Dogfennau Digidol (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae ein rhaglen ddogfen yn integreiddio theori ac arferion cynhyrchu dogfennol, gan roi'r cyfle i chi droi eich syniadau'n ffilmiau arloesol ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Mentor ym myd diwydiant
Byddwch ar eich ennill drwy allu cyflwyno syniadau i fentor personol ym myd diwydiant yn ogystal a thrafod y rhain a chael adborth ganddo.
Dweud eich stori
Byddwch yn datblygu portffolio o raglenni dogfen fydd yn cael eu diffinio gan eich arddull gwneud ffilmiau eich hun, a hynny mewn meysydd pwnc sy’n berthnasol ac yn ystyrlon.
Rhagoriaeth ymarferol
Bydd eich hyfforddiant yn digwydd dan arweiniad dogfenwyr profiadol sydd â phrofiad o weithio ar draws platfformau byd-eang yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Rhagoriaeth ymchwil
Bydd eich astudiaethau yn digwydd yn un o brif ysgolion ymchwil newyddiaduraeth y DU sydd yn yr ail safle yn y DU.
Mae rhaglenni dogfen yn gyfryngau hanfodol, llwyddiannus sy'n esblygu'n gyson gyda nifer cynyddol o leoedd lle cânt eu sgrinio, eu darlledu a'u ffrydio.
Gyda ni, byddwch yn cael eich hyfforddi yn y grefft ac yn agweddau technegol gwneud ffilmiau, gan gynhyrchu ffilmiau gonest a phwysig.
Gwneud ffilmiau - yr elfen ymarferol
Bydd gweithdai ymarferol dwys, sesiynau grŵp ac arweiniad un-i-un yn eich helpu i ddod o hyd i bynciau a straeon sy'n bwysig i chi, canfod dull o wneud a ffordd o ddod ar draws eich pwnc, datblygu strategaethau saethu a golygu gwahanol, ac esblygu eich iaith weledol unigryw eich hun.
Ar y radd hon byddwch yn ennill ystod o sgiliau gan gynnwys:
- Cynhyrchu, cyfarwyddo, camera, sain a golygu.
- Dysgu sut i gyfathrebu'n ddychmygus drwy'r ddelwedd symudol.
- Gwneud ymchwil ac ysgrifennu ffilm ffeithiol wreiddiol.
- Datblygu dull gweledol o adrodd straeon.
- Saethu a golygu.
- Rheoli prosiectau, amserlennu, cyllidebu, dosbarthu a chodi arian.
Byddwn yn eich hyfforddi i fod yn amryddawn, gydag arbenigedd gwerthfawr mewn cyfarwyddo, rheoli cynyrchiadau, defnyddio camera, recordio sain, golygu, a chyflwyno eich prosiectau i arianwyr a hyrwyddo eich ffilmiau i wyliau.
Mae angerdd y tu ôl i’r ffilmiau dogfen gorau
Rydyn ni’n cefnogi pob agwedd ar gynhyrchu ffilmiau, gan gynnwys ffilmiau ymgyrchu a rhai sy'n canolbwyntio ar faterion penodol, ffilmiau dogfen hir sy'n ymchwilio i rywbeth, darnau arsylwi a rhai am gymeriadau, ffilmiau arbrofol a ffilmiau dogfen am yr amgylchedd.
Ym mhrosiect terfynol y radd Meistr, byddwch yn gallu cyflwyno naill ai ffilm ddogfen ffurf hir neu bortffolio o ddarnau byrrach o waith ar gyfer gwahanol blatfformau a chyfryngau digidol.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle unigryw i weithio gyda mentor o’r diwydiant creadigol i gyflwyno’ch syniad iddo, cael adborth wrth wneud eich ffilm ac ymwneud â’r diwydiant ffilmiau dogfen a gwella eich CV.
Byddwch yn cael eich addysgu gan y goreuon
Mae trylwyredd academaidd ac ymarfer yn llywio ein haddysgu. Mae ein cyfadran, sydd o fri rhyngwladol, yn cynnwys academyddion a gwneuthurwyr rhaglenni sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes.
