae'r cynnydd yn y galw am wasanaethau delweddu yn golygu na fu erioed amser gwell i radiograffwyr archwilio cyfleoedd i ymestyn i mewn i ymarfer uwch gyda chymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae gwasanaethau delweddu yn ymchwiliad llinell gyntaf fwyfwy wrth drin a rheoli cyflyrau cleifion. Mae hyn yn gofyn am radiograffwyr sy'n gallu arwain y gwasanaeth, ac mae'r MSc Radiograffeg wedi'i gynllunio i wella sgiliau clinigol a gwybodaeth ddamcaniaethol radiograffwyr diagnostig/therapiwtig cymwys er budd cleifion a thimau rhyng-broffesiynol ehangach.
Lleoliadau
Mae lleoliad clinigol a chymorth radiolegol yn ofynnol ar gyfer pob modiwl clinigol. Rhaid i fyfyrwyr fod yn gweithio mewn amgylchedd clinigol i ymarfer y sgiliau hyn. Nid yw Prifysgol Caerdydd yn trefnu'r lleoliadau clinigol. Rhaid nodi'r mentor radiolegol, a llenwi ffurflen mentor cyn dechrau ar y rhaglen.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Radiograffeg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.