Ewch i’r prif gynnwys

Meistr mewn Gweinyddu Dylunio ((MDA) (Distance))

  • Hyd: 2 years
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

The aim of this programme is to provide students with in-depth knowledge and understanding of the management and legal aspects of design, and the skills necessary to successfully administer the procurement of design services and building projects.

academic-school

Ffocws unigryw ar reoli dylunio

Gyda ffocws unigryw ar reoli dylunio, mae’n darparu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gweinyddu’r broses caffael adeiladau, o’r cam cychwyn i’r cam deiliadaeth.

tick

Pynciau cyfredol

Mynd i'r afael â phynciau cyfredol o ddiddordeb allweddol i weithwyr proffesiynol adeiladu, gan gynnwys trefniadau caffael blaengar.

star

Arbenigedd ymchwil clodfawr

Yn seiliedig ar arbenigedd ymchwil clodfawr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru dan arweiniad yr Athro Sarah Lupton; arbenigydd adnabyddus ac awdur llyfrau ar bynciau arbenigol sy’n berthnasol i’r cwrs.

briefcase

Astudio wrth weithio

Byddwch yn astudio wrth weithio’n ymarferol; fe addysgir y cwrs hwn drwy ddysgu cyfunol gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau darparu ar-lein.

people

Carfan astudio fach

Manteisiwch ar garfan astudio fach, gweithio mewn grŵp, ac adolygu cymheiriaid.

certificate

Amrywiaeth o ddulliau asesu

Ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, fideos a gweminarau. Does dim arholiadau.

Nod y Radd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio (MDA) yw sicrhau bod graddedigion yn cael yr arbenigedd angenrheidiol i weinyddu a rheoli'r broses ddylunio'n llwyddiannus wrth gaffael adeiladau, o’r cam cychwyn i’r cam deiliadaeth.. Bwriedir i’r radd ddiwallu'r angen cynyddol am arbenigwyr ym maes rheoli dylunio, sy'n gweithio mewn ymgyngoriaethau, cwmnïau contractio neu gwmnïau contractio arbenigol, neu gyrff cleientiaid.

Mae’r rhaglen yn cyfuno agweddau rheoli a chyfreithiol ym maes caffael, gyda ffocws unigryw ar agweddau ar ddylunio, gan fynd i’r afael â phynciau cyfredol o ddiddordeb nodedig i weithwyr proffesiynol ym maes adeiladu.

Fe’i haddysgir drwy ddysgu cyfunol (cyfuniad o ddulliau dysgu o bell a chyrsiau ar y safle) a byddwch yn ei chyflawni pan fyddwch yn gweithio’n ymarferol (bydd y cwrs ar-lein yn llwyr yn 2020/21). Defnyddir ystod eang o ddulliau addysgu a dysgu o bell; gan gynnwys gweminarau ac ar-lein, blog rhaglen a byrddau trafod. Bydd deunyddiau’r cwrs ar gael ar ffurf nodiadau cwrs manwl, wicis, a chyflwyniadau fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Byddwch yn cael eich cefnogi gan diwtorialau ar-lein rheolaidd ac yn cael adborth manwl ar bob aseiniad cwrs.

Ategir yr elfen ddysgu o bell â chyrsiau ar y safle, a hynny fel arfer dros ddau neu bedwar diwrnod. Bydd y rhain yn cynnwys seminarau uwch gan arbenigwyr blaenllaw. Fel arfer, bydd y rhain yn rhyngweithiol ac yn cynnwys gweithdai grŵp, sydd â’r nod o’ch annog chi i rannu profiad a gwybodaeth a geir wrth ymarfer.

Addysgir y rhaglen hon gan arbenigwyr adnabyddus, ac mae ganddi gysylltiadau cryf â’r diwydiant, sy’n sicrhau bod y cwrs yn cwmpasu pynciau cyfredol sy’n uniongyrchol berthnasol i’r rhai sy’n rhan o gaffael prosiectau adeiladu a rheoli’r broses gynllunio.

