Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg Data-ddwys (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Studying at the Cardiff University School of Physics and Astronomy

Mae'r MSc mewn Ffiseg Data-Ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd mewn ffiseg yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig.

Mae'r MSc mewn Ffiseg Data-ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig. Drwy gyfuno dadansoddi data a thechnegau cyfrifiadurol â disgyblaeth gwyddoniaeth greiddiol, bwriedir i'r cwrs fodloni'r galw cynyddol am ôl-raddedigion sydd â chymwysterau da sy’n arbenigo mewn ymateb i ystod o heriau sy'n codi yn y maes cyffrous hwn.

Cyflwynir y cwrs gan aelodau o’n Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data, a sefydlwyd yn ddiweddar er mwyn cynnal gwaith ymchwil sylfaenol i agweddau ar reoli, dadansoddi a dehongli llawer iawn o wybodaeth destunol a rhifiadol.

Elfen allweddol ar y cwrs yw prosiect haf tri mis o hyd, a fydd wedi'i leoli naill ai yn ein Hysgol Ffiseg a Seryddiaeth, neu gydag un neu fwy o'n partneriaid allanol. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gymhwyso methodolegau gwyddor data modern i broblem ym maes ffiseg (fel ffotoneg, bioffotoneg, nanowyddoniaeth, ffiseg deunyddiau, ffiseg feddygol, neu feysydd eraill ffiseg ddamcaniaethol neu gyfrifiadurol), gan ddarparu'r profiad ymarferol sydd ei angen i lwyddo ym maes deinamig Ffiseg Data-ddwys yn ogystal ag agweddau ehangach ar wyddor data.

Nodweddion unigryw

  • Central to the design of the course is the opportunity for you to acquire real research experience in connection with world-leading scientists, greatly enhancing your CV and prospects for employment or further study.
  • As well as providing a solid core in all the necessary elements of Data Science, the programme allows a choice of elective modules and project work that can be tailored to suit whatever specialism you are interested in, whether that be gravitational waves, star or galaxy formation or cosmology.
  • You’ll join a well-established and growing cohort of MSc students and be based in a dedicated teaching facility that encourage a “research group” community atmosphere that has been praised by students and external examiners.  You’ll also have the opportunity to interact with students on related courses such as our MSc Data Science and Analytics.
  • As a successful graduate of this course you will be ideally placed to take advantage of the growing employment opportunities being generated by the demands of “Big Data”.
Coming from a mathematics undergraduate background I had only been evaluated by my ability to complete examinations. The research aspect of the MSc, along with the core modules, allowed me to hone a wider array of skills such as grant applications, presenting complex material to a variety of audiences, and reviewing current literature to identify gaps. These skills are necessary to pursue a career in academia, and through the guidance and support of the MSc coordinators I now feel not only prepared for work in a research group, but that I can effectively contribute to such a group.
Rhys Williams, MSc Physics 2017/18

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Mae ein rhaglenni gradd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg yn cynnwys meysydd arbenigol sy’n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 208 74458
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis seryddiaeth, astroffiseg, cyfrifiadureg, peirianneg, mathemateg, ffiseg, neu wyddoniaeth ffisegol gysylltiedig, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)

Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc Ffiseg Data-ddwys yn rhaglen Ôl-raddedig a Addysgir, dau gam (120 credyd a addysgir, 60 credyd prosiect ymchwil) a gyflwynir dros dri thymor (hydref, gwanwyn a haf) am gyfanswm o 180 credyd.

Tymor yr hydref (60 credyd, a addysgir)

Byddwch yn ymgymryd â thri modiwl craidd (cyfanswm o 50 credyd) sy'n cwmpasu sgiliau craidd ac un modiwl dewisol o 10 credyd mewn arbenigedd ffiseg o'ch dewis.

Tymor y gwanwyn (60 credyd, a addysgir)

Byddwch yn ymgymryd â dau fodiwl craidd (cyfanswm o 40 credyd) sy'n cwmpasu sgiliau craidd a dau fodiwl dewisol o 10 credyd, a’r ddau mewn arbenigedd ffiseg o'ch dewis.

