Astudiaethau Iechyd Cymunedol (SPQ) (PgDip)
- Hyd: Tair blynedd
- Dull astudio: Rhan amser

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Bydd cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol mewn naill ai Nyrsio Ardal neu Bractis.
Cymeradwywyd a chefnogwyd
Mae ein rhaglen yn cael cefnogaeth lawn gan ddarparwyr gwasanaeth lleol.
Cefnogaeth i fyfyrwyr
Bydd gennych gefnogaeth academaidd ac yn cael tiwtor personol penodol gydol cyfnod eich astudiaethau gyda ni.
Sgiliau ychwanegol
Mae’r cwrs yn cynnwys y cymhwyster rhagnodi i nyrsys ymarfer cymunedol, V100.
Cynrychiolydd myfyrwyr
Cewch y cyfle i ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr ac i lywio darpariaeth addysgol ar gyfer y dyfodol.
Bydd myfyrwyr yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’, mwy cyffredinol, er enghraifft, gallu:
- Dadansoddi a gwerthuso materion cyfredol mewn cymhwyso cyfrifiadura, yn feirniadol.
- Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau’n glir ar lafar, yn ysgrifenedig, drwy ddiagram ac yn ymarferol.
- Dangos hunangyfeiriad, menter, proffesiynoldeb, barn feirniadol a sgiliau cynllunio wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfrifiadura a'u datrys gan ddefnyddio technolegau priodol.
- Dylunio, gan ddefnyddio offer priodol, system wybodaeth syml neu ran benodol o system fwy.
- Cymhwyso cysyniadau technegol a rheoli i ddatrys problemau cyfrifiadurol.
- Datblygu nifer o sgiliau ymchwil gwerthfawr drwy gwblhau'r traethawd hir.
Ar ben hynny, bydd disgwyl i raddedigion ddangos:
- Dealltwriaeth systematig o gysyniadau cyfrifiadura cyffredinol, yn rhai damcaniaethol ac ymarferol.
- Deall natur sefydliadau a sut maen nhw’n defnyddio gwybodaeth at ddibenion busnes.
- Deall y dulliau, y technegau a'r offer sydd ar gael i bennu, dylunio, gweithredu a rheoli systemau cyfrifiadurol ar gyfer sefydliadau.
- Deall egwyddorion a nodweddion caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol a chyfathrebu a sut mae'r rhain yn cefnogi datblygiad systemau cyfrifiadurol.
- Ymwybyddiaeth feirniadol o'r tueddiadau cyfredol mewn meysydd ymchwil dethol o gyfrifiadura, a thrafod eu cyfraniad at ddatblygu systemau cyfrifiadurol
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
- Current registration with the NMC on Part 1 of the register*.
- A BSc/BA Honours degree or equivalent.
* Entry criteria for entry to specific Specialist Practice pathways are as follows:
- District Nursing: First level nurse trained in general nursing or in adult nursing.
- Practice Nursing: First level nurse trained in general nursing, adult nursing, the nursing of sick children or children’s nursing.
Selection of students for the course may require relevant Health Board selection and support, along with meeting University and Nursing and Midwifery Council (NMC) selection requirements. Selection criteria will be as follows:
- Appropriate NHS Health Board identification.
- The NHS Health Board will inform the Programme Manager of the candidates they intend to support to undertake the programme. This will include confirmation of support from a Sign-Off Mentor or Practice Teacher to meet NMC requirements.
- Secured funding. To date community SPQ programme modules up to Postgraduate diploma have been funded centrally by Welsh Government, now via the Workforce Education and Development Services (WEDS) - it is anticipated this funding will continue. This does not include the Masters Dissertation modules.
- Evidence of post-registration experience within the specialised area of practice.
- Evidence of continuing professional development.
- Enhanced up-to-date DBS disclosure in conjunction with Health Board colleagues, where necessary.
The personal statement on your application form will be considered when a judgement is made on your suitability for the programme for which you have applied. You must address the following points in your personal statement. This list is not exhaustive.
- Why have you selected this programme?
- What interests you about the programme?
- Any relevant experience related to the programme or module content.
- How you plan to use the qualification in your career.
- How you and your profession will benefit from your studies.
- Why you feel you should be given a place on the programme.
Application deadline: End of July of each academic year. Your application will be considered after this date but it may be for a later intake.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Tîm Deallusrwydd Iechyd mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Contemporary Issues in District Nursing | HCT113 | 30 credydau |
Contemporary Issues in Practice Nursing | HCT114 | 30 credydau |
Leadership in Community Nursing: Transforming Care | HCT115 | 30 credydau |
Research Methods and Health Improvement in Community Nursing | HCT116 | 30 credydau |
Fundamentals of Community Practice (SPQ) | HCT204 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Contemporary Issues in District Nursing | HCT113 | 30 credydau |
Contemporary Issues in Practice Nursing | HCT114 | 30 credydau |
Leadership in Community Nursing: Transforming Care | HCT115 | 30 credydau |
Research Methods and Health Improvement in Community Nursing | HCT116 | 30 credydau |
Fundamentals of Community Practice (SPQ) | HCT204 | 30 credydau |
Blwyddyn tri
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Contemporary Issues in District Nursing | HCT113 | 30 credydau |
Contemporary Issues in Practice Nursing | HCT114 | 30 credydau |
Leadership in Community Nursing: Transforming Care | HCT115 | 30 credydau |
Research Methods and Health Improvement in Community Nursing | HCT116 | 30 credydau |
Fundamentals of Community Practice (SPQ) | HCT204 | 30 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Bydd y dulliau dysgu ac addysgu'n cynnwys darlithoedd, gweithgareddau darllen dan arweiniad, trafodaethau seminar, gweithgareddau ar-lein, a fforymau trafod. Mae sgrîn a phodlediadau, recordio darlithoedd a blogiau goruchwylio hefyd wedi’u cynllunio i wella a hyrwyddo dysgu.