Mae’r MDA yn targedu’r rhai sydd â gradd ym maes dylunio, adeiladu neu reoli adeiladu, er enghraifft penseiri, peirianwyr, contractwyr a chynrychiolwyr cleientiaid. Byddai pawb sydd wedi cofrestru ar y cwrs mewn gwaith fel arfer ac yn meddu ar rai blynyddoedd o brofiad, ond efallai’n chwilio am ddyrchafiad i swydd uwch ym maes rheoli dylunio, neu efallai’n dymuno sefydlu eu cwmni eu hunain.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig megis pensaernïaeth, contractio, peirianneg, rheoli cyfleusterau, neu eraill sy'n gysylltiedig â'r diwydiant adeiladu neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS. 
  3. Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud â gweinyddu a rheoli'r broses ddylunio yn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol. 
  4. Tystiolaeth eich bod yn bensaer cofrestredig sydd wedi cwblhau cwrs ARB Rhan 3 a ragnodwyd yn ddiweddar, neu dystiolaeth eich bod yn weithiwr adeiladu proffesiynol sydd wedi'i gofrestru yn ei broffesiwn ac sydd â chymhwyster cyfatebol, Os ydych yn dymuno gwneud cais am eithriad ar rai modiwlau.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf tair blynedd o brofiad proffesiynol perthnasol cyfwerth ag amser llawn, megis mewn dylunio adeiladau, y diwydiant adeiladu, neu fel cleient i'r diwydiant adeiladu. Dylai hyn gynnwys profiad o reoli neu gysylltu â thîm amlddisgyblaethol, naill ai'n fewnol i'r cwmni neu'n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol gwmnïau. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Dyma raglen dysgu cyfunol ran-amser a addysgir dros ddwy flynedd, gyda chyfanswm o 180 credyd. Mae’r cam a addysgir yn werth 120 credyd, ac fe’i dilynir gan draethawd hir gwerth 60 credyd. Caiff tri modiwl 20 credyd eu cwblhau yn ystod y flwyddyn gyntaf, a thri yn yr ail flwyddyn, a chaiff y traethawd hir ei gwblhau yn ystod yr haf.

Cyflawnir y rhaglen hon fel arfer pan fyddwch chi mewn safle gwaith perthnasol, a bydd llawer o’r profiad proffesiynol yn cyfrannu at ddysgu.  Mae gofyn i chi ddod o hyd i’ch lleoliad gwaith eich hun, fel arfer cyn i’r cwrs ddechrau, mewn lleoliad megis practis pensaer neu gwmni diwydiant adeiladu cymeradwy, neu mewn corff cleientiaid. Dylai’r gwaith fod o ansawdd digon uchel, ac yn uniongyrchol berthnasol i faes pwnc y cwrs, yn darparu deunydd y gellir seilio’r gwaith cwrs arno, ac yn cyfrannu at gaffael sgiliau penodol yn y ddisgyblaeth.

Bydd y rhaglen yn cynnwys oddeutu 80 awr o gyrsiau byr ar y safle a digwyddiadau byw ar-lein (dros ddwy flynedd). Bydd angen i chi hefyd gyflawni astudiaeth breifat yn rheolaidd er mwyn cwblhau elfennau amrywiol y gwaith cwrs.

Fel canllaw bras, i fyfyriwr amser llawn, dylai o leiaf dri diwrnod yr wythnos o brofiad gwaith gyfrannu’n uniongyrchol at y profiad dysgu, a dylid dynodi o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer amser astudio (byddai’r cyfnodau hyn yn cael eu haneru i fyfyrwyr rhan-amser).

