Cyfraith Ganonaidd (LLM)
- Hyd: 2 flynedd
- Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Datblygwch eich gwybodaeth o Gyfraith Eglwysig ar y rhaglen ôl-raddedig cyntaf o’i math yn y DU.
Defnyddiwch ein hymchwil
Addysgu dan arweiniad ymchwil gan academyddion blaenllaw yng Nghanolfan y Gyfraith a Chrefydd a sefydlwyd ym 1998.
Cymuned ddysgu amrywiol
Astudiwch ar y cyd â barnwyr, academyddion, bargyfreithwyr, cyfreithwyr a chlerigwyr o’r eglwys Anglicanaidd, Gatholig, Lutheraidd ac Uniongred.
Astudio tra eich bod yn gweithio
Addysgir y rhaglen hon yn ystod wyth penwythnos preswyl dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd hyn yn eich caniatáu i barhau â'ch datblygiad proffesiynol tra y byddwch chi’n gweithio.
Dangos eich gwybodaeth
Dyma’r cyfle i ymgymryd ag ymchwil fanwl mewn maes yn y Gyfraith Ganonaidd sydd o ddiddordeb i chi.
Ein cwrs LLM Cyfraith Eglwysig yw’r radd gyntaf o’i math mewn Prifysgol ym Mhrydain ers y diwygiad Protestannaidd. Ers ei sefydlu ym 1991, mae wedi denu’r nifer uchaf o ymgeiswyr.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i astudio cyfraith eglwysig eglwysi’r Gymundeb Anglicanaidd fyd-eang, yn enwedig cyfraith Eglwys Lloegr a chyfraith yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yn ogystal â systemau rheoleiddiol traddodiadau Cristnogol eraill ledled y byd.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i arfarnu cyfraith eglwysig yn feirniadol, yng nghyd-destun cyfraith seciwlar cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, mewn meysydd megis y llywodraeth a’r weinyddiaeth eglwysig, athrawiaeth, litwrgi a defodau, ac eiddo.
Mae’r cwrs yn gweithio o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Er mai ei brif ffocws yw’r gyfraith hawliau, ei nod yw egluro, deall a gwerthuso cyfraith eglwysig o safbwyntiau diwinyddiaeth, hanes cymdeithaseg a chyfraith sifil. Un elfen allweddol o astudio yw datgelu potensial ecwmenaidd astudiaeth gymharol o gyfreithiau eglwysig i hyrwyddo undod Cristnogol ymysg gwahanol eglwysi ledled y byd.
Mae’r rhaglen LLM Cyfraith Eglwysig yn addas i’r rhai hynny sy’n ymarfer neu sy’n rhan o weinyddu cyfraith eglwysig a’r rhai hynny sy’n dymuno mynd ar drywydd eu diddordeb yn y maes hwn o ysgolheictod cyfreithiol sy’n datblygu. Mae athrawon y cwrs yn dod o faes cyfraith academaidd a chrefydd a maes ymarfer cyfraith eglwysig.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
The course is suitable for those who practise or are involved in the administration of church law and for those wishing to pursue an interest in this developing field of legal scholarship.
You should ideally have obtained at least a 2:1 class degree or equivalent. Applicants with a 2.2 class degree or equivalent will be considered taking into account the application in its entirety.
In addition, applicants whose first language is not English must obtain an overall IELTS score of 6.5 with 6.5 in writing and 6.0 in all other components, or an equivalent English language qualification.
Note: International students pursuing part-time programmes of study are not eligible for Tier 4 (General Student) visas and must have alternative leave to remain in the UK if they intend to study at the University in person.
Early application is strongly advised, normally well before the end of July. Later applications will be considered, but international students must bear in mind the time needed to obtain a visa.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn dau gam. Mae cam un (yr elfen a addysgir) yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol, 30 credyd; mae cam dau yn cynnwys y traethawd hir. Bydd cam un yn rhedeg dros ddwy flynedd a byddwch yn cymryd dau fodiwl ym mhob blwyddyn; byddwch yn cael eich addysgu a'ch asesu mewn un modiwl fesul semester. Byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir ar ôl cwblhau cam un yn llwyddiannus.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Year one comprises two compulsory 30 credit modules.
