Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth Archaeolegol (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd yr MSc mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn theori a chymhwysiad egwyddorion a thechnegau gwyddonol ym maes archaeoleg.

rosette

Lluniwyd â phwyslais ar yrfaoedd

Byddwch yn meistroli sgiliau gwyddonydd archaeolegol mewn rhaglen ddeinamig dan arweiniad arbenigwyr blaenllaw.

structure

Gwyddonol, thematig ac yn seiliedig ar gyfnodau

Mae ein hyfforddiant yn rhoi sylfeini rhagorol ichi a’r hyblygrwydd i arbenigo.

star

Addysgir gan arbenigwyr

O astudiaethau biomoleciwlaidd ac osteoarchaeoleg i sŵarchaeoleg, addaswch i weddu i'ch diddordebau.

tick

Labordai pwrpasol

Cyfres o labordai gan gynnwys Microsgopeg Sganio Electronau, Trawsnewid Fourier Isgoch a thechnolegau delweddu.

Mae ein rhaglen MSc Gwyddoniaeth Archaeolegol yn cyfuno hyfforddiant gwyddonol ag astudiaethau thematig sy’n seiliedig ar gyfnod. Bydd hynny’n rhoi’r rhyddid i chi deilwra eich astudiaethau er mwyn gweddu i’ch dyheadau fel gwyddonydd archaeolegol neu ymchwilydd.

Byddwch yn cael profiad uniongyrchol a dealltwriaeth ymarferol drylwyr o’r egwyddorion gwyddonol a’r technegau dadansoddol sydd wrth wraidd gwyddoniaeth archaeolegol.

Rydym yn creu sylfaen gadarn i chi allu manteisio i’r eithaf ar effaith eich ymchwil a symud eich gyrfa yn ei blaen. P’un ai a ydych yn bwriadu mynd ar drywydd agweddau cyffredinol neu arbenigo mewn archaeoleg biomoleciwlaidd, osteoarcheoleg neu sŵoarcheoleg, gallwch greu eich portffolio eich hun, gan gyfuno modiwlau fesul cyfnod, thema a sgil.

Mae ein harbenigwyr yn arwain ar ystod gyffrous o brosiectau arloesol sy’n rhychwantu cynhanes cynnar hyd at heddiw mewn pedair prif thema: ffordd o fyw pobl ac anifeiliaid; tai a’r amgylchedd adeiledig; materoldeb; ac arwyddocâd cymdeithasol cronoleg.

Mae ein cyfres o seminarau ymchwil archaeoleg nodedig yn cynnig cyfleoedd pellach i ymgysylltu â’r datblygiadau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol diweddaraf.

Wrth weithio ar eich astudiaethau yn ein cyfres o labordai pwrpasol, sy’n cynnwys cyfleusterau bioarchaeoleg a bioanalytig a chasgliadau cyfeirio cynhwysfawr, bydd gennych fynediad at gyfoeth o offer arbenigol. Mae adnoddau mewnol yn amrywio o microsgopeg sganio electronau a fourier trawsnewid isgoch i offeryniaeth raman spectroscopy a chyfleusterau pelydr-x. Ochr yn ochr ag offer paratoi sampl ac ystafell ffotograffiaeth bwrpasol, rydym yn cynnig technolegau delweddu arbenigol o ficrosgopeg digidol a GIS hyd at ddarlunio digidol.

Mae ein prosiectau arloesol yn aml yn cynnwys cydweithrediadau gwobrwyol gyda phartneriaid sy’n cynnwys Cadw, Historic England, Amgueddfa Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Wrth ddathlu canmlwyddiant Archaeoleg a Chadwraeth yn 2020, rydym ymhlith y 150 gorau yn y byd (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2020) gyda’n hymchwil yn y 12fed safle yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4929
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis Hanes yr Henfyd, Archaeoleg, Bioleg, Cemeg, Cadwraeth, Daearyddiaeth, Daeareg, Hanes, Sŵoleg, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgiliau neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.


Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae MSc Gwyddoniaeth Archaeolegol yn dechrau gyda cham un, cydran a addysgir am saith mis, a gynhelir rhwng mis Medi a mis Mai. Byddwch yn cwblhau modiwlau a addysgir sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd, a all arwain at ddyfarnu Diploma Ôl-raddedig mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol.

Ar ôl cwblhau cam un, byddwch yn defnyddio ac yn datblygu sgiliau uwch a gwybodaeth arbenigol ymhellach drwy wneud prosiect ymchwil am bedwar mis rhwng mis Mai a mis Medi (cam dau). Byddwch yn dewis eich prosiect MSc eich hun a bydd hyn yn arwain at gyflwyno Traethawd Hir MSc.

Bydd Cam un yn rhoi amrywiaeth o sgiliau methodolegol, trosglwyddadwy, sy’n benodol i’r ddisgyblaeth i chi, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu a thrin data gwyddonol. Byddwch yn symud ymlaen o safon myfyriwr graddedig ar lefel mynediad i lefel sylfaen ymchwil drwy gwblhau'r cam hwn, a byddwch yn cael y dasg o wynebu heriau sy’n fwyfwy cymhleth i brofi eich sgiliau sy'n dod i'r amlwg. MaeCam un hefyd yn rhoi gwybodaeth benodol i chi i baratoi ar gyfer y cam ymchwil yn ystod Cam dau.

Mae Cam dau yn cynnwys Traethawd Hir Gwyddoniaeth Archaeolegol 60 credyd (16-20,000 o eiriau, ar bwnc neu thema a ddewisir drwy ymgynghori â staff academaidd)

Gall pynciau amrywio o werthusiadau cwbl ddamcaniaethol o werthoedd gwyddoniaeth archaeolegol, i asesu deunyddiau, a phrosiect sy'n seiliedig ar astudiaeth achos sy'n gysylltiedig â gwrthrych, cynulliad, casgliad neu safle. Felly, mae'r gwahaniaethau o ddysgu seiliedig ar lefel graddedigion yn datblygu'n systematig i ddysgu seiliedig ar ymchwil wrth i'r rhaglen fynd rhagddi.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Mae Blwyddyn Un yn cynnwys Cam 1a a byddwch yn astudio cyfanswm o 60 credyd. Mae Cam 1a yn cael ei gynnal o'r hydref i'r gwanwyn.

Cam 1a

Mae gan y rhan hon o'r rhaglen strwythur hyblyg. Bydd angen i chi gwblhau o leiaf 20 credyd o wyddoniaeth archeolegol yn ogystal â modiwl gorfodol 20 credyd ar hyfforddiant penodol Archaeoleg a Chadwraeth (sy'n cwmpasu meintioli, cyfathrebu, cyflogaeth a sgiliau ymchwil annibynnol), a gynhelir yn ystod semester y gwanwyn.  Ar gyfer eich 20 credyd olaf gallwch ddewis naill ai astudio modiwl gwyddor archeolegol ychwanegol neu ddewis o ystod eang o fodiwlau dewisol. Mae’r modiwlau hyn yn cynnwys modiwlau cyfnodol (o'r cyfnod cynhanes i'r oesoedd canol), thematig (e.e. Celtiaid), sgiliau (fel darlunio, cyfrifiadura a GIS) a modiwlau gwyddorau treftadaeth. Gellir dewis yr 20 credyd o fodiwlau dewisol gwyddoniaeth archaeolegol ac archaeoleg yn y naill semester neu’r llall ac mae rhai yn cael eu cynnal ar draws y ddau semester.

