Catalysis (MSc)
- Hyd: 3 blynedd
- Dull astudio: Rhan amser
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Bydd y cwrs hwn yn darparu hyfforddiant ar theori catalysis heterogenaidd, unffurf ac ensymatig, ei ddefnyddio, ei baratoi a’i ddadansoddi.
Cysylltiadau â diwydiant
Mae ein partneriaid ymchwil yn amrywio o fusnesau bach a chanolig cenedlaethol i rai o gwmnïau rhyngwladol mwyaf y byd.
Cyfleusterau ymchwil
Ar ôl cael buddsoddiad o dros £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych am ragoriaeth.
9th in the UK for research output
In the REF 2014 research assessment.
Sgiliau arbenigol
Cewch arbenigo mewn catalysis heterogenaidd, unffurf a biolegol a datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy drwy eich prosiect ymchwil.
Sefydliad Catalysis Caerdydd
Mae’n cael ei hystyried yn un o brif ganolfannau'r byd ar gyfer catalysis. Mae disgwyl i gartref uwch-dechnoleg newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd yng Hwb Ymchwil Drosiadol Prifysgol Caerdydd agor yn 2021.
Mae Catalysis wrth wraidd nifer o brosesau cemegol, o systemau byw i adweithyddion diwydiannol ar raddfa eang. Trwy ddeall a defnyddio catalyddion, gallwn ni greu prosesau cyflymach, glanach, economaidd a mwy cynaliadwy. Gydag oddeutu 85% o'r holl gynhyrchion a weithgynhyrchir yn cynnwys catalysis yn rhywle yn eu cadwyn gynhyrchu, mae'r rhagolygon o ran gyrfa ar gyfer graddedigion sydd â gwybodaeth arbenigol mewn catalysis yn gryf.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn mewn theori catalysis a’i gymwysiadau. Cewch eich hyfforddi i ddefnyddio amrywiaeth o offer a thechnegau labordy ar gyfer profi a nodweddu catalyddion. Byddwn yn edrych ar dair cangen catalysis - heterogenaidd, homogenaidd a biolegol - a chewch y cyfle i arbenigo yn y maes sydd o ddiddordeb i chi drwy brosiect ymchwil mawr.
Mae detholiad o waith ymchwil a phrosiectau cyfredol yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) yn cynnwys catalysis aur ac archwilio defnyddio deunydd bioadnewyddadwy i droi gwastraff yn danwydd.
Achrediadau

One of the many reasons I chose to study the MSc Catalysis course at Cardiff University is the Cardiff Catalysis Institute. The CCI is a world renowned centre for research offering degrees that give you the freedom to investigate a cutting-edge topic in depth amongst leading researchers with truly first-class facilities. The course is taught by experts in their fields, bringing in-depth knowledge and heaps of enthusiasm. The chemistry department itself is fantastically organised, providing support from the moment the course begins.
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cemeg
Rydym yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau gwyddonol bwysig yr 21ain ganrif drwy addysg ac ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a relevant subject area such as chemistry or a related discipline such as chemical engineering, physics, pharmacy, pharmacology and biochemistry, or an equivalent international degree
- or a university-recognised equivalent academic qualification.
Applicants with a degree in a subject other than chemistry will be required to demonstrate knowledge and understanding of key chemical topics prior to an offer being made.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
Please include information on why you are interested in catalysis in your personal statement (do not exceed 500 words). Specific details such as your future aspirations, and how your educational or professional background makes you a suitable applicant are welcomed. We do not accept generic statements.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Gellir dilyn y cwrs hwn yn llawn amser am flwyddyn neu’n rhan-amser dros dair blynedd.
Mae dwy ran i'r radd. Mae rhan un yn cynnwys modiwlau craidd a dewisol a addysgir, y byddwch yn eu cymryd yn ystod semester yr hydref a semester y gwanwyn. Yn y modiwlau hyn byddwn yn rhoi sylfaen i chi yn theori catalysis heterogenaidd, homogenaidd a biolegol. Bydd modiwlau dewisol yn caniatáu i chi arbenigo yn eich maes diddordeb.
Wrth symud ymlaen i ran dau, byddwch yn cynnal prosiect ymchwil haf yn ein labordai ymchwil neu un o'n prifysgolion partner. Byddwn yn sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau prosiect ar gael i chi o'r tri maes catalysis, modelu moleciwlaidd, neu gemeg gyfrifiadurol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022.