Rhaid i chi gwblhau 120 credyd cydran a addysgir y cwrs yn llwyddiannus cyn y caniateir i chi symud ymlaen i gydran y prosiect ymchwil.

Tymor yr haf (60 credyd, prosiect ymchwil)

Mae tymor yr haf yn cynnwys un modiwl prosiect ymchwil 60 credyd 3 mis o hyd. Bydd gofyn i chi ysgrifennu traethawd ymchwil hir a chyflwyno eich ymchwil i'r Ysgol er mwyn cwblhau'r modiwl hwn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Bydd gennych bythefnos ar ddechrau tymor yr hydref i fynd i unrhyw gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi fel y gallwch gwblhau eich dewis ar gyfer y tymor hwnnw.  Bydd angen i chi wneud eich dewisiadau terfynol ar gyfer tymor y gwanwyn cyn gwyliau’r Nadolig.  Byddwch yn cael eich cefnogi i gynhyrchu a thrafod cynnig prosiect ymchwil yn ystod tymor y gwanwyn er mwyn paratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil dros yr haf.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect YmchwilPXT99960 credydau
Dysgu Peiriant CymhwysolCMT30720 credydau
Egwyddorion Dysgu PeiriantCMT31120 credydau
Dadansoddi DataPXT12510 credydau
Gwyddor DataPXT14610 credydau
Technegau Uwch mewn Ffiseg ac AstroffisegPXT99120 credydau
Sgiliau Astudio ac Ymchwil UwchPXT99220 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a sesiynau cyfrifiadurol ymarferol.

Gall darlithoedd fod ar amrywiaeth o ffurfiau yn dibynnu ar y pwnc sy'n cael ei addysgu. Yn gyffredinol, defnyddir darlithoedd i gyfleu cysyniadau, i roi cyd-destun i weithgareddau ymchwil yn yr Ysgol ac i ddangos dulliau damcaniaethol, cysyniadol a mathemategol allweddol. Bydd darlithoedd bob amser yn cael eu diweddaru, gyda'r modiwlau arbenigol yn darparu mynediad i gysyniadau a dulliau arloesol.

Mewn sesiynau tiwtorial a seminarau cewch gyfle i drafod a myfyrio ar gysyniadau ffisegol, mathemategol, codio / ymarferol neu arbenigol penodol, i atgyfnerthu a chael adborth ar eich dysgu unigol ac i ddatblygu sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi a gwerthuso erthygl ymchwil ddiweddar i'r grŵp.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu sgiliau gwerthuso, myfyrio, dadansoddi a chyflwyno drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol fel cyfarfodydd grwpiau ymchwil, trafodaethau seminar ysgol ac mewn trafodaethau grŵp agored. Byddwch bob amser yn cael eich annog i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu a sut gellir cyfuno hyn â thechnegau a chysyniadau eraill i fynd i'r afael â phroblemau newydd.

Yn y sesiynau cyfrifiadura ymarferol byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau eang, boed hynny drwy ddefnyddio'ch sgiliau codio i awtomeiddio arbrawf labordy, dylunio cydrannau ar gyfer darn mawr o offer neu ddatrys problemau caledwedd ymchwil. Mae pwyslais yr MSc Ffiseg Data-ddwys ar y sgiliau ymarferol hynny a fydd yn ddefnyddiol mewn amgylchedd ymchwil ac felly bydd galw mawr amdanyn nhw ymhlith cyflogwyr.

Sut y caf fy asesu?

Adborth Ffurfiannol

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw;
  • Helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Adborth Crynodol

Adborth crynodol yw adborth sy'n cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw nodi pa mor dda rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella. Mae'r holl adborth wedi’i gysylltu'n uniongyrchol â meini prawf graddio / asesu'r Modiwl.

