Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Llawfeddygol Uwch (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dyma gwrs rhyngbroffesiynol dysgu-o-bell a anelir ar broffesiynolion gofal iechyd a hoffai arbenigo ym maes gofal llawfeddygol ac amlawdriniaethol.

screen

Rhaglen e-ddysgu hyblyg

Dysgu o bell, fformat ar-lein sy'n galluogi dysgu hyblyg yn eich pwysau.

certificate

Asesiad yn canolbwyntio ar y myfyriwr

Asesiad hyblyg wedi'i deilwra i ofynion ymarfer y myfyriwr sy'n golygu y gallwch ganolbwyntio ar feysydd pwnc sy'n berthnasol i'ch gwaith.

scroll

Cynnwys seiliedig ar dystiolaeth

Athroniaeth y rhaglen yw hyrwyddo dadansoddi beirniadol o'r dystiolaeth i gefnogi neu wrthod ymarfer cyfredol.

people

Tiwtora un i un ar gael

Offer lluosog ar gael i fyfyrwyr a staff academaidd allu cyfathrebu a chydweithio. Byddwch yn astudio gyda thîm.

globe

Astudio rhyngbroffesiynol

Gweithio, dysgu a chydweithio â myfyrwyr a staff o ystod o broffesiynau gofal iechyd a disgyblaethau academaidd eraill.

Mae'r rhaglen dysgu o bell ran-amser hon wedi'i hanelu at nyrsys cofrestredig, meddygon, ymarferwyr gofal llawdriniaethol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd am arbenigo ym maes gofal llawfeddygol ac amlawdriniaethol. 

Nod y rhaglen MSc mewn Ymarfer Llawfeddygol Uwch yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd i sicrhau pontio rhwng theori ac ymarfer yn eich ymarfer clinigol eich hun. Mae'n dod ag ystod eang o wybodaeth sylfaenol mewn fformat e-ddysgu ynghyd, gyda phwyslais ar egwyddorion cyffredinol ymarfer llawfeddygol yn hytrach nag ar reoli cyflyrau penodol.

Yn ystod y rhaglen arloesol hon, mae natur amlochrog gofalu am gleifion llawfeddygol yn cael ei gwerthuso o safbwynt sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r addysgu'n ystyried taith lawn y claf llawfeddygol, gan ddechrau pan gaiff ei dderbyn i’r ysbyty a'r cyfnod paratoi cyn llawdriniaeth hyd at ofal a rhyddhau ar ôl llawdriniaeth.

Mae materion proffesiynol allweddol, gan gynnwys llywodraethu clinigol ac ymarfer rhyngbroffesiynol wedi’u cynnwys hefyd. Mae'r asesiadau wedi'u trefnu i'ch galluogi i werthuso'r pwnc mewn cysylltiad â meysydd ymarfer sydd o ddiddordeb i chi a'ch sylfaen broffesiynol.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel gofal iechyd, nyrsio, neu feddygaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Tystiolaeth eich bod wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda'r corff proffesiynol sy'n berthnasol i'ch proffesiwn.
  4. Tystiolaeth eich bod yn gweithio mewn maes clinigol sy'n berthnasol i'r rhaglen ac a fydd yn parhau i fod drwy gydol eich astudiaethau. Gellir darparu tystiolaeth o'ch cyflogaeth ar ffurf geirda cyflogwr wedi'i lofnodi a'i ddyddio. 

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc yn cynnwys tri cham – Cam T1 (cam cyntaf a addysgir), Cam T2 (ail gam a addysgir) a Cham D (cam traethawd hir):

  • Cam T1 (cam cyntaf a addysgir)

Mae'r cam hwn yn para am naw mis, ac mae'n cynnwys tri modiwl 20 credyd sy’n dod i gyfanswm o 60 credyd, ar Lefel 7.

  • Cam T2 (ail gam a addysgir)

Mae'r cam hwn yn para am naw mis arall, ac mae'n cynnwys tri modiwl 20 credyd arall sy'n dod i gyfanswm o 60 credyd, ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm o 120 o gredydau i gwblhau’r camau a addysgir.