Blwyddyn un
Os ydych yn astudio'r cwrs hwn ar ffurf cwrs rhan-amser dros dair blynedd, byddwch yn ymgymryd â hanner y modiwlau a addysgir ym mlwyddyn un.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Catalyst Design Study | CHT217 | 20 credydau |
Preparation and Evaluation of Heterogeneous Catalysts | CHT219 | 10 credydau |
Practical Catalytic Chemistry | CHT225 | 10 credydau |
Key Skills for Postgraduate Chemists | CHT232 | 10 credydau |
Industrial Catalysis | CHT238 | 10 credydau |
Blwyddyn dau
Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cwblhau hanner y modiwlau a addysgir yn eich ail flwyddyn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Biocatalysis I: Modern Approaches to Biocatalysts | CHT214 | 10 credydau |
Colloquium | CHT216 | 10 credydau |
Mechanism and Ligand Design in Homogeneous Catalysis | CHT221 | 10 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Heterogeneous Catalysis | CHT203 | 10 credydau |
Biocatalysis II: Industrial Applications of Biocatalysis | CHT223 | 10 credydau |
Bioinorganic Chemistry | CHT226 | 10 credydau |
Advanced Techniques in Organic and Biological Chemistry | CHT229 | 10 credydau |
Modern Catalysis | CHT247 | 10 credydau |
Molecular Modelling | CHT313 | 10 credydau |
Molecular Modelling for Postgraduate Chemists | CHT317 | 10 credydau |
Catalytic Materials for Green Chemistry | CHT342 | 10 credydau |
Blwyddyn tri
Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cwblhau eich prosiect ymchwil yn eich trydedd flwyddyn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Research Project | CHT008 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau, sesiynau ymarferol a dysgu hunangyfeiriedig.
Bydd eich prosiect ymchwil yn cael ei gynnal mewn labordai ymchwil o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd sydd â diddordeb mewn maes tebyg.
Mae modiwlau sy'n ymwneud â chyfrifiadura yn cael eu cynnal yn aml yn ein hystafelloedd cyfrifiaduron, tra bydd gwaith ymarferol a'ch prosiect ymchwil yn cael eu gwneud yn ein labordai.
Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa o'r seminarau wythnosol sy’n cael eu trefnu gan yr Ysgol Cemeg, lle gwahoddir arbenigwyr blaenllaw mewn gwahanol feysydd gwyddonol i gyflwyno eu gwaith.
Sut y caf fy asesu?
Asesir modiwlau a addysgir mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn dibynnu ar gynnwys y modiwl a’r deilliannau dysgu (a geir yn y disgrifiadau o’r modiwlau). Rydyn ni’n defnyddio gwaith cwrs, gweithdai wedi'u hasesu, cyflwyniadau ac arholiadau neu gyfuniad o'r rhain i asesu eich cynnydd ar y cwrs.
Bydd eich prosiect ymchwil ar ddiwedd y cwrs yn cael ei asesu drwy draethawd hir, cyflwyniad, ac arholiad llafar.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn. Mae llawer o'n staff yn gweithredu polisi drws agored a gellir trefnu cyfarfodydd ar adegau sy’n gyfleus i bawb er mwyn trafod eich gwaith.
Bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Gwyddoniaeth, sy'n dal ein casgliad o adnoddau cemeg, yn ogystal ag i Lyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â'r cyfleusterau llyfrgell, mae gan y Brifysgol adnoddau electronig helaeth sy’n cynnwys llyfrau testun a chylchgronau ymchwil sydd ar gael ar-lein.
Adborth
Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Ar ôl cwblhau'r cwrs dylech allu gwneud y canlynol:
- Deall theori, cymhwyso, paratoi a dadansoddi catalysis i lefel sy'n briodol i raddedigion mewn cemeg neu beirianneg gemegol sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y byd academaidd neu ddiwydiant.
- Defnyddio a chymhwyso mathemateg ar lefel briodol i ddatrys problemau mewn catalysis.
- Gweithio mewn tîm i ymchwilio i atebion i broblemau heb eu datrys mewn catalysis.
- Cyflwyno gwaith ymchwil i gyfoedion ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Trafod y cymwysiadau sydd gan gatalyddion mewn gwahanol brosesau fel ocsideiddio a glanhau/rheoli llygredd.
