Ewch i’r prif gynnwys

Marchnata (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dewch â’ch diddordebau ac arbenigedd i raglen marchnata sydd wedi’i dylunio ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir disgyblaethol.

star

Deall Diwydiant

Cyfleoedd i weld marchnata ar waith ar ymweliadau â chwmnïau a chan siaradwyr gwadd proffil uchel.

tick

Newid busnes er gwell

Cyfle i fynd i'r afael â her fusnes gyfoes, yn rhan o dîm, mewn Prosiect Marchnata byw.

structure

Marchnata yn ei gyd-destun

Byddwch yn archwilio heriau marchnata cyfoes mewn gwahanol leoliadau sefydliadol.

academic-school

Yn gyfrifol yn gymdeithasol

Fel Ysgol Fusnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd.

tick

Achrediad proffesiynol

Rydym yn falch o’r ffaith bod ein rhaglen yn radd sydd wedi’i hachredu gan CIM (Sefydliad Marchnata Siartredig).

Marchnata yw’r broses o ymgysylltu â’r byd.

Mae perthnasoedd cadarnhaol gyda chwsmeriaid, cyflogeion, cyflenwyr, busnesau eraill, cymunedau lleol, y llywodraeth ac awdurdodau rheoleiddio yn hanfodol i lwyddiant sefydliad.

Mae marchnata yn sicrhau bod yr holl berthnasoedd hyn yn rhoi hwb i’ch enw da trwy ddealltwriaeth o ymddygiad, gwneud penderfyniadau ac ymchwil marchnad.

Newid y byd yw ein busnes ni.

Lluniwyd ein cwrs MSc Marchnata i ychwanegu at eich astudiaethau blaenorol trwy roi dealltwriaeth bellach o gysyniadau, prosesau a sgiliau marchnata craidd. Byddwn ni’n eich helpu i ddatblygu’n weithiwr marchnata proffesiynol sy’n gallu dadansoddi sefyllfaoedd sefydliadol a llunio cynlluniau gweithredu ar sail tystiolaeth.

Byddwch chi’n gweithio gyda’n harbenigwyr sy’n academyddion ac yn ymarferwyr i archwilio egwyddorion ac arferion marchnata a sut mae eu defnyddio mewn llu o sectorau, o weithgareddau sy’n ymwneud â nwyddau i amgylcheddau gwasanaeth ac ar draws cyd-destunau rhyngwladol cyferbyniol. Byddwch chi’n defnyddio gwaith ymchwil blaenllaw ac enghreifftiau bywyd go iawn i ganfod sut mae sefydliadau’n cyflawni gwerth trwy weithgareddau marchnata ac ymchwil.

Daw’r rhaglen i ben gyda phrosiect marchnata byw terfynol. Byddwch yn gweithio mewn tîm i gwblhau adroddiad marchnata ar gyfer sefydliad yn seiliedig ar friff wedi’i ddiffinio a chymhwyso’r cysyniadau marchnata creiddiol a ddysgwyd ar y cwrs yng nghyd-destun sefydliad penodol.

Os ydych wedi astudio marchnata o'r blaen, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rhaglen MSc Marchnata Strategol. Fel arall, os oes gennych dair blynedd o brofiad gwaith perthnasol, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rhaglen MBA.

Achrediadau

Mark Toon
“Mae ein cwrs MSc Marchnata wedi’i ddylunio a’i gyflwyno gan academyddion sy’n arwain y ffordd y fyd-eang yn eu maes. Mae’n herio myfyrwyr i ddatblygu sgiliau marchnata creiddiol o fewn ymchwil, dadansoddi a chymhwyso.”
Dr Mark Toon Darlithydd mewn Marchnata a Strategaeth

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Os oes gennych brofiad blaenorol o astudio neu waith mewn marchnata, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rhaglen MSc Marchnata Strategol. Os oes gennych o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol ac yn bodloni'r meini prawf a nodir isod, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rhaglen MBA.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen yn cynnwys chwe bloc modiwl, ynghyd â phrosiect ymgynghoriaeth marchnata. Mae'r blociau modiwl cyntaf a'r olaf wedi'u trefnu ar eu pen eu hunain fel profiadau dysgu rhagarweiniol a chlo. Mae'r pedwar modiwl arall wedi'u trefnu mewn parau. O ganlyniad, mae'r dull bloc yn rhoi cyfle cyfoethocach ar gyfer gweithgareddau dysgu estynedig, rhyngweithio yn y dosbarth ac adolygu dysgu er mwyn gwella dealltwriaeth. Mae hefyd yn ein galluogi i gynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr unigol i feithrin eu hyder.

Mae'r modiwl rhagarweiniol yn cyflwyno’r cefndir ar gyfer gweddill y rhaglen drwy archwilio hanfodion marchnata. Mae'n eich trochi yn yr amgylchedd astudio a’r grŵp dysgu.

