Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus (MSc Econ)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Byddwch yn gwerthuso gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus ar lefel leol, yng Nghymru, y DU, yr UE a rhyngwladol.
Dysgwch gan bobl broffesiynol
Mynnwch drin a thrafod pob agwedd ar Wleidyddiaeth a Pholisïau Cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt; addysgir y cwrs gan arbenigwyr yn eu maes gan gynnwys cyn-weinidog.
Perthnasedd galwedigaethol
Bydd y radd hon yn werthfawr i'r rheini sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd sy'n cynnwys llunio polisïau ar unrhyw lefel.
Datblygwch sgiliau trosglwyddadwy
Dyma’r cyfle i gymryd rhan mewn profiadau dysgu a luniwyd i wella ystod o sgiliau cyfathrebu, trefnu a rhyngbersonol.
Dangoswch eich gwybodaeth
Dyma’r cyfle i ymgymryd ag ymchwil fanwl mewn maes perthnasol o'ch dewis.
Cynlluniwyd ein rhaglen MSc Econ Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus i gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o ddadansoddi polisi a llywodraethu o fewn cyd-destun aml-lefel – o leoliadau lleol i leoliadau rhyngwladol.
Bydd y rhaglen yn rhoi’r sgiliau dadansoddol a chysyniadol uwch sydd eu hangen arnoch er mwyn gwerthuso gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus yn feirniadol ar sawl lefel o lywodraethu. Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant trylwyr mewn dulliau dadansoddi (ansoddol a meintiol) a ddefnyddir i gynnal ymchwil yn y meysydd hyn.
Fe gewch chi ystod o fodiwlau wedi’u dylunio i gynnig sylfaen gadarn o wybodaeth a dealltwriaeth ym maes gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus. Gallwch ddewis modiwlau sydd o ddiddordeb arbennig i chi ar lefel leol, yng Nghymru, y DU, yr UE ac yn rhyngwladol.
Bydd eich gweithgareddau dysgu yn cynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr a gwaith grŵp, wedi’u dylunio i fireinio amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys cyfathrebu, trefnu a sgiliau rhyngbersonol.
Byddwch chi’n elwa ar ein cysylltiadau agos â sefydliadau datganoledig Cymru yn ogystal â lefelau llywodraethau’r DU a’r Alban. Mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sy’n ganolfan flaenllaw ar gyfer astudio gwleidyddiaeth, y gyfraith ac economi wleidyddol Cymru.
Byddwn yn argymell astudio’r rhaglen hon yn gryf os hoffech chi ennill dealltwriaeth ehangach o’r prosesau gwleidyddol a pholisi sy’n llywio ac yn effeithio ar fywyd bob dydd ledled y byd. Mae’n eich galluogi i ddeall safbwyntiau gwahanol, yn ogystal â llywio eich gwerthoedd a’ch credoau gwleidyddol eich hun.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as international relations, politics, English, modern languages, history, religious studies, geography, economics, psychology, sociology, social policy and journalism or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with at least 6.5 in writing and 6.0 in all other subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
The application deadline is 31 July. If you submit an application after this date, we will only consider it if places are still available.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn cymryd modiwlau gorfodol a dewisol a gynigir gan yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (yn amodol ar unrhyw amodau hanfodol, gofynion llety, amserlen neu gyfyngiadau eraill a all fod yn berthnasol yn y flwyddyn benodol honno) ac yn cwblhau traethawd hir.
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn dau gam. Mae Cam Un (yr elfen a addysgir) yn cynnwys modiwlau 15 a 30 credyd gorfodol a dewisol; mae Cam Dau yn cynnwys y traethawd hir. Yn ystod Cam Un, cewch eich addysgu a'ch asesu mewn modiwlau ym mhob semester.
Byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir ar ôl cwblhau Cam Un yn llwyddiannus.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Mae’r cam a addysgir yn y rhaglen hon werth hyd at 120 credyd, a gyflwynir drwy fodiwlau gorfodol a dewisol 15 a 30 credyd. Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir 60 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dissertation | PLT025 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
The Law of Devolution in Wales | CLT605 | 30 credydau |
Public International Law | PLT052 | 15 credydau |
Contemporary Welsh Politics | PLT053 | 30 credydau |
Research Methods: Approaches to Knowledge | PLT062 | 15 credydau |
Public Policy | PLT069 | 15 credydau |
Devolution and Public Policy in Wales | PLT074 | 30 credydau |
Anglo-American Relations | PLT078 | 15 credydau |
Governing and Policy-Making in Britain | PLT116 | 15 credydau |
Contemporary British Politics: Key Trends | PLT421 | 15 credydau |
Global Environmental Politics | PLT426 | 15 credydau |
Themes and Debates in Contemporary Comparative Politics | PLT432 | 15 credydau |
Government from the Inside: from the Minister's Viewpoint | PLT435 | 15 credydau |
There Is No Alternative? Britain Under Thatcher | PLT447 | 15 credydau |
Politics in and about Northern Ireland since 1998 | PLT451 | 15 credydau |
Co-operation and integration in Europe: Themes and debates | PLT455 | 15 credydau |
Ethics of Public Policy | PLT457 | 15 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae astudio ar gyfer gradd ôl-raddedig yn ddwys a heriol ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae bod yn bresennol mewn dosbarthiadau a sesiynau goruchwylio traethodau hir yn orfodol; byddwn yn disgwyl i chi ymgymryd ag astudiaeth hunangyfeiriedig, bod wedi paratoi'n dda drwy gwblhau'r gwaith darllen gofynnol, a chymryd rhan lawn mewn dosbarthiadau.
