Ewch i’r prif gynnwys

Sut i jyglo PhD gyda bywyd teuluol gan hyrwyddwr yr Academi Ddoethurol, Diana Waldron

Diana Waldron, Myfyriwr PhD a hyrwyddwr yr Academi Ddoethurol, sy'n trafod sut i jyglo PhD gyda bywyd teuluol.

"Roedd fy mhartner a fi newydd ddechrau trefnu ein hunain a'n bywydau i gynllunio teulu ar ôl i fi gwblhau fy PhD. Roedden ni wedi clywed ei bod yn gallu cymryd peth amser i feichiogi, felly doedden ni ddim yn poeni’n ormodol. Gan fy mod i'n barod i ddechrau ar ail flwyddyn fy astudiaethau PhD yn fuan, roedden ni'n meddwl y gallem ni aros blwyddyn neu ddwy ac yna weithio'n galed ar ddechrau teulu. Ond roedd yn ymddangos fod y bydysawd yn awyddus i wireddu ein dymuniad, a chefais ferch fach brydferth yng nghanol ail flwyddyn fy PhD. Roedd hyn dipyn yn gynt nag yr oedden ni wedi disgwyl ac roeddwn i'n gwybod y byddai'n her fawr. Ond wrth geisio gweld ochr bositif popeth, roeddwn i'n meddwl y gallai fod yn well cael y babi yn ystod y PhD na wedyn, gan fod hyn yn cynnig dipyn o hyblygrwydd o ran amser.

Yn fuan ar ôl dychwelyd o fy absenoldeb mamolaeth (doeddwn i ddim yn gallu fforddio cymryd mwy na chwe mis oherwydd pwysau amser ac arian) sylweddolais fod y fath hyblygrwydd yn fendith ac yn felltith. Mae gormod o hyblygrwydd yn caniatáu i amser hedfan ac mae angen llawer o ymrwymiad ac ymdrech ar PhD. Mae babi newydd yn dod â llawer o hapusrwydd i'ch bywyd, ond mae hefyd yn dod â'r gwrthwyneb i'r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer PhD: mae'n mynd â llawer o'ch amser ac mae eich meddwl nawr yn poeni fwy am les yr un fach nag am les eich ymchwil!

Ac ar wahân i'r uchod, gallaf ddweud heb amheuaeth mai'r her fwyaf yw dod o hyd i ofal plant. Mae fy mhartner yn gweithio llawn amser heb unrhyw hyblygrwydd, ac yn anffodus dyw ein teuluoedd ddim yn gallu helpu ryw lawer. Fel myfyriwr PhD does gen i na fy mhartner ddim llawer o arian. Mae talu am ofal plant yn y wlad hon yn afresymol o ddrud. Yn ffodus mae gennym rwydwaith bach o gydweithwyr PhD sydd hefyd â phlant - helpon nhw fi i ddod o hyd i opsiynau gofal plant rhan amser eraill. Llwyddais felly i ddod o hyd i'r amser i wneud fy ngwaith PhD, ond mae'n sicr wedi bod yn daith anodd.

Y wobr fwyaf yw dod adref at deulu hyfryd bob dydd - rydym ni wedi'n bendithio gyda babi prydferth ac mae hi'n tyfu'n iach ac yn hapus. Rwyf i bob amser yn ceisio treulio cymaint o amser ag y gallaf gyda hi, ac er ei fod yn boenus bod i ffwrdd oddi wrthi, mae hefyd yn beth braf gwybod ei bod yn rhyngweithio gydag oedolion a phlant eraill. Mae'n dysgu llawer ganddyn nhw hefyd. Hoffwn i fod yn fodel rôl da iddi, rwyf i am iddi dyfu gan wybod y gallwn ni gyflawni unrhyw beth rydym ni'n ei ddymuno mewn bywyd, dim ond i ni weithio'n galed. Gobeithio drwy ein henghraifft ni, y bydd yn deall hynny. Mae'r cymhelliant hwn i fi yn amhrisiadwy!

Dwyf i ddim yn siŵr ai fi yw'r person cywir i gynnig cyngor ar sut i drin sefyllfa fel hyn, gan fy mod i'n teimlo fy mod yn rhedeg o gwmpas yn awtomatig y rhan fwyaf o'r amser, er mwyn goroesi. Ond fy nghyngor gorau yw cymryd un dydd ar y tro, ymdrin â'r materion pwysicaf sydd wrth law, cael cynllun cymharol hyblyg, ond gosod rhai cerrig milltir cadarn i'ch helpu i gyrraedd dyddiadau cau pwysig gyda'ch PhD. Dwyf i ddim yn hollol siŵr a fyddaf i'n llwyddo eto - mae fy mabi bellach yn 16 mis oed ac mae gen i tua blwyddyn a hanner i orffen y PhD, felly mae'r stori'n parhau. Ond yn sicr rwyf i'n gwneud y gorau a allaf i jyglo popeth ac rwyf i'n benderfynol y byddaf yn mynd i'r seremoni raddio gan ddal llaw fy mabi a llaw fy mhartner yn falch."

Cysylltwch â Diana ar (@Waldron_Diana)