Ewch i’r prif gynnwys

Cynghorion PhD gan yr Hyrwyddwr Doethurol, Lucie Lévêque, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Lucie Lévêque, sy'n fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac yn Hyrwyddwr Doethurol, sy'n cynnig ei chynghorion PhD.

Lucie Lévêque

"Rwyf i ar hyn o bryd yn nhrydedd flwyddyn fy PhD mewn Cyfrifiadureg, ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Brifysgol Caerdydd i ymchwilio i brofiad gweledol arbenigwyr meddygol. Hyd yma rwyf i wedi bod yn gweithio gyda mathau gwahanol o ddelweddau a fideos meddygol, gan gynnwys archwiliadau uwchsain, meddygfeydd a mamogramau.

Y brif her gyda fy mhwnc PhD yw dod o hyd i weithwyr meddygol proffesiynol ar gyfer yr arbrofion - fel y gwyddom ni maen nhw i gyd yn eithriadol o brysur gydag ymarfer clinigol. Fodd bynnag, rwyf i wedi bod yn lwcus iawn yn hyn o beth ac wedi dod o hyd i ddigon o wirfoddolwyr.

I fi, rhan fwyaf difyr fy ymchwil yw gallu cyfarfod â llawer o arbenigwyr meddygol, fel llawfeddygon a radiolegwyr. Mae'n wych cael cyfle i ddysgu cymaint drwy eu profiad a'u harbenigedd nhw. Ymhellach, mae pob un wedi dangos gwir ddiddordeb yn fy ymchwil, sy'n gysur i fi o ran gwir gymwysiadau fy ngwaith.

Rhan wych arall o fy nhaith PhD yw'r digwyddiadau gwahanol rwyf i wedi cael cyfle i'w mynychu, gan gynnwys gweithdai a chynadleddau mewn amrywiol wledydd (gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Chanada) yn ogystal ag ysgol haf yn Plymouth ac ymweld â phrifysgol yng ngwlad Belg. Mae'r holl ddigwyddiadau hyn wedi caniatáu i fi gyfarfod ag ymchwilwyr eraill a darganfod meysydd eraill o ymchwil, a hefyd rhannu fy ngwaith a fy nghanlyniadau cychwynnol. Diolch i'r Academi Ddoethurol, rwyf i hefyd wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfa  (Delweddau Ymchwil), cynhadledd a drefnir gan ac ar gyfer myfyrwyr (Siarad am Wyddoniaeth) ac amrywiol weithdai (fy hoff un oedd Syndrom y Ffugiwr). Mae'r holl weithgareddau hyn wedi helpu i wneud i mi deimlo'n rhan o'r gymuned PhD yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Pe bai'n rhaid i fi roi dau awgrym i fyfyrwyr PhD cyfredol neu yn y dyfodol, rwy'n credu mai dyma nhw. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cydbwysedd da rhwng eich PhD a'ch bywyd personol. Mae'n bwysig parhau i gyfarfod â'ch ffrindiau, mynd i'r gampfa, teithio'r byd (gweler fy mlog teithio yma!), neu beth bynnag yw eich diddordebau. Ffordd rwydd i weithredu ar yr egwyddor hon fyddai gadael y gwaith yn y swyddfa, fel bod eich cartref yn lle ar gyfer hamdden ac ymlacio. Gallai fod adegau pan fydd rhaid i chi weithio'n hwyr, neu dros y penwythnos, ond ceisiwch sicrhau bod yr adegau hyn yn brin! Yn ail, gwnewch yn siŵr eich bod yn caru eich pwnc PhD ac yn ei rannu gyda phobl eraill! Siaradwch gyda myfyrwyr PhD eraill yn eich maes, a hefyd o feysydd eraill. Siaradwch gydag ymchwilwyr a darlithwyr. Defnyddiwch seibiannau mewn cynadleddau i ddatblygu eich rhwydwaith a gwerthu eich gwaith. Peidiwch â bod yn swil, does dim byd drwg am ddigwydd. Ar y gwaethaf, fydd gan bobl ddim diddordeb yn eich ymchwil. Ar y gorau, gallech chi gael cynnig swydd ôl-ddoethurol neu yn y wlad rydych chi wedi bod yn breuddwydio amdani erioed!"

Os hoffech glywed rhagor am ymchwil Lucie, gallwch gysylltu â hi: LevequeL@caerdydd.ac.uk neu drwy ei thudalen LinkedIn.