Ymchwil i Iaith a Chyfathrebu (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Cymerwch y cam nesaf tuag at eich gyrfa sy’n ymwneud ag iaith, wedi’i feithrin gan arbenigwyr byd-eang yn ein lleoliad sy’n un o’r goreuon yn y byd.
Career-focused
Designed for careers using communication awareness or language or linguistics related research.
Addysgu arbenigol
Mae ein harbenigwyr yn plethu prosiectau a thechnegau arloesol i mewn i’r addysgu.
Cydnabyddir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
Mae gan y rhaglen hon Gydnabyddiaeth Cwrs Uwch gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o ran bod yn gynllun hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig.
Sylfeini ymchwilio
Cyfle i gael dealltwriaeth o ddulliau ymchwil sylfaenol allweddol cyn canolbwyntio ar ddefnydd iaith mewn cyd-destunau proffesiynol.
Wedi’i lleoli yn y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu sy’n uchel ei barch, mae ein MA Ymchwil i Iaith a Chyfathrebu yn cynnig hyfforddiant cadarn mewn dulliau ymchwil ac ymarfer, yn ogystal â’r rhyddid i deilwra’r rhaglen yn seiliedig ar eich diddordebau ymchwil a’ch dyheadau o ran gyrfa.
Wedi’i dylunio ar gyfer gyrfaoedd sy’n defnyddio ymwybyddiaeth o gyfathrebu neu ar gyfer ymchwil sy’n berthnasol i iaith neu ieithyddiaeth, mae’r rhaglen hon yn cynnig y fantais ychwanegol o Gydnabyddiaeth Cwrs Uwch gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel cynllun hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig.
Fe wnewch chi ennill dealltwriaeth wych o ddulliau ymchwil sylfaenol a phatrymau damcaniaethol, cyn rhoi’r theorïau hyn ar waith ac arbenigo yn y meysydd o ymholiadau ieithyddol sydd fwyaf pwysig ar gyfer eich gyrfa.
Mae’r rhaglen meistr hon yn cyfuno’r astudiaeth o faterion damcaniaethol a dadansoddi meintiol ac ansoddol data cyfathrebu ac iaith. Trwy gydol eich gradd fe gewch chi gefnogaeth gan arbenigwyr rhyngwladol cydnabyddedig, gyda’u hangerdd dros addysgu ac ymchwil yn meithrin amgylchedd academaidd bywiog a chyfeillgar.
Mae ein harbenigwyr yn arwain ar brosiectau arloesol mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys caffael iaith, sosioieithyddiaeth, ieithyddiaeth hanesyddol, dadansoddi disgwrs, cyfathrebu proffesiynol, ieithyddiaeth corpws, ieithyddiaeth swyddogaethol systemig ac ieithyddiaeth fforensig, gan gynnal ystod o grwpiau darllen ac ymchwil yn y meysydd ymchwil hyn.
Gan feithrin arena academaidd rhyngwladol ar gyfer ymchwil arloesol, rydym yn cynnal trafodaethau gan academyddion gwadd o bob rhan o’r byd, yn ogystal â phreswylfeydd ymchwil uwch ac ysgolion haf achlysurol. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn elwa ar yr amgylchedd ymchwil llewyrchus hwn a chefnogaeth gan ystod eang o weithwyr proffesiynol a fydd yn arwain eich datblygiad personol a phroffesiynol.
Mae Iaith Saesneg yng Nghaerdydd ymhlith y 100 gorau yn y byd (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2020) ac ymhlith y deg uchaf ar gyfer ymchwil yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area, linguistics, language and communication, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 7.0 with at least 6.5 in all other subskills
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application by looking at the modules you have studied and grades achieved to ensure you have the relevant knowledge to succeed on the programme. If you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r MA mewn Ymchwil Iaith a Chyfathrebu yn rhaglen fodiwlaidd ran-amser sy'n para dwy flynedd.
Mae cam un yn cynnwys elfen a addysgir y rhaglen ac mae cam dau yn cynnwys traethawd hir dan oruchwyliaeth, rhwng 15,000 ac 20,000 o eiriau.
Byddwch yn astudio pedwar modiwl gorfodol ac yn dewis dau fodiwl dewisol arall. Dilynir yr un modiwlau dros ddwy flynedd ar gyfer y rhaglen fodiwlaidd ran-amser hon.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Byddwch yn astudio pedwar modiwl gorfodol ac yn dewis dau fodiwl dewisol pellach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Qualitative Research Methods | SET012 | 20 credydau |
Quantitative Research Methods | SET013 | 20 credydau |
Research Foundations in Language and Communication | SET030 | 20 credydau |
Research Experience in Language and Communication Research | SET034 | 20 credydau |
Dissertation | SET015 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Forensic Linguistics I | SET001 | 20 credydau |
Discourse and Social Interaction | SET005 | 20 credydau |
Current Issues in Sociolinguistics | SET006 | 20 credydau |
Phonetics and Phonology | SET033 | 20 credydau |
Language Learning: Theory and Practice | SET036 | 20 credydau |
Systemic Functional Grammar | SET038 | 20 credydau |
Public and Professional Discourse | SET041 | 20 credydau |
Corpus Linguistics | SET042 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae staff, â chanddynt enw da yn rhyngwladol am ymchwil arloesol a dylanwadol ar draws sbectrwm eang o faterion cysylltiedig, yn gyfrifol am yr addysgu.
Byddwch yn dysgu gwybodaeth a dealltwriaeth graidd drwy ddarlithoedd, seminarau grŵp bach a thrafodaethau grŵp.
Mae'r gwaith o addysgu modiwlau craidd yn cyfuno trafodaethau ar faterion damcaniaethol a heriau ymarferol dadansoddi data iaith/cyfathrebu yn ansoddol a meintiol. Mae’r addysgu ar gyfer modiwlau dewisol yn darparu trafodaeth ddamcaniaethol bellach, gan ganolbwyntio rhywfaint ar ddatblygu sgiliau ymchwil ymarferol.
Mae Sgiliau Deallusol yn cael eu hyrwyddo drwy ddarlithoedd, seminarau a thrafodaethau grŵp, gyda goruchwyliaeth unigol ac arweiniad ar gael wrth gynllunio ac ysgrifennu’r traethawd hir. Byddwch hefyd yn dysgu drwy oruchwyliaeth un-i-un ar gyfer traethodau hir a phrosiectau 'profiadau ymchwil' unigol.
Mae'r gweithgareddau dysgu'n amrywio o un modiwl i’r llall fel y bo'n briodol. Ond, fel rheol, byddant yn cynnwys trafodaethau rhyngweithiol ar destunau/pynciau wedi'u paratoi ac, mewn rhai achosion, cyflwyniadau wedi'u harwain gan fyfyrwyr.
Fe’ch anogir i wneud yn fawr o’n hadnoddau llyfrgell rhagorol, a bydd disgwyl i chi baratoi, er enghraifft drwy ddarllen yn eang er mwyn gallu cymryd rhan lawn.
Sut y caf fy asesu?
Asesir y gydran a addysgir drwy waith cwrs yn unig.
Caiff modiwlau eu hasesu ar sail disgrifiadau dadansoddol o destunau neu gyfryngau eraill a/neu draethodau disgyrsiol. Byddwch yn cael eich annog i ddewis eich testunau eich hun i'w dadansoddi, neu hyd yn oed i gasglu data gwreiddiol, ac i gysylltu eu dadansoddiadau â meysydd o ddiddordeb personol.
Wrth asesu, rhoddir pwyslais ar soffistigeiddrwydd beirniadol a chysyniadol yn ogystal ag ar gynhyrchu traethodau clir, argyhoeddiadol ac ysgolheigaidd wedi’u cyflwyno mewn modd proffesiynol ac ar amser.
Fe'ch anogir i ymgynghori ag arweinydd y modiwl perthnasol i drafod y prif syniadau a'r cynllun ar gyfer eich aseiniadau. Dylid nodi unrhyw safonau academaidd neu gymhwysedd a allai gyfyngu ar unrhyw addasiadau neu asesiadau amgen sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr anabl, os o gwbl, yn y Disgrifiadau o’r Modiwlau.
Arholir ail ran yr MA drwy gyfrwng traethawd hir, gyda chymorth goruchwyliaeth unigol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost hefyd. Yn ogystal, gallwch wneud apwyntiadau i weld eich tiwtor personol neu arweinwyr modiwlau ar sail un-i-un i drafod unrhyw faterion. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.
Y tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt i drafod unrhyw broblemau sy'n codi gyda'r cwrs ond fe'ch anogir hefyd i drafod eich syniadau gyda thiwtoriaid y modiwlau mewn seminarau ac ar sail un-i-un yn ystod oriau swyddfa.
Byddwch yn cael eich partneru ag aelod dynodedig o staff er mwyn cymryd rhan dan oruchwyliaeth yn y modiwl craidd, Profiad Ymchwil, mewn prosiect ymchwil parhaus mewn cyfres o gyfarfodydd wedi'u cofnodi. Byddwch yn ysgrifennu adroddiad yn archwilio'r broses yn feirniadol yn ogystal â chynnyrch y gweithgareddau ymchwil.
Adborth
Cynigir trafod aseiniadau a rhoddir adborth ysgrifenedig ar asesiadau crynodol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol drwy gyflwyniadau a thrafodaethau mewn seminarau, gweithdai ar ddatblygu sgiliau trawsgrifio, gwneud cyflwyniadau a chyflwyniadau poster a gwaith prosiect.
Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch hefyd wedi meistroli sgiliau dadansoddol a beirniadol yn ogystal â sgiliau ysgrifennu a chyflwyno.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae’r rhaglen arbenigol hon yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa mewn ymchwil i iaith a chyfathrebu, gyda’r mwyafrif o raddedigion yn anelu at symud ymlaen i wneud PhD.
Ar draws yr Ysgol, mae ein hôl-raddedigion yn defnyddio eu sgiliau newydd ar draws sbectrwm eang o broffesiynau, yn arbennig yn y cyfryngau ac economïau creadigol, addysg a’r sectorau iechyd. O’r sector cyhoeddus i’r sector preifat, rydym yn hwyluso gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd.
Roedd 86% o raddedigion yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2016/17).
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Language, Communication
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.