Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifeg a Chyllid (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Llywio arloesedd ym mhob maes busnes yn ogystal â gwerthfawrogi arwyddocâd cyfrifeg a chyllid er mwyn creu cymdeithas fwy cyfrifol a chynaliadwy.

book

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Cyfle i roi theori ar waith ar raglen dan arweiniad ymchwilwyr academaidd a gweithwyr cyfrifyddu proffesiynol cymwysedig.

star

Sgiliau ar gyfer llwyddiant gyrfa

Cyfle i gael gafael ar yr adnoddau a'r technegau sydd eu hangen i ymateb i sector ariannol sydd wedi ei nodweddu gan argyfyngau, rheoleiddio, globaleiddio ac arloesi.

rosette

Symud ymlaen at PhD

Paratowch ar gyfer astudiaeth ddoethurol neu yrfaoedd sy'n canolbwyntio ar ymchwil gydag ymchwil annibynnol o dan oruchwyliaeth academaidd.

academic-school

Yn gyfrifol yn gymdeithasol

Fel Ysgol Fusnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd.

Bydd rhaglen MSc Cyfrifeg a Chyllid yn rhoi cyfle i chi wneud dadansoddiad manwl o faterion cyfoes ym maes cyfrifeg a chyllid. Bydd hyn yn eich galluogi i lywio arloesedd ym mhob maes gweithgarwch busnes a hefyd werthfawrogi arwyddocâd cyfrifeg a chyllid i greu cymdeithas fwy cyfrifol a chynaliadwy.

Mae'r rhaglen yn cydnabod y byddwch yn gweithio mewn amgylchedd amrywiol a bythol newidiol sy'n rhyngwladol gydgysylltiedig. Byddwn yn eich galluogi i lwyddo yn yr amgylchedd hwn drwy eich amlygu i syniadau cyfredol a phrofiadau go iawn. Byddwn hefyd yn sicrhau eich bod wedi'ch trwytho mewn materion moesegol a chymdeithasol ehangach er mwyn i chi ddod yn weithiwr proffesiynol ysbrydoledig.

Achrediadau

“Mae’r darlithwyr a’r thiwtoriaid yn amyneddgar iawn ac yn cyfathrebu’n dda. Maen nhw bob amser yn barod i sgwrsio â chi a rhannu eu barn, sy’n gefnogol dros ben i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n wynebu rhwystrau diwylliannol o bosibl.”
Fangyuan Chen MSc Cyfrifeg a Chyllid

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn cyfrifeg, archwilio neu gyllid, neu radd ryngwladol gyfwerth.

  • Os yw eich gradd mewn cyfrifeg neu archwilio, rhaid i chi gael gradd gyfatebol y DU o 60% ym mhob un o'r meysydd pwnc canlynol: adrodd corfforaethol, cyllid, a chyfrifo rheoli. 
  • Os yw eich gradd mewn cyllid, rhaid i chi gael gradd gyfatebol y DU o 60% mewn dau fodiwl allan o'r meysydd pwnc canlynol: adrodd corfforaethol, cyllid, a chyfrifo rheoli.

Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.

2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid wedi'i strwythuro ar sail pedwar bloc o fodiwlau craidd a fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth arbenigol ym maes cyfrifeg a chyllid. Mae dau fodiwl ychwanegol yn rhoi cyfle i ymgymryd ag astudio arbenigol mewn meysydd a all fod o ddiddordeb yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Rydym yn cydnabod eich bod yn pontio o bosibl o astudio cyfrifeg a chyllid ar lefel israddedig mewn cyd-destun cenedlaethol. Mae'r modiwl rhagarweiniol yn mynd i'r afael â hyn drwy integreiddio safbwyntiau proffesiynol ac academaidd mewn cyd-destun rhyngwladol a chymdeithasol ehangach.

Bydd y modiwlau sy'n dilyn yn eich helpu i ystyried yr ymchwil a'r ymarfer diweddaraf ym maes cyfrifeg a chyllid, gan gynnwys meysydd craidd megis prosesau adrodd corfforaethol, cyfrifeg rheoli, cyllid corfforaethol a buddsoddi.