Rydym yn argymell eich bod yn trafod yr ymrwymiad gyda’ch cyflogwyr, gan gynnwys gwneud trefniadau i fynychu digwyddiadau ar-lein ac amser i ffwrdd ar gyfer astudiaeth bellach yn ôl yr angen. Yn ddibynnol ar eich gwaith a’ch ymrwymiadau personol, dylech ystyried a fyddai’r rhaglen ran-amser yn fwy priodol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Byddwch yn cyflawni tri modiwl 20 credyd yn y flwyddyn gyntaf; Cyd-destun y Diwydiant, Gwasanaethau Proffesiynol a Chontractau Adeiladu.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyd-destun y DiwydiantART23720 credydau
Contractau AdeiladuART23820 credydau
Gwasanaethau proffesiynolART23920 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cwblhau’r tri modiwl 20 credyd sy’n weddill yn yr ail flwyddyn; Cyflwyno Dylunio, Cyflawni Prosiectau, a Chaffael Rhyngwladol. Byddwch yn cyflawni’r traethawd hir (60 credyd) yn ystod haf yr ail flwyddyn, gydag oddeutu 6 mis i’w gwblhau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflenwi DylunioART24120 credydau
Cyflenwi ProsiectART24220 credydau
Caffael RhyngwladolART24320 credydau
Traethawd hirART21460 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy ystod eang o ddulliau dysgu o bell. Os yw’n ymarferol, ar ôl ymgynghori gyda’r garfan, mae’n bosib y bydd rhai digwyddiadau ar y safle’n cael eu trefnu ar gyfer 2021, ond ar y pwynt hwn nid oes disgwyl y bydd y rhain yn hirach na deuddydd.

Bydd deunyddiau’r cwrs ar gael ar ffurf nodiadau cwrs manwl, wicis, a chyflwyniadau fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Cynhelir digwyddiadau rheolaidd wedi’u ffrydio’n fyw, gan gynnwys gweminarau a gweithdai ar-lein gan arbenigwyr blaenllaw, yn ogystal â blog sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddigwyddiadau’r cwrs a datblygiadau yn y diwydiant sy’n berthnasol i’r cwrs.

Bydd cyswllt rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Bydd gan bob modiwl ddeuddydd o ddigwyddiadau ar-lein, gydag o leiaf un weminar amser cinio, sy’n golygu y bydd un digwyddiad ar-lein bob tair wythnos o leiaf. Ategir hyn gan fyrddau trafod ynghylch pynciau penodol, adborth ysgrifenedig rheolaidd am eich gwaith, a thiwtorialau ar-lein i unigolion a grwpiau.  Byddwch yn cael eich annog i gadw dyddiadur myfyriol am eich profiad proffesiynol, a fydd yn llywio’r aseiniadau a’r tiwtorialau. Cynllunnir pob digwyddiad i’ch annog i rannu’r profiadau a’r ddealltwriaeth a geir wrth ymarfer. Bydd recordiadau o ddeunydd ar gael ar-lein drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog.

Oherwydd natur y cwrs hwn, chi sy’n gyfrifol am ddarllen e-byst a anfonir gan diwtoriaid modiwlau neu gyhoeddiadau a wneir drwy Dysgu Canolog yn rheolaidd.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod o fformatau gwaith cwrs, gan gynnwys aseiniadau strwythuredig, astudiaethau achos, traethodau, fideos wedi’u recordio ymlaen llaw, gweminarau a phenderfyniad dyfarnwr (gweler disgrifiadau’r modiwlau i gael rhagor o fanylion). Nid oes profion dosbarth nac arholiadau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol pan fyddwch yn ymrestru. Mae’r tiwtor personol yno i’ch cefnogi chi yn ystod eich astudiaethau, i’ch helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs ac i’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd drwy Collaborate (pecyn ar-lein y Brifysgol ar gyfer seminarau rhithwir, a chyfarfodydd grŵp neu un i un) gyda’ch tiwtor personol, er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Fel arfer, byddwch yn cael o leiaf dri thiwtorial unigol, gan ddefnyddio Collaborate (gweler uchod).