  • Cam D (cam traethawd hir MSc)

Mae’r cam traethawd hir yn para am chwe mis arall, gan olygu bod yr MSc yn ddwy flynedd academaidd o hyd. Bydd yn cynnwys traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm o 180 credyd i gyd ar Lefel 7 i gwblhau'r rhaglen MSc.

Mae’n cymryd dwy flynedd academaidd i gwblhau’r rhaglen MSc lawn (camau T1, T2 a D) fel arfer o’r dyddiad cofrestru ar yr MSc am y tro cyntaf.

Cewch adael ar ddiwedd cam T1 gyda thystysgrif ôl-raddedig, os ydych wedi cael o leiaf 60 credyd ac wedi cwblhau unrhyw fodiwlau gofynnol.

Cewch adael ar ddiwedd cam T2 gyda diploma ôl-raddedig, os ydych wedi cael o leiaf 120 credyd ac wedi cwblhau unrhyw fodiwlau gofynnol.

Fel rheol, ni fydd y traethawd hir yn fwy nag 20,000 o eiriau. Bydd pwnc traethawd pob myfyriwr yn cael ei gymeradwyo gan Gadeirydd y Bwrdd Astudiaethau dan sylw neu ei enwebai.

Mae'r traethawd hir, ar y cyd â'r cam a addysgir, yn cael ei bwysoli 33% at ddibenion cyfrifo'r marc terfynol:

Cam     Pwysoliad

Modiwlau a addysgir      66%

Traethawd Hir (cam R)  33%

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Mae tîm y rhaglen yn eich cefnogi drwy gydol y flwyddyn academaidd a byddant yn cynnal galwadau fideo yn ystod pob modiwl. Darperir cymorth academaidd drwy fyrddau trafod, adolygu a rhoi sylwadau adborth/blaenborth ar fersiynau drafft o waith a galwadau fideo neu ffôn. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, i ddarparu cymorth bugeiliol i drafod unrhyw beth sy'n effeithio ar eich gallu i astudio. Mae holl gynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno'n anghydamserol, sy'n golygu bod hyblygrwydd wrth astudio cynnwys modiwlau. Mae asesiadau’r modiwlau’n 'adolygiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth', sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb i chi mewn ymarfer llawdriniaethol. Maent yn cael eu cyflwyno ar-lein ar Turnitin. Mae'r rhaglen yn dechrau gyda Modiwl ar Ymchwil, Ystadegau a Meddygaeth sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth, sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi ddatblygu adolygiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae cynnwys y modiwl, cymorth i fyfyrwyr, asesiadau ac adborth i asesiadau, yn eich galluogi a’ch tywys i wella safon eich gwaith ysgrifenedig ar lefel MSc.

Blwyddyn dau

Mae cynnwys y modiwl, cymorth i fyfyrwyr, asesiadau modiwlau ac adborth i asesiadau, yn eich galluogi a’ch tywys i wella safon eich gwaith ysgrifenedig ar lefel MSc hyd at y lefel sy’n ofynnol ar gyfer y traethawd hir. Mae'r cam traethawd hir yn eich galluogi i gyfuno a chymhwyso'r hyn a ddysgir ym mlynyddoedd un (Cam 1) a dau (Cam 2). Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i gymhwyso sgiliau ymchwil ac ystadegau wrth gynllunio, neu gynnal adolygiad, ymchwil neu archwiliad ar sail tystiolaeth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae ystod eang o arddulliau addysgu a dysgu yn cael eu defnyddio drwy gydol y cwrs, a gyflwynir drwy fformat e-ddysgu ar amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog™. Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol ac mae gan rai eraill is-bynciau sy’n cynnig dewis i chi.

Defnyddir amrywiaeth o gyfryngau i gyflwyno'r cynnwys:

  • Modiwlau ar-lein, rhyngweithiol
  • Cyflwyniadau PowerPoint wedi’u trosleisio
  • Dolenni i adnoddau eraill ar-lein
  • Cyflwyniadau

Y myfyriwr fydd yn dewis asesiadau modiwlau a phynciau traethawd hir, ond mae'n rhaid i dîm y rhaglen eu cymeradwyo.