Bydd cyfle i arbenigo drwy fodiwlau sy'n ystyried syniadau arloesol a chyfoes megis cyllid ymddygiadol, technoleg ariannol, cyfrifeg gymdeithasol ac amgylcheddol, marchnadoedd cyfalaf a'r defnydd y maent yn ei wneud o wybodaeth cyfrifeg.

Byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso'r sgiliau technegol a phersonol allweddol sydd eu hangen i fod yn weithiwr proffesiynol effeithiol ym maes cyfrifeg neu gyllid, wrth i chi fyfyrio ar eich ymgysylltiad ag amrywiaeth o faterion busnes a chymdeithasol cyfoes.

Daw'r rhaglen i ben drwy gwblhau naill ai darn unigol o ymchwil fanwl neu broblem busnes fyw gydweithredol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

In the first semester you will take four core modules.

In the second semester, you will take two further core modules along with two optional modules. The optional modules provide progression from those delivered in the first semester and allow you to expand your current knowledge.

Upon successful completion of the taught stage you will progress to the dissertation which is designed to enable you to apply the knowledge, understanding and skills learnt in the taught modules to individual independent research.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dull dysgu gweithredol wedi'i ymgorffori yn y MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid. Credwn fod dysgu effeithiol wedi'i seilio ar ddau beth - cymryd rhan mewn profiadau amrywiol, a'r ffordd rydych yn gwneud synnwyr o'r profiadau hynny, yn unigol ac ar y cyd ag eraill.

O ganlyniad, mae pob bloc o ddysgu yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a all gynnwys astudiaethau achos, ymweliadau â chwmnïau a siaradwyr o'r diwydiant, a'r cyfan gyda'r nod o gyflwyno syniadau newydd a meithrin eich dealltwriaeth.

Byddwn yn eich helpu i wella'r sgiliau technegol a beirniadol a gyflwynwyd i chi yn ystod eich gradd gyntaf, er mwyn datblygu'ch proffil fel gweithiwr proffesiynol blaenllaw. Byddwn hefyd yn eich helpu i weithio gyda myfyrwyr eraill i fyfyrio ar eich gwybodaeth a'ch sgiliau presennol. Mae rhannu'ch dealltwriaeth ag eraill hefyd yn bwysig a bydd dysgu cydweithredol yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth newydd o natur cyfrifeg a chyllid mewn amrywiol gyd-destunau. Cewch eich annog i gydweithio mewn timau amrywiol i ystyried amrywiaeth o ddealltwriaethau ac arferion amgen.

Mae rhoi cynnig ar ddysgu newydd yn bwysig hefyd. Byddwch yn integreiddio ac yn cymhwyso dealltwriaethau newydd, ynghyd â sgiliau technegol a beirniadol newydd, mewn tasgau ymarferol sy'n rhan o bob bloc dysgu, ac mewn gweithgareddau gwaith cwrs ac arholiad ffurfiol.

Sut y caf fy asesu?

Mae strwythur blociau'r rhaglen yn rhoi digon o gyfleoedd i chi fyfyrio'n anffurfiol ar yr hyn a ddysgwyd gennych ac ar eich datblygiad. Mae pob modiwl yn cynnwys gweithgareddau adolygu gwybodaeth/sgiliau byr er mwyn eich helpu i fonitro eich cynnydd a gwella eich dulliau dysgu. Bydd hyn yn codi eich hyder ac yn eich galluogi i gwblhau'r tasgau asesu ffurfiol yn well.

Mae amrywiaeth o dasgau asesu ffurfiol yn rhoi cyfle i ystyried cysyniadau a modelau mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau. Byddwch yn gweithio'n unigol ac fel rhan o dîm yn union fel y byddech yn y gweithle.