Mae’r dysgu yn digwydd yn bennaf drwy sesiynau grŵp bach a gynllunnir i'ch galluogi i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol faterion polisi cyhoeddus mawr a'r cysyniadau, y theorïau a’r dulliau a ddefnyddir wrth ddadansoddi polisi cyhoeddus a gwleidyddiaeth.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r broses asesu’n digwydd drwy amrywiaeth o waith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig heb eu gweld ymlaen llaw, ynghyd ag adborth personol wedi'i gynllunio i'ch galluogi i wella eich perfformiad yn ystod y rhaglen. Mae'r gwaith cwrs a asesir yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau seminar, profion dosbarth ac adolygiadau o lyfrau ac erthyglau.
Mae asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich gradd. Mae eich marciau yn yr asesiadau hyn yn cyfrif tuag at eich dilyniant ffurfiol o Gam Un (modiwlau a addysgir) i Gam Dau (y traethawd hir), a thuag at benderfynu ar eich dyfarniad terfynol. Mae’r traethawd hir yn cynnwys asesiad crynodol Cam Dau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwn yn eich cefnogi i wella eich sgiliau astudio ac ymchwil gyda dosbarthiadau pwrpasol ar ddechrau pob semester.
Cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.
Byddwch yn derbyn cymorth bugeiliol drwy ein cynllun tiwtor personol ac mae staff academaidd ar gael i gwrdd â myfyrwyr yn ystod oriau swyddfa penodol er mwyn trafod unrhyw ymholiadau dysgu.
Rydyn ni’n cynnig rhaglen o siaradwyr gwadd a darlithoedd gwadd ac mae croeso i fyfyrwyr ddod i’r digwyddiadau hyn.
Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd gwych gyda llyfrgellwyr pwnc arbenigol a chanolfannau adnoddau. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth sgiliau ysgrifennu i'r myfyrwyr hynny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Adborth:
Mae adborth llafar yn cael ei roi yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich gwaith cwrs crynodol. Bydd adborth yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad. Bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl cyflwyno'ch asesiad.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae disgwyl i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb am eich addysg wrth i chi ymgymryd â'ch astudiaethau ôl-raddedig. Drwy gydol y rhaglen hon, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol.
Yn ystod y rhaglen, byddwch yn gallu ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a datblygu sgiliau cydweithio drwy ddatrys problemau mewn grŵp. Byddwch yn gwella eich sgiliau dadansoddi, yn gallu datblygu dadl resymegol a myfyrio ar eich dysgu eich hun drwy ddefnyddio adborth adeiladol.
Byddwch yn cael eich annog i weithio'n annibynnol ac i ddatblygu eich sgiliau ymchwil drwy chwilio am ddeunyddiau perthnasol o amrywiaeth o ffynonellau, gan werthuso'r dystiolaeth hon i ddatblygu dadl resymegol. Byddwch yn myfyrio ar faterion empirig a damcaniaethol ac yn gwerthuso ymchwil gyfredol yn feirniadol. Bydd trafod a dadlau yn mireinio sgiliau rhesymegol ac yn eich galluogi i ddeall y pwnc yn well.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth a Pholisïau Cyhoeddus yn dangos bod gennych ddealltwriaeth ragorol o lywodraeth a llunio polisïau ar lefel luosog o lywodraethu. Bydd hyn o ddefnydd mewn ystod eang o rolau o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Bydd gennych hefyd sgiliau dadansoddi, ymchwil a chyfathrebu uwch, gan gynnwys y gallu i ddatrys problemau'n annibynnol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd heriol. Am y rhesymau hyn, mae'r radd yn agor y ffordd ar gyfer gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o rolau ar lefelau lleol, Cymreig, y DU, yr UE a rhyngwladol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae'r pwyslais ar sgiliau ymchwil ac astudio annibynnol hefyd yn golygu bod graddedigion mewn sefyllfa dda i barhau â'u hastudiaethau academaidd ac ymgymryd â PhDs.
Ar ôl graddio, fe wnes i ddechrau ar gynllun i raddedigion dwy flynedd o hyd yn gweithio i adran ddigartrefedd cyngor yng ngogledd Llundain. Rydw i wedi defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillais yn ystod fy ngradd meistr drwy’r amser i helpu ysgogi gwelliannau o ran y gwasanaeth, gan gynnwys ymchwilio i newidiadau deddfwriaethol, helpu i wneud ceisiadau am arian gan y llywodraeth ganolog ac arwain prosiectau i ailstrwythuro’r gwasanaeth.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: European studies, Politics, Social sciences
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.