I raddau helaeth, bydd astudiaethau ar lefel traethawd hir MSc yn golygu astudiaeth ac ymchwil annibynnol dan arweiniad, gan ddefnyddio’r cyfleusterau dysgu ac ymchwil helaeth sydd ar gael.  Bydd goruchwyliwr prosiect yn cael ei ddynodi i’ch cefnogi a’ch cynghori ar ymchwilio i bwnc eich traethawd hir penodol a’i ysgrifennu.  

 

Sut y caf fy asesu?

Mae'r asesiadau wedi'u dewis i sicrhau bod y deilliannau dysgu yn cael eu profi'n briodol ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi eu bodloni.  Bydd dulliau asesu modiwlau penodol ar gyfer pob modiwl yn cael eu pennu gan y Bwrdd Astudiaethau perthnasol ac mae eu manylion ar gael yn y Disgrifiad o’r Modiwl perthnasol.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ffurfiannol a chrynodol, fel:

  • Cynlluniau/fersiynau drafft o Aseiniadau Ysgrifenedig
  • Aseiniadau Ysgrifenedig
  • Cwestiynau amlddewis
  • Blogiau myfyriol
  • Gwaith grŵp

Bydd traethawd hir yr MSc yn cael ei asesu’n gyfan gwbl ar sail y traethawd hir terfynol. Bydd y disgwyliadau ar gyfer fformat, cyflwyno a marcio'r traethawd hir yn dilyn y Rheoliadau Asesu cyfredol, a ategir lle bo'n briodol gyda gofynion ychwanegol y Rhaglen/Ysgol/Coleg ac unrhyw ofynion penodol sy'n deillio o natur y prosiect a gynhaliwyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Darperir cymorth ar-lein drwy fyrddau trafod e.e., i drafod cynnwys modiwlau, syniadau asesu, datblygu asesiadau, materion clinigol. Fe'ch anogir i gyfrannu’n rheolaidd i'r byrddau trafod ar Dysgu Canolog, lle cewch eich cefnogi gan dîm y rhaglen a phanel o arbenigwyr clinigol. Byddwch yn gallu cynllunio a myfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu mewn modiwlau ac asesiadau unigol, drwy eich blog personol eich hun (gellir tynnu hwn i'w gynnwys mewn Portffolios Proffesiynol/dilysu proffesiynol, ail-ddilysu). Ar ben hynny, bydd cyfleoedd rheolaidd i gael cyfarfodydd ar-lein gyda'r staff academaidd.

Caiff tiwtor personol ei neilltuo i bob myfyriwr i gael cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol, a bydd yn cysylltu'n rheolaidd i drafod cynnydd a chynnig cyngor ac arweiniad fel bo angen.  Rhoddir adborth ysgrifenedig helaeth ar bob asesiad i'ch helpu a'ch arwain ar gyfer asesiadau yn y dyfodol.

Adborth

Er mwyn eich helpu a'ch arwain gyda'r gwaith o gynllunio, ysgrifennu a datblygu asesiadau, bydd adborth ffurfiannol yn cael ei roi drwy ein “stiwdio adborth” – rhoddir cyfarwyddyd penodol ar hyn ar fodiwl 1.  Rhoddir adborth crynodol yn dilyn asesiadau o fewn yr amser a nodir gan y Brifysgol.

Bydd goruchwyliwr personol yn cael ei ddynodi i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod traethawd hir. Bydd yn rhoi adborth ysgrifenedig ar fersiynau drafft o’r traethawd hir, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y dylech eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Ar ôl cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Cael y cyfle i gymhwyso cyfoeth o sgiliau a galluoedd yn eich lleoliad proffesiynol.  Yn ogystal â dealltwriaeth gysyniadol well o wybodaeth, ystyriaethau a dulliau cyfredol, byddwch yn ymarfer ac yn cymhwyso galluoedd mewn dadansoddi beirniadol, cymhwyso meddygaeth ar sail tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn defnyddio sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chyfleu cysyniadau pwysig i gydweithwyr ac eraill.  Drwy'r elfennau sy'n canolbwyntio ar ymchwil, byddwch yn cymhwyso sgiliau mewn adolygu llenyddiaeth, gwerthuso beirniadol, dylunio ymchwil, methodolegau ymchwil, casglu data, dadansoddi data ac egwyddorion ymchwil.