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, megis y Ganolfan Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Adborth

Adborth Ffurfiannol:

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw’n cyfrannu at eich cynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd.  Nod adborth ffurfiannol yn gwella eich dealltwriaeth a’ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn helpu i chi:

  • nodi eich cryfderau a’ch gwendidau a meysydd targed sydd angen gweithio arnyn nhw;
  • helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a nodwyd gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Bydd adborth ffurfiannol yn cael ei roi ar bob aseiniad ar ffurf adborth ysgrifenedig gyda graddau canllaw.

Adborth Crynodol

Mae adborth crynodol yn adborth sydd yn cyfrannu at eich cynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd.  Nod asesiad crynodol yw dangos pa mor dda rydych chi wedi llwyddo i gyrraedd y deilliannau dysgu a fwriedir mewn Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sy’n ofynnol er mwyn gwellaDylai'r holl adborth gael ei gysylltu â graddio/meini prawf asesu yn uniongyrchol.

Bydd adborth crynodol ar y cwrs hwn yn cael ei roi i bob aseiniad ac eithrio’r rhai a gyflwynir yn agos at y cyfnod asesu terfynol.

Asesir yn grynodol drwy ystod o aseiniadau gwaith cwrs, yn ddibynnol ar y modiwl (nid oes profion dosbarth nac arholiadau). Mae’r rhain yn cynnwys astudiaeth dichonoldeb, traethodau, aseiniadau strwythuredig, ac astudiaethau achos, fel y nodir yn nisgrifiadau’r modiwlau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r deilliannau dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gennych chi a bydd staff academaidd yn canolbwyntio ar beth yn union maen nhw am i chi ei gyflawni ym mhob Modiwl.

Gellir gweld y deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon isod: 

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Dangos dealltwriaeth systematig a manwl o'r dulliau a ddefnyddir i reoleiddio datblygiad, y diwydiant adeiladu a darparu gwasanaethau dylunio o fewn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt iddi
  • Gwerthuso'n feirniadol a chymharu systemau caffael cymhleth, gan gynnwys trefniadau cydweithredol ac aml-bleidiol, gan asesu eu goblygiadau i rôl ymgynghorwyr, gan gynnwys rheolwyr dylunio
  • Dangos dealltwriaeth systematig a manwl o berthnasedd rheoli dylunio i ymarfer cyfoes a rôl bosib rheolwyr dylunio wrth gyflawni amcanion cleientiaid.
  • Gwerthuso’n feirniadol weithdrefnau a theclynnau ar gyfer rheoli cwmnïau dylunio, timau dylunio, a’r broses ddylunio ar bob cam o brosiect.

 

Sgiliau deallusol: 

  • Nodi ac arfarnu ffynonellau gwybodaeth (gan gynnwys gwaith ymchwil cyfredol) sy'n ymwneud â'r diwydiant adeiladu yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt iddi, er mwyn pennu eu hawdurdod a'u dibynadwyedd.
  • Cynnal dadansoddiad manwl o ddiben, rôl ac effaith gymharol a chyfunol offerynnau rheoleiddio dethol ar ddylunio a dichonoldeb prosiectau adeiladu.
  • Dehongli effaith unigol a chyfunol telerau allweddol mewn gwasanaethau proffesiynol a chontractau adeiladu ar raddau’r cyfrifoldeb dylunio a lefel y risg a ragdybir i’r rhai sy’n rhan ohonynt.
  • Dadansoddi’n feirniadol ddulliau allweddol ar gyfer cydlynu datblygiad dyluniad cyn adeiladu, gan gynnwys integreiddio tîm dylunio, cyfraniad cynnar gan gadwyni cyflenwi, a chydweithio ar ryngwyneb galw a chyflenwad
  • Dadansoddi’n feirniadol ddulliau allweddol ar gyfer sicrhau y caiff amcanion prosiect eu cyflawni yn ystod adeiladu, gan gynnwys rheoli risg, rheoli newid, monitro ansawdd a gweithdrefnau trosglwyddo.
  • Dadansoddi a chymharu rolau gweinyddwr contract a rheolwr prosiect fel y'u nodwyd mewn amrywiaeth o fathau cyferbyniol o gontractau, gan gynnwys eu dyletswyddau a'u pwerau sy'n ymwneud â chyflawni targedau ansawdd, amser a chost.