Cyflwynir modiwlau drwy weithgareddau labordy/ymarferol, seminarau, darlithoedd a theithiau maes ac maent yn defnyddio technolegau dysgu digidol.  Bydd gennych fynediad at labordy/desg astudio dynodedig ar gyfer eich hyfforddiant gwyddoniaeth archeolegol a byddwch yn cael eich annog i ymarfer sgiliau newydd a datblygu eich ymchwil traethawd hir eich hun. Mae strategaethau asesu yn wahanol ar draws modiwlau ond maent wedi'u teilwra i roi llwyth gwaith cytbwys i fyfyrwyr drwy gydol y tymor.

Blwyddyn dau

Mae Blwyddyn Dau yn cynnwys Cam 1b lle byddwch yn cwblhau 60 credyd arall o fodiwlau a addysgir a Cham 2 lle byddwch yn dechrau ar eich traethawd hir.  Mae Cam 1b yn cael ei gynnal o'r Hydref i'r Gwanwyn ac mae Cam 2 yn dechrau yn yr haf.  Mae gan Gam 2 ddyddiad cwblhau o fis Mehefin (gweler Blwyddyn Tri).

Cam 1b

Mae gan y rhan hon o'r rhaglen strwythur hyblyg. Yn Semester yr Hydref ym Mlwyddyn Dau, byddwch yn astudio modiwl sgiliau astudio craidd, gorfodol, sydd werth 20 credyd. Bydd yn darparu hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau ymchwil, cyflwyno a chynllunio ar lefel gradd Meistr. Yn ystod cam 1b gallwch astudio modiwlau gwyddoniaeth archeolegol bellach i fodloni'r lleiafswm gofynnol o 40 credyd gwyddoniaeth. Ond, os ydych eisoes wedi bodloni'r gofyniad hwn, gallwch ddewis modiwl gwyddoniaeth archeolegol ychwanegol neu ddewis o'r ystod eang o fodiwlau dewisol cyfnodol, thematig, sgiliau a modiwlau gwyddorau treftadaeth. Gellir dewis astudio’r modiwlau dewisol hyn yn y naill semester neu’r llall a bydd rhai yn cael eu cynnal ar draws y ddau semester. Bydd y modiwlau yn cael eu haddysgu yr un ffordd â llynedd.

Ar ôl cwblhau cam a addysgir ar y rhaglen yn llwyddiannus (Cam 1a ac 1b), byddwch yn symud ymlaen at eich traethawd hir (Cam 2).

Mae Cam 2 yn canolbwyntio ar gymhwyso'r wybodaeth am sgiliau a enillwyd yng Ngham 1 drwy ymchwil, gan arwain at gyflwyno traethawd hir 16-20,000 gair, sydd werth 60 credyd. Bydd eich goruchwyliwr yn eich arwain, eich cefnogi a'ch annog drwy gydol y broses hon. O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn rhan annatod o'n cymuned ôl-raddedig fywiog gan roi cyfle i chi fanteisio ar ein grwpiau ymchwil niferus, seminarau, prosiectau, rhwydweithio proffesiynol a digwyddiadau cymdeithasol i greu cymuned archaeolegol y dyfodol.

Blwyddyn tri

Mae Blwyddyn 3 yn cynnwys cwblhau Cam 2 – y traethawd hir. Mae'r dyddiad cau ym mis Mehefin.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Cyflwynir yr addysgu drwy ddarlithoedd, sesiynau labordy, gweithdai rhyngweithiol a thiwtorialau, yn ogystal ag ymweliadau ag adnoddau lleol perthnasol fel Amgueddfa Cymru a sefydliadau treftadaeth lleol.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf. Ond, yn gyffredinol maen nhw’n darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, cyflwyniad i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Mae'r Radd Meistr Gwyddoniaeth Archaeolegol yn rhoi hyfforddiant pwrpasol i fyfyrwyr mewn technegau gwyddonol yn ystod sesiynau labordy. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau ymarferol wrth adnabod, cofnodi a dadansoddi deunyddiau archaeolegol yn ystod sesiynau labordy ymarferol. Mae'r rhain yn amrywio o’r macrosgopig e.e. adnabod esgyrn, i’r microsgopig e.e. adnabod deunydd neu statws materol gyda microsgobeg electron sganio neu sy'n seiliedig ar olau i samplu detholiad, paratoi a dadansoddi e.e. isotopig neu aDNA a chynnwys sgiliau iechyd a diogelwch a rheoli labordy. Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau ymarferol arbenigol mewn o leiaf un maes astudio. Mewn gweithdai a seminarau, byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau, i dderbyn ac atgyfnerthu adborth ar eich gwaith dysgu unigol ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar.