Mae tiwtoriaid y rhaglen wedi gweithio yn y BBC ac ar lefel ryngwladol, ac mae ganddyn nhw ehangder unigryw o wybodaeth academaidd ac am y diwydiant.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant
Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as, journalism, media or film studies or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 7.0 with 6.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn rhedeg o fis Medi i fis Medi. Rhwng mis Medi a mis Mai byddwch yn astudio 120 credyd o fodiwlau a addysgir: Bydd 110 credyd yn rhai craidd a byddwch yn dewis y 10 credyd sy'n weddill o amrywiaeth o ddewisiadau.
Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn ymgymryd â Phrosiect Meistr a fydd yn cael ei oruchwylio tan ddiwedd mis Gorffennaf, ac yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd mis Awst.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
In the first semester you will study three modules worth 20 credits each.
You will learn the practice of documentary film making, how to light, film, record sound and edit your film that is submitted at the end of the first term. The film will be a poetic piece of work that reflects your creativity and understanding of the technical skills required to make a documentary. You will go on to learn the production skills necessary to research, plan, script, budget, and schedule your film, as well as how to use stills to create a story board for a film.
You will also examine the theories of sound, image, ethics, and truth, as well as the issues and debates in the history and theory of documentaries.
In the second semester you will build on your knowledge of documentary practice, developing your camera, sound and editing skills to make a short film about a real situation or event. You will also begin thinking about your Master’s project and will work with a mentor from the broadcast industry.
At the end of the second semester you will produce a short trailer for your Master’s project: you will pitch your proposal to a panel and then receive feedback from mentors and staff.
There is also an optional module allowing you to choose subjects of special interest to you from a pool of those available related to journalism and media.
The taught phase concludes in May and subject to successful completion you will progress to your Master’s project where you can go on to make your film, or series of films for your portfolio. The portfolio will be accompanied by a business plan, the relevant production paperwork and a reflective commentary. This will be submitted at the end of August.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Documentary Practice 1 | MCT582 | 20 credydau |
Directing the Documentary 1 | MCT583 | 20 credydau |
Documentary Studies | MCT584 | 20 credydau |
Documentary Practice 2 | MCT585 | 30 credydau |
Specialist Skills Documentary | MCT586 | 20 credydau |
Masters Project | MCT587 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Media Law | MCT467 | 10 credydau |
Global Crisis Reporting | MCT494 | 10 credydau |
Reporting Health and Science | MCT498 | 10 credydau |
Social Media and Politics | MCT540 | 10 credydau |
Public Relations, Offline and Online | MCT567 | 10 credydau |
Telling Stories | MCT598 | 10 credydau |
East Meets West in Popular Culture | MCT602 | 10 credydau |
Civic Media | MCT603 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae'r rhan fwyaf o’r modiwlau'n cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai ac arddangosiadau ymarferol. Mewn darlith cewch drosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl a byddwch yn cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau a bod yn fyfyriol.
Mae dosbarthiadau a gweithdai yn eich galluogi i ddysgu'r arfer o wneud ffilmiau gan ddefnyddio'r technolegau camera, sain a golygu diweddaraf.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r dulliau asesu'n amrywio o un modiwl i’r llall. Ond, ar draws cynllun eich gradd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o waith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp. Bydd y prosiect traethawd hir yn eich galluogi i ddatblygu ffilm a phortffolio ar bwnc o'ch dewis.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion. Mae'r rhain yn cynnwys:
Dysgu Canolog
Amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol yw Dysgu Canolog. Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn ystod darlithoedd ac ar ôl darlithoedd.
Llyfrgelloedd
Mae copïau caled ac electronig o amryw o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar gael i fyfyrwyr y rhaglen. Mae llawer o gyfnodolion a llyfrau ar ffurf electronig ar gael hefyd.
System Tiwtor Personol
Byddwch yn cael Tiwtor Personol. Bydd yr aelod hwnnw o’r staff academaidd yn goruchwylio eich profiadau dysgu ac addysgol yn barhaus. Os cewch unrhyw anawsterau, bydd eich Tiwtor Personol ar gael i wrando a chynnig arweiniad proffesiynol os oes modd, neu gall eich cyfeirio at y cymorth priodol.
