Archaeoleg (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Ewch ar drywydd eich diddordeb ym maes archaeoleg Prydain, Ewrop a’r Canoldir tra’n datblygu sgiliau archaeoleg allweddol, wedi’i arwain gan ein harbenigwyr byd-enwog.
Dyfnder ac ehangder
Byddwch yn derbyn hyfforddiant o ran dulliau a sgiliau ymchwil, a bydd dewis eang yn ôl rhanbarth, cyfnod a dulliau.
Yn barod ar gyfer ymchwil
Byddwch yn cael hyfforddiant pwrpasol o ran cynllunio ymchwil, gan gynnwys sut i gyfleu hyn yn effeithiol.
Wedi’i arwain gan ymchwil
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd. Mae’r cwrs yn un uchel ei barch fydd yn eich cefnogi bob amser.
Labordai pwrpasol
Cewch ddefnyddio ein labordai a hefyd ein hystafelloedd darlunio a ffotograffiaeth ddigidol.
Mae ein rhaglen MA Archaeoleg wedi’i dylunio i ddatblygu hyfedredd mewn sgiliau archaeoleg a hanesyddol sylfaenol ac adeiladu eich dealltwriaeth o gyfnodau allweddol gorffennol y ddynoliaeth.
Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnig y cyfle i ddyfnhau eich dealltwriaeth o archaeoleg Prydain, Ewrop a’r Canoldir. Rydym yn rhoi’r cyfle i chi weithio gydag arteffactau archaeolegol er mwyn deall technolegau hynafol yn rhan o’n hystod o fodiwlau opsiynol. Yn llawer mwy na hynny, byddwch yn adeiladu dealltwriaeth o’r proffesiwn treftadaeth, gan ddatblygu sgiliau ym maes cyfathrebu treftadaeth a’i fudd cyhoeddus.
Wrth astudio mewn amgylchedd cefnogol, byddwch yn ymuno â chymuned o ymchwilwyr sy’n ymgymryd ag ymchwil archaeolegol flaengar lle mae gwyddoniaeth, theori ac ymarfer yn dod at ei gilydd i greu amgylchedd unigryw er mwyn archwilio’r gorffennol.
Wrth gasglu profiad ymchwil yn ein labordai archaeoleg, trwy gyfleoedd i weithio’n agos gydag ymchwilwyr blaenllaw ar ystod o brosiectau, byddwch yn archwilio pwnc o ddiddordeb arbennig i chi yn eich prosiect ymchwil unigol eich hun, gyda chefnogaeth goruchwyliwr profiadol.
Bydd ein gradd meistr sydd wedi hen sefydlu yn eich paratoi i ddatblygu eich gyrfa ym maes archaeoleg broffesiynol, treftadaeth neu meysydd cysylltiedig. Mae hi hefyd yn paratoad perffaith ar gyfer y cam nesaf ar lefel ddoethurol.
Wrth ddathlu canmlwyddiant Archaeoleg a Chadwraeth yn 2020, rydym ymhlith y 150 gorau yn y byd (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2021) gyda’n hymchwil yn y 12fed safle yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.
Meini prawf derbyn
Academic Requirements
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as ancient history, archaeology, conservation, heritage, history, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
- or relevant professional experience evidenced by a reference. The reference must be provided by your employer to evidence that you currently work in an area relevant to the programme. This should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 6.0 in all subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae hwn yn gwrs amser llawn sy'n cymryd blwyddyn i'w gwblhau.
Cam a Addysgir
Byddwch yn astudio dau fodiwl craidd (40 credyd) a phedwar modiwl dewisol (80 credyd). Bydd yr opsiynau a gymerwch yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswch.
Cam Traethawd Hir
Ar ôl cwblhau elfen a addysgir y cwrs yn llwyddiannus byddwch yn mynd ymlaen i gwblhau eich traethawd hir (60 credyd). Mae hyn ar ffurf prosiect ymchwil unigol, sy'n arwain at draethawd hir o tua 20,000 o eiriau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Postgraduate Skills in Archaeology and Conservation | HST500 | 20 credydau |
Skills and Methods for Postgraduate Study | HST900 | 20 credydau |
MA Archaeology Dissertation | HST590 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
The Archaeology of Death and Commemoration | HST060 | 20 credydau |
Heritage, Community Action and Public Engagement | HST078 | 20 credydau |
Later Prehistory of Britain | HST087 | 20 credydau |
Themes and Methods in Medieval Archaeology | HST090 | 20 credydau |
Collection Care in the Museum Environment | HST343 | 20 credydau |
Special Topic: The Ancient World | HST452 | 20 credydau |
Artefact Illustration | HST929 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gymysgedd o seminarau, darlithoedd, tiwtorialau ac agweddau ymarferol yn y labordai archaeoleg.