Mae'r rhaglen hon wedi'i lleoli yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac fe'i haddysgir gan staff academaidd o bob rhan o Brifysgol Caerdydd a chan siaradwyr allanol. Mae'r holl fodiwlau a addysgir yn y Rhaglen yn orfodol a disgwylir i chi fynd i'r holl ddarlithoedd, sesiynau labordy a sesiynau eraill sydd wedi'u hamserlennu. Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio i'w helpu i gwblhau'r traethawd hir, ond disgwylir iddyn nhw hefyd gymryd rhan mewn astudiaeth annibynnol sylweddol.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r 120 credyd o Fodiwlau a addysgir yn ystod Cam 1 y rhaglen yn cael eu hasesu drwy asesiadau yn ystod y cwrs, gan gynnwys:

  • Traethodau estynedig
  • Cyflwyniadau llafar
  • Cyflwyniadau poster
  • Aseiniadau ystadegol
  • Arfarniadau beirniadol
  • Profion sgiliau ymarferol
  • Adroddiadau data
  • Dyluniadau ymchwil

Rhaid i chi gwblhau elfen a addysgir y rhaglen yn llwyddiannus cyn symud ymlaen i Gam 2 lle mae'r asesiad yn cynnwys:

  • Traethawd Hir (16-20,000 o eiriau)

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob Modiwl yn y Rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Prifysgol Caerdydd yn helaeth, sef Blackboard. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig. Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio wrth iddyn nhw weithio ar eu traethawd hir. Bydd goruchwyliaeth yn cynnwys trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd, rhoi cyngor ac arweiniad; a darparu adborth ysgrifenedig ar gynnwys traethawd hir drafft.

Adborth
Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ysgrifenedig ar bob asesiad, yn ogystal ag adborth llafar ar gyflwyniadau llafar/poster a asesir, a bydd hyn ar gael cyn pen pedair wythnos i gyflwyno’r gwaith.

Tiwtor Personol

Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost. Yn ogystal, gallwch wneud apwyntiadau i weld eich tiwtor personol ar sail un-i-un am unrhyw fater. Mae ein tîm gwasanaethau proffesiynol hefyd ar gael i roi cyngor a chymorth.

Eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt i drafod unrhyw broblemau sy'n codi gyda'r cwrs. Dylid cyfeirio ymholiadau pellach at Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol.

Cymuned Ymchwil

Mae rhaglen seminar ymchwil weithredol mewn Archaeoleg a Chadwraeth, ynghyd â seminarau ymchwil rhyngddisgyblaethol i ôl-raddedigion, yn darparu cyfleoedd i drafod ar draws yr Ysgol a'r Brifysgol, ac yn darparu amgylchedd creadigol lle cewch eich annog i ddatblygu eich syniadau eich hun.

Cyfleusterau

Byddwch yn cael cotiau labordy a mynediad i'n labordai bioarchaeoleg a bioanalytig. Mae'r rhain yn gartref i gasgliad mawr o ddeunydd ysgerbydol, molysgaidd a botanegol o samplau modern, a ddefnyddir fel ffynhonnell gymharol ar gyfer adnabod sbesimenau archaeolegol. Mae'r rhain hefyd yn darparu cyfres lawn o offer ar gyfer paratoi a dadansoddi sampl bioarchaeolegol, er enghraifft offer sychrewi, offer drilio, sgriffio ag aer, caeadau echdynnu, poptai a blociau poeth.