Caiff pob asesiad ffurfiol ei gwblhau o fewn pob modiwl. Mae hyn yn eich galluogi i gydgrynhoi a chymhwyso gwybodaeth yn fanylach fel sydd ei angen i gyflawni'n llwyddiannus dasgau'r asesiad sy'n seiliedig ar y gwaith lefel swyddogaethol cymhleth a wneir gan weithwyr proffesiynol. Mae hefyd yn adlewyrchu terfynau amser realistig yn y gweithle ar gyfer cwblhau tasgau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydym yn darparu ystod o gymorth i gadw eich astudiaethau ar y trywydd iawn, gan ganolbwyntio ar eich dysgu, eich lles a'ch gyrfa. Rydym yn cydnabod y bydd rhai ohonoch yn trosglwyddo i wlad wahanol a dull gwahanol o ddysgu, ac wrth gwrs bydd pob un ohonoch yn cymryd cam i fyny o ran bodloni disgwyliadau astudio ôl-raddedig.

Er mwyn gwella eich dysgu, rydym yn darparu mynediad hawdd i holl ddeunyddiau'r cwrs gan ddefnyddio Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir. Mae amrywiaeth o gopïau caled ac electronig o lyfrau, cylchgronau a chronfeydd data ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws y campws. Mae'r datblygiad o sgiliau academaidd allweddol ac eglurhad o'r disgwyliadau asesu wedi'u hymgorffori yn eich rhaglen. Mae dosbarthiadau Saesneg ychwanegol ar gael yn ystod y tymor i fyfyrwyr sydd am wella eu cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Mae pob modiwl wedi'i gynllunio'n ofalus i'ch helpu i archwilio cysyniadau ac arferion newydd mewn amgylchedd cefnogol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i chi roi cynnig ar eich gwybodaeth newydd mewn amrywiaeth o dasgau lle byddwch yn cael adborth anffurfiol unigol ac adborth anffurfiol gyda'r dosbarth. Bydd hyn yn eich helpu i nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu, ac i baratoi ar gyfer asesiad ffurfiol. Rydym hefyd yn ceisio cynnwys asesiad ffurfiol yn gynnar yn y rhaglen i'ch helpu i reoli lefel eich cyflawniad cyn gynted â phosibl. Mae Cyfarwyddwr y Rhaglen yn awyddus i roi cymorth ychwanegol i unrhyw un sydd angen help llaw a'ch cyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol gan y Brifysgol ynghylch cynnwys academaidd, sgiliau academaidd a gofal bugeiliol, lle bo angen. Mae gan bob myfyriwr diwtor personol hefyd. Bydd yr aelod hwn o staff academaidd yn goruchwylio eich profiadau dysgu ac addysgol yn barhaus. Os cewch unrhyw anawsterau, bydd eich tiwtor personol ar gael i wrando a chynnig arweiniad proffesiynol, os oes modd, neu eich cyfeirio at ffynhonnell addas fydd yn gallu rhoi cymorth i chi.

I'ch helpu i wneud y gorau o'ch amser gyda ni, Hyb y Myfyrwyr ôl-raddedig yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eich holl ymholiadau am y rhaglen, tiwtora personol, eich cofnod myfyriwr, ymholiadau achosion myfyrwyr ac i gasglu aseiniadau wedi'u marcio. Mae Tîm Achosion Myfyrwyr yr Ysgol yn rhoi arweiniad a chymorth i unigolion ar amgylchiadau esgusodol, gohirio astudiaethau, estyniadau, arferion annheg, apeliadau, cwynion, darpariaeth benodol.

Er mwyn gwella eich lles, mae gennym Swyddog Cefnogi Myfyrwyr penodedig, a gall ei chi 'Winnie' ddarparu cymorth diduedd, anfeirniadol a chyfrinachol i fyfyrwyr ar ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd (e.e. tai/llety, cyllid myfyrwyr, mewnfudo, materion personol a chwrs). Gallwch hefyd fanteisio ar Wasanaeth Cwnsela cyfrinachol ac am ddim y Brifysgol i'ch helpu i archwilio materion a allai fod yn eich atal rhag cyflawni eich llawn botensial. Mae gan y Brifysgol hefyd Wasanaeth Anabledd a Dyslecsia sy'n darparu cyngor a chymorth cyfrinachol i fyfyrwyr sy'n anabl neu sydd ag anhawster dysgu penodol (e.e., dyslecsia) neu gyflwr meddygol hirdymor.