Mae ein modiwlau fel arfer yn cynnwys cymysgedd o adborth ffurfiannol a chrynodol. Gall yr adborth ffurfiannol fod yn adborth ysgrifenedig (e.e. yn cyfeirio at atebion enghreifftiol o setiau o broblemau wythnosol, fel arfer) neu’n adborth llafar yn ystod dosbarthiadau ymarferion neu sesiynau tiwtorial. Mae asesiadau crynodol yn cael eu gosod hefyd (bob pedair wythnos fel arfer) ac mae'r adborth a ddarperir ar gyfer y rhain yn eich galluogi i wella bob yn dipyn wrth ddatblygu eich set sgiliau craidd, gan roi digon o gyfle i chi roi awgrymiadau ein staff arbenigol ar waith.

Mae ein modiwlau fel arfer yn cynnwys cyfuniad o asesiadau ffurfiannol a chrynodol ac adborth gan staff addysgu i fyfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r rhain.

Asesiadau Crynodol ac Adborth

Adborth crynodol yw adborth sy'n cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw rhoi syniad o ba mor dda rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella. Bydd yr holl adborth yn cysylltu'n uniongyrchol â meini prawf graddio / asesu'r Modiwl.

Mae'r union ddull a ddefnyddir yn amrywio o un modiwl i’r llall, ond mae asesiad crynodol fel arfer yn cynnwys gwaith cwrs (yn aml ar ffurf setiau problemau, ymarferion rhaglennu, prosiectau bach) a/neu arholiad heb ei weld ymlaen llaw. Mae'r modiwlau craidd ar gyfer yr MSc Ffiseg Data-ddwys yn cael eu hasesu'n barhaus yn bennaf ac mae'r modiwlau dewisol fel arfer yn cynnwys 80% o arholiadau heb eu gweld ymlaen llaw ac 20% o waith cwrs.

Asesiadau Ffurfiannol ac Adborth

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw;
  • Helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Gall yr adborth ffurfiannol a roddwn fod yn adborth ysgrifenedig (gan efallai gyfeirio at atebion enghreifftiol o setiau problemau wythnosol, fel arfer) neu’n adborth llafar yn ystod sesiynau tiwtorial grŵp bach.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd Cydlynwyr ein MSc yn diwtoriaid personol i chi. Byddant yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs ac yn eich cynghori ar dechnegau ymchwil ac astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Eich tiwtoriaid personol fydd y pwnt cyswllt cyntaf i chi os byddwch chi’n cael unrhyw anawsterau hefyd. Gan fod swyddfa Cydlynwyr yr MSc o fewn Cyfleusterau Addysgu’r MSc, mae modd codi (a datrys) unrhyw broblemau yn gyflym iawn.

Gwahoddir ein myfyrwyr MSc i bob digwyddiad ôl-raddedig gan gynnwys y Gyfres o Ddarlithoedd Ôl-raddedig a'r Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig. Yn y digwyddiadau hyn gallwch gyfarfod a siarad â myfyrwyr PhD, ymchwilwyr a mynychu darlithoedd allweddol sy'n cwmpasu gweithgareddau ymchwil, arfer gorau a diogelwch yr Ysgol.

Mae gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Weinyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr penodedig ar gyfer Astudiaethau Ôl-raddedig a Chyswllt Anableddau. Dylech gysylltu â'r aelod hwn o staff yn gyntaf i drafod unrhyw faterion sy’n ymwneud ag Anabledd neu Amgylchiadau Eithriadol. Bydd pob ymholiad yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac yn brydlon.

Hefyd, mae gan yr Ysgol Swyddog Cymorth Addysg penodedig a fydd yn gallu delio â phob math o faterion gan gynnwys amserlennu, gweinyddu'r Brifysgol, dewis modiwlau ac archebu ystafelloedd y Brifysgol ar gyfer digwyddiadau / sesiynau astudio dan arweiniad myfyrwyr.

Mae ein modiwlau i gyd yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma gallwch gael mynediad at fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd (os ydyn nhw ar gael), dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig, sleidiau darlithoedd, sgriptiau asesu, atebion enghreifftiol ac enghreifftiau o waith myfyrwyr o flynyddoedd blaenorol.