Nod y cwrs yw hwyluso myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth hyd at lefel uwch ym maes eu harbenigedd neu ddiddordeb ym maes llawfeddygaeth. Fodd bynnag, gwneir hyn o fewn cyd-destun ehangach, sy'n caniatáu i'r myfyriwr ddeall sut mae lefel ei arbenigedd a'i sylfaen wybodaeth yn cyd-fynd ag ymarfer rhyngbroffesiynol yn gyffredinol.

Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Integreiddio gwybodaeth am agweddau amlddimensiwn ymarfer llawfeddygol o wahanol ddisgyblaethau er mwyn rheoli cleifion o safbwynt cyfannol.
  • Cymhwyso gwybodaeth ryngbroffesiynol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth am ymarfer llawdriniaethol i gefnogi unrhyw fentrau clinigol ac addysgol.
  • Ysgrifennu adolygiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n llywio gofal cleifion/addysg glinigol;

Sgiliau Deallusol:

  • Herio dulliau traddodiadol o gysyniadu ymarfer llawfeddygol drwy fframio cwestiynau clinigol ar gyfer eich asesiad, casglu tystiolaeth, asesu'r dystiolaeth honno a ffurfio argymhellion.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Archwilio ymarfer cyfredol a gwerthuso dulliau traddodiadol ac agweddau tuag at ymarfer llawfeddygol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Meddu ar ymagwedd feirniadol a dadansoddol at ymarfer llawfeddygol mewn ystod o leoliadau iechyd.
  • Nodi meysydd ar gyfer gwella ansawdd yn ymarferol.
  • Cyfuno ac ystyried ymestyn ymarfer presennol drwy weithgareddau ymchwil.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

As this programme is three years or over in duration and has a one year full time equivalent you will not be eligible for a postgraduate loan. The UK Government has more information about eligibility for postgraduate loans.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,450 £2,500
Blwyddyn dau £9,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad feirws a maleiswedd cyfredol) a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhaglen yn addas iawn ar gyfer y rhai sydd am gynyddu eu gwybodaeth am ymarfer llawfeddygol er mwyn helpu i wella gofal cleifion. Mae graddedigion wedi crybwyll ei fod yn arwain yn uniongyrchol at ddyrchafiad, ac ysbrydolwyd llawer hefyd i ddilyn gyrfaoedd academaidd trwy astudio ymhellach hyd at PhD.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos nifer o sgiliau academaidd y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol.

Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arweinyddol.

Dyma beth mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr yn ei ddweud am eu hamser ar y rhaglen:

"Ymgymerais â'r radd hon i ddatblygu fy nealltwriaeth o werthuso a dadansoddi gwybodaeth yn feirniadol er mwyn gwella fy sgiliau fel clinigwr a hefyd i ddehongli a throsglwyddo'r wybodaeth hon i'm cleifion. Fe wnes i elwa fwyaf o'r tasgau gwerthuso ac, wrth gwrs, y traethawd hir lle roeddwn i'n gallu canolbwyntio'n fanwl ar faes o ddiddordeb. Mae cwblhau'r rhaglen wedi fy helpu i sicrhau swydd hyfforddi radioleg o'm dewis gorau."
Hannah Lewis, Meddyg Meddygol

"Penderfynais wneud cais am y radd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd gan ei fod yn seiliedig ar arfarnu beirniadol ac ymchwil a fyddai'n helpu fy ngyrfa. Credaf mai'r hyn a elwais fwyaf arno oedd y modiwl cychwynnol ar ddulliau ymchwil, a ddefnyddiwyd wedyn drwy gydol y radd gyfan, yn ogystal â'r trafodaethau gyda'r gyfadran a chyd-aelodau'r cwrs am bynciau amrywiol. Mae'r rhaglen wedi effeithio ar fy ymarfer gan fy mod yn fwy abl i farnu pa mor dda yw tystiolaeth fel y gallaf seilio fy ymarfer ar dystiolaeth llinynnol. Mae hefyd wedi caniatáu i mi gymryd mwy o ran mewn ymchwil wrth i'm cydweithwyr ofyn am help. Mae hefyd wedi gwella fy rhagolygon gyrfa."
Alexia Farrugia, Cymrawd Ymchwil Clinigol mewn Llawfeddygaeth HPB

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Meddygaeth , Nyrsio a bydwreigaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.