Oherwydd efallai y bydd gan rai myfyrwyr bryderon am lefel y sgiliau TG sydd eu hangen i ymgymryd â'r cwrs, bydd pob myfyriwr a dderbynnir ar y cwrs yn cael cymorth cyn y rhaglen.
Bydd cydran y modiwl a addysgir wyneb yn wyneb hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth o’u rolau a’u profiadau eu hunain yn ogystal â rhai ei gilydd.
Sut y caf fy asesu?
Asesir drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau, cyflwyniadau ac asesiad ymarferol (portffolio clinigol). Mae aseiniadau'n amrywio yn ôl y modiwl.
Mae'r rhaglen yn 50% theori a 50% ymarfer ar gyfer lefel diploma ôl-raddedig. Bydd yr elfen ymarferol yn cael ei hasesu drwy bortffolio clinigol crynodol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, crèche a chyfleusterau dydd, cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae rhannu syniadau fel hyn yn eich galluogi i ddysgu ac elwa o brofiadau pobl eraill. Rhoddir cyfle am y math hwn o drafodaeth a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.
Mae pob myfyriwr yn cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau.
Ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae cyrsiau Saesneg mynediad agored ar gael. Mae'r rhain yn gyrsiau 5 wythnos sy'n cael eu cynnal ar sail y cyntaf i'r felin ac sy’n costio ffi weinyddol o £25.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiaeth o fformatau. Bydd y rhain yn cynnwys adborth llafar yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig a ddarperir drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth ysgrifenedig electronig ar waith cwrs a asesir drwy GradeMark. Gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol â'ch tiwtor personol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, cewch gyfle i ddatblygu:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'ch proffesiwn, yn seiliedig ar ymarfer, ysgolheictod ac ymchwil gyfredol, gan gynnwys ymwybyddiaeth feirniadol o faterion a datblygiadau cyfredol yn y pwnc a'r proffesiwn.
- Y gallu i gymhwyso ymchwil at sefyllfaoedd proffesiynol, yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol.
- Y gallu i ddefnyddio ystod o dechnegau a dulliau ymchwil sy'n berthnasol i'ch gweithgareddau proffesiynol.
Byddwch yn cael y cyfle i ymarfer a datblygu amrywiaeth o alluoedd a sgiliau generig sy'n cynnwys y gallu i wneud y canlynol:
- Mentro a chymryd cyfrifoldeb.
- Datrys problemau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd heriol.
- Dal ati i ddysgu’n annibynnol ac i ddatblygu’n broffesiynol.
- Cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr a chynulleidfa ehangach, mewn sawl cyfrwng.
Mae hyn yn adlewyrchu gofynion yr NMC mewn perthynas â’r cymhwyster ymarfer arbenigol, sy’n diffinio ymarfer arbenigol fel arfer lefelau uwch o farn, disgresiwn a gwneud penderfyniadau ym maes gofal clinigol (Cyngor Canolog y Deyrnas Unedig (UKCC) 2001). Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i fodloni'r gofynion a nodir gan NMC ar gyfer cyflawni'r sgiliau lefel uwch hyn gan ganolbwyntio ar bedwar maes eang:
- Ymarfer clinigol.
- Rheoli rhaglenni a gofal.
- Datblygu ymarfer clinigol.
- Arwain ymarfer clinigol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Ariennir y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr presennol GIG Cymru. Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn ariannu eu hunain gysylltu â’r Ysgol yn uniongyrchol drwy’r tiwtor derbyn.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Dylai cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus roi sgiliau a gwybodaeth i chi i helpu i ddatblygu eich gyrfa mewn nyrsio.
Mae'r newid parhaus mewn gofal yn nes at adref yn sbarduno datblygiad parhaus gwasanaethau gofal sylfaenol yn lleol ac yn genedlaethol, ac mae addysg nyrsys cymunedol yn amlwg yn y cynlluniau hyn i sicrhau bod y gweithlu'n addas i'r diben.
Mae ad-drefnu gwasanaethau yn ei gwneud yn ofynnol i nyrsys ardal arbenigol a nyrsys practis allu arwain a darparu gwasanaethau i fodloni gofynion cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Meddygaeth, Nyrsio a bydwreigiaeth, Gwyddorau gofal iechyd
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.