Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau trosi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig

Cyflymwch newid yn eich gyrfa trwy astudio pwnc nad yw’n gysylltiedig â’ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol.

Manteision cwrs trosi

Yn ogystal â’ch cefnogi chi gyda newid llwybr gyrfa, mae nifer o fanteision i astudio cwrs trosi ôl-raddedig, gan gynnwys:

  • parhau i astudio ar lefel ôl-raddedig
  • datblygu sgiliau newydd a dealltwriaeth o bwnc newydd
  • ehangu eich sgiliau
  • cynyddu eich hyder yn eich gallu i gael swydd mewn maes penodol
  • dilyn galwedigaeth sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau ac sy'n fwy rhoi mwy o foddhad i chi.
Joana
Rhoddodd y cwrs trosi gyfle i mi newid cyfeiriad yn fy ngyrfa a symud o faes busnes i gyfrifiadura heb unrhyw wybodaeth flaenorol.
Darllenwch flog Joana

Cyrsiau trosi sydd ar gael

Rydyn ni’n cynnig y cyrsiau trosi canlynol pan na fydd angen gwybodaeth flaenorol na gradd benodol ond efallai y bydd yn rhaid ichi ddangos cymhelliant, diddordeb a dealltwriaeth o'r pwnc: