Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltiadau Rhyngwladol (MSc Econ)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Gallwch feithrin dealltwriaeth fanwl o Gysylltiadau Rhyngwladol a chael eich addysgu gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.

star

Rhaglen astudio hyblyg

Dewiswch fodiwlau arbenigol mewn ystod eang o feysydd a addysgir gan staff sy'n ymchwilwyr blaenllaw yn eu meysydd.

mortarboard

Defnyddiwch ein hymchwil

Rydym yn ysgol ryngddisgyblaethol sydd yn cynnal ystod o seminarau ymchwil a siaradwyr gwadd yn aml.

book

Dangoswch eich gwybodaeth

Dyma’r cyfle i ymgymryd ag ymchwil fanwl ar bwnc ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol sydd o ddiddordeb ichi.

people

Defnyddio ein cysylltiadau

Mae gennym gysylltiadau agos â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (Cymru).

Mae ein rhaglen MSc Econ Cysylltiadau Rhyngwladol yn rhychwantu is-feysydd theori cysylltiadau rhyngwladol, diogelwch rhyngwladol, gwyddor wleidyddol ac athroniaeth, cyfraith ryngwladol, dadansoddi polisi tramor, diplomyddiaeth, hanes rhyngwladol ac economi wleidyddol rhyngwladol.

Mae’r rhaglen yn darparu strwythur ar gyfer astudiaeth uwch mewn maes disgyblaeth cyffrous. Mae modiwlau dewisol arbenigol yn mynd i’r afael ag ystod o bryderon byd-eang cyfoes megis gwleidyddiaeth amgylcheddol, ffeministiaeth, technolegau digidol a rheoli gwrthdaro.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth lawn o ddatblygiad disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, ac yn gallu dilyn diddordebau arbenigol o fewn fframwaith cyffredinol.

Bydd y rhaglen yn eich galluogi i gyfarwyddo â hanfodion y maes Cysylltiadau Rhyngwladol, ac yn dangos sut maent wedi dylanwadu ar ystod o feysydd arbenigol o’r astudiaeth. Mae wedi’i strwythuro i roi’r cyfarpar methodolegol sydd ei angen arnoch i gynnal gwaith ymchwil hanfodol yn y maes eang a heriol hwn.

Fe gewch chi eich cyflwyno i brif ddamcaniaethau a chysyniadau ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol drwy fodiwl craidd y rhaglen, a’ch cyflwyno i ymarfer ymchwil yn y maes hwn drwy’r cwrs a addysgir ar sgiliau a dulliau ymchwil.  Ar ôl cwblhau eich gwaith cwrs, byddwch yn ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o’ch dewis gyda chefnogaeth goruchwyliwr academaidd.

Yn dilyn ehangu rhyfeddol yn 2016, fe dyfodd y tîm Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn un o’r rhai mwyaf yn y DU. Fe gewch chi eich addysgu gan staff sy’n ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes ac yn wahanol i unrhyw raglenni ôl-raddedig Cysylltiadau Rhyngwladol eraill yn y DU, caiff ein holl fodiwlau eu haddysgu gan staff academaidd parhaol.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6102
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn economeg, Saesneg, daearyddiaeth, hanes, cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith, ieithoedd modern, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg, astudiaethau crefyddol, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i roi sylfaen gadarn yn y sgiliau disgyblaethol ac academaidd sy'n ganolog i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol.

Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam. Mae Cam Un (yr elfen a addysgir) yn cynnwys modiwlau 15 a 30 credyd gorfodol a dewisol a addysgir, a arweinir gan ymchwil, dros semester yr hydref a'r gwanwyn. Bydd gwaith modiwl yn cael ei asesu ar ddiwedd pob semester.

Yn ystod Cam Dau mae gofyn i chi wneud ymchwil ac ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis. Mae'r traethawd hir yn werth 60 credyd, a chefnogir y gwaith gan oruchwyliwr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae Blwyddyn Un yn cynnwys modiwlau a addysgir sydd werth hyd at 120 credyd, a gyflwynir drwy fodiwlau gorfodol a dewisol 15 a 30 credyd. Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir 60 credyd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddadansoddi a gwerthuso syniadau a gwybodaeth o ddarllen dan arweiniad.