Mae labordai pelydr-X a microsgobeg ar wahân sy'n cynnwys casgliad rhagorol o offer dadansoddi (e.e. FTIR) yn ogystal â SEM a microsgobeg golau. Mae ein cyfarpar ffotograffig, ein cyfleusterau cyfrifiadura a’n hystafell ddarlunio ddigidol i gyd yn gwella’r broses o ddelweddu deunyddiau a chanlyniadau. Mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau 3D wedi’u hargraffu, fel fersiynau macro o rawn paill microsgopig. Mae ystafell i ôl-raddedigion yn cynnig lle pwrpasol ar gyfer gwaith unigol a chyswllt anffurfiol â myfyrwyr eraill.

Y tu allan i’r ysgol, bydd gennych fynediad at amrywiaeth o adnoddau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys paratoi a dadansoddi aDNA, sbectrosgopeg màs, TEM, MicroCT a mwy. Dadansoddir amrywiaeth o isotopau mewn cydweithrediad ag Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr, gan gynnwys carbon, nitrogen, ocsigen a strontiwm. Yn olaf, mae gan lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd dros 1.3 miliwn o lyfrau printiedig a 775k o lyfrau a chyfnodolion ar-lein gan gynnwys casgliad archaeolegol helaeth, sefydledig ac eang.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr sy'n benodol i wyddoniaeth archaeolegol yn ogystal â ""sgiliau cyflogadwyedd"" generig. Drwy'r rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau labordy technegol ac yn cael cyfleoedd i ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Byddwch yn meithrin sgiliau penodol, fel y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli ystod o ddata meintiol ac ansoddol cymhleth. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau gwerthfawr sy'n seiliedig ar ymchwil labordy, drwy gwblhau traethawd hir.

Bydd graddedigion y Rhaglen hon yn gallu:

  • Cynhyrchu a dadansoddi data gwaith ymchwil gwyddonol sylfaenol mewn labordy
  • Archwilio a gwerthuso egwyddorion a dulliau'r prif ffyrdd o ddadansoddi mewn gwyddoniaeth archaeolegol
  • Cyfosod ymchwil gwyddoniaeth archaeolegol wrth ymchwilio i gymdeithasau’r gorffennol
  • Trafod yr egwyddorion craidd, y themâu cyfredol a’r materion dadleuol mewn gwyddoniaeth archaeolegol
  • Llunio cynlluniau ymchwil gwyddoniaeth archaeolegol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau
  • Mynd ati i werthuso gwybodaeth yn feirniadol sydd ar flaen y gad o ran ystod o wyddoniaeth archaeolegol
  • Cynnal a chyflawni methodolegau amrywiol mewn labordai sy'n berthnasol i ymchwil gwyddoniaeth archaeolegol.
  • Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; ac asesu dulliau o gasglu data newydd pan fo angen.

Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?

Knowledge & Understanding:

On successful completion of this programme you will demonstrate:

  • The ability to judge and critique the interpretative potential and limits of a suite of analyses in archaeological science
  • The ability to appraise scientific methods, data and formulate an interpretation based on this
  • The ability to produce, recommend and defend programmes of scientific analysis in academic and commercial archaeology

Intellectual Skills:

On successful completion of this programme you will demonstrate:

  • A critical awareness of practical, analytical and interpretative approaches in archaeological science
  • Independent analysis and interpretation
  • The ability to devise analytical strategies considering materials, stakeholders, finance, ethics and cultural context
  • The ability to synthesise wide-ranging information pertaining to archaeological science to verify interpretation

Professional Practical Skills:

On successful completion of this programme you will demonstrate:

  • The ability to source, synthesise and critically assess data from subject specific journals and books, including research and advanced scholarship
  • Advanced laboratory and/or field skills in the study of archaeological artefacts, materials and/or ecofacts
  • Proficiency in a selected range of methods and techniques within archaeological science
  • The ability to produce and critically analyse original scientific datasets using statistical and graphical approaches to inform interpretation
  • The ability to compose research designs for programmes of analysis in academic and commercial archaeology