Fel rhan o'r rhaglen, byddwch yn rhoi cyflwyniadau i'ch cyd-fyfyrwyr MA yn ein cymuned gefnogol.
Sut y caf fy asesu?
Asesir y cam a addysgir drwy draethodau, cyflwyniad a gwaith cwrs.
Ar ôl cwblhau elfennau a addysgir y rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i lunio traethawd hir o hyd at 20,000 o eiriau ar bwnc neu thema o'ch dewis (ar yr amod bod eich goruchwyliwr yn cymeradwyo eich dewis).
Mae'r flwyddyn hon o astudio hunanreoledig yn ddelfrydol er mwyn eich paratoi i symud ymlaen i’r PhD.
Sut y caf fy nghefnogi?
Neilltuir eich tiwtor personol eich hun i chi.
Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost hefyd. Yn ogystal, gallwch wneud apwyntiadau i weld eich tiwtor personol neu arweinwyr modiwlau ar sail un-i-un i drafod unrhyw faterion. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.
Cynigir trafod aseiniadau a rhoddir adborth ysgrifenedig ar asesiadau crynodol. Fe'ch anogir i drafod eich syniadau â thiwtoriaid y modiwl mewn seminarau ac ar sail un-i-un yn ystod oriau swyddfa.
Y tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt i drafod unrhyw broblemau sy'n codi gyda'r cwrs. Dylid cyfeirio ymholiadau pellach at Gyfarwyddwr y Cwrs.
Adborth:
Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir; atebion ""enghreifftiol"" a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
- Sgiliau deallusol, gan gynnwys y gallu i werthuso tystiolaeth a’i dehongliad yn feirniadol a bod yn oddefgar o ddehongliadau sy’n wahanol; cynnal dadl resymegol a dod i gasgliad y gellir ei amddiffyn; cyfosod a dadansoddi gwybodaeth; cymharu a chyferbynnu esboniadau damcaniaethol ac integreiddio methodolegau gwahanol.
- Sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu ar lafar mewn ffordd broffesiynol a phriodol; rhoi cyflwyniadau fel unigolyn ac fel aelod o grŵp; ysgrifennu’n effeithiol ar lefel uwch.
- Sgiliau rhifedd, gan gynnwys y gallu i arddangos a chyflwyno data rhifiadol mewn fformatau priodol; a dadansoddi data rhifiadol a datrys problemau mathemategol ac ystadegol sylfaenol.
- Sgiliau technoleg gwybodaeth, gan gynnwys y gallu i gynhyrchu a chyfrifo gwerthoedd gan ddefnyddio taenlen; cynhyrchu ac holi am gronfeydd data; defnyddio ebost, y Rhyngrwyd a'r We Fyd-eang; dod o hyd i wybodaeth a data a’u rheoli a’u defnyddio.
- Sgiliau personol, gan gynnwys y gallu i reoli llwyth gwaith; addasu a defnyddio sgiliau mewn cyd-destunau newydd; asesu a llunio blaenoriaethau, cyfyngiadau a nodau i addasu i amgylchiadau sy’n newid.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £8,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae graddedigion y radd hon a rhaglenni gradd tebyg wedi mynd ati i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o broffesiynau; o archaeoleg, y byd academaidd, y sector treftadaeth, newyddiaduraeth a’r gyfraith hyd at y cyfryngau, ymchwil (cyfryngau, masnachol ac academaidd), addysgu a chyhoeddi. Mae nifer helaeth yn dewis parhau â’u hastudiaethau ar lefel PhD.
Mae cyrchfannau graddedigion diweddar yn cynnwys Cadw, yr Eglwys yng Nghymru, Cyngor Archaeoleg Prydain, Archifau Morgannwg, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Galeri Tate, Llywodraeth Cymru ac ystod o brifysgolion y DU a thramor.
Roedd 91% o raddedigion yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2016/17).
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Archaeology, History and ancient history
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.