Mae'r rhaglen hon yn eich cyflwyno i natur ymchwil ôl-raddedig, yn bennaf drwy'r cwrs a addysgir mewn dulliau a sgiliau ymchwil, ac wedyn drwy ymchwil hunangyfeiriedig annibynnol gyda chymorth goruchwyliwr, a fydd yn arwain at y traethawd hir.

Mae astudio ar gyfer gradd Meistr yn ddwys ac yn heriol ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae bod yn bresennol mewn dosbarthiadau a sesiynau goruchwylio traethodau hir yn orfodol. Byddwn yn disgwyl i chi ymgymryd ag astudiaeth hunangyfeiriedig, cwblhau'r gwaith darllen gofynnol a bod yn barod i gymryd rhan lawn mewn trafodaethau dosbarth.

Sut y caf fy asesu?

Traethodau gwaith cwrs fydd y prif ddull asesu. Gallai mathau eraill o asesu gynnwys arholiadau heb eu gweld ymlaen llaw, cyflwyniadau seminar, profion dosbarth ac adolygiadau o lyfrau ac erthyglau.

Mae asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich gradd. Mae eich marciau yn yr asesiadau hyn yn cyfrif tuag at eich dilyniant ffurfiol o gam un (modiwlau a addysgir) i gam dau (y traethawd hir), a thuag at benderfynu ar eich dyfarniad terfynol. Mae’r traethawd hir yn cynnwys asesiad crynodol cam dau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwn yn eich cefnogi i wella eich sgiliau astudio ac ymchwil gyda dosbarthiadau pwrpasol ar ddechrau pob semester.

Cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.

Byddwch yn derbyn cymorth bugeiliol drwy ein cynllun tiwtor personol ac mae staff academaidd ar gael i gwrdd â myfyrwyr yn ystod oriau swyddfa penodol er mwyn trafod unrhyw ymholiadau dysgu. Rydyn ni’n cynnig rhaglen o siaradwyr gwadd a darlithoedd gwadd ac mae croeso i fyfyrwyr ddod i’r digwyddiadau hyn. Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd rhagorol gyda llyfrgellwyr pwnc arbenigol a chanolfannau adnoddau. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth sgiliau ysgrifennu i'r myfyrwyr hynny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Adborth

Mae adborth llafar yn cael ei roi yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich gwaith cwrs crynodol. Bydd adborth yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu a'ch ysgrifennu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad. Bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl cyflwyno'ch asesiad.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae disgwyl i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb am eich addysg wrth i chi ymgymryd â'ch astudiaethau ôl-raddedig. Drwy eich gradd Meistr, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol.

Yn ystod y rhaglen, byddwch yn gallu ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig a datblygu sgiliau cydweithio. Byddwch yn gwella eich sgiliau dadansoddi, yn gallu datblygu dadl resymegol a myfyrio ar eich dysgu eich hun drwy ddefnyddio adborth adeiladol.

Byddwch yn cael eich annog i weithio'n annibynnol ac i ddatblygu eich sgiliau ymchwil drwy chwilio am ddeunyddiau perthnasol o amrywiaeth o ffynonellau, gan werthuso'r dystiolaeth hon i ddatblygu dadl resymegol. Byddwch yn myfyrio ar faterion empirig a damcaniaethol ac yn gwerthuso ymchwil gyfredol yn feirniadol.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd gennych y rhinweddau sydd eu hangen i gael eich cyflogi mewn amgylchiadau sy'n gofyn am farn gadarn, cyfrifoldeb personol a mentergarwch, mewn amgylcheddau proffesiynol cymhleth ac nad oes modd eu rhagweld.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2024/25 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae graddedigion o'r rhaglen hon wedi dod o hyd i gyflogaeth mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gwasanaeth y llywodraeth a diplomyddol, Sefydliadau Anllywodraethol (NGOs), y cyfryngau a sefydliadau rhyngwladol. Mae nifer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ar lefel PhD ac ymgymryd ag ymchwil pellach. Mae'r cwrs hefyd yn ddefnyddiol fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer gyrfaoedd fel addysgu, bancio a masnach.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: European studies, International relations, Politics


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.