Gwasanaeth Cynghori’r Myfyrwyr
Mae gwasanaeth cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ar gael i chi, a hynny heb fynegi barn, ynglŷn ag ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd.
Y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia
Mae cyngor a chymorth cyfrinachol yn cael ei ddarparu i chi os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia, neu gyflwr meddygol hirdymor.
Gwasanaeth Cwnsela
Mae Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymuned y Brifysgol edrych ar y materion sy’n eu rhwystro rhag cyflawni eu llawn botensial ac ystyried ffyrdd o newid. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae wedi’i gydnabod yn rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth o ran cwnsela unigolion a grwpiau.
Canolfan y Graddedigion
Mae’r Ganolfan ar drydydd llawr Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc, ac mae’n gwasanaethu’r holl fyfyrwyr ôl-raddedig ymchwil ac a addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig cyfleusterau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer y gymuned ôl-raddedig
Adborth
Byddwch yn derbyn adborth unigol ar eich ffilmiau a’ch prosiectau ar bwyntiau cynhyrchu allweddol. Mae gweithdai a gwaith grŵp hefyd yn golygu cael cymorth gan gyfoedion a mewnbwn gan diwtoriaid.
Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?
Knowledge & Understanding:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- a professional sense of what a documentary is and the ability to evaluate and interpret the assumptions underlying it;
- an understanding of how to develop an idea from paper to screen and understand the requirements of different audiences and markets;
- an understanding of the need to achieve clarity and precision in the use of language and images, and the techniques by which this can be achieved;
- an ability to use standard software packages and hardware in your chosen medium, and be confident about your ability to learn how to use variants
- a critical awareness of contemporary practices and theories of documentary film making
Intellectual Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- the critical ability to justify and rigorously apply appropriate methodologies, techniques and practical strategies; as well being sensitive in the context of this application.
- competence in synthesising the complexities and unpredictability of researching and producing a factual programme.
- the capability to experiment with and critically evaluate documentary form with confidence and initiate this to a professional level
- a pro-actively ethical awareness in film-making through managing ethical dilemmas and finding solutions
- self-reflective learning in order to improve professional practice and develop autonomy.
Professional Practical Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- the ability to identify and construct the building blocks for a narrative
- competence to write clear, precise, attractive proposals, treatments, and commentary that is appropriate for research, pictures and for all production requirements.
- capability to budget and to evaluate and apply the resources needed for making a documentary
- capability in scheduling a shoot taking into account risk and hazard assessment
- a professional approach in the conduct of interviews with and the ability to evaluate sources for research and on camera;
- competence to participate effectively in various roles within the production process;
- the necessary skills to edit video and to work to a broadcast standard;
- the ability to use a camera to shoot professional TV footage
- listening and viewing skills to judge and critique documentary output and relate it to your own practice.
- the ability to record, develop and understand the need for good quality audio in a production;
Transferable/Key Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- competence to communicate ideas, principles and theories effectively by oral, written and practical means
- an ability to evaluate quickly a large amount of information and opinion and to adapt this into an audio/visual piece of work
- an ability to work effectively in a team and as an individual
- capacity to work under pressure and to a range of timescales to fit the requirements of programme tasks and outputs.
- awareness of relevant health, safety and ethical guidelines for all media practice.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Bydd angen i chi dalu am gostau teithio a chynhaliaeth ar gyfer ymchwil a chynhyrchu eich ffilmiau eich hun.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae'r rhaglen ddogfen yn un o'r mathau o gyfryngau sy'n ehangu ar draws pob platfform. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau a sefydliadau anllywodraethol (NGO) yn defnyddio fideos i hysbysu eu cynulleidfa fewnol ac allanol am yr hyn y maent yn ei wneud.
Bydd MA mewn Rhaglenni Dogfen Digidol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i'r rhai sydd nid yn unig am fod yn wneuthurwyr ffilmiau, ond y rhai sydd am ddefnyddio'r cyfrwng cyffrous hwn ar gyfer ystod eang o ddibenion gwahanol.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Journalism, Media, Cultural studies, Digital
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.