Er mwyn gwella eich opsiynau gyrfa, mae gennym Ymgynghorwyr Gyrfa a Chyflogadwyedd pwrpasol sydd wedi datblygu pecyn cymorth ar gyfer ceisiadau am swyddi, cyfweliadau a chyfleoedd am swyddi. Mae ein tîm Lleoliadau hefyd yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiadau gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion.

Wrth weithio ar eich traethawd hir/prosiect, mae disgwyl i chi gyfarfod â'ch goruchwylydd yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd a thrafod unrhyw gwestiynau. Bydd eich goruchwylydd yn gallu rhoi adborth i chi ar eich cynllun ymchwil a drafftiau o'ch gwaith wrth i chi weithio arnynt.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i'ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Gellir gweld y deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Defnyddio gwybodaeth sy'n seiliedig ar y ddisgyblaeth i ddadansoddi heriau cyfoes ym maes cyfrifeg a chyllid.
  • Rhagdybio'r cysylltiadau rhwng egwyddorion, theori, technegau ac ymarfer cyfrifeg a chyllid.
  • Gwerthuso'n feirniadol berthnasedd cysyniadau damcaniaethol modern yng nghyd-destun yr amgylchedd busnes bythol newidiol.
  • Gwerthuso'n feirniadol ymchwil ac ymarfer proffesiynol cyfrifeg a chyllid o ran mynd i'r afael a sefyllfaoedd busnes yn y byd go iawn.


Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dod o hyd i ffynonellau o ymchwil ac ymarfer proffesiynol sy'n mynd yn groes i'w gilydd a gwahaniaethu rhyngddynt.
  • Gwerthuso ffynonellau amgen o ddata a thystiolaeth.
  • Dadansoddi dulliau o greu gwybodaeth reoli.
  • Dadansoddi'n feirniadol safbwyntiau cyferbyniol a'u tystiolaeth ategol a'u cyfosod.
  • Llunio a chyfleu casgliadau ac argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth dda er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol.


Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cymhwyso gwybodaeth berthnasol am swyddogaethau adrodd ariannol a chyfrifeg rheoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau sefydliadol.
  • Cynnig atebion ariannol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cymhwyso sgiliau cyfrifeg a chyllid technegol mewn cyd-destun sefydliadol drwy ymchwil bersonol a gwaith ymarferol.
  • Rheoli datblygiad personol o fewn amrywiaeth o dirweddau proffesiynol.
  • Datblygu cydberthnasau gwaith effeithiol â chymheiriaid, cleientiaid a gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Myfyrio ar eich rôl mewn cymdeithas a'ch effaith ar gymdeithas.


Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol drwy amrywiaeth o gyfryngau.
  • Herio tybiaethau ar sail tystiolaeth gadarn.
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth a safbwyntiau gwahanol.
  • Gweithio'n annibynnol.
  • Ymgysylltu ag eraill er mwyn cydweithio â nhw.
  • Defnyddio technoleg i ddatrys problemau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £13,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Nid oes unrhyw gostau ychwanegol i fyfyrwyr.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Ar ein cwrs MSc Cyfrifeg a Chyllid, byddwch yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfaoedd. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.

Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, a hynny trwy sicrhau a threfnu’r canlynol:

  • interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • darlithoedd gwadd
  • tripiau maes a gweithdai.

Bydd y profiad amrywiol ac eang hwn yn helpu i hyrwyddo eich gyrfa ac yn dangos sut y gallwch wneud gwahaniaeth ar y daith.

Er mai rhaglen arbenigol yw hon, bydd gennych ystod eang o opsiynau cyflogaeth i ddewis ohonynt, gan gynnwys cyfrifeg broffesiynol, y sector gwasanaethau ariannol, ymgynghoriaeth reoli neu swydd arbenigol yn y sector cyhoeddus.

Lleoliadau

Nid oes unrhyw gyfleoedd lleoliad yn y rhaglen.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Accounting, Business


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.