Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
Postgraduate student laughing
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Gallwch gaffael yr arbenigedd i fod yn ymarferydd Adnoddau Dynol cyfrifol mewn masnach fyd-eang.

briefcase

Deall Diwydiant

Cyfleoedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf o ymchwil ac ymarfer Adnoddau Dynol gan siaradwyr busnes proffil uchel ac ymweliadau gan gwmnïau.

star

Newid busnes er gwell

Cyfle i fynd i'r afael â her fusnes gyfoes yn eich Prosiect Rheoli Adnoddau Dynol.

academic-school

Yn gyfrifol yn gymdeithasol

Fel Ysgol Fusnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd.

Mae datblygiadau mewn gweithrediadau busnes a thechnoleg ar draws marchnad fyd-eang wedi creu heriau o ran rheoli gweithlu amlddiwylliannol.

Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y galw am weithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol cyfrifol i hwyluso gweithgareddau trawsffiniol.

Newid y byd yw ein busnes ni.

Mae ein cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol yn denu carfan fyd-eang sy’n ymdrechu i reoli pobl yn wahanol. Wrth baratoi ar gyfer gyrfa ym maes Adnoddau Dynol Rhyngwladol, byddwch yn dysgu i gyfuno gwybodaeth dechnegol arbenigol gyda dealltwriaeth gadarn o gyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a moesegol busnes.

Bydd ein tîm o arbenigwyr academaidd ac ymarfer yn eich helpu i fynd i’r afael â hanfodion y maes dylanwadol hwn. Byddwch chi’n rhoi rheoli adnoddau dynol yng nghyd-destun corfforaethau amlwladol tra’n mynd i’r afael â’r heriau o greu datrysiadau Adnoddau Dynol cynaliadwy sydd wedi’u llywio’n foesegol.

Achrediadau

Cardiff Business School is accredited by AACSB international - the Association to Advance Collegiate Schools of Business.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel busnes, dyniaethau, y gyfraith neu'r gwyddorau cymdeithasol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Addysgir y cwrs hwn o fis Medi i fis Mehefin a byddwch yn astudio ystod o fodiwlau craidd gorfodol ac amrywiaeth o opsiynau. Yn dilyn ymlaen o'r cam a addysgir, byddwch yn ymgymryd â phrosiect gyda chymorth gan eich goruchwyliwr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

The Autumn Semester consists of three core modules, plus ONE optional module.

During the Spring Semester, you will undertake  two core modules, plus TWO optional modules.

International Human Resource Management Project

Upon successful completion of the taught modules you will undertake the International Human Resource Management Project.

The purpose of the project is to provide you with the opportunity to test the applicability of your new learning while under close supervision.  It introduces you to the methodology of research, the systematic analysis of ideas, the problems of data collection and the presentation of ideas in a clear way. A further aim is to enable you to apply the knowledge, understanding, methodologies and skills learnt in the taught modules to individual independent research under academic supervision. 

It also requires reflection on the implications for professional practice from an ethical, professional and continuous professional development standpoint.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae ein cyfadran sydd o fri rhyngwladol yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Dulliau Addysgu

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mewn darlith, bydd y darlithydd yn bennaf yn rhoi trosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl (yn ogystal â chyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a bod yn fyfyriol). Yna mewn dosbarthiadau a gweithdai, cewch gyfle i ymarfer technegau, trafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chyfnerthu eich dealltwriaeth yn y pwnc.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r dulliau asesu'n amrywio o fodiwl i fodiwl ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os cewch unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hyb Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl pob cyfnod arholi a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Wrth weithio ar eich traethawd hir/prosiect, mae disgwyl i chi gyfarfod â’ch goruchwylydd yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd a thrafod unrhyw gwestiynau. Bydd eich goruchwylydd yn gallu rhoi adborth i chi ar eich cynllun ymchwil ac ar ddrafftiau o’ch gwaith wrth i chi weithio arnynt.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • Ddeall pynciau cymhleth gyda hyder.
  • Gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth.
  • Cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol.
  • Adnabod a defnyddio data perthnasol.
  • Datblygu sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno; i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes;
  • Gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
  • Defnyddio rhaglenni TG a phecynnau meddalwedd safonol, lle bo hynny'n briodol
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £12,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Ar ein cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol, byddwch yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfaoedd. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.

Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio'r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i'n myfyrwyr trwy:

  • interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • cydweithrediad â’n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl
  • darlithoedd gwadd
  • tripiau maes a gweithdai.

Bydd y profiad amrywiol ac eang hwn yn helpu i hyrwyddo eich gyrfa ac yn dangos sut y gallwch wneud gwahaniaeth ar y daith.

International Human Resource professionals need to have the skills to evaluate new ideas, identify which new practices will have the greatest impact on their organisations and have the confidence to disregard others in an international context. It is a field of management that offers promising careers.

This MSc programme is primarily designed for those interested in the changing nature of human resource management in a globalised world. It will provide a strong basis for a variety of careers and support:

  • Those wishing to enter into international human resource management positions in multinational firms.
  • Those wishing to join small and medium sized enterprises that are linked to global production networks and/or trading in overseas markets.
  • Those interested in working in policy making institutions or in social movements concerned with business and society.

Those wishing to pursue an academic career will also benefit from the programme as the basis to further PhD studies in international human resource management.

Gyrfaoedd ein graddedigion

  • Rheolwr Adnoddau Dynol
  • Cynghorydd Adnoddau Dynol
  • Gweinyddwr Systemau Adnoddau Dynol
  • Cydgysylltydd Recriwtio
  • Rheolwr Gwobrwyo

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Business, Human resource management, HR, Management, People, Employment relations, Work


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.