Pan fyddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil yr haf byddwch yn cael prif oruchwyliwr academaidd ac ail oruchwyliwr academaidd a fydd yn gyfrifol am roi cyngor a chefnogaeth briodol i chi drwy gydol eich prosiect ymchwil. Nhw fydd eich pwynt cyswllt cyntaf yn ystod y prosiect ymchwil ac fel arfer, eich prif oruchwyliwr yw'r ymchwilydd arweiniol yn y grŵp / is-grŵp rydych yn ymuno ag ef.

Os byddwch yn ymgymryd â'ch prosiect ymchwil gydag un o'n partneriaid allanol (naill ai mewn diwydiant neu sefydliad ymchwil) yna gall un o'ch goruchwylwyr fod o du allan i'r Brifysgol. Ond bydd eich prif oruchwyliwr bob amser yn aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd.

Mae myfyrwyr prosiect ymchwil yn cael mentor prosiect ymchwil, a fydd fel arfer yn un o Gydgysylltwyr yr MSc. Byddwch yn cyfarfod o leiaf ddwywaith â'ch mentor prosiect ymchwil, a fydd yn gwbl ddiduedd ac yn gallu rhoi cyngor ac (os oes angen) gweithredu unrhyw newidiadau brys neu ddatrys problemau y gallech fod yn eu profi. At ei gilydd, bydd gennych o leiaf dri (prosiectau academaidd) neu bedwar (prosiectau diwydiannol) aelod o staff yn eich cefnogi drwy gydol eich prosiect ymchwil.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i feithrin ysbryd cymunedol cryf o fewn y garfan MSc. Byddwch yn gweithio gyda'ch gilydd mewn parau, mewn grwpiau ac fel carfan. Cynhelir cyfarfodydd grŵp wythnosol lle byddwch yn adrodd am gynnydd, yn trafod problemau ac yn awgrymu atebion. Mae'r gefnogaeth gref hon gan gymheiriaid a dysgu/addysgu gan gymheiriaid wedi profi'n hynod bwerus, gyda myfyrwyr ac Arholwyr Allanol fel ei gilydd yn nodi'r effaith gadarnhaol gref y mae'n ei chael o ran gwella dysgu myfyrwyr MSc.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gennych chi a bydd staff academaidd yn canolbwyntio ar beth yn union maen nhw am i chi ei gyflawni ym mhob Modiwl.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau’r Rhaglen, byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • Lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o'r datblygiadau newydd ym maes ffiseg data-ddwys;
  • Lefel soffistigedig o'r wybodaeth graidd sy'n berthnasol i ymarfer ffiseg data-ddwys, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am lenyddiaeth academaidd, agweddau pwysig gwybodeg a dadansoddi data, technegau cyfrifiadura perfformiad uchel, a materion ehangach sy'n gysylltiedig â chadwraeth data ac ati.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r pecynnau meddalwedd mwyaf effeithiol, yr ieithoedd rhaglennu a’r technegau mathemategol sy'n ganolog i fynd i'r afael â phroblemau ymchwil ym maes ffiseg data-ddwys.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau’r Rhaglen, byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • Set o sgiliau damcaniaethol a chyfrifiadurol soffistigedig, mathemategol a dadansoddi data a'r gallu i addasu'r sgiliau hyn i gymwysiadau newydd;
  • Set o sgiliau arbenigol soffistigedig sy'n deillio o'r modiwlau dewisol a'r gallu i addasu'r sgiliau hyn i gymwysiadau newydd;
  • Y gallu i ddadansoddi, gwerthuso, curadu a chyfosod llenyddiaeth academaidd o'r radd flaenaf a'r technegau diweddaraf.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen byddwch yn gallu:

  • Integreiddio'n effeithlon ac yn effeithiol i amgylchedd grŵp ymchwil, gan gynnwys adrodd yn gryno ar gynnydd, trafod gweithgareddau ac amserlenni, cefnogi cydweithwyr a gweithio mewn tîm;
  • Cynllunio, cynnig a gweithredu prosiect ymchwil soffistigedig gyda nodau realistig, pethau y gellir eu cyflawni a chynlluniau wrth gefn;
  • Dangos gwybodaeth gadarn ar lefel gradd ymchwil ar draws elfennau craidd gwyddor data, gan gynnwys dadansoddi data a thechnegau cyfrifiadurol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau’r Rhaglen, byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol, gan gynnwys adolygiadau llenyddiaeth, gwerthusiadau llenyddiaeth, ysgrifennu erthyglau academaidd, ysgrifennu adroddiadau hir a chyflwyniadau gwyddonol ffurfiol;
  • Sgiliau gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon mewn grwpiau a thîm, gan gynnwys negodi, cyfaddawdu, cynllunio wrth gefn, rheoli amser a chadw cofnodion;
  • Ymgysylltu, cysylltu a chydweithio â gwyddonwyr ymchwil arbenigol a'r gallu i drosglwyddo cysyniadau, methodolegau a dulliau cyflwyno rhwng y ddau amgylchedd.
  • Gwybodaeth ymarferol a phrofiad helaeth o iaith raglennu o'r radd flaenaf (h.y. Python).
For an international student, studying advanced courses can be challenging in terms of dealing with different language and culture. Regardless, I have really enjoyed my time here and never felt unwelcomed. The staff members have always been approachable, helpful, and ready to keep you on the right track. Compared to when I started, I can sense my improved researching skills and I feel more confident moving on forward to the next step.
Basmah Almagwashi, MSc Physics 2016/17

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Os yw'n ofynnol i chi deithio i leoliad sefydliad partner ac oddi yno yn ystod prosiect ymchwil haf, yna chi fydd yn gyfrifol am dalu'r costau hyn os ydych chi’n teithio'n lleol. Os oes angen teithio’n bell neu os oes angen ymweliadau hirdymor, yna bydd bwrsari symudedd myfyrwyr ar gael i helpu i dalu'r costau hyn.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

  • Bydd y Brifysgol yn darparu popeth sydd ei angen i ymgymryd â'r cynllun gradd, ond argymhellir yn gryf eich y dylech ddod â gliniadur cymharol fodern er mwyn gallu ymgymryd â'r gweithgareddau codio, adolygu llenyddol a'r traethawd hir pan fyddwch i ffwrdd o gyfleusterau'r Brifysgol.

Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:

  • Cyfleuster Addysgu MSc pwrpasol gyda digon o gyfrifiaduron, offer labordy a gwerslyfrau craidd ar gyfer gweithgareddau'r garfan gyfan yn ystod y modiwlau craidd;
  • Mynediad at lyfrgelloedd Trevithick a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, lle gellir cael gwerslyfrau a deunydd darllen a argymhellir ar gyfer y modiwlau craidd a dewisol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Fel arfer, bydd gradd MSc mewn Ffiseg Data-Ddwys yn arwain at gyfleoedd yn y meysydd canlynol:

  • Ymchwil ddoethurol ddamcaniaethol, arbrofol a chyfrifiadurol;
  • Swyddi rhifol, technegol, ymchwil, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig;
  • Addysg gwyddoniaeth gyffredinol, ffiseg a mathemateg.

Lleoliadau

Bydd nifer hyblyg o brosiectau allanol bob blwyddyn ar gyfer modiwl prosiect ymchwil yr haf, y gellir ei gynnal yn yr Ysgol gyda goruchwyliaeth allanol, neu gynnwys rhywfaint o waith mewn sefydliad sy'n cydweithio. Bydd nifer a natur y prosiectau hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn cael eu neilltuo yn ôl dewis y myfyriwr mewn ymgynghoriad â'r goruchwyliwr/goruchwylwyr allanol; efallai y bydd yn rhaid bod wedi cymryd rhai modiwlau dewisol penodol ar gyfer rhai prosiectau o'r fath. Ni ddylai dewis prosiect allanol arwain at unrhyw oblygiadau i'ch statws fisa os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Ffiseg , Seryddiaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.