Byddwch yn astudio dau fodiwl craidd mewn ymchwil marchnata a marchnata gwasanaethau cyn dewis dau o'r pedwar modiwl dewisol sy’n cael eu cynnig yn y rhaglen. Ym mhob modiwl, byddwch yn cael gafael ar yr ymchwil a'r ymarfer diweddaraf ym maes marchnata.

Mae modiwl clo, ""Marchnata yn ei Gyd-destun"", yn archwilio materion cyfoes ym maes marchnata, ac mae’r theori gyffredinol a gyflwynwyd yn gynharach yn y rhaglen yn cael ei herio yn ôl cyd-destunau penodol. Mae hyn wedi'i gynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch medrusrwydd yn y pwnc.

Daw'r rhaglen i ben gyda Phrosiect Ymgynghoriaeth Marchnata, lle byddwch yn gweithio fel grŵp i ddatblygu briff gyda sefydliad ac yna’n cynnal ymchwiliad marchnata mewn ymateb i hynny.

Mae sgiliau academaidd a phroffesiynol allweddol wedi’u cynnwys yn yr holl fodiwlau, er mwyn eich helpu fagu hyder a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y rhaglen ac yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect MarchnataBST36060 credydau
Hanfodion MarchnataBST35020 credydau
Marchnata GwasanaethauBST35120 credydau
Ymchwil MarchnataBST35220 credydau
Marchnata mewn Cyd-destunBST35320 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rheoli BrandBST35420 credydau
Dadansoddeg MarchnataBST35520 credydau
Marchnata DigidolBST35620 credydau
Marchnata RhyngwladolBST35720 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dull dysgu gweithredol wedi'i ymgorffori ym MSc Marchnata. Rydyn ni o’r farn bod dysgu wedi’i seilio ar ddau beth; eich bod yn cael profiadau amrywiol, a’r ffordd rydych chi’n gwneud synnwyr o’r profiadau hynny, yn unigol ac ar y cyd â’r myfyrwyr eraill.

O’r herwydd, mae pob bloc dysgu yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel astudiaethau achos, fideos, heriau bach mewn tîm, chwarae rôl, ymweliadau â chwmnïau, a siaradwyr o’r diwydiant, ac mae’r cyfan yn ceisio cyflwyno syniadau newydd a datblygu’ch dealltwriaeth.

Byddwn yn eich helpu i wella'r sgiliau myfyriol lefel uwch y cawsoch eich cyflwyno iddyn nhw yn ystod eich gradd gyntaf, gan gynnwys arsylwi, dadansoddi a synthesis i wneud yn siŵr eich bod yn gallu datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr a chasgliadau clir am y profiadau hyn.

Byddwn hefyd yn eich cefnogi i weithio gyda myfyrwyr eraill i fyfyrio ar eich gwybodaeth a'ch sgiliau presennol. Mae rhannu eich dealltwriaeth ag eraill hefyd yn bwysig a bydd dysgu ar y cyd yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth newydd i natur marchnata mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Cewch eich annog i weithio ar y cyd mewn timau amrywiol i ystyried amrywiaeth o ddealltwriaeth ac arferion amgen.

Mae rhoi’r hyn a ddysgwyd o’r newydd ar waith hefyd yn bwysig. Byddwch yn integreiddio ac yn cymhwyso dealltwriaethau newydd, yn ogystal â sgiliau marchnata newydd, mewn tasgau ymarferol sydd wedi’u hymgorffori ym mhob bloc dysgu, ac mewn gweithgareddau gwaith cwrs ffurfiol.

Ochr yn ochr â modiwlau a asesir, mae cyfres o weithgareddau ar lefel rhaglen yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a dehongli realiti marchnata yn yr oes sydd ohoni.

Sut y caf fy asesu?

Mae strwythur blociau’r rhaglen yn rhoi digon o gyfleoedd i chi fyfyrio’n anffurfiol ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu ac ar eich datblygiad. Ym mhob modiwl, mae gweithgareddau byr ar gyfer adolygu gwybodaeth a sgiliau er mwyn i chi allu cadw llygad ar eich cynnydd a gwella’ch ffordd o ddysgu. Bydd hynny’n rhoi hwb i’ch hyder ac yn gwella eich ffordd o drin a thrafod tasgau asesu ffurfiol.

Bydd amrywiaeth o dasgau asesu ffurfiol yn rhoi cyfle i ystyried cysyniadau a modelau mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwyniadau, astudiaethau achos, adroddiadau ac arholiadau. Byddwch yn gweithio’n unigol, ac yn rhan o dîm, yn union fel y byddech yn y gweithle.