Transferable/Key Skills:

On successful completion of this programme you will demonstrate:

  • The ability to use bibliographic and other research techniques to interrogate specialist topics in detail
  • Clear, concise and persuasive oral and written presentations to suit a range of audiences
  • The ability to produce independent analysis and interpretation drawing on primary source material
  • The ability to operate safely in laboratory environments; to understand, produce and follow standards and H&S procedures such as Risk Assessments
  • Critical self-awareness: self-reflection; self-management; time management; and the ability to continue to learn through reflection on practice and experience
  • The ability to act autonomously in planning, defending, implementing and analysing work

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Oherwydd hyd y rhaglen hon, dim ond myfyrwyr sy'n dod o Gymru a'r UE sy'n bodloni’r gofynion preswylio (mae myfyrwyr sy'n dod o Loegr wedi'u heithrio) sy'n gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau Llywodraeth y DU i Ôl-raddedigion.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,850 Dim
Blwyddyn dau £5,850 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £12,725 £2,500
Blwyddyn dau £12,725 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Dim

Beth fydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Mynediad at adnoddau ac offer yr Ysgol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Ar ôl cwblhau'r MSc hwn yn llwyddiannus, dylech gael sbectrwm eang o wybodaeth ac amrywiaeth o sgiliau, gan eich gwneud yn ddeniadol iawn i ddarpar gyflogwyr a sefydliadau ymchwil. Byddwch yn gallu dilyn ystod eang o yrfaoedd proffesiynol, o fewn archaeoleg fasnachol ac academaidd a'r sector treftadaeth yn ehangach. Yn gyffredinol, bydd llwybrau gyrfa yn arbenigol a byddant yn dibynnu ar y dewis o fodiwlau. Bydd graddedigion mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfaoedd fel arbenigwr mewn dadansoddi isotopau, dadansoddi sŵarchaeoleg neu osteoarchaeoleg ddynol. Byddant hefyd mewn sefyllfa i wneud cais am waith labordy cyffredinol a gwaith maes archeolegol. Mae gweithio o fewn cyfathrebu a rheoli gwyddoniaeth yn opsiynau eraill. Mae darpar gyflogwyr yn cynnwys unedau archeolegol, amgueddfeydd, prifysgolion, sefydliadau treftadaeth, Historic England a Cadw. Mae llwybrau gyrfa llawrydd neu hunangyflogaeth hefyd yn gyffredin ar gyfer dadansoddwyr esgyrn anifeiliaid a dynol sydd â chymwysterau ôl-raddedig.

Mae gan yr adran archaeoleg gysylltiadau a chydweithrediadau cryf ar draws y sector treftadaeth a thu hwnt. Ymhlith y sefydliadau y mae staff yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd mae Cadw, Historic England, English Heritage, Historic Scotland, Amgueddfa Cymru, yr Amgueddfa Brydeinig, holl ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru ac amrywiaeth o unedau archaeoleg eraill (e.e. Archaeoleg Wessex, Archaeoleg Rhydychen, Uned Archaeoleg Caergrawnt, Archaeoleg Cymru, Archaeoleg Brython). Yn ogystal, mae staff yn gweithio ar lawer o safleoedd archeolegol proffil uchel yn fyd-eang. Efallai y bydd cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan yn y prosiectau hyn a meithrin cysylltiadau a chymryd lleoliadau gyda'r sefydliadau hyn, gan wneud y mwyaf o gyflogadwyedd.

Lleoliadau

Nid oes cyfleoedd ffurfiol i fynd ar leoliad neu astudio dramor fel rhan o'r rhaglen hon. Fodd bynnag, gellid hwyluso cyfleoedd o'r fath, yn enwedig fel rhan o'r ymchwil traethawd hir.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Archaeoleg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.