Sgiliau ymarferol proffesiynol: 

  • Cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o alluogwyr a chyfyngiadau cyfredol (gan gynnwys rhai sefydliadol, cyfreithiol ac economaidd) sy'n berthnasol i ddichonoldeb prosiect datblygu arfaethedig.
  • Asesu'r gwasanaethau dylunio sydd eu hangen ar gyfer prosiect, a chynnig, gyda chyfiawnhad, delerau penodi priodol sy’n arwain at ddyrannu cyfrifoldebau tîm dylunio yn glir ac yn briodol
  • Cynnig a chyfiawnhau strategaethau rheoli a fyddai’n arwain at gydlyniad effeithiol gan y tîm dylunio a gwaith rheoli staff ac adnoddau effeithlon
  • Cynnig a chyfiawnhau trefniadau caffael a chytundebol a fyddai’n galluogi cynnal blaenoriaethau dylunio ac ansawdd y cleient ar bob cam o brosiect.
  • Gwerthuso sefyllfaoedd cymhleth, gan gynnwys anghydfodau adeiladu, ac arfer barn annibynnol wrth werthuso a gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r sefyllfaoedd hynny. Cyfiawnhau penderfyniadau yn glir ac yn rhesymegol.
  • Dangos y gallu dysgu annibynnol angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

 

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol: 

  • Dangos hunan-gyfeiriad a gwreiddioldeb wrth ddatrys a mynd i’r afael â phroblemau, gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio, a chyflawni tasgau mewn cyd-destun proffesiynol.
  • Cynnig methodolegau priodol ar gyfer mynd i’r afael â phwnc ymchwil dethol; cynllunio a chyflawni’r gwaith angenrheidiol i gynyddu dealltwriaeth yn y maes hwnnw
  • Dadansoddi'n feirniadol brosesau proffesiynol a chytundebol cymhleth, gan gymharu trefniadau bywyd go iawn â theori ac arfer da a argymhellir.
  • Cyfiawnhau a chyfathrebu canlyniadau astudiaeth yn glir ac mewn modd a fyddai’n hygyrch i ddatblygwyr, i weithwyr proffesiynol ac i ymchwilwyr eraill, gan ddefnyddio ystod o fformatau a chyfryngau, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, a chyflwyniadau ar-lein.

 

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £14,100 £2,500
Blwyddyn dau £14,100 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd y Brifysgol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy’n hanfodol er mwyn i chi gwblhau’r rhaglen.  Am y rheswm hwn, byddwch yn cael dyraniad ariannol bach yn ôl yr angen. Bydd y manylion yn cael eu darparu gan Arweinydd eich Rhaglen drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae gofyn bod myfyrwyr sy’n cyflawni’r cwrs hwn wedi cael profiad gwaith, a’u bod fel arfer mewn gwaith yn ystod y cwrs. Serch hynny, mae’r cwrs wedi’i gynllunio i wella eu datblygiad proffesiynol ac i gynorthwyo datblygiad gyrfaol.

Mae llawer o raddedigion y Diploma Ymarfer Proffesiynol cysylltiedig wedi mynd ymlaen i ddod yn bartneriaid neu’n gyfarwyddwyr cwmni mewn cyfnod cymharol fyr.

Lleoliadau

Mae’n ofynnol i chi fod yn gweithio mewn maes cysylltiedig yn rhan o’r cwrs hwn. Mae gofyn i chi ddod o hyd i’ch lleoliad gwaith eich hun, a hynny cyn i’r cwrs ddechrau, er enghraifft gyda chwmni pensaer, neu gyda chwmni diwydiant adeiladu cymeradwy.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Architecture


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.