- Deall y dull o weithredu amrywiaeth o gatalyddion homogenaidd sy'n seiliedig ar fetelau trosiannol a chymhwyso'r wybodaeth hon i broblemau heb eu gweld o'r blaen.
- Deall sut mae newidiadau i ligandau yn ymwneud â phriodweddau catalyddion homogenaidd a defnyddio'r wybodaeth hon wrth ddylunio catalyddion newydd.
- Atgynhyrchu strwythurau sylfaenol gwahanol fathau o gelloedd cyfan a ddefnyddir mewn biocatalysis sy'n seiliedig ar eplesu a gwybod prif fanteision ac anfanteision y math hwn o gatalysis.
- Atgynhyrchu strwythurau sylfaenol y prif facrofoleciwlau sy'n angenrheidiol er mwyn i fiocatalysis ddigwydd - sef proteinau ac asidau riboniwcleig.
- Deall sut mae strwythur biocatalydd, grwpiau swyddogaethol a chyflwr toddiannau yn cydberthyn a gwybod am brif fanteision ac anfanteision biocatalyddion celloedd puredig heb fod yn gyfan.
- Cysylltu dulliau modern ar gyfer paratoi, puro, esblygu a chymhwyso biocatalyddion.
- Defnyddio modelu moleciwlaidd i archwilio catalysis o arwynebau, drwy gatalyddion homogenaidd moleciwlaidd i strwythur a swyddogaeth ensymau.
- Trafod sut cymhwysir dulliau catalytig modern a sut maen nhw’n gallu sbarduno dyfodol diwydiant cemegol mwy cynaliadwy.

Cardiff is a beautiful city and having lived here all my life I know how much the University has developed over the years, especially in research. The MSc Catalysis course is exemplary; despite my pharmaceutical science background I have been able to build my knowledge and practical skills on the subject thoroughly through the various modules taught on the programme and it has prepared me well for work in industry and towards a career in research. Having the opportunity to work with renowned professors in the field and at the Cardiff Catalysis Institute – the leading catalysis facility in the UK – makes me very proud and I hope I will be able to contribute further to the success of the department and make the most of what Cardiff University has to offer.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022
Oherwydd hyd y rhaglen hon, dim ond myfyrwyr sy'n dod o Gymru a'r UE sy'n bodloni’r gofynion preswylio (mae myfyrwyr sy'n dod o Loegr wedi'u heithrio) sy'n gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau Llywodraeth y DU i Ôl-raddedigion.
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £5,100 | Dim |
Blwyddyn dau | £5,100 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £11,725 | £1,000 |
Blwyddyn dau | £11,725 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen; esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn rhoi cot labordy a sbectol diogelwch i chi weithio yn ein labordai, modelau moleciwlaidd ac unrhyw offer arall sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.
Mae'r meddalwedd lluniadu cemegol a ddefnyddir yn ein haddysgu (ChemDraw) ar gael ar gyfrifiaduron rhwydwaith y Brifysgol, a bydd ar gael i chi i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Bydd y Brifysgol hefyd yn rhoi mynediad i chi at feddalwedd ar gyfer prosesu geiriau a dadansoddi data yn ogystal â mynediad i Scifinder a Web of Knowledge ar gyfer chwilio drwy’r llenyddiaeth wyddonol a phatent.
Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Gwyddoniaeth, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch weithio yn ein labordai a'n hystafelloedd cyfrifiadura.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn mae dwy ffrwd gyrfa fel arfer ar agor i raddedigion, sef ymchwil neu ddiwydiant. O fewn y ddau faes hyn mae amrywiaeth o opsiynau gyrfa. Er enghraifft, mae llawer o'n graddedigion yn penderfynu ymgymryd â gradd ymchwil PhD gyda ni ar ôl gorffen eu MSc. Mae cyn-raddedigion eraill wedi dod o hyd i waith mewn diwydiant gyda chwmnïau gan gynnwys Johnson Matthey, Thales, Hexion, BAE Systems yn y DU yn ogystal â chwmnïau rhyngwladol megis Haldor Topsøe, Denmarc a’r Asiantaeth Datblygu Gwyddoniaeth a Thechnoleg Genedlaethol yn yng Ngwlad Thai.
Lleoliadau
Mae cyfle i ymgymryd â'r prosiect ymchwil dramor yn un o'n sefydliadau partner sy'n eich galluogi i ehangu eich ystod o wybodaeth am gemeg, eich sgiliau labordy a’ch rhwydwaith proffesiynol.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Cemeg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.