Cwblheir yr holl asesiadau ffurfiol ym mhob modiwl. Bydd hynny’n eich galluogi i atgyfnerthu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu cyn ei ddefnyddio i gyflawni’r tasgau asesu sydd wedi’u seilio ar y gwaith lefel swyddogaethol cymhleth a wneir gan weithwyr proffesiynol. Mae’n adlewyrchu amserlenni arferol y gweithle ynghylch cyflawni tasgau, hefyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion. Mae’r rhain yn cynnwys:

Cymorth Gyrfaoedd a Lleoliadau

Mae ein Rheolwr Lleoliadau dynodedig yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan Ymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol yr Ysgol Busnes.

Dysgu Canolog

Amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol yw Dysgu Canolog. Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn ystod darlithoedd ac ar ôl darlithoedd.

Llyfrgelloedd

Mae copïau caled ac electronig o amryw o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar gael i fyfyrwyr y rhaglen. Mae Llyfrgell Aberconwy ar brif safle’r Ysgol Busnes, ac mae adnoddau ychwanegol yn y llyfrgelloedd eraill sydd ar y campws. Mae llawer o gyfnodolion a llyfrau ar ffurf electronig ar gael hefyd.

System Tiwtor Personol

Bydd pob myfyriwr yn cael Tiwtor Personol. Bydd yr aelod hwnnw o’r staff academaidd yn goruchwylio eich profiadau dysgu ac addysgol yn barhaus. Bydd eich Tiwtor Personol yno i wrando ar unrhyw bryderon, gan gynnig arweiniad proffesiynol lle bo modd neu ddangos ble mae’r cymorth priodol.

Gwasanaeth Cynghori’r Myfyrwyr

Cynigir gwasanaeth cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim, a hynny heb fynegi barn, i fyfyrwyr ynglŷn ag ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd.

Y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Mae cyngor a chymorth cyfrinachol yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr anabl, y rhai ag arnyn nhw anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia, a’r rhai sy’n dioddef â chyflwr meddygol hirdymor.

Gwasanaeth Cwnsela

Mae Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymuned y Brifysgol edrych ar y materion sy’n eu rhwystro rhag cyflawni eu llawn botensial ac ystyried ffyrdd o newid. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae wedi’i gydnabod yn rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth o ran cwnsela unigolion a grwpiau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dangos dealltwriaeth fanwl o gysyniadau marchnata allweddol.
  • Gwerthuso egwyddorion, theori a chymwysiadau marchnata.
  • Dadansoddi materion cyfoes ym maes marchnata a'u heffaith ar gymdeithas.
  • Gwerthuso agweddau pwysig ar gyd-destunau marchnata.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Rhoi egwyddorion marchnata ar waith yn ymarferol.
  • Dadansoddi senarios marchnata a llunio argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cymhwyso gwybodaeth mewn ffordd wreiddiol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Gwerthuso rhoi theori ar waith, gan arwain at atebion posibl.
  • Datrys problemau mewn senarios marchnata cymhwysol.
  • Delio â materion cymhleth mewn ffordd systematig a chreadigol.
  • Dadansoddi problemau cymhleth yn seiliedig ar ddata trwyadl, a chyfathrebu'n glir â chynulleidfaoedd arbenigol neu heb fod yn arbenigol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol.
  • Gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol
  • Defnyddio technoleg ddigidol mewn amgylchedd dysgu cymhwysol.
  • Gweithio i ystod o amserlenni i gyd-fynd â gofynion tasgau ac allbynnau'r rhaglen.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £12,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Ar ein cwrs MSc Marchnata, byddwch yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfaoedd. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.

Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, a hynny trwy sicrhau a threfnu’r canlynol:

  • interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • cydweithrediad â’n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl
  • darlithoedd gwadd
  • tripiau maes a gweithdai.

Bydd y profiad amrywiol ac eang hwn yn helpu i hyrwyddo eich gyrfa ac yn dangos sut y gallwch wneud gwahaniaeth ar y daith.

Bydd y rhaglen yn galluogi cyfleoedd newydd ar gyfer gyrfa mewn Marchnata, gan ategu'r sgiliau a'r wybodaeth a gaffaelwyd gennych yn eich gradd gyntaf. Mae'r MSc Marchnata yn cynnig dyrchafiad mewn disgyblaeth y myfyriwr ei hun drwy arbenigedd ategol a gwahaniaethu gan ymgeiswyr eraill yn y maes.

Lleoliadau

Does dim cyfle am leoliad yn y rhaglen. Fodd bynnag, yn ystod y Prosiect Ymgynghoriaeth Marchnata byddwch yn gweithio'n agos gyda sefydliad ac yn datblygu cynllun marchnata i fynd i'r afael ag anghenion y sefydliad.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Business, Marketing


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.