Blwyddyn dau
Year two comprises two, compulsory 30 credit modules. Upon successful completion of the taught stage at the end of year two, you will progress to the 60 credit dissertation.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae astudio ar lefel ôl-raddedig yn ddwys a heriol ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae’n rhaid bod yn bresennol ym mhob dosbarth a byddwn yn disgwyl i chi fod wedi paratoi'n dda.
Bydd eich modiwlau’n cael eu cyflwyno drwy seminarau a darlithoedd yn ystod penwythnosau preswyl, cyflwyniadau llafar ysgrifenedig unigol ac ar y cyd a dysgu o bell.
Sut y caf fy asesu?
Rydyn ni’n defnyddio dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol.
Nid yw asesiadau ffurfiannol yn cyfrif tuag at eich gradd. Yn hytrach, eu diben yw rhoi cyfle i chi ymarfer ar gyfer eich asesiadau crynodol a’ch galluogi chi a’ch tiwtoriaid i asesu eich cynnydd yn eich modiwlau. Fel arfer bydd asesiadau ffurfiannol yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu brawf dosbarth neu gallant gynnwys cyflwyniadau unigol gan fyfyrwyr.
Mae eich marciau mewn asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich dyfarniad terfynol. Asesir pob modiwl LLM Cyfraith Eglwysig yn grynodol gan un traethawd 5000 gair. Mae’r traethawd hir (hyd at 15,000 o eiriau) yn cynnwys asesiad crynodol cam dau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Defnyddir e-ddysgu i gefnogi eich dysgu. Cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.
Byddwch yn cael cymorth bugeiliol penodedig drwy ein cynllun tiwtor personol. Rydyn ni’n cynnig rhaglen helaeth o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd yn yr Ysgol gyda Chydlynydd Cynllun Pro-bono ac Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol. Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd rhagorol gyda llyfrgellwyr y gyfraith arbenigol a chanolfannau adnoddau.
Adborth:
Mae adborth llafar ar gael yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Bydd adborth unigol ar waith ffurfiannol yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol. Bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl i chi gyflwyno'ch asesiad.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae disgwyl i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb am eich addysg wrth i chi ymgymryd â'ch astudiaethau ôl-raddedig. Trwy'r Diploma Cyfraith Eglwysig, byddwch yn ennill ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr; sgiliau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy generig. Yn ystod y rhaglen byddwch yn gallu ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gallu datblygu sgiliau cydweithio, cymryd rolau arwain a gwella sgiliau astudio disgybledig ac annibynnol.
Fe’ch anogir i weithio'n annibynnol i chwilio am ddeunyddiau cyfreithiol drosoch eich hun, i ddarllen a dadansoddi'r deunyddiau hyn yn feirniadol ac i gyflwyno dadl strwythuredig a rhesymegol o dan arweiniad eich tiwtoriaid a'ch goruchwylwyr.
Rydyn ni’n rhedeg cynllun pro-bono'r Gyfraith ar Waith ar y cyd â sefydliadau partner, lle mae gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr yn cynorthwyo pobl go iawn wrth ymwneud â'r gyfraith. Mae'r cynlluniau ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Y Gyfraith mewn Cyfiawnder: Prosiect Dieuogrwydd, (sy'n ymdrin ag achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder);
- Y Gyfraith mewn Gofal Iechyd: Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG, (heriau i asesiadau ariannu gofal iechyd y GIG);
- Y Gyfraith mewn Chwaraeon: Prosiect Rygbi'r Undeb - (darparu cyngor cyfreithiol a chylchlythyrau cyfreithiol i glybiau rygbi).
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £8,450 | £1,000 |
Blwyddyn dau | £8,450 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £11,200 | £1,000 |
Blwyddyn dau | £11,200 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd gan fyfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen LLM Cyfraith Eglwysig yn llwyddiannus y cyfle i barhau â'u hastudiaeth gyfreithiol drwy raglen PhD yr Ysgol, neu drwy raglenni proffesiynol y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol (y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar).
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Law
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.